Gallwch weld eich canlyniadau drwy fewngofnodi i'ch cyfrif MyUni a mynd i fewnrwyd y Brifysgol. Yna cliciwch ar yr adran ‘Manylion y Cwrs’ ar ochr chwith y ddewislen a dewiswch ‘Modiwlau 2024’ ar gyfer blwyddyn academaidd 2024-25.
Byddwch yn gweld y marciau ar gyfer pob modiwl drwy gydol y flwyddyn academaidd. Gallwch ehangu pob modiwl er mwyn gweld marciau'r cydrannau asesu.
Ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd ym mis Medi, y canlyniadau a ryddheir ym mis Gorffennaf fydd eich canlyniadau terfynol, wedi'u cadarnhau ar gyfer blwyddyn academaidd 24-25. Pan ryddheir y canlyniadau terfynol ym mis Gorffennaf, byddwch yn gweld:
- Eich canlyniadau fesul modiwl,
- Eich penderfyniad diwedd y lefel (h.y. canlyniad terfynol eich blwyddyn academaidd),
- A dolen i ganllawiau am y canlyniad sydd wedi'i ddyfarnu i chi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrchu'r arweiniad ynglŷn â'r canlyniadau a'i ddarllen yn ofalus.
Ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd ym mis Ionawr, bydd y canlyniadau a ryddheir ym mis Gorffennaf yn farciau dros dro ar gyfer Semester y Gwanwyn. Bydd y marciau hyn yn rhai dros dro hyd nes y cânt eu cadarnhau, a bydd eich marciau terfynol wedi'u cadarnhau yn cael eu rhyddhau ar ôl i chi gwblhau pob un o'ch modiwlau a addysgir.