Rheolau Dilyniant Penodol i fyfyrwyr yr Ysgol Feddygaeth sy'n dilyn Lefel 3
2.4 Rheolau Dilyniant Penodol i fyfyrwyr yr Ysgol Feddygaeth sy'n dilyn Lefel 3
Rheolau i'w defnyddio yng nghyfarfodydd diwedd blwyddyn y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau
Dylai myfyrwyr MPharm mewn Fferylliaeth ac MPharm mewn Fferylliaeth gyda Blwyddyn Baratoi (Sylfaen) gyfeirio at y rheoliadau penodol ar gyfer y rhaglenni hyn: Rheoliadau Rhaglenni MPharm mewn Fferylliaeth ac MPharm mewn Fferylliaeth gyda Blwyddyn Baratoi (Sylfaen) Prifysgol Abertawe
S1
Mae ymgeiswyr sy'n cronni o leiaf 120 o gredydau mewn modiwlau ar y lefel briodol ac yn cyflawni marc cyfartalog cyffredinol o 60% ar gyfer y lefel astudio'n cymhwyso'n awtomatig i symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf.
S2
Gall ymgeiswyr sy'n cronni 80 o gredydau neu fwy, ond llai na 120 o gredydau, fod yn gymwys i symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf ar yr amod:
- bod y modiwlau y maent wedi’u methu heb gael eu nodi’n flaenorol fel ‘modiwlau craidd’ ar gyfer y rhaglenni penodol (gweler rheol ddilyniant gyffredinol G4);
- nad yw’r marciau yn y modiwlau hynny'n llai na 30% a
- bod y cyfartaledd ar y cyfan ar gyfer y lefel astudio'n 60% neu’n uwch.
(Cyfeirir at fethiannau o’r fath fel 'methiannau a oddefir’. Ni roddir credyd am 'fethiannau a oddefir’.)
Ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn Sylfaen yr Ysgol Feddygaeth (Lefel 3) nad ydynt wedi cyflawni cyfartaledd o 60%, caiff ymgeisiau ychwanegol eu cynnig mewn unrhyw fodiwl pan fydd marc modiwl islaw 60%, yn benodol ar gyfer cydrannau asesu unigol yn y modiwlau hyn gyda marc islaw 60%.
S3
Bydd ymgeiswyr sy'n cronni 60 o gredydau neu fwy, ond sy'n methu â bodloni gofynion S1 neu S2 uchod, yn methu â chymhwyso i symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol, bydd ymgeiswyr o'r fath fel arfer yn cael arholiadau atodol ym mhob modiwl a fethwyd a hefyd mewn unrhyw fodiwlau sydd â marc islaw 60%.
Rhaid i'r holl aseiniadau sy'n gysylltiedig ag arholiadau atodol gael eu cyflwyno i'r Gyfadran/Ysgol berthnasol erbyn dechrau wythnos yr arholiadau atodol.
S4
Bydd ymgeiswyr sy'n cronni 20 o gredydau neu fwy, ond llai na 60 o gredydau, yn methu â chymhwyso i symud ymlaen i'r Lefel Astudio nesaf. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol, fel arfer bydd yn ofynnol i'r ymgeiswyr hynny Ail-wneud y Lefel Astudio. Bydd yr ymgeiswyr hynny'n fforffedu unrhyw gredyd a enillwyd eisoes yn awtomatig (gweler G7).
(Yn unol â Rheol Ddilyniant Gyffredinol G8, gellir caniatáu i’r ymgeiswyr hynny sydd wedi cael penderfyniad Ail-wneud y Lefel Astudio ail-wneud y modiwlau a fethwyd yn unig).
Bydd yn ofynnol i’r ymgeiswyr hynny wneud iawn am y methiannau yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
S5
Bydd ymgeiswyr sy’n cronni llai nag 20 o gredydau yn methu â chymhwyso i symud ymlaen i’r lefel astudio nesaf ac yn Gorfod Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol.
Ni fydd ymgeiswyr yn cael unrhyw gyfleoedd pellach i wneud iawn am fethiannau, ni fyddant yn gymwys i drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe a bydd eu hastudiaethau’n cael eu terfynu.
Fel arfer, ni chaiff ymgeisydd â phenderfyniad ‘Gorfod Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol’ ei ail-dderbyn i'r un rhaglen astudio na rhaglen gytras heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn Myfyrwyr.
S6
Bydd ymgeiswyr sy'n ailadrodd y lefel neu sy'n ailadrodd modiwlau a fethwyd, ac sy'n methu â chymhwyso i symud ymlaen i'r Lefel Astudio nesaf ar ôl cronni 60 credyd neu fwy, yn cael sefyll arholiadau/asesiad atodol fel yr ymgais terfynol i wneud iawn am fethiannau ar gyfer pob modiwl a fethwyd.
S7
Bydd ymgeiswyr sy’n ail-wneud y lefel neu’n ail-wneud modiwlau a fethwyd, ac sy’n methu â chymhwyso i symud ymlaen i’r lefel astudio nesaf, ar ôl cronni llai na 60 o gredydau, yn Gorfod Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol.
Ni fydd ymgeiswyr sy'n Gorfod Tynnu'n Ôl o'r Brifysgol yn cael cyfleoedd pellach i wneud iawn am fethiannau. Ni fydd ymgeiswyr yn gymwys i drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe a bydd eu hastudiaethau'n cael eu terfynu. Fel arfer, ni fydd ymgeiswyr sydd wedi cael penderfyniad ‘Gorfod Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol’ yn cael eu derbyn yn ôl i’r un rhaglen astudio, nac i raglen gytras, heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn Myfyrwyr.
Gan ddibynnu ar nifer y credydau a enillwyd, gall y myfyrwyr hynny fod yn gymwys ar gyfer cymhwyster ymadael (gweler G22). Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol fydd yn gyfrifol am ystyried nifer y credydau a enillwyd ac, os yw’n briodol, am ddyfarnu’r cymhwyster ymadael perthnasol.
S8
Ni fydd marciau a enillwyd gan ymgeiswyr sy'n llwyddo i wneud iawn am fethiannau'n cael eu capio.
Rheolau i'w defnyddio yng nghyfarfod Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau Atodol y Brifysgol.
S9
Mae ymgeiswyr sy'n cronni o leiaf 120 o gredydau mewn modiwlau ar y lefel briodol ac sy’n cyflawni marc cyfartalog cyffredinol o 60% ar gyfer y lefel astudio'n cymhwyso'n awtomatig i symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf.
S10
Gall ymgeiswyr sy'n cronni 80 o gredydau neu fwy, ond llai na 120 o gredydau, fod yn gymwys i symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf ar yr amod:
- bod y modiwlau y maent wedi’u methu heb gael eu nodi’n flaenorol fel ‘modiwlau craidd’ ar gyfer y rhaglenni penodol (gweler rheol ddilyniant gyffredinol G4);
- nad yw’r marciau yn y modiwlau hynny'n llai na 30% a
- bod y cyfartaledd ar y cyfan ar gyfer y lefel astudio'n 60% neu’n uwch.
(Cyfeirir at fethiannau o’r fath fel 'methiannau a oddefir’. Ni roddir credyd am 'fethiannau a oddefir’.)
S11
Bydd ymgeiswyr sy'n cronni 20 o gredydau neu fwy ond sy'n methu â bodloni gofynion S10 neu S11 uchod yn methu â chymhwyso i symud ymlaen i'r Lefel Astudio nesaf. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol, fel arfer bydd yn ofynnol i'r ymgeiswyr hynny Ail-wneud y Lefel Astudio. Bydd yr ymgeiswyr hynny'n fforffedu unrhyw gredyd a enillwyd eisoes yn awtomatig (gweler G7).
(Yn unol â Rheol Ddilyniant Gyffredinol G8, gellir caniatáu i’r ymgeiswyr hynny sydd wedi cael penderfyniad Ail-wneud y Lefel Astudio ail-wneud y modiwlau a fethwyd yn unig). Bydd yn ofynnol bod yr ymgeiswyr hynny'n gwneud iawn am y methiannau yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
S12
Bydd ymgeiswyr sy’n cronni llai nag 20 o gredydau (y cynigiwyd cyfle iddynt i sefyll arholiadau atodol gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarniadau mis Mehefin y Brifysgol neu Fwrdd Apeliadau Academaidd gan gydnabod amgylchiadau esgusodol) yn methu â chymhwyso i symud ymlaen i’r Lefel Astudio nesaf. Bydd yr ymgeiswyr hynny'n Gorfod Tynnu'n Ôl o'r Brifysgol. Ni fydd ymgeiswyr yn cael cyfleoedd pellach i wneud iawn am fethiannau, ni fyddant yn gymwys i drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe a bydd eu hastudiaethau’n cael eu terfynu. Fel arfer, ni chaiff ymgeisydd â phenderfyniad ‘Gorfod Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol’ ei ail-dderbyn i'r un rhaglen astudio na rhaglen gytras heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn Myfyrwyr.
S13
Ni fydd ymgeiswyr sy'n 'Gorfod Tynnu'n Ôl o'r Brifysgol' yn cael cyfleoedd pellach i wneud iawn am fethiannau. Ni fydd ymgeiswyr yn gymwys i drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe a bydd eu hastudiaethau'n cael eu terfynu.
Fel arfer, ni fydd ymgeisydd sydd wedi cael penderfyniad 'Gorfod Tynnu'n Ôl o'r Brifysgol' yn cael ei ail-dderbyn i'r un rhaglen astudio neu i raglen gytras, heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn Myfyrwyr.
Gan ddibynnu ar nifer y credydau a enillwyd, gall y myfyrwyr hynny fod yn gymwys ar gyfer cymhwyster ymadael (gweler G22). Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol fydd yn gyfrifol am ystyried nifer y credydau a enillwyd ac, os yw’n briodol, am ddyfarnu'r cymhwyster ymadael perthnasol.
S14
Ni fydd marciau a enillwyd gan ymgeiswyr sy'n llwyddo i wneud iawn am fethiannau'n cael eu capio.
Bydd angen i ymgeiswyr sy'n methu â symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf Dynnu'n ôl o'r Brifysgol.