Polisi Prawf-ddarllen

Diben

Mae'r polisi hwn yn nodi sefyllfa'r Brifysgol o ran prawf-ddarllen, gan gynnwys y defnydd o wasanaethau prawf-ddarllen neu olygu gan drydydd parti proffesiynol, mewn perthynas ag unrhyw fath o waith cwrs (traethodau, adroddiadau, traethodau hir, traethodau ymchwil etc.) a gyflwynir ar gyfer asesu ffurfiannol a chrynodol.

Egwyddorion Allweddol

  1. Disgwylir i fyfyrwyr brawf-ddarllen eu gwaith a datblygu'r sgiliau angenrheidiol i wneud hynny, ac maen nhw'n cael eu cefnogi gan y Brifysgol i wneud hyn.
  2. Rhaid i fyfyrwyr ddilyn y diffiniadau a'r cyfrifoldebau a nodir yn y Polisi hwn, a sicrhau bod unrhyw brawf-ddarllenwyr a ddefnyddir yn ymwybodol o'r gofynion hyn.
  3. Rhaid i'r holl fyfyrwyr ddatgan wrth gyflwyno pob asesiad mai eu gwaith eu hunain yw'r gwaith a gyflwynir.
  4. Nid yw'r Brifysgol yn caniatáu defnyddio gwasanaethau prawf-ddarllen trydydd parti proffesiynol ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau israddedig a addysgir a chyrsiau ôl-raddedig a addysgir (oni chymeradwyir hyn yn benodol gan y Brifysgol at ddibenion penodol e.e. caiff ei argymell gan y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA)); mae arweiniad pellach i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig isod. Diffinnir prawf-ddarllenwyr a ganiateir isod.

Diffiniad golygu a phrawf-ddarllen

Mae golygu a phrawf-ddarllen yn gamau olaf hanfodol o'r broses ysgrifennu. 

Golygu yw unrhyw ddiwygiad o bwys i gyflwyniad testun y tu hwnt i brawf-ddarllen, fel y nodir isod. Mae hefyd yn cynnwys addasiadau sy'n newid, yn cywiro, yn ehangu neu'n cwtogi cynnwys academaidd y gwaith yn sylweddol. Gall golygu fod yn bethau bach neu'n sylweddol eu natur a gall addasu cynnwys ac ystyr y gwaith terfynol. Y myfyriwr ddylai wneud y gwaith golygu, ar y cyd â'i oruchwyliwr academaidd. 

Prawf-ddarllen yw darllen dogfen nad yw wedi'i chwblhau eto yn ofalus, i ganfod unrhyw wallau mewn sillafu, atalnodi, gramadeg, fformatio a chynllun y testun. Gall prawf-ddarllen hefyd gynnwys adolygu cynnwys y testun i sicrhau bod syniadau a chysyniadau'n cael eu mynegi'n glir ac yn rhesymegol a bod y testun yn ystyrlon ac yn rhesymegol. Gall prawf-ddarllenydd gynnig argymhellion ond ni ddylai wneud unrhyw newidiadau nac ailysgrifennu unrhyw rannau o destun. Gall prawf-ddarllenydd:

  • Nodi gwallau sillafu a theipograffydol;
  • Nodi unrhyw wallau mewn atalnodi;
  • Nodi gramadeg gwael megis defnydd o amser y ferf, ffurf berfau a strwythur brawddegau a/neu drefn geiriau;
  • Amlygu gwallau geirfa clir;
  • Amlygu adrannau aneglur o'r testun sy'n ymddangos yn amwys i'r darllenydd;
  • Nodi anghysondebau yng nghynllun y ddogfen megis y defnydd o benawdau, confensiynau cyfeirio etc. 
    amlygu ymadroddion neu eiriau sy'n cael eu hailadrodd.

NI chaniateir i fyfyriwr israddedig neu ôl-raddedig a addysgir ddefnyddio prawf-ddarllenydd i:

  • Ysgrifennu traethawd neu unrhyw fath arall o aseiniad ysgrifenedig ar gyfer myfyriwr;
  • Golygu, newid neu ailysgrifennu unrhyw ran o waith myfyriwr neu gyfrannu unrhyw ddeunydd ychwanegol at y gwaith gwreiddiol fel nad yw'r gwallau gwreiddiol i'w gweld; dylid gwneud nodiadau wedi'u hysgrifennu â llaw neu ddefnyddio'r swyddogaeth "sylwadau" mewn meddalwedd prosesu geiriau;
  • Cywiro camgymeriadau pan na fydd yr ystyr gwreiddiol yn glir; yn lle hynny, dylai roi gwybod i'r myfyriwr nad yw'r ystyr yn glir; 
    cyfieithu'r gwaith;
  • Ail-drefnu paragraffau; 
    cywiro gwallau ffeithiol neu gamgymeriadau mewn cyfrifiadau, fformiwlâu neu gôd cyfrifiadur;
  • Ail-labelu diagramau, siartiau neu ffigurau;
  • Cywiro neu ailfformatio cyfeiriadau. 

**Sylwer bod prawf-ddarllenydd yn wahanol i wasanaeth prawf-ddarllen: 

  • Prawf-ddarllenwyr a ganiateir: gall y rhain gynnwys ffrindiau, cyfoedion neu aelodau'r teulu. Ni chaniateir i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a addysgir ddefnyddio gwasanaethau prawf-ddarllen trydydd parti proffesiynol.
  • Gwasanaethau prawf-ddarllen (neu olygu) trydydd parti proffesiynol: unrhyw wasanaeth proffesiynol a/neu drydydd parti allanol sy'n cael ei gontractio gan y myfyriwr i wneud newidiadau a/neu welliannau i'w waith; mae defnyddio gwasanaethau o'r fath yn gamymddygiad academaidd. Ni chaniateir i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a addysgir ddefnyddio gwasanaethau prawf-ddarllen trydydd parti. Ceir arweiniad penodol ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig isod.

Arweiniad Penodol ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig

Wrth ystyried bod llawer o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn ysgrifennu traethawd ymchwil sydd â gofynion o ran cyfrif geiriau ac a fydd ar gael i'r cyhoedd ei ddarllen, caniateir iddynt ddefnyddio gwasanaethau prawf-ddarllen trydydd parti. Rhaid i fyfyrwyr roi gwybod i'w goruchwylwyr y byddan nhw'n defnyddio gwasanaeth prawf-ddarllen trydydd parti pan gaiff y traethawd ymchwil ei gyflwyno, a rhaid iddynt sicrhau nad yw'r gwasanaeth yn rhannu'r gwaith ag eraill.Gellir defnyddio gwasanaethau prawf-ddarllen trydydd parti os cydymffurfir â’r rheolau isod:

Gellir defnyddio'r prawf-ddarllenydd ar gyfer:

  • Nodi gwallau sillafu a/neu deipograffyddol;
  • Nodi gramadeg gwael, megis defnydd o amser y ferf, ffurf berfau a strwythur brawddegau a/neu drefn geiriau;
  • Nodi gwallau neu anghysondebau fformatio;
  • Nodi gwallau sillafu neu ramadeg ar gyfer diagramau, siartiau a/neu dablau;
  • Amlygu brawddegau lle mae'r geiriad yn rhy gymhleth neu'n aneglur. Ni ddylai'r prawf-ddarllenydd addasu'r frawddeg na'r paragraff, ond dylai nodi lle mae problem;
  • Tynnu sylw at ymadroddion neu eiriau a ailadroddir;
  • Nodi gwallau teipograffyddol wrth gyfeirnodi. 

Ni ddylai'r prawf-ddarllenydd wneud y canlynol:

  • Awgrymu, newid neu olygu cynnwys y traethawd ymchwil - er enghraifft, newid dehongliad cysyniad, neu sut y disgrifir canfyddiad, neu sut y cyflwynir safbwynt neu gasgliad.
  • Newid unrhyw eiriau oni bai am gywiro gwallau sillafu a theipograffyddol yn y testun.
  • Ailysgrifennu codau, fformiwlâu neu hafaliadau.
  • Aildrefnu testun.
  • Cyfrannu deunydd ychwanegol at y gwaith.
  • Ail-lunio neu ail-labelu graffiau, siartiau, tablau neu unrhyw ddata/wybodaeth sydd wedi cael eu delweddu.
  • Newid dadl.
  • Ychwanegu neu newid cynnwys.
  • Cyfieithu'r testun a ysgrifennwyd gan fyfyriwr ar gyfer ei draethawd ymchwil o un iaith i iaith arall. 

Diffiniadau pellach 

Meddalwedd Aralleirio a Gramadeg: rhaglenni ac offer ar-lein sy'n helpu gydag arddull ysgrifennu drwy awgrymu a/neu wneud newidiadau i ramadeg a geiriad (boed i wella arddull neu i osgoi llên-ladrad); er y caniateir defnyddio gwirwyr sillafu a gramadeg sylfaenol (e.e. yn Microsoft Word), rhaid bod yn ofalus gydag offer mwy soffistigedig oherwydd gallai defnyddio'r offer hyn arwain at arfer academaidd gwael a/neu gamymddygiad academaidd. 

Meddalwedd cyfieithu: offer ar-lein sy'n gallu cyfieithu darnau sylweddol o destun o un iaith i iaith arall; ni ddylai offer o'r fath gael eu defnyddio i gyfieithu darnau mawr neu ddarnau cyfan o waith oherwydd gallai hyn arwain at arfer academaidd gwael a/neu gamymddygiad academaidd. 

Twyllo dan gontract/comisiynu: busnesau (a elwir weithiau'n felinau traethodau) a/neu unigolion neu systemau sy'n galluogi comisiynu darn gwreiddiol o waith (traethawd, atebion codio etc); ystyrir hyn yn gamymddygiad academaidd a gall arwain at gosbau difrifol. 

Offer/systemau Deallusrwydd Artiffisial (AI): mae Gweithdrefn Camymddygiad Academaidd y Brifysgol yn rhestru deunydd heb ei gydnabod, gan ddefnyddio systemau Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol, fel enghraifft o gamymddygiad academaidd.

Nodyn ar Gamymddygiad Academaidd: Gellir dod o hyd i wybodaeth ynghylch camymddygiad academaidd yng Ngweithdrefn Camymddygiad Academaidd y Brifysgol .

1.  Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen eu gwaith yn drylwyr i sicrhau bod gwallau teipograffyddol, gramadegol a sillafu'n cael eu hosgoi yn yr asesiadau terfynol a gyflwynir. Mae cymorth sgiliau astudio, gan gynnwys sesiynau ac adnoddau ar gyfer prawf-ddarllen, ar gael gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd

Fel rhan o'r broses addysgu, dylai staff academaidd hefyd ddangos i fyfyrwyr sut i olygu, prawf-ddarllen a mireinio gwaith cwrs yn effeithiol. Gall hyn gynnwys esbonio gofynion penodol math o waith ysgrifenedig penodol, dangos dulliau i wella darn o waith penodol, a rhoi adborth effeithiol i helpu myfyrwyr i ddeall y broses ysgrifennu a safonau disgwyliedig unrhyw waith terfynol a gyflwynir.  

2.  Nid yw'r Brifysgol yn caniatáu i fyfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau a addysgir ddefnyddio gwasanaethau prawf-ddarllen trydydd parti proffesiynol (oni chymeradwyir hyn yn benodol gan y Brifysgol at ddibenion penodol e.e. addasiad rhesymol). 

Bydd y Brifysgol yn cynnig cymorth astudio i fyfyrwyr mewn ffordd deg yn Gymraeg ac yn Saesneg er mwyn i fyfyrwyr ddatblygu'r sgiliau i olygu a phrawf-ddarllen eu gwaith eu hunain yn effeithiol a/neu sicrhau bod addasiadau rhesymol ar waith os bydd angen. 

Nid yw'r Brifysgol yn caniatáu defnyddio gwasanaethau prawf-ddarllen neu olygu trydydd parti proffesiynol, gan gynnwys gwasanaethau ar-lein megis meddalwedd aralleirio neu ramadeg, oni bai yr argymhellir hynny gan y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl.  Mae defnyddio gwasanaethau prawf-ddarllen neu olygu'n rhoi mantais annheg i fyfyrwyr dros fyfyrwyr eraill, ond hefyd gallai gwaith y myfyriwr gael ei ddefnyddio, ei gopïo neu ei ddwyn gan rywun arall, gan arwain at ganfod y testun gan feddalwedd baru wrth gyflwyno a'i ecsbloetio gan felinau traethodau (gweler y diffiniad uchod am dwyllo dan gontract/comisiynu).

Gall defnyddio gwasanaethau prawf-ddarllen trydydd parti proffesiynol arwain at ymchwiliad o gamymddygiad academaidd, a allai arwain at fethu eu gwaith. 

3.  Y myfyriwr unigol fel awdur y gwaith sy'n gyfrifol am brawf-ddarllen y gwaith cyn ei gyflwyno er mwyn ei asesu. Serch hynny, mae'r Brifysgol yn cydnabod bod prawf-ddarllen yn ddull er mwyn cefnogi a gwella dysgu myfyrwyr a gall fod yn addasiad rhesymol i rai myfyrwyr ag anghenion cymorth penodol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. 

Pan fydd myfyriwr sy'n dilyn rhaglen a addysgir yn cyflwyno gwaith i'w asesu, rhaid iddo ddatgan uniondeb academaidd ar bob darn o waith sy'n cael ei gyflwyno ar gyfer asesiad, sy'n tystio mai’r myfyriwr hwnnw yw unig awdur y gwaith oni nodir fel arall.

Rhaid i'r holl fyfyrwyr lynu wrth y polisi hwn, ac ym mhob achos, gadw awduraeth eu gwaith. Gall methu cydymffurfio â’r polisi hwn arwain at ymchwiliad yn unol â’r Weithdrefn Camymddygiad Academaidd, yn enwedig Adran 3.

4.  Rhaid i fyfyrwyr gydymffurfio â’r diffiniadau a'r cyfrifoldebau a nodir yn y Polisi hwn, a sicrhau mai dim ond prawf-ddarllenwyr a ganiateir a defnyddir, a bod unrhyw brawf-ddarllenwyr a ddefnyddir yn ymwybodol o'r gofynion hyn. 

Gellir dod o hyd i Ganllawiau ynghylch Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol i Fyfyrwyr a Addysgir yma: Canllawiau Deallusrwydd Artiffisial - Prifysgol Abertawe a chanllawiau ynghylch Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol i Fyfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig yma: Canllawiau Deallusrwydd Artiffisial - Prifysgol Abertawe.

Mae'r polisi hwn wedi cael ei adolygu'n unol â Chôd Ansawdd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd: Cyhoeddwyd yr asesiad ym mis Tachwedd 2018; cafodd ei ddiwygio ym mis Awst 2021, a chyhoeddwyd Côd Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch Egwyddor 11 - Addysgu, Dysgu ac Asesu ym mis Mehefin 2024.

Adnoddau'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd: “Stop! Don’t Just Submit it, 20 Top-tips for Self-proofreading, created by students for students” 86728-a3-poster-prf4.pdf.