Mae'r adran hon yn canolbwyntio ar y sgiliau digidol a'r dulliau sy'n hollbwysig ar gyfer cyfranogi mewn addysg a datblygiad proffesiynol parhaus. Mae hyn yn cynnwys cymryd rhan mewn digwyddiadau byw ar y we, defnyddio apiau a gwasanaethau dysgu, a deall cyfleoedd a heriau dysgu ar-lein.
Cael Mynediad At Gyrif MyUni Ac Apiau
Mewngofnodwch i’ch cyfrif MyUni gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ym Mhrifysgol Abertawe i gymryd rhan yn ddigidol yn eich addysg, gweld marciau ac adborth ar gyfer eich astudiaethau a derbyn cymorth drwy amrywiaeth o gyfryngau ar-lein megis:
- E-bost y Brifysgol
- Y Fewnrwyd – cofrestru, cofnod myfyriwr, amserlen
- Canvas – cynnwys modiwlau a chyrsiau ar-lein
- Apiau eraill
Canllaw Dysgu O Bell
Mae'r canllaw i ddysgu o bell yn rhoi dolenni i feddalwedd i chi eu defnyddio yn eich astudiaethau, a chanllawiau i'ch helpu i ddechrau arni. Hefyd, ceir awgrymiadau ar gyfer dysgu ar-lein, ac argymhellion ar gyfer dulliau i'ch helpu o ran cynhyrchiant, gweithio'n gallach a llawer mwy. Archwiliwch y canllaw a gwneud y gorau o'ch dysgu ar-lein ym Mhrifysgol Abertawe.
Osgoi Llên-Ladrata
Mewn byd lle mae ffynonellau’n fwyfwy digidol, mae’n bwysicach nag erioed deall sut i gadw cofnod o leoliad eich ffynonellau a sut i gyfeirnodi cynnwys ar-lein yn gywir sy’n gallu cynnwys syniadau, ffigurau, meddalwedd, diagramau neu ddeunyddiau eraill o’r rhyngrwyd. Gall fod yn hawdd copïo a gludo deunyddiau o’r rhyngrwyd ac esgeuluso nodi’r ffynhonnell a chydnabod yr awdur, a gall fod yn demtasiwn cael ychydig o gymorth gydag aralleirio gan feddalwedd sy’n ymddangos fel ei bod yn gwneud hyn yn awtomatig. Gellir ystyried y ddau weithgaredd hyn yn gamymddygiad academaidd bwriadol, sy’n arwain at ganlyniadau difrifol o ran eich canlyniadau a’ch astudiaethau yn y dyfodol. Edrychwch ar ein canllaw ar Uniondeb Academaidd a Chamymddygiad Academaidd ar-lein i gael rhagor o wybodaeth.
Olrhain Eich Cynnydd A'ch Cyflawniadau
Yr Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR) yw eich unig gofnod cynhwysfawr o ddysgu a chyflawniadau ym Mhrifysgol Abertawe. Mae eich HEAR yn cynnwys llawer o wybodaeth werthfawr amdanoch chi y bydd cyflogwyr am ei gwybod, felly mae’n bwysig gwybod sut i’w gyrchu a’i rannu. Mae llawer o gyrsiau a dyfarniadau sydd wedi’u hachredu ar gyfer HEAR ar gael i chi eu hastudio ochr yn ochr â’ch astudiaethau ym Mhrifysgol Abertawe a fydd yn cyfrannu’n awtomatig at y cofnod hwn a grëir yn electronig. Ewch i’n tudalen HEAR i gael rhagor o wybodaeth.
Cwrs Datblygu Gyrfa Aacademi Cyflogadwyedd Abertawe
Mae gradd yn bwysig iawn i gael swydd wych, ond mae cyflogwyr yn chwilio'n fwyfwy am sgiliau digidol wrth ddewis pa raddedigion maent am gynnig swyddi iddynt.Bydd Cwrs Datblygu Gyrfa Academi Cyflogadwyedd Abertawe yn dy helpu i ddarparu tystiolaeth o dy sgiliau a dy brofiad, a chaiff ei gydnabod yn ffurfiol yn dy Adroddiad Cyrhaeddiad Addysg Uwch (HEAR).Gelli di gael y sgiliau angenrheidiol er mwyn i ti feithrin dy rwydwaith yn ddigidol a chael dy hyrwyddo drwy ddulliau fel LinkedIn, darganfod y dulliau i dy helpu i gynllunio dy yrfa, o chwilio am interniaeth am y tro cyntaf i symud i fyny yn dy yrfa wedi graddio, gyda'r cwrs hwn ar Canvas dan arweiniad arbenigwyr. Cofrestra ar Canvas drwy'r ddolen hon a dechreua heddiw!