Cysylltwch â'r Hwb

Hwb yw cartref gwybodaeth i fyfyrwyr yma ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae'r tîm cyfeillgar yma i'ch cefnogi drwy gydol eich taith myfyriwr.

Hwb yw eich canolfan ar gyfer popeth sy'n ymwneud â bywyd myfyrwyr, p'un ag oes angen cymorth arnoch gyda'ch cofnod myfyriwr, arholiadau, trefnu apwyntiadau neu gasglu eich cerdyn adnabod, gall Hwb eich helpu ar-lein neu yn bersonol.

Cysylltwch
Students talking outside Digital Technium

Sesiwn Gymorth Bwrpasol

Drwy gydol y flwyddyn, byddwn yn cynnal sesiynau pwrpasol ar y pynciau presennol sy’n effeithio arnoch chi. 

Archwiliwch y sesiynau sydd wedi’u cynllunio a chadwch eich lle chi er mwyn ymuno!

Cymorth Academaidd

Gweler ein tudalen Cymorth Academaidd ar gyfer opsiynau cymorth academaidd yn y Gyfadran, gan gynnwys:

  • Cymorth ysgrifennu ac iaith.
  • Cymorth Mathemateg ac ystadegau.
  • Cymorth meddalwedd peirianneg.

Gweler hefyd Tudalen We y Ganolfan Llwyddiant Academaidd ar gyfer gweithdai, tiwtora unigol ac adnoddau ar-lein.

Cymorth ar gyfer dy les

Os wyt ti'n teimlo bod angen cymorth arnat ti ar gyfer dy les wrth astudio gyda ni, mae nifer o wasanaethau cymorth ac adnoddau ar gael i ti.

Dolenni Cyflym