sgrin yn dangos pentwr o lyfrau

Dod o hyd i Ffynonellau Dibynadwy 

Mae'r tiwtorial hwn yn edrych ar y ffordd orau o sicrhau eich bod yn defnyddio ffynonellau priodol yn eich gwaith academaidd.  Mae hyn yn hynod bwysig wrth ddefnyddio ffynonellau digidol megis cronfeydd data yn eich ymchwil. Bydd yr adnodd yn ystyried y canlynol: pam dylech chi chwilio am ffynhonnell ddibynadwy, sut i ddefnyddio prawf CRAAP i archwilio eich adnoddau, a sut i ddod o hyd i gymorth pellach. 

Dod o hyd i Erthyglau Cyfnodolion gan ddefnyddio Cronfeydd Data Academaidd

Mae Cyfnodolion Academaidd yn ffynhonnell gyfoethog o erthyglau sy’n trafod ymchwil ddiweddar ac maent yn ystyriaeth hanfodol wrth chwilio llenyddiaeth. I ddysgu mwy, dilynwch y cwrs byr hwn ar ddod o hyd i erthyglau cyfnodolion.

Erthyglau Newyddion

Gall staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe gyrchu archifau papurau newyddion yn ogystal â chyrchu safleoedd ar y rhyngrwyd. Mae’r dolenni ar gyfer yr holl bapurau newyddion rydym yn tanysgrifio iddynt (yn ogystal ag adnoddau ar-lein sydd ar gael am ddim) ar iFind. Cliciwch yma i ymweld â'r Cronfa Ddata Papurau Newydd.

Llenyddiaeth Lwyd a Ffynonellau Eraill

Gellir disgrifio llenyddiaeth lwyd fel gwybodaeth nad yw’n cael ei rheoli gan gyhoeddi masnachol; gwybodaeth ydyw sy’n cael ei chreu gan gorff nad cyhoeddi yw ei weithgarwch pennaf. Efallai y bydd yn fwy defnyddiol a chyfoes, ond nid yw’n destun yr un prosesau adolygu llym cyn cyhoeddi â llenyddiaeth a gyhoeddir yn ffurfiol. Mae llenyddiaeth lwyd ar gael yn eang yn ddigidol a rhaid i ni fod yn ymwybodol o sut i’w adnabod a phenderfynu pryd y bydd hi’n addas defnyddio llenyddiaeth lwyd yn ein gwaith. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ganllaw’r llyfrgell ar Llenyddiaeth Lwyd.