Mynd i Ddigwyddiadau'r Wythnos Groeso

Cynhelir Wythnos Groeso Medi 2025 rhwng 22 a 26 Medi 2025, a bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau bob dydd. Dylet ti wneud ymdrech i fynd i'r holl ddigwyddiadau a restrir yn yr amserlen isod.

Mae digwyddiadau yn gyfle i gael cipolwg ar dy raglen radd ddewisol, gofyn cwestiynau a dod i adnabod staff a myfyrwyr yn dy adran. Edrychwn ymlaen at gwrdd â thi!

Oes angen help arnat ti i ddod o hyd i leoedd ar y campws? Gweler y mapiau o Gampws Singleton a Champws y Bae i'th helpu i ddod o hyd i leoliadau pob sesiwn.

Mae'r amserlen hon yn berthnasol i'r bobl sy'n dechrau ar Blwyddyn 1 Peirianneg Gemegol.

22 Medi 2025

10:00 - 15:00 - Croeso a Sefydlu, Blwyddyn 1 - B001, Adeliad Canolog Peirianneg

Cwrdd â'ch cyd-fyfyrwyr cwrs am y tro cyntaf yn ogystal â Staff Academaidd Allweddol o'ch Adran a fydd yn eich cyflwyno i'ch rhaglen astudio, yn rhoi i chi wybodaeth academaidd allweddol ac yn eich cyfeirio at adnoddau cwrs defnyddiol.

Fel rhan o'r gweithgareddau sefydlu byddwch yn gweithio mewn labordy. Er mwyn sicrhau eich diogelwch, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd yn gwisgo:

  • Esgidiau cadarn  (dim sandalau nac esgidiau agored)
  • Trowsus (dim siorts, sgertiau, na dillad eraill sy'n gadael y coesau'n agored)

Darperir cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol yn ystod y sesiwn.

*Cyn i ti gyrraedd, gwna yn siŵr dy fod ti'n archwilio pa bethau eraill sy'n digwydd y tu allan i'th adran, a'r ffyrdd y gelli di baratoi ar gyfer dy raglen unwaith dy fod ti'n cofrestru. Awgrym euraidd: clustnoda'r tair tudalen isod i gychwyn arni!