17.1
Rhaid i'r holl fyfyrwyr gyflwyno traethawd erbyn y dyddiad cyflwyno hwyrach fel a amlinellwyd yn y rheoliadau hyn, sy'n berthnasol ar adeg derbyn ac fel a nodwyd yn y Llythyr Cynnig ffurfiol.
17.2
Pan fydd myfyriwr yn methu cyflwyno traethawd ymchwil erbyn y dyddiad cyflwyno olaf, gall y Brifysgol fynnu bod yr ymgeisyddiaeth yn cael ei therfynu.
17.3
Bydd myfyrwyr yn hysbysu'r Brifysgol o'u bwriad i gyflwyno o leiaf dri mis cyn y dyddiad cyflwyno disgwyliedig.
17.4
Ar gwblhau cyfnod byrraf yr ymgeisyddiaeth, bydd ymgeisydd yn cyflwyno copi electronig o draethawd ymchwil i’w arholi yn unol â Chanllaw’r Brifysgol i Gyflwyno Traethawd Ymchwil ar gyfer myfyrwyr Ymchwil. Os bydd arholwr yn gofyn am gopi papur o’r traethawd ymchwil darperir hyn gan yr ymgeisydd trwy’r tîm cymorth Ymchwil Ôl-raddedig.
17.5
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gyflwyno copi electronig o’r traethawd ymchwil wedi’i ddiweddaru ar ôl iddo gael ei arholi os gwnaethpwyd cywiriadau neu ddiwygiadau.
17.6
Gall unrhyw fyfyriwr sy’n dilyn rhaglen ymchwil yn y Brifysgol ddewis cyflwyno traethawd ymchwil neu waith arall yn Gymraeg neu yn Saesneg. Rhaid i fyfyriwr sy’n dymuno cael ei asesu mewn iaith nad yw’n brif iaith addysgu/asesu'r rhaglen dan sylw hysbysu'r Bwrdd Achosion Myfyrwyr cyn diwedd cyfnod byrraf posib yr ymgeisyddiaeth. Gwneir trefniadau yn unol â’r hyn a amlinellir yng Nghanllaw Arholi Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol. Hefyd, rhaid cyflwyno ceisiadau am asesiad yn Gymraeg drwy'r Cyfadran/Ysgol cyn diwedd cyfnod byrraf posib yr ymgeisyddiaeth, er mwyn i drefniadau priodol gael eu rhoi ar waith i asesu'r gwaith drwy'r iaith y cafodd ei gyflwyno ynddi, lle bynnag y bo modd, neu drwy gyfieithu os nad yw hyn yn bosib.
17.7
Serch hynny, ni fydd y Bwrdd Achosion Myfyrwyr yn cymeradwyo ceisiadau sy’n deillio o ddiffyg gallu’r myfyriwr i gynhyrchu gwaith i’w gyflwyno naill ai'n Gymraeg neu yn Saesneg.
17.8
Pan fydd y Brifysgol wedi cael ei hysbysu am fwriad y myfyriwr i gyflwyno, bydd y Deon Gweithredol neu enwebai’n hysbysu aelodau'r Bwrdd Arholi, y bydd ei aelodaeth yn unol â rhan 25 y rheoliadau hyn ac fel yr amlinellir yng Nghanllaw Arholi Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol. Caiff y myfyriwr ei hysbysu am enwau aelodau arfaethedig y Bwrdd Arholi. Caiff penodiad aelodau’r Bwrdd Arholi ei gadarnhau gan y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu.
17.9
Bydd yn rhaid i fyfyrwyr sy’n ailgyflwyno traethawd ymchwil sydd wedi methu bodloni’r Bwrdd Arholi yn y gorffennol gyflwyno’r traethawd diwygiedig yn unol â'r Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil. Bydd hefyd gofyn i'r myfyriwr dalu ffi ailgyflwyno ychwanegol.
Darpariaeth arbennig, gohiriadau ac estyniadau i ymgeisyddiaeth.