11.1
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr sefyll arholiadau ar yr adeg a bennir gan y Gyfarwyddiaeth/Ysgol, a/neu bydd yn ofynnol iddynt gyflwyno aseiniadau erbyn y dyddiadau cau a nodir. Bydd methu â sefyll arholiad neu fethu â chyflwyno gwaith erbyn y dyddiad penodol yn arwain at gofnodi marc o 0%.
11.2
Y marc pasio ar gyfer pob modiwl hyfforddi fydd 50% ac ni fydd unrhyw fethiannau a oddefir.
11.3
Caiff ymgeiswyr un cyfle i wneud iawn am fodiwl hyfforddiant a fethwyd. Rhaid gwneud iawn am bob modiwl hyfforddiant a fethwyd yn ystod cyfnod hwyaf posibl yr ymgeisyddiaeth.
Ar gyfer y rhaglen EdD, disgwylir i ymgeiswyr wneud yn iawn am fodiwl a fethir o fewn 6 mis i hysbysiad ffurfiol o gadarnhau'r marc methu yn hytrach na chyfnod hiraf yr ymgeisyddiaeth. Er mwyn bod yn gymwys i symud ymlaen i ran 2, yr elfen ymchwil, rhaid i ymgeiswyr lwyddo yn yr holl fodiwlau hyfforddi.
11.4
Ni chaiff y marc ei gapio mewn achos ymgeisydd sy'n pasio'r modiwl hyfforddi ar ei ail gais.
11.5
Os methir modiwl hyfforddi ar yr ail ymgais, bydd y Gyfarwyddiaeth/Ysgol yn argymell i’r Bwrdd Academaidd ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig naill ai:
- Bod yr ymgeisydd yn cael ei orfodi i adael y rhaglen; neu
- Bod yr ymgeisydd yn cael ei orfodi i adael y rhaglen a'r Brifysgol.
11.6
Bydd raid i ymgeiswyr sy’n methu mwy nag un modiwl hyfforddi fynychu cyfweliad gyda chydlynydd y rhaglen a chynrychiolwyr Diwydiannol/ Proffesiynol. Yn unol ag argymhelliad y Gyfarwyddiaeth/Ysgol, bydd y Bwrdd Academaidd ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig yn gofyn i ymgeisydd sy’n methu mwy nag un modiwl hyfforddi adael y rhaglen ar unwaith.
11.7
Bydd canlyniadau arholiadau ar gyfer yr elfen hyfforddi yn cael eu gweld a’u cymeradwyo gan Fwrdd Arholi'r Gyfarwyddiaeth/Ysgol ym mhresenoldeb arholwr allanol y rhaglen a fydd yn cael ei enwebu a’i benodi yn unol â Chod Ymarfer Prifysgol Abertawe ar gyfer Arholi Allanol. Gall arholwr allanol y rhaglen fod yn gyfrifol, neu’n rhannol gyfrifol, am raglenni wedi’u haddysgu eraill neu am elfennau hyfforddiant rhaglenni ymchwil hefyd.
11.8
Bydd cyfarwyddwr y rhaglen yn gyfrifol am gasglu canlyniadau’r elfen hyfforddiant ac am gyflwyno canlyniadau pob ymgeisydd i’r Bwrdd Academaidd ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig.
11.9
Bydd ymgeiswyr y mynnir eu bod yn tynnu’n ôl o’r Brifysgol yn cael cyfle i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn trwy weithdrefnau Prifysgol Abertawe ar Gywirdeb y Marciau a Gyhoeddwyd neu ei gweithdrefnau ar gyfer Apeliadau Academaidd.