Gradd Meistr mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol (MPAS)
1. Cyflwyniad
1.1
Dyfernir Graddau Meistr a Thystysgrifau a Diplomâu Ôl-raddedig i fyfyrwyr sydd wedi dangos:
- Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau presennol a/neu ddealltwriaeth newydd sydd ar flaen y gad neu'n cael eu llywio gan eu disgyblaeth academaidd, eu maes astudio neu eu maes ymarfer proffesiynol.
- Dealltwriaeth gynhwysfawr o dechnegau sy'n berthnasol i'w hymchwil eu hunain neu ysgolheictod uwch.
- Gwreiddioldeb wrth gymhwyso gwybodaeth, ynghyd â dealltwriaeth ymarferol o sut mae technegau ymchwil ac ymholi sefydledig yn cael eu defnyddio i greu a dehongli gwybodaeth yn y ddisgyblaeth.
- Dealltwriaeth gysyniadol sy'n galluogi'r myfyriwr i:
- Werthuso ymchwil ac ysgolheictod uwch bresennol yn y ddisgyblaeth yn feirniadol;
- Gwerthuso methodolegau a datblygu beirniadaeth ohonynt a, lle bo'n briodol, cynnig damcaniaethau newydd.
Fel arfer, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu:
- Ymdrin â materion cymhleth yn systematig ac yn greadigol, gwneud penderfyniadau cadarn yn absenoldeb data cyflawn a chyfleu eu casgliadau'n glir i gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol.
- Dangos hunangyfeiriad a gwreiddioldeb wrth fynd i'r afael â phroblemau a'u datrys, a gweithredu'n annibynnol wrth gynllunio a gweithredu tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfwerth.
- Parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth, a datblygu sgiliau newydd i lefel uchel.
A bydd gan ddeiliaid:
- Y rhinweddau a'r sgiliau trosglwyddadwy sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sy'n gofyn am:
- Arfer menter a chyfrifoldeb personol;
- Gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy;
- Y gallu i ddysgu’n annibynnol sydd ei angen ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.
2. Strwythur y Rhaglen
2.1
Mae'r Radd Meistr mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol (MPAS) yn rhaglen lawn amser yn seiliedig ar 180 credyd ar lefel 7: 100 credyd i'w gwneud ym mlwyddyn 1, ac 80 credyd ym mlwyddyn 2. Bydd MPAS yn cael ei haddysgu dros ddwy flynedd.
2.2
Mae'r rhaglen wedi'i strwythuro yn y fath fodd fel bod gofyn i fyfyrwyr ymgymryd â lleoliadau ymarfer clinigol. Pan fo myfyrwyr yn destun asesiad o gymhwysedd proffesiynol yn dilyn cyfnod o leoliad ymarfer, rhaid i'r canlyniad gael ei raddio ar sail credydau.
2.3
Bydd lefel yr astudiaeth ar lefel 7 y Fframwaith ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch (FHEQ).
2.4
Mae strwythur y rhaglen wedi'i lywio gan y Fframwaith Cymhwysedd a Chwricwlwm ar gyfer Cymdeithion Meddygol (2012), canlyniadau cyffredinol ac ar y cyd Cymdeithion Meddygol ac anaesthesia (2022) a'r cwricwlwm drafft ar gyfer cymdeithion meddygol (2022).
3. Amodau Mynediad
3.1
Derbynnir myfyrwyr i'r rhaglen astudio yn unol â gofynion penodol y rhaglen a rheoliadau cyffredinol y Brifysgol sy'n llywodraethu matriciwleiddio. Yn ogystal ag isafswm gradd C (neu gyfwerth) mewn TGAU Mathemateg a Saesneg/Cymraeg. Rhaid i ymgeiswyr am y dyfarniad MPAS feddu ar un o'r cymwysterau canlynol cyn dechrau astudio:
- Gradd Baglor gychwynnol neu radd Meistr integredig gyda 2:2 o leiaf mewn pwnc gofal iechyd neu fiowyddorau neu radd gyfwerth a gydnabyddir yn rhyngwladol;
- Gradd Baglor israddedig gychwynnol neu radd Meistr integredig gyda 2:1 o leiaf mewn pwnc nad yw'n ymwneud â gofal iechyd neu fiowyddorau neu radd gyfwerth a gydnabyddir yn rhyngwladol;
- Yn ogystal, rhaid i bob ymgeisydd ddarparu tystiolaeth o brofiad gwaith perthnasol a dangos gwerthoedd yn unol â Chyfansoddiad y GIG. Bydd hyn yn cael ei ystyried yn unigol.
3.2
NI FYDD y rhaglen Astudiaethau Cydymiith Meddygol yn agored i:
- Ymgeiswyr sydd wedi cofrestru ar raglen Cydymaith Meddygol o'r blaen.
- Ymgeiswyr sydd wedi cofrestru a chwblhau gradd feddygol o'r blaen.
- Ymgeiswyr sy'n dymuno gwneud cais am gredyd Cydnabod Dysgu Blaenorol mewn perthynas â chymwysterau neu brofiad blaenorol
- Ymgeiswyr sy'n dymuno trosglwyddo o raglen Cydymaith Meddygol arall
- Ni fydd ymgeiswyr sydd wedi gorfod gadael unrhyw raglen iechyd neu ofal cymdeithasol gwybyddol ar sail eu haddasrwydd i ymarfer yn cael eu hystyried.
3.3
Cyn cael ei dderbyn i'r rhaglen astudio, rhaid i'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd sicrhau bod ymgeisydd yn gallu cyfathrebu'n effeithiol mewn Saesneg llafar ac ysgrifenedig. Yn ogystal â'r isafswm gradd C neu gyfwerth yn y Gymraeg/Saesneg, rhaid i ymgeiswyr nad ydynt o wlad lle mae’r mwyafrif yn siarad Saesneg neu nad ydynt wedi cwblhau gradd gyntaf mewn gwlad ar y rhestr gael sgôr IELTS o 7.0 yn gyffredinol, gyda 7.0 ym mhob cydran. Gellir ystyried graddau cyfwerth a gellir gweld rhagor o wybodaeth am hyn o dan y Gofynion Iaith Saesneg.
3.4
Bydd gofyn i ymgeiswyr fodloni gwiriad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a gwiriad iechyd galwedigaethol boddhaol hefyd.
3.5
Bydd ymgeiswyr yn cael eu cyfweld i asesu eu haddasrwydd i gyflawni nodau'r rhaglen hefyd.
4. Cofrestru yn y Brifysgol
4.1
Mae'r Brifysgol yn disgwyl i bob myfyriwr gofrestru er mwyn cael ei gydnabod fel myfyriwr yn y Brifysgol. Rhaid i bob myfyriwr gofrestru’n unol â'r cyfarwyddiadau cofrestru ar gyfer y rhaglen astudio benodol ac o fewn y cyfnod cofrestru penodedig.
4.2
Mae'n ofynnol i fyfyrwyr gofrestru o fewn y cyfnod cofrestru penodedig:
- Os ydych yn cofrestru gyda'r Brifysgol am y tro cyntaf;
- Os ydych yn cofrestru ar raglen astudio benodol am y tro cyntaf;
- Os ydych yn symud ymlaen i'r flwyddyn nesaf;
- Os yw'r Brifysgol yn disgwyl i ffi gael ei thalu yn unol â rheoliadau'r Brifysgol sy'n llywodraethu cyllid a ffioedd myfyrwyr.
4.3
Er mwyn cofrestru gyda'r Brifysgol, mae'n ofynnol i fyfyrwyr ddarparu tystiolaeth o hawl i astudio yn y Brifysgol, lle bo hynny'n berthnasol, yn unol â:
- Gofynion penodol y rhaglen;
- Rheoliadau'r Brifysgol sy'n llywodraethu matriciwleiddio;
- Y deddfau sy'n llywodraethu astudio yn y Deyrnas Unedig.
4.4
Bydd methu â chofrestru o fewn cyfnod cofrestru penodedig yn arwain at yr ymgeisyddiaeth yn dirwyn i ben a'r myfyriwr yn gadael y Brifysgol. Bydd ceisiadau i adfer yr ymgeisyddiaeth a chaniatâd i gofrestru'n hwyr yn cael eu hystyried yn weinyddol ar ran y Bwrdd Achosion Myfyrwyr.
4.5
Bydd y Brifysgol yn hysbysu'r awdurdodau perthnasol, o fewn cyfnod penodedig yn unol â deddfau'r Deyrnas Unedig sy'n llywodraethu astudio yn y DU, am fyfyrwyr sydd wedi gorfod gadael am fethu â chofrestru ar raglen astudio o fewn y cyfnod cofrestru penodedig.
4.6
Drwy gofrestru, mae myfyrwyr yn derbyn y bydd disgwyl iddynt gadw at ganllawiau'r Gyfadran/Ysgol ar ymddygiad proffesiynol, fel sydd wedi'u cyhoeddi yn llawlyfr y rhaglen.
4.7
Fel myfyrwyr cofrestredig, bydd gofyn i ymgeiswyr gymryd rhan yn rhaglen frechu'r Gyfadran/Ysgol.
5. Ymestyn Ymgeisyddiaeth
5.1
Bydd modiwlau’n cael eu cwblhau fel y pennir gan y Gyfadran/Ysgol, a bydd asesiadau’n cael eu cwblhau erbyn y dyddiadau a bennir gan y Gyfadran/Ysgol. Bydd y rhaglen radd lawn yn cael ei chwblhau o fewn y cyfnodau canlynol o ddyddiad y cofrestriad cychwynnol:
Modd astudio | Llawn amser |
---|---|
Ymgeiswyr llawn amser | Fel arfer, dim llai na 24 mis a dim mwy na thair blynedd. Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir caniatáu pedwaredd flwyddyn, lle mae rheoliadau'r Corff Proffesiynol yn caniatáu hyn. |
5.2
Fel arfer, bydd myfyrwyr yn cwblhau eu hastudiaethau erbyn y terfynau amser canlynol oni bai bod amseroedd amgen yn cael eu cymeradwyo ar gyfer rhaglen benodol gan y Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd:
Ymgeiswyr llawn amser: diwedd y 24ain mis (dwy flynedd)
5.3
Dim ond os cytunwyd ar estyniad a awdurdodir yn ffurfiol (gyda chefnogaeth y Gyfadran/Ysgol) y gall myfyriwr sy'n methu â chwblhau ei astudiaethau o fewn y cyfnod a nodir gwblhau'r rhaglen. Heb estyniad awdurdodedig, mae'r ymgeisydd yn gymwys ar gyfer y cymhwyster ymadael priodol yn unig - Tystysgrif neu Ddiploma Ôl-raddedig mewn Astudiaethau Gofal Iechyd. Dylid nodi na fydd estyniad o'r fath yn ymestyn y cyfnod astudio ar gyfer y rhaglen gyfan yn awtomatig.
6. Ymestyn Terfynau Amser
6.1
Gellir ymestyn ymgeisyddiaeth y myfyriwr, ond dim ond mewn achosion eithriadol ac yn unol â'r meini prawf canlynol:
- Fel arfer, rhoddir estyniadau ar sail dosturiol yn unig, neu mewn achosion o salwch difrifol neu anawsterau personol difrifol y gellir dangos eu bod wedi effeithio'n andwyol ar yr ymgeisydd. Rhaid i'r Ysgol Feddygaeth gyflwyno achos llawn a rhesymegol, gyda thystiolaeth feddygol neu dystiolaeth annibynnol briodol i’w gefnogi, i'w ystyried gan y Brifysgol.
- Mewn achosion sy'n codi o ganlyniad i salwch:
- Rhaid darparu tystiolaeth feddygol foddhaol, gan gynnwys tystysgrif feddygol. (Mae graddau a natur y salwch fel y'i disgrifir yn y dystysgrif yn amhrisiadwy wrth asesu'r achos. Rhaid darparu datganiad clir, sy'n dangos bod y Gyfadran/Ysgol dan sylw wedi gwerthuso sefyllfa'r ymgeisydd o ganlyniad i'r salwch a'i bod yn ystyried bod yr estyniad y gofynnwyd amdano’n briodol. Bydd datganiad o'r fath, lle bynnag y bo'n bosibl, yn dilyn cyswllt uniongyrchol rhwng yr ymgeisydd a'r Gyfadran/Ysgol.
6.2
Rhaid cyfeirio ceisiadau am estyniadau drwy Gyfadran/Ysgol yr ymgeisydd at y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg a bydd yr achos yn cael ei ystyried yn weinyddol ar ran y Pwyllgor Rheoliadau, Ansawdd a Safonau.
7. Modiwlau o fewn y Rhaglen
7.1
Cydran addysgol ar wahân o fewn rhaglen yw modiwl. Bydd y rhaglen hon yn cynnwys modiwlau sy'n cynnwys 10, 20 a 40 o bwyntiau credyd.
7.2
Bydd pob modiwl ar gyfer y rhaglen hon yn cael ei ystyried yn fodiwl craidd. Rhaid i fyfyriwr basio modiwlau craidd cyn y gall symud ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf.
7.3
Gan fod pob modiwl yn cael ei ystyried yn fodiwl craidd, ni chaniateir trosglwyddo modiwlau. Fel arfer, disgwylir i fyfyrwyr astudio'r rhaglen gyfan ym Mhrifysgol Abertawe.
7.4
Ni chaniateir i fyfyrwyr ddilyn modiwlau nad ydynt yn un o ofynion y rhaglen astudio, ar ben y llwyth credyd llawn amser o 120 credyd.
8. Lleoliadau
8.1
Bydd gofyn i fyfyrwyr fynychu lleoliadau clinigol yn unol â gofynion y Rhaglen Astudiaethau Cydymaith Meddygol a'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd.
8.2
Bydd gofyn i fyfyrwyr ymgymryd â phob asesiad sy'n ymwneud â'r lleoliadau clinigol a chyflawni'r cymwyseddau gofynnol fel y'u nodir gan y Cynllun Asesu Cymdeithion Meddygol a Fframwaith Cymhwysedd a Chwricwlwm y cwricwlwm Cydymaith Meddygol drafft (Cyfadran Cymdeithion Meddygol, 2022).
8.3
Yn ogystal â lleoliadau clinigol, disgwylir i ymgeiswyr fynychu lleoliad dewisol, yn ystod yr ail flwyddyn astudio fel arfer.
8.4
Bydd y lleoliad dewisol hwn yn cael ei gynnal yn unol ag adran Cod Ansawdd y DU yr ASA ar Weithio gydag Eraill a chanllawiau'r Brifysgol fel y'u cyhoeddwyd yn y Cod Ymarfer ar gyfer Sicrhau Ansawdd.
9. Ymgysylltu
9.1
Mae'r Brifysgol yn disgwyl i fyfyrwyr gadw at y gofynion ymgysylltu fel yr amlinellir yn y Datganiad ar Ymgysylltu.
9.2
Mae'n ofynnol i fyfyrwyr fynychu'r brifysgol a’r lleoliad yn unol â pholisi presenoldeb ac ymgysylltu'r Brifysgol, gofynion y rhaglen a safonau a amlinellir yn Achieving Good medical practice: interim standards for physician associate and anaesthesia associate students (GMC, 2022). Gall methu â bodloni'r gofynion hyn effeithio ar eich cynnydd ar y rhaglen ac arwain at fethu â chofrestru gyda'r corff proffesiynol, statudol neu reoleiddio.
9.3
Bydd trefniadau bwrsari myfyrwyr sy'n derbyn cyllid Llywodraeth Cymru’n cael eu gohirio os ydynt yn absennol oherwydd salwch am fwy na 60 diwrnod.
10. Modd a Phatrwm Presenoldeb
10.1
Bydd dull astudio'r rhaglen hon yn llawn amser yn unig. Disgwylir i ymgeiswyr llawn amser ddilyn 100 pwynt credyd ym Mlwyddyn 1; 80 pwynt credyd ym Mlwyddyn 2.
10.2
Bydd patrwm presenoldeb yn cynnwys cyfnodau o flociau dysgu a lleoliadau clinigol.
11. Llawlyfr
11.1
Bydd llawlyfr y Gyfadran/Ysgol, neu'r hyn sy'n cyfateb iddo, ar gael i bob myfyriwr pan fydd yn dechrau ar ei astudiaethau, neu cyn hynny.
12. Gohirio Astudiaethau
12.1
Bydd gohirio astudiaethau’n cael ei ystyried yn unol â Rheoliadau Gohirio Astudiaethau'r Brifysgol.
13. Trosglwyddo Rhaglenni
13.1
Dim ond gyda chaniatâd Cyfarwyddwr y Rhaglen a'r Pwyllgor Matriciwleiddio y bydd myfyrwyr sy'n dilyn rhaglen MPAS yn cael trosglwyddo i raglen arall ym Mhrifysgol Abertawe.
14. Cynnydd a Phroffesiynoldeb
14.1
Disgwylir i fyfyrwyr ddangos y safonau uchaf o ymddygiad cyffredinol ac ymddygiad proffesiynol drwy gydol y rhaglen. Bydd myfyrwyr y mae eu perfformiad academaidd, ymgysylltiad, ymddygiad proffesiynol neu ansawdd eu gwaith yn cael eu hasesu fel bod yn anfoddhaol yn cael eu hystyried yn yr Is-bwyllgor Iechyd ac Ymddygiad. Pan fydd ymddygiad neu broffesiynoldeb myfyriwr yn peri pryder, bydd yr Is-bwyllgor Iechyd ac Ymddygiad yn sefydlu, drwy Banel Ymchwilio Addasrwydd i Ymarfer mewnol, a oes achos prima facie bod addasrwydd y myfyriwr i ymarfer wedi’i amharu. Os bernir bod hyn yn wir, bydd y myfyriwr yn cael ei gyfeirio at Bwyllgor Ymchwilio Addasrwydd i Ymarfer, o dan Reoliadau Addasrwydd i Ymarfer Prifysgol Abertawe.
14.2
Bydd gofyn i fyfyrwyr ymgyfarwyddo ac ymddwyn yn unol â chanllawiau ar ymddygiad megis Rheoliadau Addasrwydd i Ymarfer y Brifysgol, y rhai a gyhoeddir gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol; Achieving Good Practice Medical Practice: Interim Guidance for Physician Associate and Anaesthesia Associate Students, a'r safonau’r Gyfadran Cymdeithion Meddygol, Coleg Brenhinol y Meddygon; y cwricwlwm cydymaith meddygol drafft, a pharchu'r canllawiau hynny.
14.3
Bydd “proffesiynoldeb” yn cael ei asesu'n ffurfiol gan y Gyfadran/Ysgol. Bydd gallu myfyriwr i gyflawni'r elfennau proffesiynol gofynnol yn cyfrannu at asesiad academaidd y myfyriwr yn y brifysgol ac ar leoliad, sef p'un a yw'n pasio neu'n methu'r rhaglen.
14.4
Mae ymddygiad annerbyniol yn cyfeirio at ymddygiad cyffredinol gan fyfyriwr nad yw'n bodloni'r safonau a bennir gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol, Cyfadran y Cymdeithion Meddygol, Coleg Brenhinol y Meddygon, a disgwyliadau'r polisi ar gyfer ymdrin â phryderon myfyrwyr gan gynnwys amhariad posibl ar addasrwydd i ymarfer, a bydd y Gyfadran/Ysgol yn ymdrin â nhw yn unol â'i gweithdrefnau.
14.5
Bydd methu â chywiro ymddygiad neu achosion difrifol o ymddygiad annerbyniol yn arwain at achos yn cael ei atgyfeirio i'r Brifysgol o dan y Rheoliadau Addasrwydd i Ymarfer.
15. Absenoldeb Myfyrwyr
15.1
Rhaid i fyfyrwyr hysbysu'r Gyfadran o unrhyw absenoldeb o addysgu neu leoliadau yn unol â Pholisi Absenoldeb y Rhaglen Astudiaethau Cydymaith Meddygol, a amlinellir yn Llawlyfr y Rhaglen. Rhaid i fyfyrwyr hysbysu lleoliadau am unrhyw absenoldeb hefyd. Gall absenoldeb gormodol neu fethu â rhoi gwybod am absenoldebau dro ar ôl tro arwain at fethu â chwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus.
15.2
Bydd gofyn i fyfyrwyr y mae amgylchiadau yn tarfu ar eu gwaith am fwy na phum diwrnod gwaith hysbysu Tîm Lleoliadau a Chyflogadwyedd y Gyfadran a chyflwyno tystysgrif feddygol.
15.3
Gall myfyrwyr ofyn am gyfnod byr o absenoldeb o'u hastudiaethau. Bydd absenoldebau awdurdodedig o'r fath yn cael eu cymeradwyo gan y Brifysgol.
16. Cyflwyno Asesiad yn Hwyr
16.1
Bydd y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd yn pennu terfynau amser ar gyfer cyflwyno asesiad. Bydd myfyrwyr sy'n methu â chyflwyno asesiad erbyn y dyddiad cau yn derbyn marc o 0%. Gall myfyrwyr sy'n cael eu hatal rhag bodloni terfynau amser o'r fath oherwydd amgylchiadau esgusodol ofyn am i'w amgylchiadau esgusodol gael eu hystyried, fel yr amlinellir ym mholisi esgusodol y Brifysgol a'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd. Gall myfyrwyr gael estyniad o hyd at saith diwrnod neu ohiriad yn dibynnu ar yr asesiad ac amgylchiadau unigol y myfyriwr.
17. Darpariaeth Arbennig
17.1
Cyfrifoldeb y myfyriwr fydd rhoi gwybod i'r Gyfadran/Ysgol am unrhyw anabledd neu am unrhyw amgylchiadau esgusodol a allai olygu bod angen darpariaeth arbennig ar gyfer asesu. Bydd gofyn i ymgeiswyr gyflwyno dogfennau priodol i gefnogi hynny. Bydd pob cais, boed yn deillio o anabledd hirdymor neu amgylchiadau tymor byr, yn cael eu nodi ar y ffurflen briodol a'u cefnogi gan dystiolaeth ysgrifenedig, lle bo hynny'n bosibl.
17.2
Ceir rhagor o fanylion a chanllawiau ar drefniadau arholi arbennig ym Mholisi Addasiad Rhesymol ar gyfer Dysgu ac Asesu'r Brifysgol.
18. Amgylchiadau Esgusodol
18.1
Mae'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd yn gweithredu polisi "Addas i Sefyll Arholiad" mewn perthynas ag asesu. Rhagdybir bod ymgeisydd sy'n cwblhau unrhyw asesiad yn addas i gymryd yr asesiad ac ni fydd tystiolaeth o amgylchiadau esgusodol a gyflwynir ar ôl yr asesiad mewn perthynas ag amgylchiadau a oedd yn bodoli cyn yr asesiad yn cael ei derbyn na'i hystyried gan y Bwrdd Arholi. Cyhoeddir manylion llawn y polisi hwn yn y rhaglen.
18.2
Bydd y Brifysgol yn tybio, oni bai bod y Gyfadran yn derbyn manylion amgylchiadau esgusodol, nad oedd amgylchiadau cyn neu yn ystod yr asesiad dan sylw wedi effeithio'n ormodol ar y myfyriwr.
18.3
Bydd gofyn i fyfyriwr sydd wedi bod yn absennol o arholiad hysbysu'r Gyfadran/Ysgol ar unwaith. Yn achos salwch, bydd gofyn i'r myfyriwr gyflwyno tystysgrif feddygol hefyd.
18.4
Dylai pob myfyriwr yn nodi mai eu cyfrifoldeb nhw yw sicrhau bod y Gyfadran yn ymwybodol cyn gynted â phosibl o unrhyw amgylchiadau esgusodol a allai effeithio ar eu perfformiad naill ai yn ystod y flwyddyn academaidd neu yn ystod arholiadau. Ni fydd apeliadau academaidd yn seiliedig ar amgylchiadau esgusodol y gellid bod wedi eu dwyn i sylw'r Gyfadran cyn cyfarfod y byrddau arholi yn cael eu hystyried fel arfer.
19. Byrddau Arholi a Phenodi Arholwyr Allanol
19.1
Bydd pob arholiad yn cael ei gynnal o dan awdurdodaeth rheoliadau'r Brifysgol sy'n llywodraethu arholiadau ac asesu.
19.2
Bydd Arholwyr Allanol yn cael eu henwebu a'u penodi yn unol â'r gweithdrefnau a nodir yng Nghod Ymarfer y Brifysgol ar gyfer Arholwyr Allanol.
20. Arholiadau
20.1
Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu yn y Sefydliad lle maent wedi dilyn y rhaglen astudio.
20.2
Gall unrhyw fyfyriwr sy'n dilyn rhaglen astudio'r Brifysgol ofyn - waeth ai'r Gymraeg neu'r Saesneg yw prif iaith asesu'r rhaglen dan sylw - am gael cyflwyno sgriptiau arholiad neu waith i’w asesu yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ymdrinnir â cheisiadau o'r fath yn unol â'r Canllawiau ar asesu neu arholi drwy gyfrwng y Gymraeg neu mewn iaith ar wahân i’r iaith addysgu.
20.3
Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus yn gymwys i sefyll arholiad cenedlaethol Cymdeithion Meddygol. Mae'n ofynnol i fyfyrwyr sefyll a phasio Arholiad Cenedlaethol Cymdeithion Meddygol, a drefnir ac a reolir yn allanol gan yr FPA. Mae'n ofynnol i'r Brifysgol hysbysu uned asesu Coleg Brenhinol y Meddygon (sy'n gweinyddu'r arholiad ar ran yr FPA) am bob myfyriwr sy'n gallu sefyll yr asesiad. Ar ôl cwblhau'r arholiad hwn yn llwyddiannus, bydd ymgeiswyr yn gymwys i gofrestru ar y Gofrestr Wirfoddol a reolir gan y Cymdeithion Meddygol.
20.4
Nid yw'r Brifysgol yn atebol am gost yr Arholiad Cenedlaethol.
21. Trosglwyddiadau Credyd
21.1
Nid yw trosglwyddiadau credyd yn berthnasol i'r MPAS.
22. Cymwysterau Ymadael
22.1
Gall myfyriwr sy'n cael ei dderbyn i'r rhaglen fod yn gymwys i gael cymhwyster ymadael (gweler G25 o Reoliadau Asesu Cyffredinol Astudiaethau Cydymaith Meddygol).
22.2
Ni fydd myfyrwyr sy'n derbyn cymhwyster ymadael yn gymwys i sefyll Arholiad Cenedlaethol Cydymaith Meddygol (gweler 20.3).
23. Cymhwysedd am Ddyfarniad
23.1
I fod yn gymwys i gael eu hystyried ar gyfer dyfarniad MPAS y Brifysgol, bydd myfyrwyr yn cwblhau modiwlau o fewn y cyfnod cofrestru.
24. Derbyniadau i Raddau
24.1
I fod yn gymwys i gael ei ystyried ar gyfer y dyfarniad MPAS o dan y Rheoliadau hyn, bydd myfyriwr:
- Wedi dilyn y rhaglen astudio fodiwlaidd gymeradwy am y cyfnod a bennir gan y Brifysgol;
- Wedi ennill 180 credyd fel a bennir gan y Brifysgol;
- Wedi bodloni'r arholwyr ym mhob maes, gan gynnwys ymddygiad proffesiynol;
- Wedi cyflawni unrhyw amodau pellach sy'n ofynnol gan y Brifysgol.
25. Apeliadau Academaidd
25.1
Cynhelir apeliadau academaidd yn unol â gweithdrefnau Cywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd ac Apeliadau Academaidd Prifysgol Abertawe.
26. Camymddwyn Academaidd
26.1
Bydd honiadau o gamymddwyn academaidd yn cael eu hystyried yn unol â gweithdrefnau Camymddwyn Academaidd Prifysgol Abertawe.
27. Addasrwydd i Ymarfer
27.1
Bydd honiadau nad yw myfyriwr yn ‘addas i ymarfer’ yn cael eu hystyried yn unol â Pholisi Cydymaith Meddygol ar gyfer ymdrin â phryderon myfyrwyr gan gynnwys amhariad posibl ar addasrwydd i ymarfer, a all gynnwys atgyfeiriad i Reoliadau Addasrwydd i Ymarfer Prifysgol Abertawe.
28. Gradd Aegrotat a 29. Gradd ar ôl Marwolaeth
28. Gradd Aegrotat
28.1
Ni fydd myfyrwyr sy'n dilyn y rhaglen MPAS yn gymwys i gael gradd Aegrotat. Fodd bynnag, gall ymgeiswyr fod yn gymwys i gael eu hystyried ar gyfer dyfarniadau ymadael. Nid yw dyfarniad ymadael yn rhoi cymhwyster i sefyll y PANE allanol.
29. Gradd ar ôl Marwolaeth
29.1
Ni fydd ymgeiswyr sy'n dilyn y rhaglen MPAS yn gymwys i dderbyn gradd ar ôl marwolaeth. Fodd bynnag, gall ymgeiswyr fod yn gymwys i gael eu hystyried ar gyfer dyfarniadau ymadael.
Rheoliadau Asesu Cyffredinol Meistr mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol
Rheolau Asesu Cyffredinol
G1
I symud ymlaen o un flwyddyn i'r llall, rhaid i fyfyrwyr gronni 100 credyd.
G2
Gall myfyrwyr sy'n cronni cyfanswm o 180 credyd fod yn gymwys i gael gradd.
G3
Gall pob modiwl o fewn y rhaglen gynnwys sawl cydran asesu. Ystyrir bod pob modiwl sy'n gysylltiedig â'r rhaglen MPAS yn “fodiwl craidd” a rhaid eu pasio cyn y gall
ymgeisydd symud ymlaen o un flwyddyn i'r llall.
Gall perfformiad myfyriwr mewn cydran gael ei bennu gan farc canrannol neu drwy basio/methu syml.
Bydd y marc pasio ar gyfer modiwlau yn amrywio'r marc canrannol ar gyfer cydrannau asesu a gyflwynir gan yr Ysgol Feddygaeth a bydd yn cael ei bennu gan broses gosod safonau. Y marc pasio ar gyfer pob asesiad a gwblheir ar gyfer modiwlau a gyflwynir gan yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw 50%.
Rhaid i fyfyrwyr basio'r holl gydrannau asesu i gael y credydau ar gyfer y modiwl. Ystyrir bod myfyrwyr sy'n methu unrhyw gydran asesu wedi methu'r modiwl beth bynnag fo'r cyfartaledd cyffredinol, ac ni ddyfernir credyd.
G4
Rhaid i fyfyrwyr fodloni gofynion ymgysylltu ac asesu pob modiwl. Bydd ymgysylltiad yn cael ei fonitro yn unol â Pholisi Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr a Addysgir y Brifysgol yn ogystal â gofynion y Gyfadran/Ysgol. Dylai myfyrwyr gyfeirio at ganllawiau a gyhoeddwyd yn llawlyfr y rhaglen.
G5
Dyfernir credydau i fyfyrwyr sy'n pasio modiwl.
G6
Ni chaniateir i fyfyrwyr sydd wedi cymhwyso i symud ymlaen o un flwyddyn astudio i'r llall ddewis ailadrodd unrhyw fodiwlau neu gydran asesu sydd eisoes wedi'i basio i wella eu perfformiad.
G7
Bydd myfyrwyr yn cael un cyfle i adennill methiant mewn cydran neu fodiwl asesu.
G8
Bydd myfyrwyr y mae'n ofynnol iddynt ymgymryd ag asesiad atodol ym modiwlau'r Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar yr amod eu bod yn bodloni'r arholwyr, yn derbyn marc wedi'i gapio ar y trothwy marc pasio o 50% ym mhob modiwl yn y gydran asesu unigol. Bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol yn cyfeirio at y marc wedi'i gapio wrth bennu'r cyfartaledd ar gyfer lefel yr astudio.
G9
Bydd myfyrwyr y mae'n ofynnol iddynt ymgymryd ag asesiad atodol ym modiwlau'r Ysgol Feddygaeth, ar yr amod eu bod yn bodloni'r arholwyr, yn derbyn marc pasio a bennir drwy'r broses gosod safonau.
G10
Bydd myfyrwyr y mae'n ofynnol iddynt gyflwyno gwaith cwrs atodol yn cael eu hysbysu gan y Gyfadran am y gwaith cwrs sy'n ofynnol.
G11
Fel arfer, disgwylir i fyfyrwyr gwblhau blwyddyn astudio o fewn un sesiwn academaidd.
G12
Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr sy'n methu â symud ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf neu sy'n methu â bod yn gymwys am ddyfarniad ar ôl y cyfnod asesu atodol adael y Brifysgol. Ni fydd myfyrwyr o'r fath yn cael cyfle pellach i gwblhau eu rhaglen astudio, a dim ond ar gyfer cymhwyster ymadael y byddant yn gymwys i’w hystyried. Ni fydd ymgeiswyr sy'n derbyn penderfyniad “Mae’n ofynnol gadael y Brifysgol” yn cael gwneud unrhyw ymdrechion pellach i basio eu modiwlau ac ni fyddant yn gymwys i drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe, a bydd eu hastudiaethau'n cael eu terfynu. Fel arfer, ni fydd ymgeisydd sydd â phenderfyniad "Mae’n ofynnol gadael y Brifysgol" yn cael ei aildderbyn i'r un rhaglen astudio, nac i raglen gysylltiedig, heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn.
G13
Fel arfer, bydd myfyrwyr nad ydynt yn ceisio pasio modiwlau a fethwyd yn ystod y cyfnod atodol yn cael marc o 0% neu'n methu mewn modiwlau o'r fath, a dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y rhoddir cyfle pellach iddynt geisio pasio.
G14
Cydnabyddir y bydd rhai myfyrwyr yn cronni 100 credyd mewn blwyddyn academaidd ond y bydd gofyn iddynt ymgymryd â hyfforddiant pellach neu ychwanegol (gweler A16). Bydd y myfyrwyr hynny sy'n methu ag ymgymryd â'r hyfforddiant penodedig yn methu â symud ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf neu ddim yn gymwys i dderbyn gradd. Gellir ystyried myfyrwyr o'r fath ar gyfer dyfarniad ymadael.
G15
Cydnabyddir na fydd rhai myfyrwyr yn gallu ymgymryd ag asesiadau oherwydd salwch neu amgylchiadau esgusodol eraill. Felly, cydnabyddir y dylid caniatáu i fyfyrwyr o'r fath wneud cais i ohirio'r asesiad. Fel arfer, bydd yr asesiad gohiriedig yn cael ei drefnu yn ystod y cyfnod asesu atodol.
G16
Mae'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd yn gweithredu polisi “Addas i Sefyll Arholiad” mewn perthynas ag asesu. Rhagdybir bod ymgeisydd sy'n cwblhau unrhyw asesiad yn addas i gymryd yr asesiad ac ni fydd tystiolaeth o amgylchiadau esgusodol a gynhyrchir ar ôl yr asesiad mewn perthynas ag amgylchiadau a oedd yn bodoli cyn yr asesiad yn cael ei derbyn na'i hystyried gan y Bwrdd Arholi. Bydd manylion llawn y polisi hwn yn cael eu cyhoeddi ar gyfer myfyrwyr.
G17
Dylai myfyrwyr hysbysu'r Gyfadran o'u hamgylchiadau esgusodol a chyflwyno cais i ohirio asesiad cyn dyddiad yr asesiad. Bydd ceisiadau i ohirio asesiad yn cael eu hystyried yn unol â'r Polisi ar Amgylchiadau Esgusodol. Os bydd myfyriwr yn cyflwyno cais am asesiad gohiriedig ond yn ymgymryd â'r asesiad wedi hynny, bydd gan y myfyriwr bum niwrnod gwaith o ddyddiad yr asesiad i hysbysu'r Ysgol o'i ddymuniad i dynnu'r gohiriad yn ôl a gofyn am i'r asesiad gael ei farcio.
G18
O dan amgylchiadau eithriadol ac yn unol â Pholisi'r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesiad, gall myfyrwyr sy'n methu â phasio eu modiwl(au) yn ystod y cyfnod ailsefyll oherwydd amgylchiadau esgusodol neu sy'n methu'r modiwl ar y cyfle cyntaf yn ystod y cyfnod atodol (h.y. fel gohiriad) gyflwyno tystiolaeth o amgylchiadau o'r fath i'w Hysgol i'w hystyried. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol, gellir caniatáu un cyfle arall i ymgeiswyr o'r fath ailsefyll fel ymgeisydd allanol. Fel arfer bydd yr ailasesiadau’n digwydd adeg y pwynt asesu nesaf ar gyfer y modiwlau dan sylw yn y flwyddyn academaidd nesaf.
G19
Ni fydd myfyrwyr sydd wedi cofrestru fel ymgeiswyr allanol yn gymwys i dderbyn taliadau bwrsari yn ystod y cyfnod hwn.
G20
Efallai y bydd gofyn i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru fel ymgeiswyr allanol dalu ffi ychwanegol fel a bennir gan Swyddfa Arholi'r Brifysgol.
G21
Bydd proses gosod safonau ar wahân ar gyfer ymgeiswyr allanol. Gall hyn arwain at farc pasio sy'n wahanol i'r marc ar gyfer myfyrwyr sy'n cwblhau ymgais gyntaf. Mae'r dull hwn o osod safonau’n adlewyrchu'r cam mae'r myfyrwyr wedi ei gyrraedd yn y rhaglen.
G22
Ystyrir bod myfyrwyr sy'n absennol ar gyfer arholiad ysgrifenedig neu ran ohono (neu sy'n methu â chyflwyno prosiectau neu waith cwrs erbyn y dyddiad(au) gofynnol wedi methu'r modiwl(au) dan sylw. Bydd gofyn i fyfyrwyr a gafodd ohiriad sefyll yr arholiadau yn y pwynt arholi nesaf ar gyfer y modiwl(au) dan sylw.
G23
Fel arfer bydd y rheolau a amlinellir yn y Rheolau Dilyniant Penodol yn dylanwadu ar Fwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol wrth wneud penderfyniadau ar gyfer myfyrwyr. Fodd bynnag, ni ddylai myfyrwyr ddisgwyl, fel hawl, y byddant yn cael ymgymryd ag asesiad atodol. Gall y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau ystyried amgylchiadau eraill sy'n ymwneud ag achos y myfyriwr cyn gwneud unrhyw benderfyniad ar ddilyniant. Ni fyddai disgwyl i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau ganiatáu i fyfyriwr symud ymlaen i'r flwyddyn nesaf na bod yn gymwys i gael dyfarniad oni bai ei fod wedi bodloni'r meini prawf gofynnol.
G24
Gall myfyriwr sy'n cael ei dderbyn i'r rhaglen fod yn gymwys i gael cymhwyster ymadael ar yr amod ei fod wedi:
- Cronni'r isafswm credyd sy'n ofynnol ar gyfer y dyfarniad;
neu
- Bodloni gofynion academaidd y rhaglen ond wedi methu â chyflawni'r safon ofynnol o ymddygiad proffesiynol.
Bydd myfyrwyr o'r fath yn gymwys, yn dibynnu ar nifer y credydau a gronnir, ar argymhelliad y Bwrdd Arholi priodol, ar gyfer y dyfarniad:
- Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Astudiaethau Gofal Iechyd (60 credyd)
- Diploma Ôl-raddedig mewn Astudiaethau Gofal Iechyd (120 credyd)
Rheoliadau Asesu Penodol y Radd Meistr mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol
Rheolau i'w gweithredu yn ystod Bwrdd Dilyniant cyntaf y Brifysgol (Blwyddyn 1)
S1
Mae myfyrwyr sy'n cronni 100 credyd mewn modiwlau ar ddiwedd y flwyddyn academaidd ac sy'n dangos safon foddhaol o ymddygiad proffesiynol yn gymwys yn awtomatig i symud ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf.
S2
Nid yw myfyrwyr sy'n cronni llai na 100 credyd yn gymwys i symud ymlaen i'r flwyddyn nesaf. Fel arfer, yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi, bydd myfyrwyr o'r fath yn cael asesiad atodol yn y modiwlau a fethwyd ar gyfer marc wedi'i gapio o 50%. Bydd disgwyl i fyfyrwyr ailsefyll yr holl gydrannau a fethwyd ar gyfer y modiwl a fethwyd, ynghyd ag ailgyflwyno unrhyw waith cwrs a fethwyd yn ôl yr angen. Bydd disgwyl i fyfyrwyr sy'n derbyn asesiad “gohiriedig” ar gyfer unrhyw gydran ymgymryd â'r gydran benodol honno yn ystod y cyfnod asesu atodol.
S3
Yn achos S2 ac S3 uchod, bydd y Bwrdd Arholi’n ystyried proffil pob myfyriwr yn unigol a gall wneud argymhellion i Fwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol ar addasiadau i benderfyniad diwedd y flwyddyn.
Rheolau i'w cymhwyso yn ystod Bwrdd Dilyniant Atodol y Brifysgol (Blwyddyn 1)
S4
Mae myfyrwyr sy'n cronni 100 credyd mewn modiwlau ar ddiwedd y flwyddyn academaidd ac sy'n dangos safon foddhaol o ymddygiad proffesiynol yn gymwys yn awtomatig i symud ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf.
S5
Nid yw myfyrwyr sy'n cronni llai na 100 credyd yn gymwys i symud ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf a bydd gofyn iddynt adael y Brifysgol. Gellir ystyried myfyrwyr o'r fath ar gyfer dyfarniad ymadael.
Rheolau ar gyfer Dyfarnu Gradd Meistr Ôl-raddedig mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol
S6
Gall myfyrwyr sy'n cronni 80 credyd yn y modiwlau a addysgir yn y flwyddyn astudio olaf ac sy'n dangos safon foddhaol o ymddygiad proffesiynol fod yn gymwys i gael gradd.
S7
Fel arfer, bydd gofyn i fyfyrwyr sy'n cael cynnig y cyfle i ailsefyll modiwlau a addysgir ailsefyll yn ystod y pwynt asesu nesaf ar gyfer y modiwlau dan sylw.
S8
Ar ddiwedd pob modiwl Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, bydd gradd myfyriwr yn cael ei phennu gan bwysoli pob cydran asesu sy'n cyfrannu at farc y modiwl fel yr amlinellir yn y cynllun asesu. Bydd perfformiad myfyrwyr mewn perthynas â modiwlau'r Ysgol Feddygaeth yn cael ei bennu gan basio/methu.
S9
Er y gallai myfyriwr fod wedi cymhwyso ar gyfer y dyfarniad, ar ôl pasio'r holl asesiadau, efallai y bydd achosion lle mae arholwr wedi tynnu sylw at fater sy'n ymwneud ag elfen o gymhwysedd myfyriwr mewn maes ymarferol neu broffesiynol penodol nad yw mor ddifrifol â'r effaith ar y canlyniad academaidd ond sydd angen ystyriaeth bellach. Gall arholwyr dynnu sylw at faterion o'r fath drwy roi “cerdyn melyn” i'r myfyriwr yn ystod yr arholiad ymarferol neu drwy gyfeirio at y mater yn yr adroddiad arholi.
Bydd yr achosion hyn yn cael eu hatgyfeirio i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau i'w hystyried fesul achos. Efallai na fydd y Bwrdd yn cymryd unrhyw gamau pellach neu efallai y bydd angen hyfforddiant pellach neu ychwanegol cyn gwneud argymhelliad ar ddyfarnu'r radd. Mewn achosion o'r fath lle mae angen hyfforddiant pellach neu ychwanegol, bydd myfyrwyr yn cael penderfyniad o “Asesiad Atodol”. Darperir hyfforddiant yn ystod neu cyn y cyfnod arholi atodol i sicrhau y gellir ailystyried canlyniadau myfyrwyr cyn graddio. Bydd methu â mynychu a chymryd rhan yn yr hyfforddiant yn arwain at fyfyriwr yn methu â bod yn gymwys am y dyfarniad.
Cymhwysedd ar gyfer Pasio, Teilyngdod neu Ragoriaeth
Dyfernir dosbarthiad gradd yn ôl strwythur pwyntiau fel y manylir arno yn y Dosbarthiad MPAS ar gyfer y Rhaglen Cydymaith Meddygol.
Cod modiwl a chredydau | Teilyngdod | Rhagoriaeth |
---|---|---|
SHSC - 10 credyd - Y Gyfraith a Moeseg | 1 | 2 |
SHSC - 10 credyd - Ymchwil, ymarfer ar sail tystiolaeth a myfyrio | 1 | 2 |
Ysgol Feddygaeth - 40-credyd - PMXM01 - Sgiliau Clinigol Cydymaith Meddygol | 4 | 8 |
Ysgol Feddygaeth - 40 credyd - PMXM02- Seiliau mewn Meddygaeth Glinigol ar gyfer Cymdeithion Meddygol 1 | 4 | 8 |
Ysgol Feddygaeth - 40 credyd - PMXM03- Seiliau mewn Meddygaeth Glinigol ar gyfer Cymdeithion Meddygol 2 | 4 | 8 |
Ysgol Feddygaeth - 40 credyd - PMXM04 - Sgiliau Clinigol Cymdeithion Meddygol 2 | 4 | 8 |
Ar gyfer asesiadau'r Ysgol Feddygaeth, rhoddir rhagoriaeth i'r 25% uchaf ar gyfer y Prawf Cynnydd a'r OSCE. Rhoddir teilyngdod i'r 25% nesaf o fyfyrwyr (h.y. y 25-50% uchaf) a bydd gweddill y myfyrwyr yn pasio.
Ar gyfer asesiadau'r Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, rhoddir rhagoriaeth i unrhyw fyfyrwyr sy'n derbyn mwy na 70% yn yr asesiad, teilyngdod i'r rhai sy'n derbyn 60-69% a phasio i'r rhai sy'n derbyn 50-59%. Bydd y sgoriau'n cael eu hadio i fyny ar gyfer yr holl fyfyrwyr a dyfernir teilyngdod a rhagoriaeth yn unol â'r tabl isod.
Rhagoriaeth | 28 - 36 |
---|---|
Teilyngdod | 18 - 27 |
Pasio | 0 -17 |