3.1
Gall ymgeisydd a gaiff ei dderbyn i raglen Diploma Ôl-raddedig fodiwlaidd, ond nad yw’n medru symud ymlaen i’w chwblhau, gymhwyso ar gyfer y dyfarniad a ganlyn, yn dibynnu ar nifer y credydau a enillodd erbyn iddo ymadael:
Ddyfarniad Ymadael
Credydau ar Lefel 7 | heb fod yn llai na 60 (50% neu fwy) |
Gall ymgeisydd adael y rhaglen gyda chymhwysedd ar gyfer: |
Tystysgrif Ôl-raddedig |
3.2
Bydd ymgeisydd y dyfernir Tystysgrif Ôl-raddedig iddo fel cymhwyster ymadael yn gymwys i ennill y dyfarniad â Theilyngdod/Rhagoriaeth, fel a ganlyn:
Tystysgrif Ôl-raddedig gyda Theilyngdod/Rhagoriaeth
Tystysgrif Ôl-raddedig gyda Theilyngdod |
- Pasiwyd 60 credyd (50% neu fwy), rhaid bod isafswm o 40 credyd wedi'u hennill yn Abertawe.
- Wedi ennill marc cyfartalog cyffredinol rhwng 60% a 69.99%.
|
Tystysgrif Ôl-raddedig gyda Rhagoriaeth |
- Pasiwyd 60 credyd (50% neu fwy), rhaid bod isafswm o 40 credyd wedi'u hennill yn Abertawe.
- Wedi ennill marc cyfartalog cyffredinol o 70% neu ragor.
|
3.3
Ni fydd Tystysgrif Ôl-raddedig mewn pwnc a enwir yn cael ei dyfarnu wedi i ymgeisydd gwblhau modiwlau sy’n cynnig o leiaf 60 o bwyntiau credyd ar lefel 7 oni bai fod cyfanswm y modiwlau perthnasol yn gwneud rhaglen gymeradwy. Bydd Bwrdd Academaidd perthnasol y Brifysgol yn cymeradwyo rhaglen dystysgrif dan y rheoliad hwn.