Rheoliadau Academaidd ar gyfer y Radd Doethur mewn Athroniaeth (Allanol)
RHEOLIADAU ACADEMAIDD AR GYFER GRADD DOETHUR MEWN ATHRONIAETH (ALLANOL)
Gradd ymchwil a ddyfernir gan Brifysgol Abertawe yw'r Doethur mewn Athroniaeth a gellir ei hastudio yn llawn amser neu'n rhan amser. Caiff yr ymchwil ei wneud yn allanol i'r Brifysgol naill ai yn annibynnol o bell, neu, mewn cydweithrediad â sefydliad partner addysg uwch/ymchwil/gweithle yn y DU neu dramor.
Mae'r categorïau myfyrwyr/dulliau ymgeisyddiaeth canlynol yn berthnasol i'r dyfarniad sengl 'Doethuriaeth Allanol' Prifysgol Abertawe:
1. Myfyrwyr yn astudio yn annibynnol ac o bell yn y Deyrnas Unedig neu dramor (yn llawn amser).
2. Myfyrwyr yn astudio yn annibynnol ac o bell yn y Deyrnas Unedig neu dramor (yn rhan-amser).
3. Myfyrwyr yn astudio mewn cydweithrediad â sefydliad partner addysg uwch/ymchwil/gweithle yn y DU neu dramor (yn llawn amser).
4. Myfyrwyr yn astudio mewn cydweithrediad â sefydliad partner addysg uwch/ymchwil/gweithle yn y DU neu dramor (yn rhan-amser).
Dylid darllen y rheoliadau academaidd hyn ar y cyd â’r Canllawiau Prifysgol Abertawe canlynol, sy’n ymhelaethu ar y rheoliadau ac sy’n cynnig cyfarwyddyd ar y gweithdrefnau:
- Canllawiau ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil
- Canllawiau ar Ymgeisyddiaeth Graddau Ymchwil Allanol
- Canllawiau Trosglwyddo a Thynnu’n ôl ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil Allanol
- Canllawiau Gohiriadau ac Estyniadau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil Allanol
- Canllawiau Monitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil Allanol
- Canllawiau Cyflogi Myfyrwyr Ymchwil Allanol
- Canllawiau Cyflwyno Traethawd Ymchwil ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil Allanol
- Canllawiau Arholi Myfyrwyr Ymchwil Allanol
- Canllawiau Goruchwylio Ymchwil Ôl-raddedig Allanol