MA MEWN ADDYSG (CYMRU)
Cyd-Destun
Bydd y rhaglen meistr genedlaethol ran-amser mewn addysg (cymru) (y rhaglen genedlaethol) ar gael i athrawon yn y sector addysg orfodol yn Saesneg ac yn Gymraeg.
Darperir y rhaglen gan bartneriaeth Cymru gyfan sy'n cynnwys 'sefydliadau sy'n cyfranogi', wedi'i chefnogi gan Lywodraeth Cymru, i gynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol sy'n adlewyrchu'r cyd-destun cenedlaethol. Bydd y rhaglen yn galluogi myfyrwyr i ymgysylltu ag ymchwil sy'n ategu polisi a'i chymhwyso, a deall yr effaith y bydd yr ymchwil hon yn ei chael ar ymarfer dysgu. Mae'r rhaglen ar gyfer ymarferwyr addysg yng Nghymru ar bob lefel, o athrawon gyrfa gynnar i uwch-arweinwyr. Datblygir fframwaith ar gyfer dysgu proffesiynol achrededig i'r proffesiwn addysgu, mewn ymateb i ofyniad Llywodraeth Cymru am ymagwedd gydweithredol at ddarparu strategaeth dysgu proffesiynol. Mae'r rhaglen Meistr yn drosglwyddadwy yng Nghymru, ac ystyrir trosglwyddo credydau rhwng Sefydliadau sy'n Cyfranogi yn unol â gweithdrefnau lleol y sefydliadau.
Mae'r rheoliadau academaidd ar gyfer y Rhaglen Genedlaethol a nodir isod (y Rheoliadau Cenedlaethol) yn rheoli ei gweithrediad a'i gwaith asesu, ac fe'u cymeradwyir gan yr holl Brifysgolion sy'n cyfranogi yn y Bartneriaeth (y Sefydliadau sy'n Cyfranogi, y caiff pob un ohonynt weithredu ei reoliadau lleol ei hun lle nodir hynny yn y Fframwaith Rheoleiddio Cenedlaethol hwn).
Egwyddor
Caiff materion nad ydynt wedi'u cynnwys yn y rheoliadau hyn eu trin yn rheoliadau asesu a darpariaethau cysylltiol y Sefydliad perthnasol sy'n Cyfranogi, lle mae'r rhain yn cynnwys darpariaethau sy'n berthnasol i faterion fel hynny.
Diffiniadau
Modiwlau Dewisol
Modiwlau y gall myfyrwyr eu dewis.
Modiwlau Gorfodol
Mae Modiwlau Gorfodol yn gydrannau hanfodol rhaglen astudio y mae'n rhaid i fyfyrwyr ar y Rhaglen eu hastudio.
Modiwlau Craidd
Rhaid astudio a llwyddo mewn Modiwlau Craidd.
Gallai modiwlau 'dewisol' droi'n rhai craidd ar ôl eu dewis.
Traethawd hir
Darn sylweddol o waith hunan-gyfeiriedig gwerth 60 credyd, hyd at uchafswm o 20,000 o eiriau.
Sefydliad sy'n Cyfranogi
Y Brifysgol sy'n bartner, sy'n cynnig y rhaglen MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) y mae'r myfyriwr wedi cofrestru amdani.
Bwrdd Arholi
Bwrdd Arholi pob Sefydliad sy'n Cyfranogi, wedi'i iawn gyfansoddi.
1. Strwythur y Rhaglen Genedlaethol
1.1
Rhaglen ran-amser yn unig yw'r Rhaglen Genedlaethol, sy'n cynnwys modiwlau gwerth 180 o gredydau ar Lefel 7 yr FHEQ, gyda modiwlau a addysgir gwerth 120 o gredydau (gan gynnwys credydau RPL) a Thraethawd Hir gwerth 60 o gredydau. Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau'r Rhaglen Genedlaethol yn llwyddiannus yn gymwys am ddyfarniad MA 'Cenedlaethol' mewn Addysg (Cymru).
Blwyddyn Astudio | Credydau/Disgrifiad |
---|---|
1 | 60 credyd, Addysgir/RPL |
2 | 60 credyd, Addysgir |
3 | 60 credyd, Traethawd Hir |
1.2
Pennir deilliannau dysgu ar gyfer y Rhaglen Genedlaethol ym manyleb y rhaglen. Pennir cymwysterau canolraddol neu gymwysterau ymadael/wrth gefn, isod.
1.3
Ystyrir pob modiwl (gorfodol a dewisol) yn fodiwl 'craidd' ar ôl cael ei ddewis, a bydd yn rhaid i fyfyrwyr lwyddo ym mhob un er mwyn bod yn gymwys am ddyfarniad gradd Meistr.
2. Terfynau Amser
2.1
Caiff modiwlau a addysgir eu cwblhau a'u hasesu yn unol â'r gofynion a'r dyddiadau y bydd pob Sefydliad sy'n Cyfranogi yn eu pennu. Caiff y rhaglen radd gyfan ei chwblhau o fewn y cyfnodau canlynol o ddyddiad y cofrestru gwreiddiol:
Dull Astudio | |
---|---|
Rhan-amser |
Heb fod yn llai na 24 mis, a heb fod yn fwy na 5 mlynedd |
Pan fydd ymgeisydd wedi ymuno â'r Rhaglen Genedlaethol gydag RPL ar ôl yr amser cychwyn arferol, bydd y cyfnod ar gyfer cwblhau astudiaethau yn seiliedig ar yr hyn fyddai'r amser cychwyn arferol pe tasai'r myfyriwr wedi astudio'r rhaglen gyfan yn y Brifysgol sy'n Cyfranogi.
3. Estyniadau i’r Dyddiad Cau ar gyfer Cyflwyno Traethodau Hir
3.1
Rhaid cwblhau ceisiadau am estyniad i'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r Traethawd Hir (neu ffurfiau eraill o liniaru y cytunwyd arnynt) yn unol â rheoliadau a phrosesau'r Sefydliad perthnasol sy'n Cyfranogi ac yn unol â'r dyddiadau cau a nodir.
4. Strwythur Addysgu ac Asesu
4.1
Pennir y patrwm addysgu a'r strwythur asesu gan y Bwrdd Rheoli Cenedlaethol sy'n cynrychioli'r Sefydliadau sy'n Cyfranogi, fel y nodir ym Manyleb y Rhaglen.
5. Cymwysterau Ymadael
5.1
Gallai myfyrwyr sy'n cael eu derbyn i'r Rhaglen Genedlaethol gan Brifysgol sy'n Cyfranogi ond nad oes modd, neu ganiatâd, iddynt symud ymlaen i gwblhau'r cwrs MA ar ôl hynny drwy fethu pasio pob modiwl ar ôl y tair ymgais a ganiateir, neu y mae angen iddynt dynnu'n ôl o'r rhaglen am reswm arall, fod yn gymwys am un o ddyfarniadau canlynol y Brifysgol honno fel Cymhwyster Ymadael, fel a ganlyn:
5.2
Gellir ystyried dyfarnu Tystysgrif Ôl-raddedig (Tystysgrif Addysg i Raddedigion (Cymru)) i fyfyrwyr sy'n cwblhau 60 credyd ar Lefel 7.
Nid yw Tystysgrif Ôl-raddedig ar gael fel Cymhwyster Ymadael i fyfyrwyr sy'n dechrau'r rhaglen gyda 60 credyd RPL.
5.3
Gellir ystyried dyfarnu Diploma Ôl-raddedig (Diploma Addysg i Raddedigion (Cymru)) i fyfyrwyr sy'n cwblhau 120 credyd ar Lefel 7, y bydd yn rhaid ennill o leiaf 60 credyd o'r cyfanswm hwnnw yn y sefydliad sy'n cyfranogi.
5.4
Dosberthir y Cymwysterau Ymadael fel a ganlyn:
Dyfarniad | Rhagoriaeth | Teilyngdod | Pasio |
---|---|---|---|
Tystysgrif Ôl-raddedig | 70%+ | 60-69.99% | 50-59.99% |
Diploma Ôl-raddedig | 70%+ | 60-69.99% | 50-59.99% |
6. Traethawd Hir (60 credyd).
6.1
Cwblheir pob ymgeisyddiaeth drwy gyflwyno traethawd hir a chymeradwyo ansawdd canlyniadau'r gwaith hwnnw gan yr arholwyr priodol.
6.2
Goruchwylio Traethodau Hir
Ar gyfer pob myfyriwr mewn Sefydliad sy'n Cyfranogi, bydd y Brifysgol honno'n cymeradwyo un goruchwyliwr (y Goruchwyliwr) a fydd yn tywys ac yn goruchwylio myfyrwyr yn unol â rheoliadau ac arweiniad perthnasol y Brifysgol honno, fel y diffiniwyd yn Llawlyfr y Rhaglen.
6.3
Arholi Traethodau Hir
Caiff yr holl waith sy'n ymwneud â Thraethodau Hir ei farcio gan ddau aelod mewnol o staff yn y Brifysgol sy'n Cyfranogi.
Os bydd yn amhosibl dyrannu dau aelod mewnol o staff, dylid penodi marciwr allanol i fod yn ail farciwr a dylid gofyn i'r Arholwr/Arholwyr Allanol gadarnhau y cafwyd gwaith cymedroli.
6.4
Dylai Arholwr Allanol y Sefydliad sy'n Cyfranogi a'r Arholwr/Arholwyr Allanol Cenedlaethol gymedroli sampl o waith Traethodau Hir. Ar ôl i'r canlyniadau gael eu cymeradwyo gan Arholwr Allanol pob Sefydliad, caiff y samplau eu hadolygu ar ôl hynny gan yr Arholwyr Allanol Cenedlaethol drwy'r Bwrdd Astudiaethau Academaidd Cenedlaethol er mwyn monitro safonau a chyfwerthedd asesu ac adborth yn y ddarpariaeth ar draws yr holl sefydliadau.
(Mae’r rheoliadau samplu fel a ganlyn: O leiaf 10% o gyfanswm y darnau o waith (lleiafswm o 6) gan gynnwys o leiaf un darn o bob dosbarth (Llwyddo, Teilyngdod, Rhagoriaeth, lle y bo’n briodol).
6.5
Er ei bod yn arferol i’r un Arholwr Allanol arholi ymgeisydd ar gyfer y rhaglen, gellir penodi arholwr annibynnol i arholi’r gwaith os oes angen gwybodaeth neu arbenigedd arbenigol.
6.6
Cadarnheir y marciau yng nghyfarfodydd Byrddau Arholi perthnasol y Sefydliad sy'n Cyfranogi.
6.7
Cyflwyno Traethodau Hir
Rhaid cyflwyno traethodau hir yn unol â pholisi cyflwyno'r Sefydliadau sy'n Cyfranogi, fel y diffiniwyd yn Llawlyfr y Rhaglen.
6.8
Diffinnir cyflwyno'r gwaith fel cyflwyno darn neu ddarnau o waith yn unol â'r gofynion ar gyfer cyflwyno Traethodau Hir (uchod) a dylai hynny fodloni'r gofynion y mae'r Sefydliad sy'n Cyfranogi wedi'u pennu. Mae gan Sefydliad sy'n Cyfranogi ddisgresiwn i benderfynu a yw cyflwyniad yn bodloni'r gofynion hyn ai peidio.
6.9
Bydd gan fyfyrwyr sy'n methu cyflwyno eu Traethawd Hir erbyn y dyddiad cau un cyfle arall i'w gyflwyno. Bydd myfyrwyr sy'n methu cyflwyno eu gwaith erbyn y dyddiad cau am yr eildro yn methu'r rhaglen ac yn cael eu hystyried am ddyfarniad y Diploma/Dystysgrif Addysg 'Genedlaethol' i Raddedigion (Cymru) fel dyfarniad ymadael.
6.10
Ailgyflwyno Traethodau Hir
Os na fydd y gwaith yn bodloni'r safonau gofynnol ar gyfer dyfarniad, mae'n bosibl y caniateid i'r myfyriwr ei ailgyflwyno unwaith yn unig ymhen y terfynau amser canlynol:
Dull Astudio | |
---|---|
RHAN-AMSER | 6 mis (ar ôl i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi'n swyddogol gan y Brifysgol) |
6.11
Mae'r Sefydliadau sy'n Cyfranogi wedi penderfynu a chytuno ar ffi gwerth £124 ar gyfer ail-arholi Traethodau Hir, a chaiff y marc ei gapio ar 50%.
6.12
Dylai myfyrwyr sy’n ailgyflwyno gwaith dderbyn adborth ysgrifenedig ar y rhesymau dros fethu yn union ar ôl cael cadarnhad o’r canlyniad. Dylai'r adborth adlewyrchu holl sylwadau'r Arholwyr (Mewnol ac Allanol). Dylid rhoi gwybod i'r myfyriwr am y newidiadau y mae eu hangen ar y gwaith i gyrraedd y safon i basio.
6.13
Dim ond mân newidiadau i deitl eu gwaith y caiff myfyrwyr sy’n ailgyflwyno eu gwaith eu gwneud, gyda chaniatâd eu Goruchwyliwr. Ni ddylai newidiadau o’r fath beri bod angen unrhyw ymchwil gwreiddiol pellach, oni bai fod amgylchiadau esgusodol y cytunwyd arnynt.
6.14
Fel arfer, ni fydd disgwyl i fyfyrwyr sy'n ailgyflwyno eu gwaith fod yn bresennol yn y Sefydliad sy'n Cyfranogi yn ystod y cyfnod ailgyflwyno, ac ni fydd yn derbyn goruchwyliaeth na chymorth ffurfiol yn ystod y cyfnod hwn.
6.15
Cyhoeddi Gwaith
Caiff myfyriwr gyhoeddi’r gwaith cyfan neu ran o’r gwaith a gynhyrchwyd yn ystod ei gyfnod cofrestru yn y Brifysgol sy'n Cyfranogi, cyn ei gyflwyno yn ei gyfanrwydd neu'n rhannol, ar yr amod na nodir yn unrhyw le yn y gwaith a gyhoeddir ei fod yn cael ei ystyried ar gyfer gradd uwch. Gall y gwaith a gyhoeddwyd gael ei gynnwys yn nes ymlaen yn y traethawd hir a gyflwynir i’w arholi.
6.16
Gwahardd Mynediad
Er gwaethaf y darpariaethau yn y rheoliadau sy’n ymwneud ag argaeledd dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd, gall y Sefydliad sy'n Cyfranogi gael caniatâd, ar sail argymhelliad arbennig a gymeradwyir gan Bennaeth Adran/Coleg/Ysgol/Cyfadran y myfyriwr neu ei enwebai, i atal unrhyw un rhag llungopïo a/neu gael mynediad at waith ymgeisydd am gyfnod o hyd at bum mlynedd. Cyfrifoldeb goruchwyliwr yr myfyriwr fydd cyflwyno cais priodol i Bennaeth yr Adran/Coleg/Ysgol/Gyfadran neu ei enwebai cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol. Byddai’r gwaharddiad hwn hefyd yn berthnasol i aelodau’r Sefydliad sy'n Cyfranogi.
6.17
Dylai’r crynodeb a’r teitl fod ar gael yn ddirwystr.
6.18
Mae'n rhaid i unrhyw argymhelliad am wahardd mynediad gael ei gyflwyno i Bennaeth yr Adran/Coleg/Ysgol/Gyfadran neu ei enwebai ar ôl i oruchwyliwr y myfyriwr ystyried y mater. Cyfrifoldeb y goruchwyliwr fydd cyflwyno’r cais cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol. Rhaid i’r argymhelliad gynnwys datganiad ynghylch y rhesymau dros gyflwyno'r cais. Gwneir y rhan fwyaf o’r ceisiadau hyn ar sail sensitifrwydd masnachol yr ymchwil, a allai fod wedi’i noddi’n rhannol gan gorff masnachol neu ddiwydiannol.
6.19
Pan ganiateir atal mynediad dylid rhoi gwybod i Oruchwyliwr y myfyriwr. Yn achos gwaith y tybir ei fod yn berthnasol i Gymru, bydd yr Adran/Coleg/Ysgol/Gyfadran yn rhoi gwybod i lyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru am y ffaith y dylid atal mynediad at y gwaith am gyfnod penodedig.
6.20
Tybir y bydd y penderfyniad i atal mynediad yn dod i rym cyn gynted ag y bydd y gwaith wedi’i gyflwyno, ond caiff y cyfnod a gymeradwywyd ei gyfrifo o’r dyddiad y bydd y Sefydliad sy'n Cyfranogi yn rhoi gwybod i'r myfyriwr yn ffurfiol am y ffaith ei fod yn gymwys i ennill gradd.
6.21
Pan gaiff gwaith ei gyflwyno, bydd yn ofynnol i fyfyriwr gynnwys datganiad wedi’i lofnodi ynddo a fydd yn dangos naill ai:
- Fod y gwaith, os yw’n llwyddiannus, yn gallu bod ar gael ar gyfer benthyciad rhwng llyfrgelloedd neu i’w lungopïo (yn unol â’r ddeddf hawlfraint), ac y gellir darparu’r teitl a’r crynodeb ar gyfer sefydliadau allanol; neu
- Y bydd y gwaith, os yw’n llwyddiannus, ar gael felly ar ddiwedd cyfnod yr ataliad
7. Byrddau Arholi
7.1
Y Byrddau Arholi a fydd yn cwrdd er mwyn asesu cynnydd myfyrwyr ar y Rhaglen Genedlaethol fydd Bwrdd Arholi perthnasol pob un o'r Prifysgolion sy'n Cyfranogi (gweler 8.2).
RHEOLIADAU ASESU
8. Egwyddorion Cyffredinol
Caiff materion nad yw'r Rheoliadau Asesu a ddisgrifiwyd yn eu cynnwys, eu cwmpasu gan reoliadau asesu a darpariaethau perthynol y Brifysgol briodol sy'n Cyfranogi, lle bydd y rhain yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â materion o'r fath.
Os bydd materion sydd wedi'u cynnwys yn y Rheoliadau Asesu a ddisgrifiwyd a rheoliadau asesu a darpariaethau perthynol y Brifysgol briodol sy'n Cyfranogi, caiff gwahaniaethau o ran dehongli ystyr eu cytuno o blaid y Brifysgol sy'n Cyfranogi.
Lle defnyddir y term Bwrdd/Byrddau Arholi yn y Rheoliadau Asesu a ddisgrifiwyd, ystyr y term hwn fydd Bwrdd Arholi pob un o'r Prifysgolion sy'n Cyfranogi wedi'i iawn gyfansoddi, sy'n gweithredu yn unol â'r awdurdod a'r cylch gorchwyl a ddirprwywyd iddynt gan Fyrddau/Bwyllgorau Academaidd priodol y Prifysgolion sy'n Cyfranogi.
Ystyr myfyrwyr perthnasol fydd y myfyrwyr sydd wedi'u cofrestru ar y Rhaglen Genedlaethol ym mhob un o'r Prifysgolion sy'n Cyfranogi.
O fewn rhwystrau nodau, deiliannau dysgu a rheoliadau asesu'r rhaglen, mae disgresiwn gan y Byrddau Arholi wrth ddod i benderfyniadau ar y dyfarniadau i'w hargymell ar gyfer myfyrwyr unigol. Maent yn gyfrifol am ddehongli'r rheoliadau asesu ar gyfer y rhaglen yng ngoleuni gofynion y Brifysgol sy'n cyfranogi ac arferion da ym maes addysg uwch, yn enwedig mewn perthynas â chynnal safonau academaidd.
Gellir asesu perfformiad myfyrwyr drwy unrhyw gyfuniad o ddulliau asesu sy'n briodol i lefel a deilliant dysgu'r ymarfer asesu.
Rhoir dulliau asesu penodol, pwysiadau a allai fod yn berthnasol a nifer yr asesiadau, ym manyleb y rhaglen a disgrifyddion y modiwlau. Ni fydd modd newid y rhain dim ond gyda chytundeb y Prifysgolion sy'n Cyfranogi gan ddefnyddio eu mecanweithiau a gymeradwywyd.
8.1
Cyflwyno Marciau
Cyflwynir gerbron y Byrddau Arholi holl farciau'r asesiadau a gymerwyd. Rheolir RPcL/Trosglwyddo Credyd drwy brosesau diffiniedig pob Sefydliad sy'n Cyfranogi, yn unol â'r Polisi RPL Cenedlaethol ar gyfer y rhaglen hon.
8.2
Byrddau Dilyniant a Dyfarniadau
Fel arfer, bydd Byrddau Arholi yn cwrdd ar ôl pob cyfnod asesu yn ystod y rhaglen er mwyn sicrhau y caiff cynnydd myfyrwyr ei fonitro.
Pennir cynnydd yn ôl adolygiad y Bwrdd Arholi o safle 'presennol' y myfyriwr ar ôl pob cyfnod asesu.
Bwrdd Arholi fydd yn penderfynu a yw myfyriwr wedi bodloni'r gofynion i symud ymlaen ar y Rhaglen.
Fel arfer, caniateir i fyfyrwyr sy'n methu cymhwyso i symud ymlaen ar yr ymgais gyntaf, wneud yn iawn am eu methiannau drwy gyflwyno asesiadau atodol neu ailgyflwyno gwaith asesu wedi'i ddiwygio, fel y diffiniwyd gan y rhaglen.
Y Bwrdd Arholi yn unig fydd yn gallu rhoi cyfleoedd am asesiadau atodol.
Bwrdd | Mis | Penderfyniadau/Canlyniadau |
---|---|---|
1 | Ionawr/Chwefror | Cynnydd/Asesiad Atodol |
2 | Mai/Mehefin | Cynnydd/Asesiad Atodol |
3 | Medi | Cynnydd/Asesiad Atodol |
4 | Hydref | Cynnydd/Asesiad Atodol/Dyfarniad |
Caiff y set gyfan o ganlyniadau ar gyfer pob ymgeisydd a ystyriwyd yn y Bwrdd Dyfarniadau Arholi perthnasol ei chyflwyno i'r arholwyr.
Bydd proffil canlyniadau'r myfyrwyr perthnasol yn cynnwys:
- Canlyniadau'r modiwlau a addysgir
- Canlyniadau'r Traethawd Hir
8.3
Marcio Dienw
Pan fydd ar gael, gweler polisi perthnasol y Sefydliad sy'n Cyfranogi ar Farcio Dienw, neu wybodaeth berthynol.
8.4
Datgelu Hunaniaeth
Pan fydd ar gael, gweler polisi perthnasol y Sefydliad sy'n Cyfranogi ar Farcio Dienw, neu ddarpariaeth berthynol.
8.5
Datgelu Canlyniadau
Pan fydd ar gael, gweler polisi perthnasol y Sefydliad sy'n Cyfranogi ar Gyhoeddi Marciau, neu ddarpariaeth berthynol.
8.6
Camymddygiad Academaidd
Gweler polisi perthnasol y Sefydliad sy'n Cyfranogi ar Gamymddygiad Academaidd, neu ddarpariaeth berthynol.
8.7
Addasrwydd i Ymarfer
Gweler polisi perthnasol y Sefydliad sy'n Cyfranogi ar Addasrwydd i Ymarfer, neu ddarpariaeth berthynol.
8.8
Apelio yn erbyn Penderfyniadau
Gweler gweithdrefn berthnasol y Sefydliad sy'n Cyfranogi ar Apeliadau a/neu Gywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd, neu ddarpariaeth berthynol.
Mae gan bob myfyriwr y mae gofyn iddo dynnu'n ôl o'r Brifysgol sy'n Cyfranogi, yr hawl i apelio yn unol â rheoliadau'r Brifysgol sy'n Cyfranogi, er enghraifft y Weithdrefn Cywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd a/neu'r Weithdrefn Apelio.
9 Rheolau Asesu Cyffredinol ar Gyfer y Cwrs MA Cenedlaethol Mewn Addysg (Cymru)
9.1
Y marc llwyddo ar gyfer modiwlau fydd 50%. Ni roddir credyd ond i myfyrwyr sy'n pasio modiwl.
9.2
Dyfernir y cymhwyster MA 'Cenedlaethol' mewn Addysg (Cymru) i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau cyfanswm o 180 o gredydau ar Lefel 7 FHEQ yn llwyddiannus. Cyfrifir dosbarthiad cyffredinol y radd ar sail cyfartaledd y marciau ar gyfer yr holl fodiwlau wedi'u pwysoli yn ôl gwerthoedd credyd y modiwlau hynny.
9.3
Caiff cynnydd myfyrwyr ei fonitro drwy gydol y rhaglen. Gwneir penderfyniadau ynghylch dyfarniadau ar ddiwedd y rhaglen, a chânt eu cadarnhau gan Fwrdd Arholi perthnasol y Sefydliad sy'n Cyfranogi.
9.4
Ystyrir bod pob modiwl a ddewisir (modiwlau gorfodol a dewisol) yn fodiwlau craidd, a rhaid llwyddo ynddynt gyda marc gwerth o leiaf 50% er mwyn cwblhau'r rhaglen, ac ni chaniateir goddefiant.
9.5
Mae'n bosibl y caniateir i fyfyrwyr nad ydynt wedi pasio modiwl a addysgir ddwy ymgais bellach yn y rhaglen i wneud yn iawn am fethu (h.y. cyfanswm o dair ymgais ym mhob modiwl a addysgir), ar yr amod bod modd cyflawni hyn ymhen terfyn amser y Rhaglen. Ni chaniateir ymgeisiadau eraill i fyfyrwyr oni bai fod amgylchiadau esgusodol y cytunwyd arnynt.
9.6
Os yw ymgeiswyr yn bodloni'r arholwyr mewn ymgais i wneud iawn am fethiant, ni fyddant yn gymwys am farc uwch na'r trothwy wedi'i gapio o 50% ym mhob modiwl, waeth beth yw lefel eu perfformiad. Bydd y Bwrdd Arholi yn cyfeirio at y marc wedi'i gapio wrth bennu'r cyfartaledd ar gyfer y dyfarniad.
9.7
Ystyrir bod myfyrwyr sy'n methu pasio modiwl ar y drydedd ymgais 'allan o gyfleoedd', ni fyddant yn gymwys am ddyfarniad Meistr a bydd gofyn iddynt dynnu'n ôl o'r Sefydliad sy'n Cyfranogi. Ni fydd y fath myfyrwyr yn cael cyfle arall i gwblhau eu rhaglen astudio ac ni chânt eu hystyried am unrhyw ddyfarniad ond cymhwyster ymadael. Ni fydd myfyrwyr y mae angen iddynt dynnu'n ôl o'r Sefydliad sy'n Cyfranogi yn derbyn ymgeisiadau pellach i basio eu modiwlau ac ni fyddant yn gymwys i drosglwyddo credydau i raglen astudio arall yn y Brifysgol honno, neu i'r cwrs MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) mewn Sefydliad sy'n Cyfranogi, a bydd eu hastudiaethau'n dod i ben. Gellir cyfeirio achosion eithriadol at y Bwrdd Rheoli Cenedlaethol i benderfynu arnynt. Gellir ystyried myfyrwyr ar gyfer dyfarniad ymadael gweler rheoliad 5: Cymwysterau Ymadael, uchod).
9.8
Mewn amgylchiadau eithriadol ac yn unol â Pholisi'r Sefydliad perthnasol sy'n Cyfranogi ar Amgylchiadau Esgusodol (neu ddarpariaeth berthynol), caiff myfyrwyr sy'n methu pasio eu modiwl(au) gyflwyno tystiolaeth o amgylchiadau esgusodol yn unol â Pholisi Amgylchiadau Esgusodol y Sefydliad sy'n cyfranogi. Fel arfer, cynhelir yr ailasesu y cytunwyd arno yn ystod y cyfnod(au) asesu priodol nesaf.
9.9 Fel arfer, caniateir i fyfyriwr sy'n methu ac y mae angen ei ailasesu, ail-gyflwyno fersiwn ddiwygiedig o'i waith gwreiddiol, ac eithrio myfyrwyr y canfuwyd eu bod wedi cyflawni Camymddygiad Academaidd yn yr asesiad penodol.
9.10 Ni roddir caniatâd i fyfyrwyr ail-wneud modiwl sydd eisoes wedi’i basio er mwyn gwella eu perfformiad.
9.11
Ystyrir bod myfyriwr sy'n methu cyflwyno prosiectau sefydlog neu waith cwrs mewn modiwl a addysgir erbyn y dyddiad(au) gofynnol, wedi methu'r asesiad(au) dan sylw a bydd ganddo ddau gyfle arall i'w ailgyflwyno (wedi'i gapio). Os oes amgylchiadau esgusodol yn nhyb y myfyriwr, dylai ddilyn proses Amgylchiadau Esgusodol cyhoeddedig y Sefydliad sy'n Cyfranogi.
9.12
Bydd myfyrwyr sy'n cyflawni marc cyfartalog cyffredinol gwerth o leiaf 60% a llai na 69.99% ar gyfer y rhaglen gyfan, yn gymwys i ennill dyfarniad gradd Meistr â Theilyngdod.
9.13
Bydd myfyrwyr sy'n ennill marc cyfartalog cyffredinol o 70% ar gyfer y rhaglen gyfan yn gymwys i ennill dyfarniad gradd Meistr â Rhagoriaeth.
9.14
Os yw myfyrwyr yn methu cwblhau'r rhaglen a/neu'n tynnu'n ôl o'r Sefydliad perthnasol sy'n Cyfranogi, gan ddibynnu ar nifer y credydau a gronnwyd ganddynt, efallai y bydd ganddynt hawl i gymhwyster ymadael.
9.15
Bydd myfyrwyr sy'n methu cyflwyno eu Traethawd Hir erbyn dyddiad cau cyntaf yr asesiad yn cael un cyfle arall i'w gyflwyno (wedi'i gapio) fel y diffinnir yn 9.17. Bydd myfyrwyr sy'n methu cyflwyno eu Traethawd Hir erbyn y dyddiad cau ar yr ail ymgais yn methu'r radd Meistr, a chânt eu hystyried am gymhwyster ymadael. Ni fydd yn derbyn cyfle arall i ailgyflwyno.
9.16
Fel arfer, bydd myfyrwyr sy'n cyflwyno eu Traethawd Hir erbyn y dyddiad cau ac yn methu ennill marc llwyddo, yn cael caniatâd i’w ail-gyflwyno yn unol â'r terfyn amser priodol. Caiff marciau am ailgyflwyno eu capio ar 50%.
Dull Astudio | |
---|---|
RHAN-AMSER | 6 mis (ar ôl i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi'n swyddogol) |
9.17
Caiff myfyrwyr nad oes modd iddynt fodloni'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno, gyflwyno cais i ystyried Amgylchiadau Esgusodol, yn unol â rheoliadau'r Sefydliad perthnasol sy'n Cyfranogi.
9.18
Caiff myfyrwyr gyflwyno gwaith asesu neu gael eu harholi yn Gymraeg neu yn Saesneg yn unol â Safonau'r Gymraeg ac yn unol â rheoliadau'r Sefydliad perthnasol sy'n Cyfranogi.