Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau Cyflwyno Traethawd Ymchwil i Fyfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.
9.1
Caiff myfyrwyr gradd Doethur mewn Gweinyddu Busnes eu harholi mewn pedair rhan:
- Bydd y rhan gyntaf yn cynnwys asesiadau o natur uwch mewn meysydd astudio a bennir gan gyfarwyddwr y rhaglen berthnasol.
- Bydd yr ail ran ar ffurf traethawd ymchwil sy’n cynnwys dulliau a chanlyniadau’r prosiect ymchwil. Dylid cyflwyno pob traethawd ymchwil yn unol â Chanllawiau Cyflwyno Traethawd Ymchwil i Fyfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.
- Bydd y drydedd rhan ar ffurf cyflwyniad ar lafar gan y myfyriwr i gynulleidfa sy'n cynnwys aelod, neu aelodau, o Fwrdd Arholi'r Traethawd Ymchwil.
- Bydd y bedwaredd ran ar ffurf arholiad llafar (viva voce) fel y nodir ym mharagraff 15 isod.
9.2
Caiff y Deon Gweithredol ddirprwyo'r gwaith gweinyddol ynghylch cyflwyno ac arholi traethawd ymchwil i aelod o'i staff, a bydd hefyd yn enwebu Cadeirydd y Bwrdd Arholi. Dylai'r Cadeirydd fod yn aelod o staff y Gyfadran/Ysgol, gyda phrofiad addas, nad yw wedi ymwneud yn uniongyrchol fel arall â goruchwylio'r myfyriwr.
9.3
Mewn perthynas ag elfen a addysgir y rhaglen, mae gofyn i fyfyrwyr gyflwyno aseiniadau erbyn y dyddiadau a bennwyd. Bydd peidio â sefyll arholiad neu beidio â chyflwyno gwaith erbyn y dyddiad penodol yn arwain at gofnodi marc o 0%.
9.4
Y marc llwyddo ar gyfer pob modiwl hyfforddi fydd 50% ac ni fydd unrhyw fethiannau a oddefir.
9.5
Rhoddir un cyfle i fyfyrwyr wneud yn iawn am fodiwl a fethir yn ystod y cyfle nesaf sydd ar gael. Rhaid gwneud yn iawn am bob modiwl a fethwyd yn ystod cyfnod hwyaf posibl yr ymgeisyddiaeth.
9.6
Bydd myfyrwyr sy'n llwyddo yn y modiwl ar yr ail gynnig/wrth ailsefyll yn derbyn marc heb ei gapio.
9.7
Bydd methu modiwl ar yr ail gynnig yn arwain at argymhelliad gan y Gyfadran/Ysgol i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau y dylai'r myfyriwr naill ai:
- Orfod tynnu'n ôl o'r rhaglen;
- Orfod tynnu'n ôl o'r rhaglen a'r Brifysgol.
9.8
Bydd angen i fyfyrwyr sy'n methu mwy nag un modiwl fynd i gyfweliad gyda chyfarwyddwr y rhaglen. Os bydd y Gyfadran/Ysgol yn argymell y dylai'r myfyriwr dynnu'n ôl yn dilyn y cyfweliad hwn, bydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r myfyriwr dynnu'n ôl o'r rhaglen ar unwaith.
9.9
Caiff canlyniadau'r asesiadau eu hystyried a'u cymeradwyo gan Fwrdd Arholi'r Gyfadran/Ysgol yn unol ag arholwr allanol y rhaglen i'w enwebu a'i benodi'n unol â'r gweithdrefnau a amlinellir yng Nghôd Ymarfer Arholwyr Allanol Prifysgol Abertawe. Yn ogystal, gall arholwr allanol y rhaglen fod yn gyfrifol, neu’n rhannol gyfrifol, am raglenni eraill wedi’u haddysgu neu am elfennau o raglenni ymchwil.
9.10
Cyfarwyddwr y rhaglen a fydd yn gyfrifol am goladu canlyniadau'r elfennau a addysgir a chyflwyno canlyniadau'r holl fyfyrwyr i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu.
9.11
Bydd myfyrwyr y mae'n rhaid iddynt dynnu'n ôl o'r Brifysgol yn cael cyfle i apelio drwy weithdrefn Cywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd neu weithdrefn Apeliadau Academaidd Prifysgol Abertawe.