Rheoliadau Asesu Peirianneg
2. Rheolau ar Gyfer Dilyniant a Dyfarnu Credyd Mewn Amgylchedd Modwlar
2.1 CYFLWYNIAD
Bydd y rheoliadau dilyniant canlynol yn gymwys i’r holl fyfyrwyr sy’n dechrau eu rhaglenni gradd. Mae’r rheolau hyn yn gymwys ar draws pob campws.
Bydd y rheoliadau asesu penodol ar gyfer graddau Baglor Meddygaeth a Baglor Llawfeddygaeth (MBBCh), y Diploma Graddedig yn y Gyfraith, Gradd Meistr mewn Osteopatheg, Graddau Sylfaen, y Dystysgrif Addysg Uwch a’r Diploma Addysg Uwch yn cael eu cyhoeddi yn Llawlyfr(au) priodol Y Coleg.
Caiff rheoliadau asesu penodol ar gyfer myfyrwyr Y Coleg, Prifysgol Abertawe eu darparu yn Adran 2.9 isod.
Mae’r Brifysgol wedi awdurdodi Cyfadrannau/Ysgolion, sydd wedi’u hachredu’n broffesiynol, i gymhwyso rheolau asesu mwy caeth ar yr amod bod y myfyrwyr wedi cael eu hysbysu’n briodol ymlaen llaw a’i fod yn un o ofynion Corff Proffesiynol.
2.2 EGWYDDORION CYFFREDINOL
2.2.1 Cyflwyno Marciau ar gyfer Myfyrwyr Nad Ydynt yn eu Blwyddyn Olaf
Wrth benderfynu ar faterion dilyniant, bydd marciau’n cael eu cyflwyno i Fyrddau Arholi Cyfadrannau/Ysgolion ar gyfer yr holl asesiadau a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn academaidd (neu yn achos astudiaethau rhan-amser, a gwblhawyd yn ystod y sesiynau priodol). Bydd Byrddau Arholi Cyfadrannau/Ysgolion’n rhoi argymhellion ynghylch penderfyniadau ar ddilyniant i Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol.
2.2.2 Cyflwyno Marciau ar gyfer Myfyrwyr yn eu Blwyddyn Olaf
Bydd Byrddau Arholi Cyfadrannau/Ysgolion’n ystyried proffiliau canlyniadau myfyrwyr yn eu blwyddyn olaf ac yn rhoi argymhellion ynghylch canlyniadau dyfarniadau terfynol i Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol. Bydd proffil canlyniadau’r myfyrwyr perthnasol a gyflwynir i Fwrdd Arholiadau’r Gyfadran/Ysgol a Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol yn cynnwys:
- Canlyniadau’r flwyddyn olaf;
- Canlyniadau modiwlau a ddilynwyd yn ystod Lefelau Astudio blaenorol ond sy’n cyfrannu at y broses ddyfarnu (e.e. yn nodweddiadol Lefel 5 o ddyfarniad israddedig 3 blynedd).
2.2.3 Marcio Dienw
Cyfeirier at Pholisi Asesu, Marcio ac Adborth
2.2.4 Datgelu Marciau
Dylid gwahaniaethu rhwng marciau dros dro a marciau wedi’u cadarnhau.
Cyfeirier at Bolisi’r Brifysgol ar Gyhoeddi Marciau.
2.2.5 Apeliadau yn erbyn Penderfyniadau Academaidd
Gall myfyrwyr apelio yn erbyn penderfyniad Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol yn unol â Rheoliadau’r Brifysgol ar gyfer Apeliadau Academaidd a/neu Weithdrefn Cywirdeb Marciau Cyhoeddedig y Brifysgol.
Ceir crynodeb o benderfyniadau dyfarnu a dilyniant y gall Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol eu rhoi yn Atodiad 3.
2.8.1 Rheoliadau Asesiadau Israddedig ar Gyfer Rhaglenni Achrededig yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
G1
40% fydd y marc Llwyddo ar gyfer modiwlau ar bob Lefel ac eithrio Lefel 7. 50% yw’r marc Llwyddo ar gyfer modiwlau ar Lefel 7.
G2
Er mwyn camu ymlaen o un lefel i’r llall, rhaid i ymgeisydd amcanu at pasio 120 o gredydau trwy gwblhau modiwlau gyda marc o 40% (50% ar gyfer Lefel 7) neu well ym mhob modiwl.
G3
Rhaid i ymgeiswyr ateb gofynion pob modiwl o ran ymgysylltu ac asesu.
G4
Gall Cyfadrannau/Ysgolion nodi modiwlau ‘craidd’ fel y bo’n briodol i bob rhaglen, y mae’n rhaid llwyddo ynddynt cyn y gall ymgeisydd gamu ymlaen o un Lefel i’r llall. Rhaid i’r modiwlau ‘craidd’ ar gyfer pob rhaglen fod wedi’u nodi’n glir yn llawlyfrau’r Gyfadran/Ysgol neu mewn llenyddiaeth arall gan Gyfadran/Ysgol. Dylai Cyfadrannau/Ysgolion ystyried goblygiadau dynodi gormod o fodiwlau fel rhai ‘craidd’ ar gyfer rhaglen benodol gan na fydd yn bosib i Fyrddau Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol ddigolledu methiannau yn y fath fodiwlau.
G5
Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol, gellir caniatáu i ymgeiswyr nad oes ganddynt ddigon o gredyd i symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf wneud hyd at uchafswm o dri ymgais pellach i wneud iawn am fethiannau yn y modiwlau er mwyn gallu cwblhau'r lefel astudio. Rhaid i’r ymgeisiau hyn ddigwydd o fewn dwy sesiwn academaidd. (Yn achos modiwl Lefel 7, dim ond 1 ymgais i wneud iawn am y methiant ddylid ei ganiatáu.)
Ni ddylai ymgeiswyr ddisgwyl cael cynnig, fel mater o hawl, uchafswm nifer yr ymgeisiau i wneud iawn am fethiannau.
G6
Dim ond dan amgylchiadau eithriadol y bydd ymgeisydd nad yw yn ei flwyddyn olaf yn cael gwneud iawn am y modiwlau a fethwyd dros drydedd sesiwn. Mewn achosion o’r fath, bydd disgwyl i’r Gyfadran/Ysgol gyflwyno cais i Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol, a hwnnw’n nodi’r amgylchiadau i ategu’r achos. Fel arfer, dim ond os yw’r myfyriwr o fewn uchafswm nifer yr ymgeisiau y bydd ceisiadau’n cael eu hystyried (rheol G5).
G7
Mae myfyrwyr nad ydynt yn eu Blwyddyn Olaf y mae’n y caniateir iddynt ailadrodd y Lefel Astudio yn fforffedu unrhyw gredyd a enillwyd yn barod yn awtomatig. Ni ellir defnyddio marciau a enillwyd yn y flwyddyn y mae’r credyd wedi cael ei fforffedu ohoni i bennu dosbarthiad gradd yr ymgeisydd nac i ddyfarnu credyd. Ni ddylai marciau ymgeiswyr sy’n ailadrodd y lefel astudio gael eu capio. Fodd bynnag, dylai ymgais i gwblhau asesiad wrth ailadrodd lefel astudio gael ei ystyried yn un o’r tri chyfle sydd ar gael i ymgeiswyr wneud iawn am fethiant.
G8
Gall myfyrwyr nad ydynt yn eu blwyddyn olaf y mae’n y caniateir iddynt ailadrodd y lefel astudio wneud cais i ailadrodd dim ond y modiwlau y maent wedi’u methu fel ymgeisydd mewnol.
Rhaid i ymgeiswyr sy’n dymuno ailadrodd modiwlau a fethwyd gael cadarnhad ysgrifenedig eu bod wedi trafod eu penderfyniad gydag aelod priodol o staff yn eu Gyfadran/Ysgol Cartref. Rhaid i’r cadarnhad hwn grynhoi’r cyngor a roddwyd i’r myfyriwr a rhaid iddo gael ei lofnodi gan y myfyriwr a’r aelod o staff. Wedyn gall ymgeiswyr gyflwyno cais i’r Gwasanaethau Addysg am newid penderfyniad ynghylch dilyniant. Rhaid gwneud hyn erbyn wythnos gyntaf y Sesiwn Academaidd newydd trwy’r ffurflen/system ar-lein.
Pan ganiateir i ymgeiswyr ailadrodd modiwlau a fethwyd:
- Ni allant ailadrodd unrhyw fodiwl y maent wedi llwyddo ynddo; a
- Rhaid iddynt ailadrodd pob modiwl a fethwyd (neu fodiwlau eraill â phwysoliad credydau cyfwerth yn ôl disgresiwn y Gyfadran/Ysgol).
Caiff myfyrwyr rhyngwladol eu cynghori’n gryf i geisio cyngor gan ISAS a’r Gwasanaethau Addysg. Efallai na fydd yn bosibl i fyfyrwyr rhyngwladol â gofynion fisa penodol ailadrodd modiwlau a fethwyd yn unig. Dylai ymgeiswyr sy’n fyfyrwyr rhyngwladol ac y caniateir iddynt ailadrodd modiwlau a fethwyd nodi ei bod yn bosibl na fyddant yn cael aros yn y DU am y flwyddyn academaidd gyfan (er enghraifft, os caiff y modiwlau a ailadroddir eu darparu yn Semester 1 yn unig, efallai y bydd rhaid i’r ymgeiswyr hynny adael y DU ar ddiwedd Semester 1).
Rhaid i ymgeiswyr sy’n ailadrodd modiwlau a fethwyd wneud hynny fel ymgeiswyr mewnol. Dim ond ymgeiswyr sy’n perthyn i’r categorïau canlynol all wneud cais i ailadrodd y modiwlau a fethwyd fel ymgeiswyr allanol.
- Myfyrwyr yn eu blwyddyn olaf sydd, fel eithriad, wedi cael cynnig y cyfle i ailadrodd modiwlau a fethwyd yn y sesiwn academaidd nesaf oherwydd amgylchiadau esgusodol.
- Myfyrwyr nad ydynt yn eu blwyddyn olaf sydd, fel eithriad, wedi cael cynnig y cyfle i ailadrodd modiwlau a fethwyd ar draws trydedd sesiwn academaidd oherwydd amgylchiadau esgusodol.
Rhaid i geisiadau i ailadrodd modiwlau fel ymgeisydd allanol gael eu cefnogi gan y Gyfadran/Ysgol a Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau.
Ni fydd ymgeiswyr y caniateir iddynt ailadrodd modiwlau a fethwyd yn gallu ailadrodd unrhyw fodiwl y llwyddwyd ynddo. Bydd yn ofynnol bod ymgeiswyr y caniateir iddynt ailadrodd modiwlau a fethwyd yn ailadrodd yr holl fodiwlau a fethwyd (neu fodiwlau eraill gyda phwysoliad credydau cyfwerth yn ôl disgresiwn y Gyfadran/Ysgol).
G9
Bydd gan ymgeiswyr sy’n ailadrodd modiwlau a fethwyd yn unig yn Lefelau 5, 6 ac S (sy’n cynnwys myfyrwyr yn eu blwyddyn olaf), ar yr amod eu bod yn bodloni’r arholwyr, farc wedi’i gapio o 40%. Bydd y marc wedi’i gapio’n cael ei ddefnyddio at ddibenion dosbarthu ym mhob modiwl o’r fath ni waeth beth fo’u lefel perfformiad mewn gwirionedd. Bydd gan ymgeiswyr sy’n ailadrodd modiwlau ar Lefel 7 sgôr wedi’i gapio o 50%. Bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol yn cyfeirio at y marc wedi’i gapio wrth bennu’r cyfartaledd ar gyfer lefel astudio.
Nid yw hyn yn gymwys i ymgeiswyr sy’n ailadrodd modiwlau ar Lefelau 3 a 4 gan mai’r marc gwirioneddol a sgoriwyd fydd yn cael ei gofnodi yn eu hachos hwy.
G10
Wrth wneud penderfyniadau ynghylch dilyniant ar gyfer myfyrwyr yn dilyn yr arholiadau atodol, bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol yn cyfeirio at y marc gorau a gafodd y myfyriwr ym mhob modiwl penodol yn ystod y Sesiwn honno. Mae’n dilyn, felly, os sgoriodd myfyriwr farc uwch ar y cynnig cyntaf, y bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol yn cyfeirio at y marc hwnnw yn y modiwl, yn hytrach na’r marc ailsefyll.
Dim ond mewn un sesiwn academaidd y bydd Egwyddor y Marc Gorau’n gymwys a bydd yn weithredol ym Mwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol atodol yn unig. Nid yw Egwyddor y Marc Gorau’n berthnasol i fodiwlau ‘craidd’ gan bod rhaid llwyddo yn y modiwlau hynny beth bynnag.
G11
Ni fydd ymgeiswyr yn cael ail-wneud unrhyw fodiwl a basiwyd, nac ychwaith wneud iawn am fethiant sydd wedi cael ei ddigolledu, er mwyn gwella eu perfformiad.
G12
Bydd craffu manwl ar ymgeiswyr sy’n ailadrodd y lefel astudio neu’n ailadrodd modiwlau.
G13
Yn unol â Pholisi’r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy’n Effeithio ar Asesiad, cydnabyddir na fydd rhai ymgeiswyr yn gallu bod yn bresennol mewn arholiadau yn ystod y Cyfnod Asesu Canol neu Ddiwedd Sesiwn, e.e. oherwydd afiechyd neu amgylchiadau esgusodol eraill.
Yn achos yr ymgeiswyr hynny sy’n methu â bod yn bresennol mewn arholiadau oherwydd amgylchiadau esgusodol, rhaid cyflwyno hawliad am ohiriad i’r Gyfadran/Ysgol gartref naill ai cyn dyddiad yr arholiad neu o fewn pum niwrnod i’r dyddiad y digwyddodd yr arholiad. Rhaid i geisiadau am ohiriadau gael eu hystyried a’u cefnogi gan y Gyfadran/Ysgol berthnasol a’u cyflwyno i’r Gwasanaethau Addysg i gael eu cymeradwyo. Cynghorir myfyrwyr a staff i gyfeirio at Bolisi’r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol.
Bydd yn ofynnol bod Ymgeiswyr nad ydynt yn eu blwyddyn olaf y caniatawyd gohiriadau iddynt yn sefyll yr arholiadau yn y cyfnod arholiadau nesaf sydd wedi’i amserlennu ar gyfer y modiwlau dan sylw.
G14
Mewn achosion pan fydd ymgeisydd L3/4/5 neu 6 (heb fod yn y flwyddyn olaf) wedi pasio'r holl fodiwlau ac eithrio un modiwl nad yw'n un craidd a fethwyd, nad yw'n gymwys am ddigolledu, ac mae gan yr ymgeisydd un ymgais ailsefyll yn weddill (naill ai oherwydd gohirio a gymeradwywyd ar yr ymgais gyntaf neu cafwyd datganiad amgylchiadau esgusodol cymeradwy yn ystod yr ymgais atodol), bydd hawl gan yr ymgeisydd roi un cynnig arall er mwyn symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf. Fel arfer bydd disgwyl i'r ymgeisydd basio/ddigolledu'r modiwl a fethwyd cyn diwedd cyfnod asesu mis Ionawr y lefel astudio nesaf.
G15
Dylai ymgeiswyr yn eu blwyddyn olaf sy’n methu â sefyll arholiad yn Semester Un, ac y caniatawyd gohiriad iddynt gan y Gwasanaethau Addysg, sefyll yr arholiad yng nghyfnod arholiadau Semester Dau yn hytrach na chyfnod arholiadau atodol.
G16
Gall ymgeiswyr sydd wedi methu modiwlau yn arholiadau Semester Un, gyda chymeradwyaeth y Gyfadran/yr Ysgol, ddilyn modiwlau amgen ychwanegol yn yr ail semester er mwyn gwneud iawn am y methiannau. Bydd dilyn y modiwlau ychwanegol hyn yn cael ei ystyried yn ymgais i wneud iawn am fethiant ac felly bydd y rheol capio’n gymwys.
G17
Bydd penderfyniadau ynghylch dilyniant ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser yn cael eu gwneud gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol dim ond pan fo canlyniadau portffolio llawn o fodiwlau’n hysbys. Caiff penderfyniadau i ganiatáu i fyfyriwr rhan-amser barhau eu gwneud yn flynyddol ran o’r ffordd trwy lefel astudio. Bydd marciau ymgeiswyr rhan-amser yn cael eu cadarnhau ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.
G18
Fel arfer bydd y rheolau a nodir yn y Rheolau Dilyniant Penodol yn dylanwadu ar benderfyniad y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu ynghylch dilyniant ar gyfer ymgeiswyr. Fodd bynnag, ni ddylai ymgeiswyr ddisgwyl y byddant, fel mater o hawl, yn cael sefyll arholiadau atodol neu’n cael ailadrodd y lefel astudio. Gall Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol ystyried amgylchiadau eraill sy’n gysylltiedig ag achos yr ymgeisydd cyn gwneud unrhyw benderfyniad ynghylch dilyniant. Ni fyddai disgwyl i’r Bwrdd ganiatáu i ymgeisydd gamu ymlaen i’r lefel astudio nesaf oni bai ei fod wedi bodloni’r meini prawf gofynnol.
G19
Gall Cyfadrannau/Ysgolion sydd wedi’u hachredu’n broffesiynol gymhwyso rheolau dilyniant mwy caeth ar yr amod bod y Corff Achredu Proffesiynol yn ei gwneud yn ofynnol cymhwyso’r rheolau hynny fel un o amodau achredu’r rhaglen. Bydd y rheol fwy caeth yn cael ei chymhwyso at ddibenion achredu yn unig. Mae’r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg wedi cyflwyno rheolau mwy caeth ynghylch dilyniant ar gyfer y Flwyddyn Ymsang neu o’r Flwyddyn Sylfaen i Lefel 4 neu o Lefel 5 i Lefel 6 mewn gradd gychwynnol uwch. Caiff y rheoliadau ychwanegol hyn eu nodi’n glir i fyfyrwyr yn Llawlyfr y Gyfadran/Ysgol.
G20
Nid yw rheolau dilyniant yn gymwys i fyfyrwyr Cyfnewid ac Ymweliadol. Fodd bynnag, bydd y myfyrwyr hynny’n cael cyfle i wneud iawn am fethiannau, fel arfer trwy arholiadau ailsefyll, ond dan rai amgylchiadau, trwy ddulliau asesu eraill y cytunir arnynt gan y Gyfadran/Ysgol.
G21
Bydd ymgeiswyr y mae’n ofynnol iddynt gyflwyno gwaith cwrs atodol yn cael eu hysbysu, gan y Gyfadran/Ysgol academaidd dan sylw, ynghylch y gwaith cwrs sy’n ofynnol. Ni fydd manylion gwaith cwrs atodol yn cael eu cynnwys yn y canlyniadau a gyhoeddir gan y Gwasanaethau Addysg ar gofnod y myfyriwr unigol ar y fewnrwyd.
G22
Cymwysterau Ymadael
Os na fydd ymgeisydd sy'n cael ei dderbyn ar raglen radd gychwynnol yn cwblhau'r rhaglen, a chan ddibynnu ar nifer y credydau a enillwyd ar y lefelau priodol erbyn iddo adael, efallai y bydd yn gymwys am un o'r dyfarniadau canlynol:
Cymhwyster Ymadael | Isafswm nifer y credydau y mae’n rhaid bod wedi’u dilyn | Lleiafswm y credydau mae’n rhaid eu pasio | Rheoliad Ychwanegol |
---|---|---|---|
Gradd Gyffredin** Efallai na fydd yn bosibl dyfarnu’r Radd Gyffredin ar gyfer rhai graddau a achredir yn broffesiynol. |
120 ar Lefelau 4 a 5 ac isafswm o 60 ar Lefel 6** Ar gyfer ymgeiswyr a dderbynnir i Lefel 5 dan y rheoliadau trosglwyddo credyd, ni fydd isafswm y gofynion ar Lefel 4 yn gymwys. |
Wedi cwblhau Lefelau 4 a 5 ac isafswm o 60 o gredydau ar Lefel 6. Ar gyfer ymgeiswyr a dderbynnir i Lefel 5 dan y rheoliadau trosglwyddo credyd, ni fydd isafswm y gofynion ar Lefel 4 yn gymwys. |
Rhaid bod wedi dilyn isafswm o 180 o gredydau yn Abertawe. |
BSc Anrhydedd neu BEng Anrhydedd* a/neu BSc Gyffredin** (yn berthnasol i raddau cychwynnol uwch yn unig) |
(360 o gredydau) 120 ar Lefel 4, 120 ar Lefel 5 a 120 ar Lefel 6. Ar gyfer ymgeiswyr a dderbynnir i Lefel 5 dan y rheoliadau trosglwyddo credyd, ni fydd isafswm y gofynion ar Lefel 4 yn gymwys. |
Wedi cwblhau Lefelau 4 a 5 a 100 o gredydau ar Lefel 6. Ar gyfer ymgeiswyr a dderbynnir i Lefel 5 dan y rheoliadau trosglwyddo credyd, ni fydd isafswm y gofynion ar Lefel 4 yn gymwys. |
Bod wedi cymhwyso i gamu ymlaen i’r flwyddyn astudio olaf. |
Bydd cymwysterau ymadael yn cael eu galw’n ddyfarniadau fel arfer ac eithrio lle mae gofynion cyrff proffesiynol yn mynnu fel arall.
Bydd cymwysterau ymadael o’r fath yn cael eu cymeradwyo gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol.
*Dim ond os caniateir hynny dan reolau priodol y corff proffesiynol a rheoliadau’r rhaglen radd y dyfernir gradd anrhydedd.
**Nodyn: Ni fydd gradd Gyffredin ar gael I fyfyrwyr o fis Medi 2018 ymlaen.
2.8.2.1 Rheolau Dilyniant Penodol yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg– ar gyfer myfyrwyr sy’n dilyn Lefelau 3-4, 4-5
Rheolau i’w cymhwyso yn ystod Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu diwedd lefel y Brifysgol.
S1
Mae ymgeiswyr sy’n pasio o leiaf 120 o gredydau mewn modiwlau ar y lefel briodol yn gymwys yn awtomatig i gamu ymlaen i’r lefel astudio nesaf.
S2
Gall ymgeiswyr sy’n pasio 100 o gredydau neu fwy ond llai na 120 o gredydau fod yn gymwys i gamu ymlaen i’r lefel astudio nesaf ar yr amod:
- Bod y modiwlau y maent wedi methu ynddynt heb gael eu nodi’n flaenorol fel ‘modiwlau craidd’ ar gyfer y rhaglenni penodol (gweler rheol ddilyniant gyffredinol G4);
- Bod y marciau yn y modiwlau hynny’n ddim is na 30%.
(Cyfeirir at fethiannau o’r fath fel "methiannau a ddigolledir”. Bydd credydau'n cael eu dyfarnu ar gyfer methiannau a ddigolledir.)
S3
Bydd ymgeiswyr sy’n pasio 100 o gredydau neu fwy ond llai na 120 o gredydau ond sydd wedi methu mewn ‘modiwl(au) craidd’ yn methu â chymhwyso i gamu ymlaen i’r lefel astudio nesaf. Ar yr amod nad yw’r marciau ym mhob modiwl a fethwyd yn llai na 30%, bydd yn ofynnol fel arfer eu bod yn ailsefyll y modiwl(au) craidd yn unig a bydd y marc(iau) ar gyfer y modiwlau di-graidd eraill a fethwyd yn cael ei gadw/eu cadw. Ni fydd myfyrwyr yn cael y cyfle i wella marciau yn y modiwlau di-graidd.
S4
Bydd ymgeiswyr sy’n pasio 60 o gredydau neu fwy, ond sy’n methu ag ateb gofynion S1, S2 neu S3 uchod, yn methu â chymhwyso i gamu ymlaen i’r Lefel Astudio nesaf. Fel arfer, yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol, caniateir i’r myfyrwyr hynny sefyll arholiadau atodol ym mhob modiwl a fethwyd. Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr ailsefyll pob modiwl ‘craidd’ a bydd disgwyl iddynt ailsefyll pob arholiad arall; fodd bynnag, bydd ‘Egwyddor y Marc Gorau’ yn gymwys ym Mwrdd Dilyniant a Dyfarnu atodol y Brifysgol (cyfeirier at G11). Rhaid nodi bod rhaid llwyddo ym mhob modiwl craidd.
Rhaid i’r holl aseiniadau sy’n gysylltiedig ag arholiadau atodol gael eu cyflwyno i’r Gydafran/Ysgol perthnasol erbyn dechrau wythnos yr arholiadau atodol.
S5
Bydd ymgeiswyr sy'n pasio 20 o gredydau neu fwy, ond llai na 60 o gredydau, yn methu â chymhwyso i gamu ymlaen i’r Lefel Astudio nesaf. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol, fel arfer bydd yn ofynnol i’r ymgeiswyr hynny ailadrodd y Lefel Astudio. Bydd yr ymgeiswyr hynny’n fforffedu unrhyw gredyd a enillwyd yn barod yn awtomatig (gweler G7).
(Yn unol â Rheol Ddilyniant Gyffredinol G8, gellir caniatáu i’r ymgeiswyr hynny sydd wedi cael penderfyniad Ailadrodd y Lefel Astudio ailadrodd y modiwlau a fethwyd yn unig.)
Bydd yn ofynnol bod yr ymgeiswyr hynny’n gwneud iawn am y methiannau yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
S6
Bydd ymgeiswyr sy'n pasio llai nag 20 o gredydau'n cael eu cynghori i dynnu yn ôl. Caiff ymgeiswyr o'r fath eu cynghori i gwrdd â'u Cyfadran/Hysgol i drafod ai parhau ar y rhaglen astudio bresennol yw'r opsiwn mwyaf priodol iddyn nhw. Hefyd, efallai yr hoffai ymgeiswyr drafod eu hopsiynau ar gyfer trosglwyddo i raglen astudio amgen.
Gall ymgeiswyr o'r fath hefyd benderfynu dychwelyd i ail-wneud y lefel astudio ar eu rhaglen bresennol a byddant yn colli unrhyw gredydau a enillwyd eisoes yn awtomatig (gweler G7).
(Yn unol â Rheol Ddilyniant Gyffredinol G8, gellir caniatáu i’r ymgeiswyr hynny sydd wedi cael penderfyniad Ail-wneud y Lefel Astudio ail-wneud y modiwlau a fethwyd yn unig).
Bydd rhaid i ymgeiswyr o'r fath wneud iawn am y methiannau yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
S7
Bydd ymgeiswyr sy’n ailadrodd y lefel neu’n ailadrodd modiwlau a fethwyd, ac sy’n methu â chymhwyso i gamu ymlaen i’r Lefel Astudio nesaf ar ôl pasio 60 o gredydau neu fwy, yn cael sefyll arholiadau atodol fel y cyfle olaf i wneud iawn am fethiannau ym mhob modiwl a fethwyd.
S8
Bydd ymgeiswyr sy’n ailadrodd y flwyddyn neu’n ailadrodd modiwlau a fethwyd, ac sy’n methu â chymhwyso i gamu ymlaen i’r Lefel Astudio nesaf, nesaf ar ôl pasio llai na 60 o gredydau, yn cael gwybod ei bod Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol.
Ni fydd ymgeiswyr sydd wedi cael penderfyniad ei bod Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol yn cael unrhyw ymgeisiau pellach i wneud iawn am fethiannau. Ni fydd ymgeiswyr yn gymwys i drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe a bydd eu hastudiaethau’n cael eu terfynu. Fel arfer, ni fydd ymgeiswyr sydd wedi cael penderfyniad ei bod ‘Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol’ yn cael eu derbyn yn ôl i’r un rhaglen astudio, nac i raglen gytras, heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn.
Gan ddibynnu ar nifer y credydau a enillwyd, gall y myfyrwyr hynny fod yn gymwys ar gyfer cymhwyster ymadael (gweler G23). Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol fydd yn gyfrifol am ystyried nifer y credydau a enillwyd ac, os yw’n briodol, am ddyfarnu’r cymhwyster ymadael perthnasol.
S9
Ni fydd marciau a enillwyd gan ymgeiswyr sy’n llwyddo i wneud iawn am fethiannau’n cael eu capio ar Lefel 3 a Lefel 4.
Rheolau i’w cymhwyso yn ystod Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu atodol y Brifysgol
S10
Mae ymgeiswyr sy’n pasio o leiaf 120 o gredydau mewn modiwlau ar y lefel briodol yn gymwys yn awtomatig i gamu ymlaen i’r Lefel Astudio nesaf. Fodd bynnag, yn achos myfyriwr sy’n camu ymlaen i radd BEng neu MEng ar Lefel 3, fel arfer byddai’r Gydafran/Ysgol yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr gael marc cyfartalog fel a nodir yn Llawlyfr y Gydafran/Ysgol hefyd.
S11
Gall ymgeiswyr sy’n pasio 100 o gredydau neu fwy ond llai na 120 o gredydau fod yn gymwys i gamu ymlaen i’r Lefel Astudio nesaf ar yr amod:
- Bod y modiwlau y maent wedi methu ynddynt heb gael eu nodi’n flaenorol fel “modiwlau craidd” ar gyfer y rhaglenni penodol (gweler rheol ddilyniant gyffredinol G4);
- Bod y marciau yn y modiwlau hynny’n ddim is na 30%.
(Cyfeirir at fethiannau o’r fath fel "methiannau a ddigolledir”. Bydd credydau'n cael eu dyfarnu ar gyfer methiannau a ddigolledir.)
Fel arfer bydd yn ofynnol i ymgeiswyr sy’n camu ymlaen i radd BEng neu MEng ar Lefel 3 gael marc cyfartalog fel a nodir yn Llawlyfr y Gyfadran/Ysgol hefyd.
S12
Bydd ymgeiswyr sy’n pasio 20 o gredydau neu fwy, ond sy’n methu ag ateb gofynion S9 neu S10 uchod yn methu â chymhwyso i gamu ymlaen i’r Lefel Astudio nesaf. Fel arfer, yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol, bydd yn ofynnol bod y myfyrwyr hynny’n Ailadrodd y Lefel Astudio. Bydd y myfyrwyr hynny’n fforffedu unrhyw gredyd a enillwyd yn barod yn awtomatig (gweler G7).
(Yn unol â Rheol Ddilyniant Gyffredinol G8, gellir caniatáu i’r ymgeiswyr hynny sydd wedi cael penderfyniad Ailadrodd y Lefel Astudio ailadrodd y modiwlau a fethwyd yn unig.)
Bydd yn ofynnol bod yr ymgeiswyr hynny’n gwneud iawn am y methiannau yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
S13
Bydd ymgeiswyr sy'n pasio llai nag 20 o gredydau'n cael eu cynghori i dynnu yn ôl. Caiff ymgeiswyr o'r fath eu cynghori i gwrdd â'u Cyfadran/Hysgol i drafod ai parhau ar y rhaglen astudio bresennol yw'r opsiwn mwyaf priodol iddyn nhw. Hefyd, efallai yr hoffai ymgeiswyr drafod eu hopsiynau ar gyfer trosglwyddo i raglen astudio amgen.
Gall ymgeiswyr o'r fath hefyd benderfynu dychwelyd i ail-wneud y lefel astudio ar eu rhaglen bresennol a byddant yn colli unrhyw gredydau a enillwyd eisoes yn awtomatig (gweler G7).
(Yn unol â Rheol Ddilyniant Gyffredinol G8, gellir caniatáu i’r ymgeiswyr hynny sydd wedi cael penderfyniad Ail-wneud y Lefel Astudio ail-wneud y modiwlau a fethwyd yn unig).
Bydd rhaid i ymgeiswyr o'r fath wneud iawn am y methiannau yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
S14
Bydd ymgeiswyr sy’n ailadrodd y lefel neu’n ailadrodd modiwlau a fethwyd ac sy’n methu â chymhwyso i gamu ymlaen i’r lefel astudio nesaf yn cael gwybod ei bod Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol.
Ni fydd ymgeiswyr sydd wedi cael penderfyniad ei bod Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol yn cael unrhyw ymgeisiau pellach i wneud iawn am fethiannau. Ni fydd ymgeiswyr yn gymwys i drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe a bydd eu hastudiaethau’n cael eu terfynu. Fel arfer, ni fydd ymgeiswyr sydd wedi cael penderfyniad ei bod ‘Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol’ yn cael eu derbyn yn ôl i’r un rhaglen astudio, nac i raglen gytras, heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn.
Gan ddibynnu ar nifer y credydau a enillwyd, gall y myfyrwyr hynny fod yn gymwys ar gyfer cymhwyster ymadael (gweler G23). Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol fydd yn gyfrifol am ystyried nifer y credydau a enillwyd ac, os yw’n briodol, am ddyfarnu’r cymhwyster ymadael perthnasol.
S15
Ni fydd marciau a enillwyd gan ymgeiswyr sy’n llwyddo i wneud iawn am fethiannau’n cael eu capio ar Lefel 3 a Lefel 4.
2.8.2.2 Rheolau Dilyniant Penodol – Lefel 5-6, Lefel 5-S/E
Rheolau i’w cymhwyso yn ystod Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu diwedd lefel.
S1
Mae ymgeiswyr sy’n pasio o leiaf 120 o gredydau mewn modiwlau ar y Lefel briodol yn cymhwyso’n awtomatig i gamu ymlaen i’r Lefel Astudio nesaf. Fel arfer bydd yn ofynnol i ymgeiswyr MEng sy’n camu ymlaen o Lefel 5 i Lefel 6 gyflawni marc cyfartalog fel a nodir yn Llawlyfr y Gyfadran/Ysgol hefyd.
S2
Gall ymgeiswyr sy’n pasio 100 o gredydau neu fwy ond llai na 120 o gredydau fod yn gymwys i gamu ymlaen i’r Lefel Astudio nesaf ar yr amod:
- Bod y modiwlau y maent wedi methu ynddynt heb gael eu nodi’n flaenorol fel ‘modiwlau craidd’ ar gyfer y rhaglenni penodol (gweler rheol ddilyniant gyffredinol G4);
- Bod y marciau yn y modiwlau hynny’n ddim is na 30%.
(Cyfeirir at fethiannau o’r fath fel “methiannau a oddefir”. Ni roddir credyd am fethiannau a oddefir.)
Fel arfer bydd yn ofynnol i ymgeiswyr MEng sy’n camu ymlaen o Lefel 5 i Lefel 6 gyflawni marc cyfartalog fel a nodir yn Llawlyfr y Gyfadran/Ysgol hefyd.
S3
Bydd ymgeiswyr sy’n pasio 100 o gredydau neu fwy ond llai na 120 o gredydau ond sydd wedi methu mewn ‘modiwl(au) craidd’ yn methu â chymhwyso i gamu ymlaen i’r lefel astudio nesaf. Ar yr amod nad yw’r marciau ym mhob modiwl a fethwyd yn llai na 30%, bydd yn ofynnol fel arfer eu bod yn ailsefyll y modiwl(au) craidd yn unig a bydd y marc(iau) ar gyfer y modiwlau di-graidd eraill a fethwyd yn cael ei gadw/eu cadw. Ni fydd myfyrwyr yn cael y cyfle i wella marciau yn y modiwlau di-graidd.
S4
Bydd ymgeiswyr sy’n pasio 60 o gredydau neu fwy, ond sy’n methu ag ateb gofynion S1, S2 neu S3 uchod, yn methu â chymhwyso i gamu ymlaen i’r Lefel Astudio nesaf. Fel arfer, yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol, caniateir i’r myfyrwyr hynny sefyll arholiadau atodol ym mhob modiwl a fethwyd. Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr ailsefyll pob ‘modiwl craidd’ a bydd disgwyl iddynt ailsefyll pob arholiad arall. Fodd bynnag, bydd ‘Egwyddor y Marc Gorau’ yn gymwys ym Mwrdd Dilyniant a Dyfarnu atodol y Brifysgol (cyfeirier at G11). Sylwer bod rhaid llwyddo ym mhob modiwl craidd.
Rhaid i’r holl aseiniadau sy’n gysylltiedig ag arholiadau atodol gael eu cyflwyno i’r Gyfadran/Ysgol perthnasol erbyn dechrau wythnos yr arholiadau atodol.
S5
Bydd ymgeiswyr sy'n pasio 20 o gredydau neu fwy, ond llai na 60 o gredydau, yn methu â chymhwyso i gamu ymlaen i’r Lefel Astudio nesaf. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol, fel arfer bydd yn ofynnol i’r ymgeiswyr hynny Ailadrodd y Lefel Astudio. Bydd yr ymgeiswyr hynny’n fforffedu unrhyw gredyd a enillwyd yn barod yn awtomatig (gweler G7).
(Yn unol â Rheol Ddilyniant Gyffredinol G8, gellir caniatáu i’r ymgeiswyr hynny sydd wedi cael penderfyniad Ailadrodd y Lefel Astudio ailadrodd y modiwlau a fethwyd yn unig.)
Bydd yn ofynnol bod yr ymgeiswyr hynny’n gwneud iawn am y methiannau yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
S6
Bydd ymgeiswyr sy'n pasio llai nag 20 o gredydau'n cael eu cynghori i dynnu yn ôl. Caiff ymgeiswyr o'r fath eu cynghori i gwrdd â'u Cyfadran/Hysgol i drafod ai parhau ar y rhaglen astudio bresennol yw'r opsiwn mwyaf priodol iddyn nhw. Hefyd, efallai yr hoffai ymgeiswyr drafod eu hopsiynau ar gyfer trosglwyddo i raglen astudio amgen.
Gall ymgeiswyr o'r fath hefyd benderfynu dychwelyd i ail-wneud y lefel astudio ar eu rhaglen bresennol a byddant yn colli unrhyw gredydau a enillwyd eisoes yn awtomatig (gweler G7).
(Yn unol â Rheol Ddilyniant Gyffredinol G8, gellir caniatáu i’r ymgeiswyr hynny sydd wedi cael penderfyniad Ail-wneud y Lefel Astudio ail-wneud y modiwlau a fethwyd yn unig).
Bydd rhaid i ymgeiswyr o'r fath wneud iawn am y methiannau yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
S7
Bydd ymgeiswyr sy’n ailadrodd y Lefel neu’n ailadrodd modiwlau a fethwyd, ac sy’n methu â chymhwyso i gamu ymlaen i’r Lefel Astudio nesaf ar ôl pasio 60 o gredydau neu fwy, ond sy’n methu â bodloni S1, S2 ac S3, yn cael sefyll arholiadau atodol fel cyfle olaf i wneud iawn am fethiannau ym mhob modiwl a fethwyd.
S8
Bydd ymgeiswyr sy’n ail-wneud y lefel neu’n ail-wneud modiwlau a fethwyd, ac sy’n methu cymhwyso i symud ymlaen i’r lefel astudio nesaf ar ôl pasio llai na 60 o gredydau, yn Gorfod Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol.
Ni fydd ymgeiswyr sydd wedi cael penderfyniad ei bod ‘Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol’ yn cael unrhyw ymgeisiau pellach i wneud iawn am fethiannau. Ni fydd ymgeiswyr yn gymwys i drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe a bydd eu hastudiaethau’n cael eu terfynu. Fel arfer, ni fydd ymgeiswyr sydd wedi cael penderfyniad ei bod ‘Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol’ yn cael eu derbyn yn ôl i’r un rhaglen astudio, nac i raglen gytras, heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn.
Gan ddibynnu ar nifer y credydau a enillwyd, gall y myfyrwyr hynny fod yn gymwys ar gyfer cymhwyster ymadael (gweler G23). Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol fydd yn gyfrifol am ystyried nifer y credydau a enillwyd ac, os yw’n briodol, am ddyfarnu’r cymhwyster ymadael perthnasol.
Rheolau i’w cymhwyso yn ystod Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu atodol y Brifysgol
S9
Bydd marciau a enillir gan ymgeiswyr sy’n ailadrodd modiwlau a fethwyd yn unig, ar Lefelau 5, 6 ac S, yn cael eu capio ar 40%. Dylai myfyrwyr nodi y bydd y marc wedi’i gapio’n cael ei ddefnyddio at ddibenion dosbarthu ym mhob modiwl o’r fath.
Ni fydd y marciau a enillwyd gan ymgeiswyr sy’n ailadrodd y lefel astudio’n cael eu capio.
S10
Mae ymgeiswyr sy’n pasio o leiaf 120 o gredydau mewn modiwlau ar y Lefel briodol yn cymhwyso’n awtomatig i gamu ymlaen i’r Lefel Astudio nesaf. Yn achos myfyriwr MEng ar Lefel 5, byddai’r y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg fel arfer yn ei gwneud yn ofynnol i’r ymgeisydd ennill y marc cyfartalog a nodir yn Llawlyfr y Gyfadran/Ysgol hefyd.
S11
Gall ymgeiswyr sy’n pasio 100 o gredydau neu fwy ond llai na 120 o gredydau fod yn gymwys i gamu ymlaen i’r lefel astudio nesaf ar yr amod:
- Bod y modiwlau y maent wedi methu ynddynt heb gael eu nodi’n flaenorol fel ‘modiwlau craidd’ ar gyfer y rhaglenni penodol (gweler rheol ddilyniant gyffredinol G4);
- Bod y marciau yn y modiwlau hynny’n ddim is na 30%.
(Cyfeirir at fethiannau o’r fath fel “methiannau a oddefir”. Ni roddir credyd am fethiannau a oddefir.)
Fel arfer bydd yn ofynnol i ymgeiswyr MEng sy’n camu ymlaen o Lefel 5 i Lefel 6 gyflawni marc cyfartalog fel a nodir yn Llawlyfr y Gyfadran/Ysgol hefyd.
S12
Bydd ymgeiswyr sy’n pasio 20 o gredydau neu fwy, ond sy’n methu ag ateb gofynion S9 neu S10 uchod, yn methu â chymhwyso i gamu ymlaen i’r lefel astudio nesaf. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol, fel arfer bydd yn ofynnol i’r ymgeiswyr hynny ailadrodd y lefel astudio. Bydd yr ymgeiswyr hynny’n fforffedu unrhyw gredyd a enillwyd yn barod yn awtomatig (gweler G7).
(Yn unol â Rheol Ddilyniant Gyffredinol G8, gellir caniatáu i’r ymgeiswyr hynny sydd wedi cael penderfyniad Ailadrodd y Lefel Astudio ailadrodd y modiwlau a fethwyd yn unig.)
Bydd yn ofynnol bod yr ymgeiswyr hynny’n gwneud iawn am y methiannau yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
Bydd ymgeiswyr sy’n cronni llai nag 20 o gredydau (y cynigiwyd iddynt sefyll arholiadau atodol gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu diwedd lefel neu Fwrdd Apeliadau Academaidd gan gydnabod amgylchiadau esgusodol) yn methu â chymhwyso i gamu ymlaen i’r Lefel Astudio nesaf. Bydd yr ymgeiswyr hynny’n Cael Eu Tynnu’n Ôl o’u Rhaglen ac ni fyddant yn cael unrhyw ymgeisiau pellach i wneud iawn am y methiannau ar y rhaglen gyfredol. Fodd bynnag, bydd yr ymgeisydd yn cael gwneud cais i drosglwyddo’n fewnol i raglen astudio arall. (Ar yr amod y gellir dilyn y rhaglen newydd o fewn y cyfnod sydd gan yr ymgeisydd ar ôl yn ei ymgeisyddiaeth ac yn amodol ar gymeradwyaeth Tiwtor Derbyn y rhaglen newydd).
S13
Bydd ymgeiswyr sy'n pasio llai nag 20 o gredydau'n cael eu cynghori i dynnu yn ôl. Caiff ymgeiswyr o'r fath eu cynghori i gwrdd â'u Cyfadran/Hysgol i drafod ai parhau ar y rhaglen astudio bresennol yw'r opsiwn mwyaf priodol iddyn nhw. Hefyd, efallai yr hoffai ymgeiswyr drafod eu hopsiynau ar gyfer trosglwyddo i raglen astudio amgen.
Gall ymgeiswyr o'r fath hefyd benderfynu dychwelyd i ail-wneud y lefel astudio ar eu rhaglen bresennol a byddant yn colli unrhyw gredydau a enillwyd eisoes yn awtomatig (gweler G7).
(Yn unol â Rheol Ddilyniant Gyffredinol G8, gellir caniatáu i’r ymgeiswyr hynny sydd wedi cael penderfyniad Ail-wneud y Lefel Astudio ail-wneud y modiwlau a fethwyd yn unig).
Bydd rhaid i ymgeiswyr o'r fath wneud iawn am y methiannau yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
S14
Bydd ymgeiswyr sy’n ailadrodd y Lefel neu’n ailadrodd modiwlau a fethwyd ac sy’n methu â chymhwyso i gamu ymlaen i’r Lefel Astudio nesaf yn cael gwybod ei bod Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol.
Ni fydd ymgeiswyr sydd wedi cael penderfyniad ei bod Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol yn cael unrhyw ymgeisiau pellach i wneud iawn am fethiannau. Ni fydd ymgeiswyr yn gymwys i drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe a bydd eu hastudiaethau’n cael eu terfynu. Fel arfer, ni fydd ymgeiswyr sydd wedi cael penderfyniad ei bod ‘Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol’ yn cael eu derbyn yn ôl i’r un rhaglen astudio, nac i raglen gytras, heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn.
Gan ddibynnu ar nifer y credydau a enillwyd, gall y myfyrwyr hynny fod yn gymwys ar gyfer cymhwyster ymadael (gweler G23). Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol fydd yn gyfrifol am ystyried nifer y credydau a enillwyd ac, os yw’n briodol, am ddyfarnu’r cymhwyster ymadael perthnasol.
S15
Bydd marciau a enillir gan ymgeiswyr sy’n llwyddo i wneud iawn am fethiannau yn ystod cyfnod yr arholiadau atodol ar Lefelau 5 a 6 yn cael eu capio ar 40% (gweler Rheol Ddilyniant Gyffredinol G9). Dylai myfyrwyr nodi y bydd y marc wedi’i gapio’n cael ei ddefnyddio at ddibenion dosbarthu ym mhob modiwl o’r fath.
2.8.2.3 Rheolau Dilyniant Penodol Lefel 6 - M
Rheolau i'w Defnyddio yn Ystod Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu ddiwedd lefel y Brifysgol
S1
Mae ymgeiswyr sy'n pasio o leiaf 120 o gredydau mewn modiwlau ar y lefel briodol ac sy'n cyrraedd y marc cyfartalog cyffredinol i ddatblygu i flwyddyn olaf yr MEng, yn cymhwyso'n awtomatig i symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf.
S2
I fod yn gymwys am ddyfarniad gradd anrhydedd mewn rhaglenni Peirianneg Achrededig o dan reolau'r Cyngor Peirianneg, ni chaniateir methiannau a ddigolledir. Mae'r holl fodiwlau ar raglenni o'r fath yn fodiwlau "craidd", ac felly rhaid llwyddo ynddynt a chael 40% yn Lefel 6.
S3
Bydd ymgeiswyr sydd wedi pasio 100 o gredydau neu fwy ond llai na 120 o gredydau ac sy'n bodloni'r cyfartaledd gofynnol i ddatblygu i flwyddyn olaf yr MEng, ond sy'n methu bodloni gofynion S1, S2 neu S3 uchod yn methu cymhwyso i symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol, fel arfer caiff ymgeiswyr o'r fath gyfle i sefyll arholiadau atodol ym mhob modiwl a fethwyd. Bydd angen i fyfyrwyr ailsefyll modiwlau craidd a disgwyl iddynt ailsefyll pob arholiad arall. Fodd bynnag, bydd yr 'Egwyddor Marc Gorau' yn berthnasol yn y Bwrdd atodol (cyfeiriwch at G10). Sylwer bod yn rhaid llwyddo ym mhob modiwl craidd.
S4
Bydd ymgeiswyr sy'n pasio llai na 100 o gredydau yn trosglwyddo i flwyddyn olaf rhaglen radd gychwynnol yn ystod y cam hwn (h.y. Lefel 6) a phenderfynir ar ddyfarniad y radd yn unol â'r rheolau ar gyfer y radd honno*.
S5
Bydd ymgeiswyr sy'n methu bodloni'r cyfartaledd gofynnol i ddatblygu i flwyddyn olaf yr MEng yn trosglwyddo i flwyddyn olaf rhaglen radd gychwynnol yn ystod y cam hwn (h.y. Lefel 6) a phenderfynir ar ddyfarniad y radd yn unol â'r rheolau ar gyfer y radd honno*.
Rheolau i'w defnyddio yn ystod Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu atodol y Brifysgol
S6
Mae ymgeiswyr sy'n pasio o leiaf 120 o gredydau mewn modiwlau ar y lefel briodol ac sy'n cyrraedd y marc cyfartalog cyffredinol i ddatblygu i flwyddyn olaf yr MEng, yn cymhwyso'n awtomatig i symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf.
S7
Bydd ymgeiswyr sy'n methu bodloni gofynion S6 uchod yn trosglwyddo i flwyddyn olaf rhaglen radd gychwynnol yn ystod y cam hwn (h.y. Lefel 6) a phenderfynir ar ddyfarniad y radd yn unol â'r rheolau ar gyfer y radd honno*.
* Er mwyn osgoi amheuaeth, caiff myfyrwyr y mae angen iddynt drosglwyddo i flwyddyn olaf rhaglen radd gychwynnol eu hystyried eu bod wedi cwblhau blwyddyn derfynol y rhaglen radd gychwynnol, ac ni chânt ailadrodd Lefel 6 yn y flwyddyn ganlynol.
2.8.3 Rheolau ar gyfer Dyfarnu Credyd yn y Flwyddyn Olaf
Rheolau i’w cymhwyso yn ystod Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol
Myfyriwr sydd yn ail-wneud y flwyddyn, caiff ei asesu gan ddefnyddio'r Rheoliadau Asesu Penodol ar gyfer y sesiwn academaidd ddilynol. Myfyriwr sydd yn Ail-wneud Modiwlau a Fethwyd, caiff ei asesu gan ddefnyddio'r Rheoliadau Asesu Penodol ar gyfer y Garfan.
S1
Mae ymgeiswyr sy’n pasio o leiaf 120 o gredydau mewn modiwlau ar y lefel briodol ar gyfer y lefel astudio olaf yn cymhwyso’n awtomatig i gael eu hystyried ar gyfer dyfarnu gradd Anrhydedd.
S2
Dylai myfyrwyr nad ydynt yn sefyll arholiad ym Semester Un oherwydd amgylchiadau esgusodol, lle bo'n bosibl, sefyll yr arholiad yn ystod y cyfnod diwedd lefel yn hytrach na chyfnod arholiadau atodol.
S3
I fod yn gymwys i ennill gradd Anrhydedd mewn Rhaglenni Peirianneg Achrededig yn ôl rheolau'r Cyngor Peirianneg, ni chaniateir methiannau digolledu. Mae pob modiwl ar y fath raglenni yn cyfrif fel modiwlau "craidd", ac felly mae angen pasio gyda marc o 40% yn Lefel 6 a 50% yn Lefel 7.
Bydd ymgeiswyr sy'n pasio mwy na 80 credyd, ond llai na 120 credyd yn y flwyddyn olaf yn methu â chymhwyso. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol, mae'n bosibl y gall y myfyriwr gael un cyfle atodol olaf i wneud yn iawn am y methiannau yn ystod y cyfnod arholiadau atodol. At ddibenion dosbarthiad gradd, ni ellir cyflawni marc(iau) uwch na 40% (50% ar gyfer modiwlau Lefel 7).
S4
Bydd ymgeiswyr sy’n methu ag ateg gofynion S1, S2, S3, uchod yn methu â chwblhau’r lefel astudio olaf.
Ni fydd yr ymgeiswyr hynny’n cael unrhyw ymgeisiau pellach i wneud iawn am fethiannau a byddant yn cael gwybod ei bod Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol. Ni fydd ymgeiswyr yn gymwys i drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe a bydd eu hastudiaethau’n cael eu terfynu. Fel arfer, ni fydd ymgeiswyr sydd wedi cael penderfyniad ei bod ‘Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol’ yn cael eu derbyn yn ôl i’r un rhaglen astudio, nac i raglen gytras, heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn.
Gan ddibynnu ar nifer y credydau a enillwyd, gall y myfyrwyr hynny fod yn gymwys ar gyfer cymhwyster ymadael (gweler G23). Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol fydd yn gyfrifol am ystyried nifer y credydau a enillwyd ac, os yw’n briodol, am ddyfarnu’r cymhwyster ymadael perthnasol.
S5
Dan amgylchiadau eithriadol a dim ond gyda chaniatâd penodol Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol, gellir caniatáu i ymgeiswyr yn eu blwyddyn olaf ailadrodd eu hastudiaethau yn y sesiwn ganlynol. Bydd penderfyniad o’r fath yn cael ei wneud gan gyfeirio o bosibl at ganlyniadau Pwyllgor Ymholi, Pwyllgor Amgylchiadau Arbennig neu Fwrdd Apeliadau Academaidd. Bydd penderfyniad o’r fath yn cynnwys argymell a ddylai’r marciau a gyflawnir wrth ailadrodd yr astudiaethau fod wedi’u capio neu heb eu capio.
Bydd ymgeiswyr sy’n ailadrodd modiwlau y gwnaethant fethu ynddynt ac sy’n methu â chymhwyso i gael eu hystyried ar gyfer dyfarniad ar y lefel astudio olaf yn cael gwybod ei bod Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol (gweler S4).
Gan ddibynnu ar nifer y credydau a enillwyd, gall y myfyrwyr hynny fod yn gymwys ar gyfer cymhwyster ymadael (gweler G23). Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol fydd yn gyfrifol am ystyried nifer y credydau a enillwyd ac, os yw’n briodol, am ddyfarnu’r cymhwyster ymadael perthnasol.
S6
Fel arfer bydd y rheolau a nodir yn yr adran hon yn dylanwadu ar benderfyniad Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol ynghylch dilyniant ar gyfer ymgeiswyr. Fodd bynnag, ni ddylai ymgeiswyr ddisgwyl y byddant, fel mater o hawl, yn cael sefyll arholiad atodol mewn modiwl(au) craidd. Gall y Bwrdd ystyried amgylchiadau eraill sy’n gysylltiedig ag achos yr ymgeisydd cyn gwneud unrhyw benderfyniad.