BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd
1. Cyflwyniad
1.1
Caiff cymwysterau eu dyfarnu i fyfyrwyr sy'n bodloni'r gofynion a nodir yn y rheoliadau asesu, yn benodol y gofynion credyd a datganiadau meini prawf pynciau'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA), ac sydd wedi cyrraedd y lefel briodol fel yr amlinellir yn y Rheoliadau Penodol ar gyfer Graddau Baglor Israddedig, (Rheoliad 1.1).
1.2
Wedi cwblhau rhaglenni rhan-amser y radd BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd yn llwyddiannus, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gymwys i gyflwyno cais i gofrestru gyda'r Academi Gwyddor Gofal Iechyd (AHCS).
1.3
Bydd y radd BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd ran-amser yn cynnwys un o raglenni hyfforddiant ymarferwyr canlynol yr AHCS (PTP):
- Clywedeg
- Peirianneg Feddygol
- Peirianneg Adferiad
2. Amodau Derbyn
2.1
Yn ogystal â'r amodau derbyn a amlinellir yn Rheoliad Cyffredinol 3, bydd gofyn i fyfyrwyr fodloni'r canlynol:
2.1.1
Rhaid i ymgeiswyr fod wedi’u cyflogi gan fwrdd iechyd partner a rhaid iddynt gael eu cefnogi gan eu cyflogwr i ymgymryd â'r rhaglen.
2.1.2
Bydd gofyn i ymgeiswyr ddangos eu bod yn bodloni gofynion lefel 4 PTP yr AHCS drwy gydnabod dysgu blaenorol.
2.2
Bydd gofyn i ymgeiswyr gael gwiriad manylach boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a gwiriad iechyd boddhaol.
3. Strwythur y Rhaglen
Bydd y rhaglen yn cynnwys astudiaethau lefel 5 a lefel 6 yn unig a bydd myfyrwyr yn cwblhau 240 credyd. Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno ar sail ran-amser dros dair blynedd academaidd a bydd pob lefel yn para am 15 mis.
Bydd 40 credyd ar lefel 5 ac ar lefel 6 yn cael eu haddysgu dros ddwy flynedd academaidd. Bydd manylion am hyn yn llawlyfrau'r rhaglen.
4. Cynnwys y Rhaglen
4.1
Bydd cynnwys y rhaglen yn dilyn gofynion diweddaraf rhaglen PTP yr AHCS a chanllawiau eraill a gyhoeddwyd gan yr AHCS, a'r Brifysgol, fel y’u cymeradwyir gan y Brifysgol.
4.2
Bydd y rhaglenni'n cynnwys 50% damcaniaeth a 50% ymarfer.
5. Lleoliadau Gwaith
5.1
Bydd gofyn i fyfyrwyr gwblhau lleoliadau clinigol yn unol â gofynion y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd. Bydd y lleoliadau clinigol hyn gyda'u sefydliad cyflogi yn bennaf. Efallai y bydd gofyn i fyfyrwyr gwblhau lleoliadau clinigol gyda darparwyr eraill os nad yw’r sefydliad sy'n eu cyflogi yn gallu darparu'r holl gyfleoedd dysgu i fodloni gofynion PTP yr AHCS.
5.2
Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr ymgymryd â phob asesiad sy’n gysylltiedig â’r lleoliadau clinigol ac ennill y cymwyseddau a’r sgiliau gofynnol a bennir gan yr AHCS.
6. Trosglwyddo Credydau
6.1
Bydd gofyn i fyfyrwyr drosglwyddo 120 credyd ar lefel 4 i'r rhaglen. Gall hyn fod trwy'r broses cydnabod dysgu blaenorol.
6.2
Caiff ceisiadau i drosglwyddo credydau eu hystyried yn unol â pholisi a gweithdrefnau Prifysgol Abertawe ar gyfer cydnabod dysgu blaenorol.
7. Rheoliadau Asesu
7.1
Caiff myfyrwyr eu hasesu'n barhaus, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu e.e. aseiniadau ysgrifenedig, arholiadau ac asesiadau ymarfer clinigol. Caiff cynnydd myfyriwr ei asesu fel arfer yn ystod cyfnod addysgu’r uned astudio/modiwl a/neu yn y cyfnod yn union ar ôl ei gwblhau.
7.2
Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr gwblhau’r rhaglen astudio Israddedig yn unol â’r rheoliadau ar gyfer dyfarnu credyd fel y’u hamlinellir yn y Rheoliadau Asesu i Israddedigion. Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr gwblhau'r holl gydrannau damcaniaethol ac asesu clinigol yn llwyddiannus. Ni ellir digolledu modiwlau a fethir.
8. Terfynau Amser
8.1
Bydd cyfnod hwyaf posibl ymgeisyddiaeth ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio am radd anrhydedd fel a ganlyn:
Rhan-amser: dim llai na thair blynedd a dim mwy na phum mlynedd oddi ar gychwyn y rhaglen.
9. Estyn Terfynau Amser
9.1
Gellir estyn terfynau amser y rhaglen, fel y’i nodir yn y rheoliadau penodol, mewn achosion eithriadol yn unig ac yn unol â Rheoliad Cyffredinol 27.
10. Cymwysterau Ymadael
10.1
Gallai myfyriwr a dderbynnir ar raglen gradd baglor fodiwlaidd ond na all fwrw ymlaen i'w chwblhau, neu ni chaniateir iddo wneud hynny, gan ddibynnu ar nifer y credydau a gafwyd ar y lefelau priodol adeg gadael, fod yn gymwys i dderbyn un o'r cymwysterau canlynol:
- Diploma Addysg Uwch (DipHE) mewn Gwyddor Gofal Iechyd ar ôl cwblhau 120 credyd craidd yn llwyddiannus ar lefel 5.
10.2
Bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol yn cymeradwyo'r fath gymwysterau ymadael.
10.3
Ni fydd myfyriwr sy'n gadael â Diploma Addysg Uwch mewn Astudiaethau Gofal yn gymwys i geisio cofrestru gyda'r AHCS.
11. Cymhwysedd am Ddyfarniad
Er mwyn bod yn gymwys i’w hystyried am gymhwyster israddedig Prifysgol Abertawe, dylai myfyrwyr fynychu a chwblhau modiwlau o fewn y cyfnod cofrestru hwyaf, a bydd y pwysiad credyd fel a ganlyn:
- Gradd Anrhydedd 3 blynedd wedi'i chwblhau'n rhan-amser:
Credydau i'w dilyn:
- 240 pwynt credyd gydag isafswm o 120 pwynt credyd ar Lefel 5 ac o leiaf 120 pwynt credyd ar Lefel 6.
12. Derbyn i’r Cymhwyster
12.1
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer dyfarniad o dan y Rheoliadau hyn, mae’n rhaid bod myfyriwr:
- Wedi dilyn rhaglen astudio fodiwlaidd am y cyfnod a bennir gan y Brifysgol, ac eithrio fel y’i darperir gan Reoliad 7;
- Wedi ennill isafswm y credydau a bennir gan y Brifysgol mewn rhaglen a gymeradwyir gan y Brifysgol;
- Wedi bodloni unrhyw amod(au) pellach sy’n ofynnol gan y Brifysgol a’r AHCS.
12.2
Cyhoeddir enwau’r myfyrwyr am radd Anrhydedd a fodlonodd ofynion asesu’r rhaglen a’r Brifysgol yn y dosbarthiadau Anrhydedd canlynol:
- Cyntaf;
- Ail Ddosbarth Rhan Un;
- Ail Ddosbarth Rhan Dau;
- Trydydd Dosbarth.
13. Graddau Aegrotat ac Wedi Marwolaeth
13.1
Ni fydd myfyrwyr sy’n dilyn rhaglenni proffesiynol yn ôl y rheoliadau hyn yn gymwys i dderbyn dyfarniadau aegrotat neu wedi marwolaeth.