Digwyddiadau Cyflogadwyedd

Mae tîm y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn gweithio'n barhaus i sicrhau cyfleoedd a digwyddiadau i'r myfyrwyr. Rydym yn cydweithio gydag amrywiaeth o fusnesau, o fusnesau bach neu ganolig i gorfforaethau amlwladol sy'n awyddus i recriwtio ac ymgysylltu â'n myfyrwyr a'n graddedigion y mae galw mawr amdanynt. Gwnewch y gorau o'ch amser yn Abertawe ac ymunwch â'n digwyddiadau er mwyn ehangu eich gwybodaeth a gwella eich cyflogadwyedd drwy siarad a gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Ein nod yw eich arfogi chi â'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnoch er mwyn cyflwyno'ch hun yn hyderus ac yn broffesiynol i gyflogwyr posibl. Mae llawer o'n myfyrwyr yn ymuno a chwmnïau y maent wedi dod i gyswllt â nhw drwy ein digwyddiadau,

Ewch i Parth Cyflogaeth y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg ar gyfer y newyddion diweddaraf am ein digwyddiadau, a chofiwch ddilyn er mwyn bod y cyntaf i glywed pan fydd digwyddiad newydd yn cael ei ychwanegu.

Ar y wefan hon, gallwch gyflwyno cais am amrywiaeth o interniaethau a swyddi, cofrestru i ymuno â digwyddiadau a gynhelir gan dîm Cyflogadwyedd y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg a chwmnïau allanol, yn ogystal â chael mynediad at adnoddau a all gefnogi eich datblygiad gyrfaol. Caiff holl ddigwyddiadau Cyflogadwyedd y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg eu hychwanegu at y wefan hon, felly cwblhewch y broses gofrestru gyflym fel y gallwch gofrestru'n hawdd ar gyfer digwyddiadau!

Rhwydweithiwch â chyflogwyr blaenllaw yn ein digwyddiadau sydd ar ddod!