Mae gradd sylfaen yn gymhwyster lefel 5 sy'n cyfuno astudio academaidd â dysgu ar sail gwaith trwy gydweithredu agos rhwng cyflogwyr a darparwyr y rhaglen. Mae gradd sylfaen yn darparu cyfleoedd am astudio pellach a gellir ei hastudio ar sail ran-amser neu, mewn rhai achosion, amser llawn.
Graddau Sylfaen
Rheoliadau Penodol
1. Cyflwyniad
1.1
Dyfernir graddau sylfaen i fyfyrwyr sydd wedi dangos:
- Gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol o egwyddorion sefydledig eu maes neu feysydd astudio, a'r modd y mae'r egwyddorion hynny wedi datblygu;
- Y gallu i gymhwyso cysyniadau ac egwyddorion sylfaenol y tu hwnt i gyd-destun eu hastudio i ddechrau, gan gynnwys, lle bo'n berthnasol, rhoi'r egwyddorion hynny ar waith mewn cyd-destun cyflogaeth;
- Gwybodaeth o'r prif ddulliau ymchwilio yn y pwnc neu'r pynciau sy'n berthnasol i'r dyfarniad a enwir, a'r gallu i werthuso'n feirniadol addasrwydd gwahanol ddulliau o ddatrys problemau yn y maes astudio;
- Dealltwriaeth o derfynau eu gwybodaeth, a sut mae hyn yn dylanwadu ar ddadansoddiadau a dehongliadau sy'n seiliedig ar yr wybodaeth honno.
Yn nodweddiadol, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu gwneud y canlynol:
- Defnyddio amrywiaeth o dechnegau sefydledig i gychwyn a chynnal dadansoddiad beirniadol o wybodaeth, ac i gynnig atebion i broblemau sy'n codi o'r dadansoddiad hwnnw;
- Cyfleu gwybodaeth, dadleuon a dadansoddiad yn effeithiol mewn amrywiaeth o ddulliau i gynulleidfaoedd arbenigol a lleyg, a rhoi technegau allweddol y ddisgyblaeth ar waith yn effeithiol;
- Ymgymryd â rhagor o hyfforddiant, datblygu sgiliau cyfredol, a dysgu cymwyseddau newydd a fydd yn eu galluogi i dderbyn cyfrifoldeb sylweddol mewn sefydliadau.
A bydd gan y deiliaid:
- Y nodweddion a'r sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth lle mae angen ymarfer cyfrifoldeb personol a gwneud penderfyniadau.
2. Amodau Derbyn
2.1
Derbynnir myfyrwyr i raglenni astudio yn unol â gofynion y rhaglen benodol, gofynion derbyn Prifysgol Abertawe, a gofynion y sefydliad partner (os yw'n berthnasol).
2.2
Yn ystod y broses dderbyn, rhaid i ymgeisydd sicrhau ei fod yn gallu cyfathrebu'n effeithiol yn Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Rhaid sefyll profion TOEFL neu IELTS (neu rai cyfatebol) ac y mae modd cael canllawiau o Swyddfa Derbyn Prifysgol Abertawe o ran y lefel basio sy’n briodol i unrhyw raglen astudio neu’r addysgu a all fod yn angenrheidiol cyn y cwrs er mwyn caniatáu i ymgeisydd fwrw ymlaen â'i astudiaethau. Y Brifysgol fydd yn gyfrifol am sicrhau bod myfyriwr yn cyflawni ar lefel 3 y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol ar hyn o bryd, neu, yn achos rhaglenni a ddarperir ar y cyd â sefydliad partner, manylir ar hyn yn y cytundeb partneriaeth.
2.3
Yn ogystal, mae'n rhaid i fyfyrwyr cymwys fodloni unrhyw feini prawf cymhwyso a bennir gan gyflogwyr a/neu unrhyw ofynion cyllido'r rhaglen astudio. Os oes rhaid i fyfyriwr fod yn gyflogedig i fod yn gymwys, gall unrhyw newid yn statws cyflogaeth y myfyriwr ar ôl cofrestru effeithio ar ei allu i barhau ar y rhaglen.
3. Cofrestru yn y Brifysgol
3.1
Mae'n ofynnol i'r holl fyfyrwyr gofrestru gyda Phrifysgol Abertawe, er mwyn cael eu derbyn yn fyfyrwyr y Brifysgol. Bydd pob myfyriwr yn cofrestru yn unol â'r cyfarwyddiadau cofrestru ac o fewn y cyfnod cofrestru a bennwyd.
3.2
Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr sy'n astudio rhaglen a ddarperir mewn partneriaeth â sefydliad arall gofrestru gyda'r sefydliad partner yn unol â'r gweithdrefnau cofrestru a gyhoeddir gan y Gyfadran/Ysgol unigol.
3.3.
Drwy gwblhau'r broses gofrestru, bydd myfyrwyr yn cadarnhau y byddant yn ufuddhau i reoliadau'r sefydliad dan sylw ac, yn achos rhaglenni a ddarperir gyda phartneriaid, yn cadarnhau y byddant yn ufuddhau i reoliadau'r ddau sefydliad, gan adlewyrchu eu statws fel myfyrwyr cofrestredig ym mhob sefydliad.
3.4
O ran cofrestru gyda Phrifysgol Abertawe, rhaid i fyfyrwyr gofrestru o fewn y cyfnod cofrestru a bennir:
- Os ydynt yn cofrestru yn y brifysgol am y tro cyntaf;
- Os ydynt yn cofrestru ar raglen astudio benodol am y tro cyntaf;
- Os ydynt yn symud ymlaen i lefel nesaf eu hastudiaethau, blwyddyn nesaf eu hastudiaethau neu, mewn rhai achosion, i ran nesaf eu hastudiaethau, ac yn astudio'n rhan amser.
3.5
Er mwyn cofrestru yn y Brifysgol, lle bynnag y bo'n briodol, mae’n ofynnol i fyfyrwyr ddarparu tystiolaeth o’u hawl i astudio yn y Brifysgol yn unol â:
- Gofynion penodol y rhaglen;
- Rheoliadau’r Brifysgol o ran matriciwleiddio;
- Y ddeddfwriaeth ynghylch astudio yn y Deyrnas Unedig.
3.6
Os na fydd myfyriwr yn cofrestru o fewn y cyfnod penodedig, bydd ymgeisyddiaeth yn dod i ben a bydd rhaid i’r myfyriwr dynnu'n ôl o’r Brifysgol. Caiff ceisiadau i ailsefydlu'r ymgeisyddiaeth ac am ganiatâd i gofrestru'n hwyr eu hystyried yn weinyddol ar ran y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau.
3.7
Bydd y Brifysgol yn hysbysu'r awdurdodau perthnasol, o fewn cyfnod penodedig, yn unol â deddfau’r Deyrnas Unedig parthed astudio yn y DU, am fyfyrwyr y tynnwyd eu henwau yn ôl am beidio â chofrestru ar raglen astudio o fewn y cyfnod cofrestru penodedig.
4. Strwythur Rhaglenni
4.1
Bydd rhaglen Gradd Sylfaen yn cynnwys 240 o gredydau ar lefelau 4 a 5 y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch gan gynnwys o leiaf 90 credyd ar lefel 5.
4.2
Rhaid i o leiaf 60 credyd fod am ddysgu ar sail gwaith. Caiff union ganran union y modiwlau dysgu ar sail gwaith ei nodi'n glir yn llawlyfr y rhaglen.
4.3
Mae natur gradd sylfaen yn caniatáu amrywiaeth o wahanol strwythurau a dulliau addysgu. Cyhoeddir manylion llawn y modiwlau a'r dull addysgu yn llawlyfr y rhaglen.
5. Partneriaeth â Chyflogwyr
5.1
Bydd y Brifysgol yn sicrhau bod cyflogwyr yn cael eu cynnwys yn uniongyrchol wrth gynllunio, cymeradwyo, darparu, asesu ac adolygu Graddau Sylfaen.
6. Terfynau Amser
6.1
Bydd Graddau Sylfaen amser llawn yn para am ddwy flynedd galendr o leiaf a thair blynedd calendr ar y mwyaf o ddechrau'r rhaglen.
6.2
Ni fydd Gradd Sylfaen ran-amser yn para am lai na dwy flynedd galendr na mwy na phedair blynedd galendr o ddechrau'r rhaglen.
6.3
Gall union gyfnod ymgeisyddiaeth myfyrwyr sy’n astudio am Radd Sylfaen amrywio gan ddibynnu ar strwythur y rhaglen.
6.4
Lle caniateir eithriadau credydau, gellir lleihau cyfnod ymgeisyddiaeth myfyrwyr penodol, gan ddibynnu ar faint o gredydau sy'n cael eu trosglwyddo o astudio blaenorol (fel yr amlygir yn Rheoliad 8). Bydd Prifysgol Abertawe'n pennu cyfnod yr ymgeisyddiaeth wrth dderbyn y myfyriwr.
7. Estyn Terfynau Amser
7.1
Gellir estyn terfynau amser y rhaglen radd, fel y'i nodir yn Rheoliad 6.1 ac yn llawlyfr y rhaglen, ar gyfer myfyrwyr unigol ar sail amgylchiadau esgusodol, ond mewn achosion eithriadol yn unig, ac yn unol â'r meini prawf canlynol:
- Fel rheol, ni chaniateir estyniadau ond ar seiliau trugarog, neu mewn achosion o salwch neu anawsterau difrifol yn y cartref, neu anawsterau difrifol yn y gwaith lle gellir dangos eu bod wedi effeithio’n niweidiol ar y myfyriwr. Rhaid i’r Gyfadran/Ysgol academaidd wneud achos llawn a rhesymegol, wedi'i ategu gan dystiolaeth feddygol briodol neu dystiolaeth annibynnol arall, i’r Brifysgol ei ystyried.
- Mewn achosion sy’n deillio o salwch:
- rhaid darparu tystiolaeth feddygol foddhaol, gan gynnwys tystysgrif feddygol.
- Rhaid darparu datganiad clir, sy'n dangos bod y sefydliad partner a/neu'r Gyfadran/Ysgol academaidd dan sylw wedi gwerthuso sefyllfa’r myfyriwr o ganlyniad i’r salwch a bod yr estyniad y gwneir cais amdano yn briodol yn eu barn. Lle bynnag y bo modd, dylid cyflwyno'r fath ddatganiad yn dilyn cyswllt uniongyrchol rhwng y myfyriwr a'r sefydliad partner a/neu'r Gyfadran/Ysgol academaidd fewnol.
7.2
Rhaid cyflwyno ceisiadau am estyniad i'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg, a chaiff yr achos ei ystyried yn weinyddol ar ran y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau.
8. Trosglwyddo Credydau
8.1
Lle caniateir trosglwyddo credydau, ni fydd uchafswm y credydau a dderbynnir tuag at y Radd Sylfaen yn uwch na 90 o gredydau ar Lefel 4 y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol.
Caiff ceisiadau i drosglwyddo credydau eu hystyried yn unol â pholisi a gweithdrefnau Prifysgol Abertawe ar gyfer cydnabod dysgu blaenorol.
9. Modiwlau Craidd
9.1
Modiwlau craidd yw modiwlau y nodwyd eu bod yn sylfaenol i raglen astudio. Mae'n rhaid astudio modiwlau craidd a'u pasio cyn i fyfyriwr allu cymhwyso am ddyfarniad. Mae’n rhaid gwneud yn iawn am unrhyw fodiwlau craidd sy’n cael eu methu. Caiff unrhyw fodiwlau craidd eu hamlygu yn llawlyfr y rhaglen.
10. Llawlyfr
10.1
Darperir llawlyfr rhaglen ar ffurf copi caled a/neu ar ffurf electronig i bob myfyriwr ar ddechrau'r rhaglen astudio neu cyn hynny.
11. Ymgysylltu Myfyrwyr
11.1
Mae'r Brifysgol yn disgwyl i fyfyrwyr fodloni'r gofynion ymgysylltu a amlinellir yn Datganiad ar Ymgysylltu.
11.2
Yn ogystal, mae'r Brifysgol yn disgwyl i fyfyrwyr fynychu'r holl leoliadau gwaith sy'n gysylltiedig â phob modiwl.
12. Myfyrwyr Rhyngwladol a Gofynion Teitheb
12.1
Os oes angen fisa ar fyfyrwyr rhyngwladol i'w galluogi i astudio yn y Brifysgol, dylent sylwi bod eu hawl i astudio yn y Brifysgol yn amodol ar fodloni amodau eu fisa a'r terfynau amser a bennir gan Fisâu a Mewnfudo’r Deyrnas Unedig (UKVI). Am ragor o wybodaeth ewch i http://www.ukba.homeoffice.gov.uk/visas-immigration/studying/.
12.2
Gwneir penderfyniadau gan y Brifysgol o ran statws cofrestru, perfformiad academaidd, dilyniant a dyfarniad myfyriwr, yn unol â rheoliadau academaidd ac ariannol y Brifysgol, ac ni fydd y cyfyngiadau o ran fisa nac amser a bennir gan Fisâu a Mewnfudo'r Deyrnas Unedig yn effeithio arnynt. Fodd bynnag, mae'r hawl i barhau i astudio yn amodol ar fodloni gofynion cofrestru'r Brifysgol ac ar ganllawiau Fisâu a Mewnfudo y DU sy'n dweud bod fisa yn hanfodol. Ni chaiff myfyriwr rhyngwladol sy'n cymhwyso i symud i'r lefel astudio nesaf, neu'r flwyddyn astudio nesaf, barhau i astudio yn y Brifysgol heb fisa ddilys.
Dylai myfyrwyr sydd â phryderon neu gwestiynau ynghylch eu fisa gysylltu â Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr Rhyngwladol y Brifysgol.
13. Gohirio Astudiaethau
13.1
Cydnabyddir y gall myfyrwyr deimlo, am resymau amrywiol, fod yn rhaid iddynt gael saib o’u hastudiaethau am ran o sesiwn academaidd neu am y sesiwn gyfan. Mewn achosion o’r fath, gall myfyrwyr gyflwyno cais i ohirio eu hastudiaethau. Ymdrinnir â cheisiadau i ohirio astudiaethau yn unol â'r gweithdrefnau a amlinellir yn llawlyfr y rhaglen.
14. Cyflwyno Gwaith yn Hwyr
14.1
Pennir dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno gwaith, ac fe'u cyhoeddir yn llawlyfr y rhaglen. Cyhoeddir y cosbau am gyflwyno gwaith yn hwyr yn llawlyfr y rhaglen.
15. Darpariaeth Arbennig
15.1
Cyfrifoldeb y myfyriwr yw hysbysu'r sefydliad partner neu’r Gyfadran/Ysgol academaidd dan sylw yn y Brifysgol am unrhyw anabledd neu unrhyw amgylchiadau esgusodol a allai olygu bod angen darpariaethau arbennig mewn asesiad. Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr gyflwyno'r dogfennau priodol i ategu cais. Bydd pob cais, boed o ganlyniad i anabledd hirdymor neu amgylchiadau tymor byr, yn cael ei nodi ar y ffurflen briodol a’i ategu gan dystiolaeth ysgrifenedig os oes modd. Rhaid cyflwyno pob cais i'r Gyfadran/Ysgol yn unol â'r gweithdrefnau a amlinellir yn llawlyfr y rhaglen.
16. Apeliadau Academaidd
16.1
Bydd manylion y weithdrefn Apeliadau Academaidd ar gael i fyfyrwyr yn llawlyfr y rhaglen. Bydd gan bob myfyriwr hawl i gael adolygiad terfynol o benderfyniad ar apêl academaidd trwy weithdrefnau Adolygiad Terfynol y Brifysgol.
16.2
Bydd myfyriwr sy’n cyflwyno apêl yng nghanol lefel neu flwyddyn yn gallu parhau ar sail dros dro hyd nes y gwneir penderfyniad. Mae hyn i sicrhau na fydd myfyriwr dan anfantais academaidd os caiff ei apêl ei chefnogi'n ddiweddarach.
17. Camymddygiad Academaidd
17.1
Bydd manylion y weithdrefn Camymddygiad Academaidd ar gael i fyfyrwyr yn llawlyfr y rhaglen. Bydd gan bob myfyriwr hawl i gael adolygiad terfynol trwy weithdrefnau Adolygiad Terfynol y Brifysgol.
18. Cwynion
18.1
Bydd manylion y weithdrefn Cwynion ar gael i fyfyrwyr yn llawlyfr y rhaglen. Bydd gan bob myfyriwr hawl i gael adolygiad terfynol trwy weithdrefnau Adolygiad Terfynol y Brifysgol.
19. Disgyblu
19.1
Bydd manylion y weithdrefn Disgyblu ar gael i fyfyrwyr yn llawlyfr y rhaglen. Bydd gan bob myfyriwr hawl i gael adolygiad terfynol trwy weithdrefnau Adolygiad Terfynol y Brifysgol.
20. Cymwysterau Ymadael
20.1
Gallai myfyriwr sy'n cael ei dderbyn i Radd Sylfaen, ond sydd wedyn yn methu cwblhau'r radd, neu os na chaniateir iddo symud ymlaen i'w chwblhau, fod yn gymwys i dderbyn Tystysgrif Addysg Uwch.
20.2
Cyhoeddir manylion llawn y meini prawf cymhwyso yn y rheoliadau asesu ar gyfer y radd sylfaen benodol ac yn llawlyfr y rhaglen.
20.3
Bydd myfyriwr sy'n gadael rhaglen gradd sylfaen â Thystysgrif Addysg Uwch o dan yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff 22.1 yn gymwys i dderbyn Rhagoriaeth os bydd wedi ennill marc o 70% neu'n uwch yn gyffredinol am y dyfarniad dan sylw.
21. Cymhwysedd am Ddyfarniad
21.1
I fod yn gymwys i gael eu hystyried i dderbyn Gradd Sylfaen o Brifysgol Abertawe, rhaid i fyfyrwyr fynychu a chwblhau modiwlau, o fewn y cyfnod hwyaf a ganiateir, cwblhau gwerth 240 o gredydau ar Lefelau 4 a 5 y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch (gwneir addasiadau ar gyfer myfyrwyr a dderbynnir o dan y rheoliadau trosglwyddo credydau), a rhaid eu bod wedi bodloni gofynion y rheoliadau asesu.
22. Derbyn i’r Dyfarniad
22.1
Er mwyn bod yn gymwys i’w hystyried am ddyfarniad Prifysgol Abertawe, rhaid i fyfyrwyr fod wedi gwneud y canlynol:
- Dilyn rhaglen astudio gymeradwy am y cyfnod a bennir gan y Brifysgol;
- Astudio isafswm o 240 o gredydau, gan gynnwys isafswm o 90 o gredydau ar Lefel 5 (gwneir addasiadau ar gyfer myfyrwyr a dderbynnir o dan y rheoliadau trosglwyddo credydau);
- Bodloni unrhyw amod(au) ychwanegol a bennir gan y sefydliad partner a/neu'r Brifysgol.
23. Cymhwyso am radd Pasio, Pasio â Chlod, neu â Rhagoriaeth
23.1
Dyfernir Graddau Sylfaen ar sail Pasio, Clod, a Rhagoriaeth, yn unol â'r canlynol:
Rhagoriaeth: 80% - 100%
Teilyngdod: 60% - 79%
Pasio: 40% - 59%
Methu: <40%
23.2
Cyfrifir y cyfartaleddau uchod ar sail y marc cyfartaledd pwysedig am bob modiwl Gradd Sylfaen Prifysgol Abertawe sy'n cyfrannu at y dyfarniad (h.y. 240 o gredydau fel arfer).
23.3
Yn achos myfyrwyr a dderbynnir yn unol â'r rheoliadau trosglwyddo credydau, cyfrifir y cyfartaledd pwysedig ar sail modiwlau sy'n cael eu hastudio ym Mhrifysgol Abertawe yn unig.
24. Graddau Aegrotat
24.1
Gellir rhoi dyfarniad Aegrotat i fyfyriwr nad yw'n gallu parhau i astudio, ar y rhagdybiaeth y byddai wedi bodloni'r safon angenrheidiol ar gyfer y dyfarniad pe bai wedi gallu parhau i astudio.
24.2
Gwneir dyfarniad Gradd Aegrotat yn unol â'r Rheoliadau ar gyfer Dyfarnu Graddau, Diplomâu, a Thystysgrifau Aegrotat.
25. Graddau ar ôl Marwolaeth
25.1
Gellir dyfarnu cymhwyster ar ôl marwolaeth i fyfyriwr sydd wedi marw ac sydd wedi cwblhau digon o'i astudiaethau ar gyfer y dyfarniad. Gwneir dyfarniad Gradd ar ôl marwolaeth yn unol â'r Rheoliadau ar gyfer Dyfarniadau Ar Ôl Marwolaeth.
RHEOLIADAU ASESU AR GYFER GRADDAU SYLFAEN
Rheoliadau Asesu Cyffredinol:
G1
Er mwyn cwblhau'r Radd Sylfaen, rhaid i fyfyriwr astudio modiwlau gwerth cyfanswm o 240 o gredydau. 40% yw’r marc pasio ar gyfer pob modiwl. Ni chaiff credydau eu dyfarnu ond ar gyfer modiwlau sy’n cael eu pasio.
G2
Bydd myfyrwyr sy'n pasio pob modiwl â marc o 40% neu fwy yn cymhwyso'n awtomatig i barhau â'u hastudiaethau a/neu symud ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf. (Caiff Cyfadrannau/Ysgolion bennu gofynion ychwanegol, ond rhaid iddynt hysbysu myfyrwyr am y rhain.)
G3
Gellir gwneud penderfyniadau ar ddilyniant myfyrwyr gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol ar ddiwedd semester/tymor neu ar ddiwedd blwyddyn academaidd lawn, pan fydd y cydrannau a addysgir wedi'u cwblhau.
G4
Gwneir penderfyniadau ar ddyfarniadau myfyrwyr gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol ar ddiwedd y rhaglen, pan fydd y cydrannau a addysgir a'r cydrannau dysgu ar sail gwaith wedi'u cwblhau.
G5
Gellir caniatáu i fyfyrwyr symud ymlaen gyda nifer cyfyngedig o fodiwlau a fethwyd y flwyddyn. Cyfeirir at fethiannau o’r fath fel "methiannau a ddigolledir”. Bydd credydau'n cael eu dyfarnu ar gyfer methiannau a ddigolledir. Darperir rheolau ar gyfer cymhwyso methiant a ddigolledir dan 'Reoliadau Asesu Penodol' ar gyfer pob rhaglen astudio.
G6
Bydd myfyrwyr sy'n methu unrhyw fodiwl yn cael un cyfle yn unig i wneud yn iawn am y methiant, fel arfer drwy ymgymryd ag asesiad atodol. Fel arfer, caiff y cyfle hwn ei gynnig yn awtomatig i fyfyrwyr sy'n methu unrhyw fodiwl oni bai na chaniateir hyn yn ôl rheoliadau penodol y cynllun.
G7
Bydd myfyrwyr sy'n gorfod ymgymryd ag asesiadau atodol yn gwneud hynny yn y cyfnod asesu priodol nesaf ar gyfer y rhaglen astudio, a allai fod y tu allan i'r cyfnodau asesu ffurfiol. Hysbysir myfyrwyr am ddull ac amser cyfleodd i wneud asesiad atodol drwy lawlyfr y rhaglen.
G8
Ar yr amod y bydd myfyrwyr sy'n ymgymryd ag asesiadau atodol mewn modiwlau a fethwyd yn bodloni'r arholwyr, byddant yn derbyn marc wedi'i gapio o 40%. Defnyddir y marc wedi'i gapio wrth benderfynu ar ddosbarthiad y dyfarniad terfynol.
G9
Bydd myfyrwyr sy'n dewis peidio â cheisio gwneud yn iawn am fodiwl a fethwyd yn derbyn marc o 0%, ac fel arfer ni chânt gyfle arall.
G10
Wrth wneud penderfyniadau ynghylch dilyniant myfyrwyr yn dilyn asesiadau atodol, bydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau yn cyfeirio at y marc gorau a enillwyd gan y myfyriwr ym mhob modiwl penodol yn ystod y sesiwn.
G11
Ni chaniateir i fyfyrwyr wneud unrhyw asesiad atodol mewn unrhyw fodiwl a basiwyd er mwyn gwella eu perfformiad.
G12
Cydnabyddir na fydd rhai myfyrwyr yn gallu mynychu arholiadau e.e. oherwydd salwch neu amgylchiadau esgusodol eraill. Cydnabyddir felly y caniateir i'r fath fyfyrwyr gyflwyno cais i sefyll y fath arholiadau fel arholiadau wedi'u gohirio.
Caiff ceisiadau i ohirio arholiadau eu hystyried yn unol â'r gweithdrefnau a gyhoeddir yn llawlyfr y rhaglen.
G13
Ni fydd myfyrwyr sy'n cael penderfyniad "Tynnu'n ôl o'r Brifysgol" yn cael cyfle arall i wneud yn iawn am fodiwlau a fethwyd.
G14
Fel arfer, y rheolau a amlinellir yn Rheoliadau Penodol Rhaglen: Dilyniant a Dyfarniad fydd yn dylanwadu ar benderfyniad Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol ar ddilyniant myfyrwyr. Fodd bynnag, gall Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol ystyried amgylchiadau eraill sy’n berthnasol i achos y myfyriwr cyn gwneud unrhyw benderfyniad ynghylch dilyniant. Ni fyddai disgwyl i'r Bwrdd ganiatáu i fyfyriwr symud ymlaen oni bai ei fod wedi bodloni'r meini prawf gofynnol.
G15
Cymhwyster Ymadael
Os yw myfyriwr yn cael ei dderbyn ar raglen Gradd Sylfaen ond os na all symud ymlaen i'w chwblhau neu ni chaniateir iddo wneud hynny, gan ddibynnu ar nifer y credydau a enillwyd ar y lefelau priodol ar adeg ymadael, gall fod yn gymwys i dderbyn un o'r dyfarniadau canlynol:
Cymhwyster Ymadael | Lleiafswm y credydau a astudiwyd | Lleiafswm y credydau a enillwyd |
---|---|---|
Tystysgrif Addysg Uwch | Cyfanswm o 120 |
80 credyd 100 o gredydau ar gyfer Graddau Sylfaen Peirianneg |
Tystysgrif Addysg Uwch | Cyfanswm o 120 credyd | 120 o gredydau ar gyfer Peirianneg Awyrofod a Gweithgynhyrchu |
Gall myfyriwr sy'n gadael rhaglen gradd sylfaen â Thystysgrif Addysg Uwch fod yn gymwys i dderbyn Rhagoriaeth os bydd wedi ennill marc cyfartalog cyffredinol o 70% neu uwch, neu 60% am deilyngdod.
Dylid cymeradwyo'r fath gymwysterau ymadael gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol.
Rheoliadau Penodol: Dilyniant a Dyfarnu
Graddau Sylfaen Peirianneg mewn partneriaeth â Grŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot a Choleg Sir Benfro.
FdEng mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig
FdEng mewn Peirianneg Fecanyddol
FdEng mewn Gweithrediadau Proses a Chynnal a Chadw
FdEng mewn Electroneg Offeryniaeth
FdEng mewn Systemau Pŵer Peirianneg
Defnyddir y rheoliadau hyn gan y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu a gynhelir fel arfer ym mis Medi yn dilyn unrhyw gyfleoedd am asesiad atodol. Fel arfer gwneir penderfyniadau ynghylch dilyniant ar sail modiwlau a addysgir.
S1
Bydd myfyrwyr sy'n pasio'r holl fodiwlau a addysgir, gan ennill marc o 40% neu uwch, yn cymhwyso'n awtomatig i barhau â'u hastudiaethau a byddant yn symud ymlaen i'r flwyddyn nesaf.
S2
Os yw myfyrwyr yn methu hyd at 20 credyd y flwyddyn astudio, ond wedi ennill o leiaf 30% ym mhob methiant ac wedi pasio'r holl fodiwlau craidd a addysgir, byddant yn cymhwyso i barhau â'u hastudiaethau a symud ymlaen i'r flwyddyn nesaf.
S3
Os yw myfyrwyr yn methu bodloni'r meini prawf yn S2 uchod ar ôl cael un cyfle i wneud yn iawn am unrhyw fethiannau, bydd yn ofynnol iddynt dynnu'n ôl o'r rhaglen astudio. Gan ddibynnu ar nifer y credydau a ddyfarnwyd, gellir ystyried y fath fyfyrwyr am gymhwyster ymadael.
S4
Bydd perfformiad myfyrwyr mewn modiwlau dysgu ar sail gwaith yn cael ei ystyried gan y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu. Bydd myfyrwyr nad ydynt wedi cwblhau modiwl(au) dysgu ar sail gwaith yn cael caniatâd i drosglwyddo'r modiwl(au) i'r flwyddyn ganlynol.
S5
Gellir caniatáu i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau a methu'r modiwl(au) ar sail gwaith symud ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf, ond cânt un cyfle i wneud yn iawn am y methiant drwy ailgyflwyno'r asesiad ar gyfer y modiwl(au) dysgu ar sail gwaith. Uchafswm y marc y gellir ei ennill ar gyfer ail-wneud unrhyw fodiwlau dysgu ar sail gwaith fydd 40%.
S6
Os yw myfyrwyr yn ail-wneud modiwl dysgu ar sail gwaith ac yn methu ennill marc pasio ar yr ail ymgais, bydd yn ofynnol iddynt dynnu'n ôl o'r rhaglen. Gan ddibynnu ar nifer y credydau a ddyfarnwyd, gellir ystyried y fath fyfyrwyr am gymhwyster ymadael.
S7
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y rhaglen Gradd Sylfaen, mae'n rhaid bod myfyrwyr wedi cronni o leiaf 200 o gredydau, a dim mwy na 40 o gredydau o fethiannau a ddigolledir a marciau llwyddo ym mhob modiwl craidd.
Gradd Sylfaen y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
FdSci Cyfrifiadureg
Defnyddir y rheoliadau hyn yn y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu a gynhelir fel arfer ar ddiwedd pob tymor, yn dilyn cyfle asesu atodol. Wrth gytuno ar benderfyniad ynghylch dilyniant neu ddyfarniad, bydd y Bwrdd yn cyfeirio at ganlyniadau'r holl fodiwlau a astudiwyd, fel y'u cronnwyd, yn ystod tymhorau pob blwyddyn astudio.
Rheolau i'w defnyddio gan y Bwrdd Dilyniant ar ddiwedd y tymor cyntaf, yr ail dymor, y pedwerydd tymor, a'r pumed tymor:
S1
Bydd myfyrwyr sy'n pasio pob modiwl gan ennill marc o 40% neu fwy yn gymwys, yn awtomatig, i symud i'r tymor astudio nesaf.
S2
Bydd myfyrwyr sy'n methu hyd at 40 o gredydau, ond sydd wedi ennill isafswm o 30% ym mhob modiwl a fethwyd, ac sydd wedi pasio'r holl fodiwlau craidd, yn gymwys i symud i'r tymor astudio nesaf. Cyfeirir at fethiannau o’r fath fel "methiannau a ddigolledir". Ni ddyfernir credydau ar gyfer methiannau a ddigolledir.
S3
Bydd myfyrwyr sy'n methu hyd at 40 o gredydau, ond sydd wedi cael isafswm o 30% ym mhob modiwl a fethwyd, ac sydd wedi pasio'r holl fodiwlau craidd, yn gymwys i symud i'r trimester astudio nesaf. Cyfeirir at fethiannau o’r fath fel "methiannau a ddigolledir". Bydd credydau'n cael eu dyfarnu ar gyfer methiannau a ddigolledir.
Rheolau i'w defnyddio gan y Bwrdd Dilyniant ar ddiwedd y trydydd tymor (diwedd Lefel un):
S4
Tybir bod myfyrwyr sydd wedi pasio pob modiwl (120 o gredydau) gan ennill marc o 40% neu uwch wedi cwblhau Lefel 1 a byddant yn gymwys, yn awtomatig, i symud i'r tymor astudio nesaf.
S5
Tybir bod myfyrwyr sy'n methu hyd at 40 o gredydau, ond sydd wedi ennill isafswm o 30% ym mhob modiwl a fethwyd, ac sydd wedi pasio'r holl fodiwlau craidd, wedi cwblhau Lefel 1 ac yn gymwys i symud i'r tymor astudio nesaf. Cyfeirir at fethiannau o’r fath fel "methiannau a ddigolledir”. Bydd credydau'n cael eu dyfarnu ar gyfer methiannau a ddigolledir.
S6
Tybir bod myfyrwyr sy'n methu mwy na 40 o gredydau, neu sydd wedi methu unrhyw fodiwl craidd, neu sydd wedi ennill marc o lai na 30% mewn unrhyw fodiwl, wedi "Methu". Gallai'r fath fyfyrwyr, gan ddibynnu ar nifer y credydau a gronnwyd, fod yn gymwys i dderbyn dyfarniad ymadael (gweler G15).
Rheolau i'w defnyddio wrth ystyried dyfarniad ar ddiwedd y chweched tymor (diwedd Lefel dau):
S7
Tybir bod myfyrwyr sydd wedi pasio pob modiwl (120 o gredydau) gan ennill marc o 40% o leiaf wedi cwblhau Lefel 2 ac yn gymwys, yn awtomatig, i gael eu hystyried am ddyfarniad.
S8
Tybir bod myfyrwyr sy'n methu hyd at 40 o gredydau, ond sydd wedi ennill isafswm o 30% ym mhob modiwl a fethwyd, ac sydd wedi pasio'r holl fodiwlau craidd, wedi cwblhau Lefel 2 a byddant yn gymwys i gael eu hystyried am ddyfarniad. Cyfeirir at fethiannau o’r fath fel "methiannau a ddigolledir”. Bydd credydau'n cael eu dyfarnu ar gyfer methiannau a ddigolledir.
S9
Dyfernir Gradd Sylfaen i fyfyrwyr yn unol â Rheoliad 23 o'r Rheoliadau ar gyfer Graddau Sylfaen.
S10
Tybir bod myfyrwyr sy'n methu mwy na 40 o gredydau, neu sydd wedi methu modiwl craidd, neu sydd wedi derbyn marc o lai na 30% mewn unrhyw fodiwl, wedi "Methu". Gallai'r fath fyfyrwyr, gan ddibynnu ar nifer y credydau a gronnwyd, fod yn gymwys i dderbyn dyfarniad ymadael (gweler G15).
Gradd Sylfaen mewn partneriaeth â Choleg Cambria
FdEng Peirianneg Awyrofod a Gweithgynhyrchu
FdEng Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch
Defnyddir y rheoliadau hyn gan y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu a gynhelir fel arfer ym mis Medi yn dilyn unrhyw gyfleoedd am asesiad atodol. Fel arfer, gwneir penderfyniadau ynghylch dilyniant ar sail modiwlau a addysgir.
Rheolau i'w defnyddio yn ystod y Bwrdd Arholi Interim perthnasol (Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2):
S1
Bydd myfyrwyr sy'n pasio'r holl fodiwlau a phob cydran asesu ar y lefel astudio, gan ennill marc o 40% neu uwch yn gymwys yn awtomatig i symud ymlaen.
S2
Mae'r holl fodiwlau'n rhai craidd ac felly ni fydd cyfle i ddigolledu modiwlau a fethwyd neu elfennau asesu a fethwyd.
S3
Caiff myfyrwyr un cyfle yn unig i wneud yn iawn am fethiant (ailsefyll) mewn unrhyw gydran asesu. Os yw'r myfyriwr yn pasio'r gydran asesu ar yr ail ymgais, bydd marc yr asesiad wedi'i gapio ar 40%. Os nad yw'r myfyriwr yn pasio'r gydran asesu, cofnodir y marc gorau sy'n cael ei ennill a chyfrifir y marc cyffredinol am y modiwl. Coleg Cambria, gan ymgynghori â Phrifysgol Abertawe, fydd yn penderfynu ar amseru'r cyfle i ailsefyll.
S4
Er mwyn symud ymlaen o un lefel i'r un nesaf, rhaid i fyfyrwyr gronni 120 o gredydau drwy basio modiwlau â marc o 40% neu well ym mhob modiwl.
S5
Os nad yw myfyrwyr yn ennill marc o 40% neu uwch mewn unrhyw elfen asesu ar yr ail ymgais, ni fyddant yn gymwys i symud ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf. Fel rheol, ni fydd ymgeiswyr o'r fath yn cael cyfle arall i wneud yn iawn am y methiant a'r penderfyniad fydd "methu".
S6
Bydd myfyrwyr sy'n methu cwblhau lefel astudio yn derbyn penderfyniad academaidd o Dynnu'n ôl o'r Brifysgol yn ofynnol.
S7
Caiff canlyniadau modiwlau a addysgir (ac eithrio'r modiwl prosiect ar sail gwaith) yn cael eu hystyried a'u cadarnhau yn y Bwrdd Arholi Interim.
S8
Bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol yn penderfynu ar ddyfarniadau myfyrwyr ar ddiwedd y flwyddyn academaidd lawn, pan fydd y set lawn o ganlyniadau modiwlau, gan gynnwys y modiwl dysgu ar sail gwaith, ar gael.
Rheolau i'w defnyddio gan Fwrdd Dyfarnu diwedd Blwyddyn 2
S9
Bydd myfyrwyr sy'n pasio'r holl elfennau asesu mewn modiwl (cyfanswm o 120 o gredydau), gan gynnwys y modiwl dysgu ar sail gwaith, gan ennill marc o 40% neu uwch, yn cymhwyso’n awtomatig i gael eu hystyried am ddyfarniad Gradd Sylfaen.
S10
Dyfernir Gradd Sylfaen i fyfyrwyr yn unol â Rheoliadau 23 i 25 o'r rheoliadau ar gyfer Graddau Sylfaen.
S11
Ni fydd myfyrwyr sy'n methu mewn unrhyw fodiwl ar ôl yr ymgais atodol yn gymwys i'w hystyried am ddyfarniad y radd sylfaen. Fel rheol, ni fydd ymgeiswyr o'r fath yn cael cyfle arall i wneud yn iawn am y methiant neu'r methiannau a chânt eu tynnu’n ôl o'r rhaglen a'r Brifysgol. Gellir ystyried ymgeiswyr am ddyfarniad cymhwyster Ymadael.
FdSc mewn Rheoli Busnes Cymhwysol gyda Choleg Cambria
Rheoliadau Asesu Cyffredinol
G1
Er mwyn cwblhau'r radd, rhaid i ddysgwr astudio cydrannau asesu o fewn modiwlau gan gronni cyfanswm o 240 o gredydau. Y marc pasio ar gyfer pob cydran asesu/modiwl yw 40%. Ni chaiff credydau eu dyfarnu ar gyfer modiwlau oni bai fod yr holl gydrannau asesu wedi'u pasio.
G2
Bydd dysgwyr sy'n pasio pob modiwl a aseswyd â marc o 40% neu uwch yn cymhwyso'n awtomatig i barhau â'u hastudiaethau a/neu i symud ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf. (Gweler y Rheoliadau Asesu Penodol).
G3
Gall Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol wneud penderfyniadau ar ddilyniant dysgwyr ar ddiwedd semester/tymor neu ar ddiwedd blwyddyn academaidd lawn, pan fyddant wedi pasio'r cydrannau asesu a addysgir.
G4
Bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol yn gwneud penderfyniadau ar ddyfarniadau dysgwyr ar ddiwedd y rhaglen, pan fyddant wedi pasio'r holl gydrannau asesu.
G5
Bydd dysgwyr sy'n methu unrhyw gydran asesu yn cael un cyfle yn unig i wneud iawn am y methiant, fel arfer drwy gwblhau asesiad atodol. Fel arfer, bydd dysgwyr sy'n methu cydran asesu yn cael cynnig i ailsefyll yn awtomatig, oni bai nad yw rheoliadau penodol y cynllun yn caniatáu hyn.
G6
Os bydd angen i ddysgwyr gwblhau asesiad atodol, byddant yn ymgymryd ag asesiadau o'r fath ar yr adeg asesu briodol nesaf ar gyfer y rhaglen astudio, a all fod y tu allan i'r cyfnodau asesu ffurfiol. Darperir manylion am ddull ac amserau'r cyfleoedd i wneud asesiad atodol i ddysgwyr drwy lawlyfr y rhaglen.
G7
Bydd dysgwyr sy'n gorfod ymgymryd ag asesiad atodol ar ôl methu cydran asesu yn derbyn marc nad yw'n uwch na 40%. Defnyddir y marc wedi'i gapio wrth benderfynu ar ddosbarthiad y dyfarniad terfynol.
G8
Os yw dysgwyr yn dewis peidio â cheisio gwneud iawn am fodiwl a fethwyd, byddant yn derbyn marc o 0%, ac fel arfer ni fyddant yn cael cynnig cyfle arall.
G9
Wrth benderfynu ar ddilyniant dysgwyr yn dilyn asesiadau atodol, bydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'n cyfeirio at y marc gorau a enillwyd gan y dysgwr.
G10
Ni chaniateir i ddysgwyr ymgymryd ag asesiad atodol ar gyfer modiwlau maent wedi'u pasio eisoes er mwyn gwella eu perfformiad.
G11
Cydnabyddir na fydd rhai dysgwyr yn gallu mynychu arholiadau e.e. oherwydd salwch neu amgylchiadau esgusodol eraill. Cydnabyddir felly y caniateir i'r myfyrwyr hyn gyflwyno cais i sefyll yr arholiadau dan sylw fel arholiadau wedi'u gohirio.
Caiff ceisiadau i ohirio arholiadau eu hystyried yn unol â'r gweithdrefnau a gyhoeddir yn llawlyfr y rhaglen.
G12
Ni fydd dysgwyr sy'n cael penderfyniad "Gorfod Tynnu'n Ôl o'r Brifysgol" yn cael cyfle arall i wneud iawn am fodiwlau a fethwyd.
G13
Fel arfer, y rheolau a amlinellir yn Rheoliadau Penodol Rhaglen: Dilyniant a Dyfarniad fydd yn dylanwadu ar Fwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol wrth benderfynu ar ddilyniant dysgwyr. Fodd bynnag, gall Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol ystyried amgylchiadau eraill sy’n berthnasol i achos y dysgwr cyn penderfynu ynghylch dilyniant. Ni fyddai disgwyl i'r Bwrdd ganiatáu i ddysgwr symud ymlaen oni bai ei fod wedi bodloni isafswm y meini prawf gofynnol.
G14
Cymwysterau Ymadael
Os yw dysgwr sydd wedi'i dderbyn i raglen Gradd yn methu pasio'r cydrannau asesu gofynnol i symud ymlaen i gwblhau, neu os na chaniateir iddo wneud hynny, gan ddibynnu ar nifer y credydau a gronnwyd ar y lefelau priodol, gall gymhwyso adeg ymadael am un o'r dyfarniadau canlynol:
Cymhwyster Ymadael |
Rhaid bod y dysgwr wedi astudio lleiafswm y credydau sy'n ofynnol |
Rhaid bod y dysgwr wedi ennill lleiafswm y credydau sy'n ofynnol |
Tystysgrif Addysg Uwch |
Cyfanswm o 120 o gredydau |
120 o gredydau ar gyfer Rheoli Busnes Cymhwysol |
Gall dysgwr sy'n gadael rhaglen gradd Sylfaen â Thystysgrif Addysg Uwch fod yn gymwys i dderbyn Rhagoriaeth os bydd wedi ennill marc cyfartalog cyffredinol o 80% neu uwch, neu 60% am deilyngdod. Dylid cymeradwyo cymwysterau ymadael o'r fath gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol.
Rheoliadau Asesu Penodol: Dilyniant a Dyfarniadau
Bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol yn ystyried cynnydd dysgwr ddwywaith yn ystod pob blwyddyn astudio - hanner ffordd drwy'r flwyddyn, tuag wythnos 17, ac ar ddiwedd y flwyddyn, tuag wythnos 32. Bydd cyfleoedd i ymgymryd ag asesiad atodol yn cael eu cynnig yn awtomatig i ddysgwyr a'u cwblhau cyn i'r dysgwr ddechrau'r cydrannau asesu yn y modiwl nesaf. Bydd penderfyniadau ynghylch dilyniant a wneir hanner ffordd drwy'r flwyddyn yn seiliedig ar ganlyniadau modiwlau a gwblhawyd hyd at y dyddiad hwnnw, gan gynnwys asesiadau atodol. Bydd penderfyniadau ynghylch dilyniant a wneir ym mis Medi yn seiliedig ar ganlyniadau'r holl fodiwlau a ddilynwyd yn ystod y flwyddyn astudio, gan gynnwys asesiadau atodol.
Rheolau i'w defnyddio yn ystod y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau hanner ffordd drwy'r flwyddyn
S1
Bydd dysgwyr sy'n pasio pob cydran asesu ar y lefel astudio, gan ennill marc o 40% neu uwch yn gymwys yn awtomatig i symud ymlaen.
S2
Mae'r holl fodiwlau'n rhai craidd ac felly ni fydd cyfle i fethu modiwlau.
S3
Bydd dysgwyr yn cael un cyfle i wneud iawn am fethu (ailsefyll) mewn unrhyw gydran asesu. (Prifysgol Abertawe fydd yn pennu amser y cyfle i ailsefyll, drwy ymgynghori â'i phartneriaid cydweithredol.) Os yw'r dysgwr yn llwyddiannus wrth ailsefyll y gydran, 40% yw'r marc uchaf y gellir ei ddyfarnu. Os na fydd y dysgwr yn llwyddo yn y gydran asesu, bydd yn ofynnol iddo dynnu'n ôl, a bydd marc cyffredinol y modiwl yn cael ei gyfrifo at ddibenion sefydliadol yn unig.
S4
Os nad yw dysgwyr yn ennill marc pasio o 40% mewn unrhyw gydran asesu, ar ôl cael un cyfle i wneud iawn am y methiant, ni fyddant yn cymhwyso i barhau â'u hastudiaethau. Fel rheol, ni fydd ymgeiswyr o'r fath yn cael cyfle arall i wneud iawn am y methiant a'r penderfyniad fydd 'Gorfod tynnu’n ôl o'r Brifysgol'. Efallai y bydd dysgwyr yn cael eu hystyried am gymhwyster ymadael.
Rheolau i'w defnyddio gan y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau ar ddiwedd Blwyddyn 1:
S5
Os yw dysgwyr yn pasio pob cydran asesu ym mhob modiwl â marc o 40% neu'n uwch, gan gronni cyfanswm o 120 o gredydau, byddant yn cymhwyso'n awtomatig i symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf.
S6
Mae'r holl fodiwlau'n rhai craidd ac felly ni fydd cyfle i fethu modiwlau. Yn ogystal, rhaid pasio pob cydran asesu o fewn modiwl.
S7
Bydd dysgwyr yn cael un cyfle i wneud iawn am fethu (ailsefyll) mewn unrhyw gydran asesu. (Prifysgol Abertawe fydd yn pennu amser y cyfle i ailsefyll, gan ymgynghori â'i phartneriaid cydweithredol.) Os bydd y dysgwr yn llwyddiannus wrth ailsefyll, 40% yw'r marc uchaf y gellir ei ddyfarnu iddo. Os na fydd y dysgwr yn llwyddo yn y gydran asesu, bydd yn ofynnol iddo dynnu'n ôl, a bydd marc cyffredinol y modiwl yn cael ei gyfrifo at ddibenion sefydliadol yn unig.
S8
Os nad yw dysgwyr yn ennill marc pasio o 40% neu uwch mewn unrhyw gydran asesu, ar ôl cael un cyfle i wneud iawn am y methiant, ni fyddant yn cymhwyso i barhau â'u hastudiaethau. Fel rheol, ni fydd yr ymgeiswyr hyn yn cael cyfle arall i wneud iawn am y methiant a'r penderfyniad fydd "Gorfod tynnu'n ôl o'r Brifysgol". Efallai y bydd dysgwyr yn cael eu hystyried am gymhwyster ymadael.
Rheolau i'w defnyddio gan y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau ar ddiwedd Blwyddyn 2:
S9
Os bydd dysgwyr yn pasio pob cydran asesu mewn modiwlau â marc o 40% neu'n uwch, gan gronni cyfanswm o 120 o gredydau, byddant yn cymhwyso'n awtomatig am Ddyfarniad Gradd Sylfaen.
S10
Dyfernir Gradd Sylfaen i ddysgwyr yn unol â Rheoliadau 23 i 25 o'r rheoliadau ar gyfer Graddau Sylfaen.
S11
Os nad yw dysgwyr yn ennill marc pasio o 40% neu uwch mewn unrhyw gydran asesu, ar ôl cael un cyfle i wneud iawn am y methiant, ni fyddant yn cymhwyso am ddyfarniad. Fel rheol, ni fydd y dysgwyr hyn yn cael cyfle arall i wneud iawn am y methiant a'r penderfyniad fydd "methu". Efallai y bydd dysgwyr yn cael eu hystyried am gymhwyster ymadael.
FdSc mewn Rheoli Busnes Cymhwysol (yn berthnasol i fyfyrwyr ym Mlwyddyn 2 yn ystod sesiwn academaidd 2018-2019 yn unig)
Bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol yn ystyried cynnydd myfyrwyr ddwywaith yn ystod pob blwyddyn astudio - hanner ffordd drwy'r flwyddyn, tuag wythnos 17, ac ar ddiwedd y flwyddyn, tuag wythnos 32. Bydd myfyrwyr yn derbyn cyfleoedd asesu atodol yn awtomatig, gan eu cwblhau cyn cwblhau'r modiwl nesaf. Bydd penderfyniadau ynghylch dilyniant a wneir hanner ffordd drwy'r flwyddyn yn seiliedig ar ganlyniadau modiwlau a gwblhawyd hyd at y dyddiad hwnnw, gan gynnwys unrhyw asesiadau atodol. Bydd penderfyniadau ynghylch dilyniant a wneir ym mis Medi yn seiliedig ar ganlyniadau'r holl fodiwlau a ddilynwyd yn ystod y flwyddyn astudio, gan gynnwys unrhyw asesiadau atodol.
Rheolau i'w defnyddio yn ystod y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau hanner ffordd drwy'r flwyddyn
S1
Bydd myfyrwyr sy'n pasio pob modiwl gan ennill o leiaf 40% yn cymhwyso'n awtomatig i symud ymlaen.
S2
Mae'r holl fodiwlau'n rhai craidd, felly ni fydd methiant mewn unrhyw fodiwl yn cael ei oddef.
S3
Caiff myfyrwyr un cyfle yn unig i wneud yn iawn am fethiant (ailsefyll) mewn unrhyw gydran asesu. Os yw'r myfyriwr yn pasio'r gydran asesu ar yr ail ymgais, bydd marc yr asesiad wedi'i gapio ar 40%. Os nad yw'r myfyriwr yn pasio'r gydran asesu, cofnodir y marc gorau sy'n cael ei ennill a chyfrifir y marc cyffredinol am y modiwl. Y Coleg Addysg Bellach fydd yn penderfynu ar amseru'r cyfle i ailsefyll, gan ymgynghori â Phrifysgol Abertawe.
S4
Os nad yw myfyrwyr yn ennill marc pasio o 40% ym mhob modiwl, ar ôl cael un cyfle i wneud yn iawn am y methiant, ni fyddant yn cymhwyso i symud ymlaen â'u hastudiaethau. Fel rheol, ni fydd ymgeiswyr o'r fath yn cael cyfle arall i wneud yn iawn am y methiant a'r penderfyniad fydd "Gorfodi'r myfyriwr i dynnu'n ôl". Gellir ystyried myfyrwyr am ddyfarniad cymhwyster Ymadael.
Rheolau i'w defnyddio ar ddiwedd Blwyddyn 2
S5
Bydd myfyrwyr sy'n pasio'r holl fodiwlau (cyfanswm o 120 o gredydau), gan ennill marc o 40% neu uwch, yn cymhwyso’n awtomatig i gael eu hystyried am ddyfarniad Gradd Sylfaen.
S6
Dyfernir Gradd Sylfaen i fyfyrwyr yn unol â Rheoliad 23 i 25 o'r rheoliadau ar gyfer Graddau Sylfaen.
S7
Os nad yw myfyrwyr yn ennill marc pasio o 40% mewn unrhyw fodiwl, ar ôl cael un cyfle i wneud yn iawn am y methiant, ni fyddant yn cymhwyso i gael eu hystyried am ddyfarniad gradd sylfaen. Fel rheol, ni fydd ymgeiswyr o'r fath yn cael cyfle arall i wneud yn iawn am y methiant neu'r methiannau a'r penderfyniad fydd "Methu”. Gellir ystyried ymgeiswyr am ddyfarniad cymhwyster Ymadael.
FdSc Rheoli Busnes Cymhwysol (myfyrwyr ym Mlwyddyn 1 o fis Medi 2018)
Bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol yn ystyried cynnydd myfyrwyr ddwywaith yn ystod pob blwyddyn astudio - hanner ffordd drwy'r flwyddyn, tuag wythnos 17, ac ar ddiwedd y flwyddyn, tuag wythnos 32. Bydd myfyrwyr yn derbyn cyfleoedd asesu atodol yn awtomatig, gan eu cwblhau cyn cwblhau'r modiwl nesaf. Bydd penderfyniadau ynghylch dilyniant a wneir hanner ffordd drwy'r flwyddyn yn seiliedig ar ganlyniadau modiwlau a gwblhawyd hyd at y dyddiad hwnnw, gan gynnwys unrhyw asesiadau atodol. Bydd penderfyniadau ynghylch dilyniant a wneir ym mis Medi yn seiliedig ar ganlyniadau'r holl fodiwlau a ddilynwyd yn ystod y flwyddyn astudio, gan gynnwys unrhyw asesiadau atodol.
Rheolau i'w defnyddio yn ystod y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau hanner ffordd drwy'r flwyddyn
S1
Bydd myfyrwyr sy'n pasio'r holl fodiwlau a phob cydran asesu ar y lefel astudio, gan ennill marc o 40% neu uwch yn cymhwyso’n awtomatig i symud ymlaen.
S2
Mae'r holl fodiwlau'n rhai craidd, felly ni fydd methiant mewn unrhyw fodiwl yn cael ei oddef. Yn ogystal, rhaid pasio pob cydran asesu o fewn modiwl.
S3
Caiff myfyrwyr un cyfle yn unig i wneud yn iawn am fethiant (ailsefyll) mewn unrhyw gydran asesu. Os yw'r myfyriwr yn pasio'r gydran asesu ar yr ail ymgais, bydd marc yr asesiad wedi'i gapio ar 40%. Os nad yw'r myfyriwr yn pasio'r gydran asesu, cofnodir y marc gorau sy'n cael ei ennill a chyfrifir y marc cyffredinol am y modiwl. Y Coleg Addysg Bellach, gan ymgynghori â Phrifysgol Abertawe, fydd yn penderfynu ar amseru'r cyfle i ailsefyll.
S4
Os nad yw myfyrwyr yn ennill marc pasio o 40% mewn unrhyw gydran asesu, ar ôl cael un cyfle i wneud yn iawn am y methiant, ni fyddant yn cymhwyso i symud ymlaen â'u hastudiaethau. Fel rheol, ni fydd ymgeiswyr o'r fath yn cael cyfle arall i wneud yn iawn am y methiant a'r penderfyniad fydd "Gorfodi'r myfyriwr i dynnu'n ôl o'r Brifysgol". Gellir ystyried myfyrwyr am ddyfarniad cymhwyster Ymadael.
Rheolau i'w defnyddio gan y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau ar ddiwedd Blwyddyn 1:
S5
Os yw myfyrwyr yn cronni 120 o gredydau drwy basio modiwlau gan ennill marc o 40% neu uwch a phasio pob cydran asesu gan ennill marc o 40% neu uwch, byddant yn cymhwyso'n awtomatig i symud ymlaen i'r flwyddyn/lefel astudio nesaf.
S6
Mae'r holl fodiwlau'n rhai craidd, felly ni fydd methiant mewn unrhyw fodiwl yn cael ei oddef. Yn ogystal, rhaid pasio pob cydran asesu o fewn modiwl.
S7
Caiff myfyrwyr un cyfle yn unig i wneud yn iawn am fethiant (ailsefyll) mewn unrhyw gydran asesu. Os yw'r myfyriwr yn pasio'r gydran asesu ar yr ail ymgais, bydd marc yr asesiad wedi'i gapio ar 40%. Os nad yw'r myfyriwr yn pasio'r gydran asesu, cofnodir y marc gorau sy'n cael ei ennill a chyfrifir y marc cyffredinol am y modiwl. Y Coleg Addysg Bellach, gan ymgynghori â Phrifysgol Abertawe, fydd yn penderfynu ar amseru'r cyfle i ailsefyll.
S8
Os nad yw myfyrwyr yn ennill marc pasio o 40% neu uwch mewn unrhyw gydran asesu, ar ôl cael un cyfle i wneud yn iawn am y methiant, ni fyddant yn cymhwyso i symud ymlaen â'u hastudiaethau. Fel rheol, ni fydd ymgeiswyr o'r fath yn cael cyfle arall i wneud yn iawn am y methiant a'r penderfyniad fydd "Gorfodi'r myfyriwr i dynnu'n ô o'r Brifysgol".
Rheolau i'w defnyddio gan y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau ar ddiwedd Blwyddyn 2:
S9
Os yw myfyrwyr yn cronni 120 o gredydau drwy basio modiwlau gan ennill marc o 40% neu uwch a phasio pob cydran asesu gan ennill marc o 40% neu uwch, byddant yn cymhwyso'n awtomatig i gael eu hystyried am ddyfarniad Gradd Sylfaen.
S10
Dyfernir Gradd Sylfaen i fyfyrwyr yn unol â Rheoliad 23 i 25 o'r rheoliadau ar gyfer Graddau Sylfaen.
S11
Os nad yw myfyrwyr yn ennill marc pasio o 40% neu uwch mewn unrhyw gydran asesu, ar ôl cael un cyfle i wneud yn iawn am y methiant, ni fyddant yn cymhwyso am ddyfarniad. Fel rheol, ni fydd ymgeiswyr o'r fath yn cael cyfle arall i wneud yn iawn am y methiant a'r penderfyniad fydd "methu". Gellir ystyried myfyrwyr am ddyfarniad cymhwyster Ymadael.