Mae'r maes hwn am ddefnyddio offer digidol ar gyfer cynhyrchu creadigol. Ym myd gwaith efallai y gofynnir ichi lunio gwaith ym mhob math o fformatau digidol - o ysgrifennu dogfen a golygu delweddau i greu gwefannau a fideos neu lunio côd hyd yn oed. Mae hyn i gyd yn gofyn am y gallu i ymchwilio i atebion pan fydd problemau'n codi a'r gallu i gadw i fyny ag offer a meddalwedd newydd.


Cwrs Sgiliau Microsoft
Mae cyflogwyr yn chwilio am raddedigion sy’n gallu gweithio’n effeithiol ac yn arloesol gyda thechnoleg i wella effeithlonrwydd. Bydd y gweithdy ymarferol yn y cwrs sgiliau Microsoft yn eich addysgu am y sgiliau i fformatio dogfennau i fodloni safonau gofynnol, creu posteri a chyflwyniadau gwell, a dadansoddi a chyflwyno canfyddiadau’n effeithiol o symiau mawr o ddata.
Meddalwedd ar gyfer Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, bydd gennych fynediad at amrywiaeth eang o feddalwedd y gallwch ei defnyddio i greu gwaith yn ddigidol. Bydd yn fanteisiol i chi ymgyfarwyddo â’r feddalwedd hon oherwydd y byddwch yn dod ar ei thraws ac yn ei defnyddio yn y gweithle ar ôl y brifysgol. Am restr lawn o’r feddalwedd sydd ar gael, ewch i dudalen meddalwedd y gwasanaethau TG.

Pecyn Cymorth: Cwblhau Asesiadau Fideo
Er mwyn cwblhau asesiad fideo yn llwyddiannus, mae angen i chi wybod sut i greu fideo, ei storio yn Canvas, ac yna ei gyflwyno i Aseiniad neu Drafodaeth Canvas.
Mae Pecyn Cymorth "Cwblhau Asesiadau Fideo" yn darparu fideos a chanllawiau ysgrifenedig i'ch helpu i ddefnyddio Canvas Studio i gwblhau asesiadau o'r fath.