1. Cyflwyniad
Caiff holl arholiadau'r Brifysgol eu rheoli gan reoliadau ac mae'r polisi hwn yn berthnasol i arholiadau/asesiadau a drefnir drwy ddefnyddio dull cyflenwi wedi'i oruchwylio ar-lein.
Nod y polisi hwn yw egluro rolau a chyfrifoldebau Cyfadrannau, Ysgolion a myfyrwyr o ran darparu arholiadau/asesiadau wedi'u goruchwylio ar-lein yn y Brifysgol.
Heb ragfarn i Reolau Arholiadau Cyffredinol y Brifysgol, mae'n rhaid i ymgeisydd sy'n sefyll arholiad drwy Asesu Ar-lein naill ai yn Abertawe neu o bell lynu wrth y rheolau canlynol a gyflwynir yn y Rheoliadau Arholiadau Arbennig hyn hefyd.
2. Diffiniadau
Yn y polisi hwn, mae gan y termau isod yr ystyron canlynol:
“Apêl”: cais i adolygu penderfyniad corff academaidd sydd â chyfrifoldeb am wneud penderfyniadau ynghylch dilyniant, asesiadau a dyfarniadau myfyrwyr.
“Asesu”: Mae 'Asesu' yn cyfeirio at brosesau sy'n mesur canlyniadau dysgu myfyrwyr o ran gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau, agweddau, a galluoedd.
"Ymgeisydd": yr unigolyn sy'n sefyll Arholiad/asesiad.
“Arholiad”: prawf ffurfiol sy'n gwerthuso dysgu myfyrwyr o ran gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau, agweddau, a galluoedd.
“Camymddygiad Academaidd”: gweithred sy'n golygu y gallai unigolyn gael mantais nas caniateir iddo ef/iddi hi ei hun neu i unigolyn arall.
"Arholiad Ar-lein wedi'i oruchwylio drwy Fideo": arholiad a gynhelir o bell drwy feddalwedd arholi ar-lein, ac yn ystod yr arholiad ni chaiff yr ymgeisydd ei fonitro'n barhaus gan oruchwylydd ar y safle, ond bydd y rheoli a'r monitro'n digwydd ar ôl hynny ar sail recordiadau fideo a sain a wnaed drwy gydol yr arholiad cyfan.
3. Cydsyniad
Mae hysbysiad preifatrwydd y Brifysgol yn datgan y bydd y Brifysgol yn defnyddio gwybodaeth myfyrwyr ar gyfer 'Recordiadau/adolygiadau o asesiadau o bell er mwyn darparu ffordd o fod yn oruchwyliad o bell ar gyfer asesiadau 7(1)(e)' ac felly nid oes angen cydsyniad.
4. Dyddiadau ac Amserau
- Rhoir gwybod i ymgeiswyr am ddyddiad ac amser eu harholiad naill ai gan Swyddfa Arholiadau'r Brifysgol neu gan y Gyfadran/Ysgol.
- Mae ymgeiswyr yn gyfrifol am nodi dyddiadau ac amserau eu Harholiad(au)/Hasesiad(au) yn gywir.
- Disgwylir i ymgeiswyr ddechrau eu harholiad yn brydlon ac fel arfer ni chaniateir iddynt ddechrau arholiadau/asesiadau yn hwyr heb ganiatâd penodol eu Cyfadran/Hysgol.
5. Cyfrifoldebau Cyfadrannau/Ysgolion
- Dylai Cyfadrannau/Ysgolion ddarparu hyfforddiant priodol i fyfyrwyr ynghylch defnyddio'r feddalwedd oruchwylio ar-lein berthnasol, er enghraifft drwy gynnal prawf ymarfer.
- Lle bydd gofyn am arholiadau a oruchwylir ar-lein gan gorff proffesiynol, dylai Cyfadrannau/Ysgolion roi gwybod i fyfyrwyr yn eglur am ofynion penodol sy'n berthnasol i'r arholiad.
- Dylai Cyfadrannau/Ysgolion roi cyfarwyddyd ysgrifenedig eglur i fyfyrwyr cyn dechrau'r arholiad/arweiniad gan gynnwys cyfeirio at yr adnoddau ffisegol/ar-lein y gellir eu defnyddio, a oes caniatâd i gyfathrebu â thrydydd parti, ac arweiniad ynghylch gofynion cyfeirnodi.
- Bydd Cydlynydd(Cydlynwyr) Anabledd y Gyfadran/Ysgol yn sicrhau y bydd addasiadau rhesymol ar waith ar gyfer myfyrwyr ag anableddau, anawsterau iechyd meddwl a/neu gyflyrau meddygol cysylltiedig.
- Bydd Cyfadrannau/Ysgolion'n rhoi adborth ynghylch arholiadau/asesiadau yn unol â Pholisi Asesu, Marcio ac Adborth.
- Bydd Cyfadrannau/Ysgolion'n sicrhau y bydd y cymorth technegol perthnasol ar gael i ymgeiswyr.
6. Cyfrifoldebau'r Brifysgol
- Bydd y Brifysgol yn darparu meddalwedd briodol i'w defnyddio yn ystod arholiadau a oruchwylir ar-lein.
- Bydd y Swyddfa Arholiadau/y Gyfadran/Ysgol yn sicrhau y bydd addasiadau rhesymol ar waith ar gyfer myfyrwyr ag anableddau, anawsterau iechyd meddwl a/neu gyflyrau meddygol cysylltiedig ar gyfer pob arholiad o dan ei h/awdurdod.
- Bydd y Swyddfa Arholiadau/y Gyfadran/Ysgol yn sicrhau y bydd y cymorth technegol perthnasol ar gael i ymgeiswyr.
7. Cyfrifoldebau Ymgeiswyr
- Disgwylir i ymgeiswyr gytuno i roi gwybodaeth bersonol er mwyn ei dilysu. Mae hyn yn ofyniad er mwyn cynnal uniondeb academaidd yr arholiad.
- Mae'n rhaid i ymgeiswyr brofi eu hunaniaeth cyn yr arholiad â cherdyn adnabod myfyriwr dilys. Efallai bydd gofyn i ymgeiswyr dynnu llun o'u hunain (drwy ddefnyddio gwe-gamera) gyda thystiolaeth ddilys o'u hunaniaeth, sy'n cynnwys llun sy'n ymddangos yn debyg iawn. Efallai caiff hwn ei wirio gan aelod o staff y Brifysgol.
- Mae'n rhaid i ymgeiswyr fodloni'r gofynion canlynol ar gyfer sefydlu'r cyfrifiadur a'r gwe-gamera a ddefnyddir yn ystod yr arholiad/asesiad:
- Ni ddylid gosod a gweithredu meddalwedd ar gyfer rhannu'r bwrdd gwaith ar y cyfrifiadur.
- Dylid galluogi'r gwe-gamera a'r microffon sydd eu hangen ar gyfer yr arholiad, a'u rhoi ar waith.
- Dylai'r gwe-gamera ganolbwyntio ar yr ymgeisydd sy'n sefyll yr arholiad ar bob adeg.
- Dylai wyneb yr ymgeisydd fod yng nghanol golwg y gwe-gamera, a rhaid cael ei weld drwy gydol yr arholiad.
- Ni ddylai dim byd guddio lens y gwe-gamera ar unrhyw adeg yn ystod yr arholiad.
- Mae'n rhaid i ymgeiswyr fod yn bresennol yn yr arholiad/asesiad rhithwir ar yr amser a nodir yn hysbysiad yr arholiad;
- Mae'n rhaid i ymgeiswyr ddilyn cyfarwyddiadau'r arholiad/asesiad a nodir gan y Brifysgol.
- Mae'n rhaid i ymgeiswyr ateb eu cwestiynau arholiad yn unol â'r cyfarwyddiadau ar dudalen flaen y papur arholiad.
- Mae gofyn i ymgeiswyr ysgrifennu eu hatebion yn Saesneg, oni bai ei bod hi'n eglur o'r cwestiwn y dylid defnyddio iaith dramor neu y gwnaed trefniadau arbennig ymlaen llaw yn unol â Chanllawiau Asesu neu Arholi yn Gymraeg neu mewn iaith sy'n wahanol i iaith yr addysgu.
- Dylai ymgeiswyr sy'n credu bod gwall o ran cynnwys cwestiwn arholiad/asesiad roi gwybod am hyn i'r Swyddfa Arholiadau neu'r Gyfadran/Ysgol (fel y bo'n briodol) ar ôl iddynt sefyll yr arholiad; fodd bynnag, nid oes modd diwygio neu egluro yn ystod yr arholiad, a chaiff ymgeiswyr gyfarwyddyd i gwblhau'r cwestiwn arholiad cyn belled ag y gallant â'r wybodaeth a ddarperir.
- Dylai ymgeiswyr sy'n cael problemau technegol yn ystod yr arholiad/asesiad ddilyn y cyfarwyddiadau a gawsant ynglŷn â chymorth technegol a rhoi gwybod i'w Cyfadran/Ysgol am anawsterau heb eu datrys cyn gynted â phosib.
- Gwaherddir rhoi manylion am gynnwys papur arholiad i ymgeiswyr eraill cyn, yn ystod ac ar ôl yr arholiad.
- Mae'n rhaid bod ymgeisydd wedi gwisgo, rhaid iddo ymddwyn yn briodol ac yn broffesiynol ar bob adeg.
- Mae'n rhaid i ymgeiswyr gwblhau eu harholiad/hasesiad erbyn y terfyn amser a nodir.
- Caiff cyflwyniadau hwyr eu trin yn unol â Pholisi'r Gyfadran/Ysgol ar Gyflwyno'n Hwyr.
- Dylai ymgeiswyr roi gwybod am amgylchiadau esgusodol sy'n berthnasol i'r arholiad/asesiad yn unol â Pholisi'r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu.
- Mae'n rhaid i ymgeiswyr drin y Deunyddiau Arholi'n gwbl gyfrinachol.
- Ni chaniateir i ymgeiswyr fynd â'r Deunyddiau Arholi gyda nhw (na rhannau ohonynt), na'u copïo, tynnu llun ohonynt na'u hatgynhyrchu mewn unrhyw ffordd, rhoi gwybod i drydydd partïon am gynnwys y Deunyddiau Arholi, na'u rhoi i drydydd partïon mewn unrhyw ffordd.
- Bydd pob hawl, gan gynnwys yr hawlfreintiau a hawliau eiddo deallusol eraill y gellir bod yn berthnasol o ran deunyddiau Arholi, yn cael ei chadw ac yn parhau i gael ei chadw gan y Brifysgol yn unig.
- Caiff yr ymgeisydd ddefnyddio'r deunyddiau arholi dim ond yn ôl yr angen er diben sefyll yr arholiad.
8. Darpariaeth Benodol
Bydd y Brifysgol yn gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr ag anghenion penodol, yn unol â gofynion y ddeddfwriaeth sydd mewn grym, yn benodol Deddf Cydraddoldeb 2010.
O ran arholiadau a gyflenwir drwy Swyddfa Arholiadau'r Brifysgol, bydd myfyrwyr a aseswyd ac a gofrestrwyd fel rhai y mae angen darpariaeth benodol arnynt yn cael eu cyfeirio at sylw'r Swyddfa Arholiadau gan y Swyddfa Anabledd neu Wasanaethau Lles y Brifysgol. Bydd y Swyddfa Anabledd neu'r Gwasanaethau Lles yn gwneud argymhellion i'r Swyddfa Arholiadau o ran y ddarpariaeth ar gyfer pob myfyriwr o'r fath yn unol â phwynt 12 y Rheoliadau a Gweithdrefnau Cynnal Arholiadau.
Ar gyfer asesiadau'r Gyfadran/Ysgol, bydd y Gyfadran/Ysgol yn gyfrifol am sefydlu darpariaethau ar gyfer pob myfyriwr sy’n cael ei gyfeirio.
Ychwanegir amser ysgrifennu ychwanegol neu seibiannau i hyd yr arholiad yn awtomatig ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi cael caniatâd o ran hyn.
9. Camymddygiad Academiadd
9.1. Uniondeb Academaidd
Er mwyn sicrhau uniondeb yr arholiad/asesiad, dylai ymgeiswyr:
- Sefyll yr arholiad/asesiad mewn lle personol preifat.
- Cymryd camau er mwyn sicrhau na fydd rhywun arall yn dod i mewn i'r ystafell yn ystod yr arholiad/prawf.
- Mynd ag eitemau wedi'u caniatáu yn unig i mewn i'r arholiad/asesiad (fel y nodir yng nghyfarwyddiadau'r Arholiad/y Gyfadran/Ysgol).
- Aros yn yr ystafell unwaith bod yr arholiad wedi dechrau, fel arfer. Fodd bynnag, pan fydd angen seibiannau, er enghraifft mynd i'r toiled, dylai ymgeiswyr esbonio'r rheswm dros adael yr ystafell a dylid gadael yr arholiad/asesiad ar waith er mwyn cofnodi bod yr ymgeisydd wedi symud y tu allan i olwg y camera. Ar ôl cwblhau'r arholiad/asesiad, adolygir materion wedi'u hamlygu ac efallai bydd gofyn i ymgeiswyr roi eglurhad pellach.
- Wynebu sgrîn y cyfrifiadur yn ystod yr arholiad, a dylai fod yng ngolwg y camera drwy gydol yr arholiad/asesiad.
- Ni ddylai dynnu sgrinluniau yn ystod yr arholiad.
- Ni ddylai gopïo a gludo elfennau'r arholiad/asesiad.
- Ni ddylai siarad yn uchel yn ystod yr arholiad.
- Ni ddylai geisio cyfathrebu â rhywun arall yn ystod yr arholiad/asesiad.
- Ni ddylai fynd ar y rhyngrwyd a/neu ymgynghori â data digidol, tudalennau gwe neu gymwysiadau eraill, oni bai fod caniatâd penodol o ran hyn yng nghyfarwyddiadau'r arholiad/asesiad.
- Ni ddylai wisgo plygiau clustiau na chlustffonau.
- Ni ddylai ddefnyddio peiriant rhithwir, ail fonitor, ffôn symudol na dyfais electronig nad oes caniatâd amdani, yn ystod yr arholiad/asesiad.
9.2. Camymddygiad Academaidd
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sicrhau eu bod yn gyfarwydd â chynnwys Polisi Camymddygiad Academaidd y Brifysgol.
Mae camymddygiad academaidd yn ystod arholiadau/asesiadau neu brofion dosbarth yn gallu cynnwys y gweithgareddau gwaharddedig canlynol (er nad yw'n gyfyngedig i'r rhain):
- Bod â deunydd nas awdurdodwyd mewn arholiad/asesiad wedi'i oruchwylio ar-lein/prawf yn y dosbarth, er enghraifft llyfr, llawysgrif, data neu bapurau rhydd, gwybodaeth a geir trwy ddyfais electronig, neu ffynhonnell arall o wybodaeth waharddedig;
- Copïo gan rywun arall neu gyfathrebu â rhywun arall yn yr arholiad, ac eithrio pan awdurdodir hynny gan y Gyfadran/Ysgol;
- Cyfathrebu'n electronig â rhywun arall nas awdurdodwyd;
- Bod â dyfais electronig nas awdurdodwyd sy'n gallu cyfathrebu â dyfeisiadau eraill neu bobl eraill;
- Ffugio bod yn ymgeisydd mewn arholiad, neu adael i rywun arall eich personadu;
- cyflwyno tystiolaeth o amgylchiadau arbennig i fyrddau arholi sy'n anwir neu wedi'i ffugio, neu sy'n camarwain byrddau arholi neu a allai eu camarwain mewn unrhyw Ffordd;
- Cyflwyno papur arholiad fel pe bai'n eiddo i chi os bydd yn cynnwys deunydd a gynhyrchwyd trwy ddulliau gwaharddedig.
Dylai atebion gynnwys gwaith yr ymgeisydd ei hun yn unig, heb fewnbwn heb ei gydnabod gan bobl eraill; os bydd ymgeisydd yn ansicr, dylai gydnabod yn eglur ffynhonnell deunydd, darnau o destun neu syniadau a gyflwynir (e.e. drwy gyfeirnodau a dyfynodau).
Defnyddir meddalwedd canfod llên-ladrata.
Os amheuir bod ymgeisydd wedi ceisio camymddwyn yn academaidd, caiff ei drin yn unol â gweithdrefnau Camymddygiad Academaidd y Brifysgol.
10. Amgylchiadau Esgusodol
Mae'r Brifysgol yn cydnabod y gall ystod o ffactorau, gan gynnwys amgylchiadau esgusodol, effeithio ar astudio a pharatoadau myfyriwr ar gyfer asesiad ar adegau, ac weithiau ni fydd myfyrwyr yn gallu cwblhau asesiadau.
Os bydd amgylchiadau esgusodol yn effeithio ar fyfyriwr cyn, yn ystod neu ar ôl arholiad/asesiad ar-lein, dylai gysylltu â'i Goleg yn unol â Pholisi'r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu.
11. Apeliadau
Caiff apeliadau eu hystyried a'u cynnal yn unol â phroses apelio'r Brifysgol.