1.    Diddymu Dyfarniad

Gall y Brifysgol, ar argymhelliad y Senedd, ddiddymu dyfarniad a’r holl freintiau sy’n gysylltiedig ag ef, ar ôl penderfynu bod achos da dros wneud hynny. Gall hyn gynnwys:

  • Lle canfyddir, ar ôl archwiliad, fod unigolyn wedi ennill gradd drwy dwyll neu ddichell, gan gynnwys arfer annheg;
  • Wedi ennill dyfarniad oherwydd gwall gweinyddol neu anghysonderau yn y modd y cafodd y Bwrdd Arholi ei gynnal.

2.    Dyfarniadau ar y Cyd

Rhoddir manylion gweithdrefnau ar gyfer dyfarniadau a wneir ar y cyd â sefydliadau eraill yn y cytundeb ffurfiol rhwng y ddau sefydliad. 

3.    Gweithdrefn

Rhoddir gwybod i’r Is-Ganghellor am honiadau a allai arwain at ddiddymu dyfarniad, ac yn ei swydd fel Cadeirydd y Senedd, bydd yr Is-Ganghellor yn trafod yr achos â’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg. Bydd gan yr Is-Ganghellor yr opsiynau canlynol: 

  • Cyfeirio unrhyw achos yn ymwneud ag arfer annheg at y Prif Arolygydd Asesu;
  • Cyfeirio achosion sy’n ymwneud â gwall gweinyddol neu anghysonderau mewn gweithdrefnau at Fwrdd Arholi priodol;
  • Gwrthod yr achos;
  • Gofyn am wybodaeth ychwanegol gan unrhyw unigolyn.

Bydd yr Is-Ganghellor yn rhoi gwybod i’r Senedd yn ei chyfarfod nesaf am unrhyw achosion o’r fath dan fusnes ‘Neilltuedig’.  

Ni ddifreinir neb o Radd er Anrhydedd y Brifysgol ac eithrio gan y Cyngor, ac nid oni bai bod y Cyngor, wedi ymgynghori â’r Senedd, wedi penderfynu bod achos da dros y difreiniad hwnnw.

3.1 

Rhoddir gwybod i’r Senedd am ganlyniad terfynol yr achos, ynghyd ag unrhyw argymhelliad ar gyfer gweithredu pellach, megis difreinio neu ddiddymu Dyfarniad.

3.2

Bydd y Senedd yn ystyried, ond ni fydd yn rhwym i, argymelliadau’r Pwyllgor Ymchwilio/Bwrdd Arholi. Bydd y Senedd yn gwneud penderfyniad ynghylch yr achos gan gynnwys penderfyniad i ddifreinio unigolyn o gymhwyster neu ddiddymu cymhwyster os oes rheswm dros wneud hynny. Ni fydd y Senedd yn dirprwyo’i phŵer o ddifreinio na diddymu i unrhyw unigolyn neu bwyllgor. Bydd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg yn rhoi gwybod i’r ymgeisydd am benderfyniad y Senedd, yn ysgrifenedig, mewn llythyr Cwblhau Gweithdrefnau. 

3.3

Lle mae dyfarniad wedi’i ddiddymu, rhoddir gwybod i ddeiliad y Dyfarniad fod yn rhaid iddo/iddi ddychwelyd y dystysgrif Ddyfarniad i’r Brifysgol o fewn deng niwrnod. Yn ogystal, rhoddir gwybod i’r ymgeisydd am y goblygiadau os bydd yn parhau i ddefnyddio’r dyfarniad wedi iddo gael ei ddiddymu. Caiff cronfa ddata Ddyfarniadau’r Brifysgol a chofnod y myfyriwr eu diweddaru ar unwaith.

3.4

Nid oes hawl i apelio yn y Brifysgol yn erbyn penderfyniad y Senedd gan gynnwys unrhyw benderfyniad gan y Senedd i ddifreinio unigolyn o gymhwyster neu ddiddymu cymhwyster. Penderfyniad y Senedd fydd yn derfynol. Gall unrhyw unigolyn sy’n tybio iddo/iddi gael cam, gyflwyno apêl drwy Weithdrefn Gwyno’r Brifysgol. Mae’n bosibl y bydd unigolyn sy’n anfodlon ar ganlyniad yr achos y penderfynodd y Senedd arno, yn gallu gwneud cwyn i Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol (OIA) ar gyfer Addysg Uwch, ar yr amod bod y gwyn yn gymwys dan ei rheolau.  

3.5

Dylid anfon Ffurflen Gais Cynllun at yr OIA o fewn tri mis i ddyddiad y llythyr Cwblhau Gweithdrefnau. Gellir cael y Ffurflen gan Swyddfa’r Cofrestrydd Academaidd a/neu Undeb y Myfyrwyr a hefyd gellir ei lawrlwytho o wefan yr OIA www.oiahe.org.uk. Dylai myfyrwyr anfon copi o’u llythyr Cwblhau Gweithdrefnau at yr OIA ynghyd â’u Ffurflen Gais.