Saesneg ar Astudiaethau Prifysgol/Cyrsiau Byr ELTS
Rheoliadau Academiadd Saesneg ar gyfer Astudio yn y Brifysgol a Chyrsiau Byr y Gwasanaeth Hyfforddiant Iaith Saesneg (ELTS)
1. Cyflwyniad
1.1
Mae’r rheoliadau hyn yn berthnasol i fyfyrwyr sy’n astudio Saesneg ar gyfer Astudio yn y Brifysgol. Ni fydd y myfyrwyr hyn yn gymwys i gael eu hystyried ar gyfer unrhyw ddyfarniad o Brifysgol Abertawe ac ni fyddant yn gymwys i dderbyn dyfarniad o’r fath.
1.2
Caiff y myfyrwyr hyn eu diffinio fel rhai nad ydynt yn dilyn rhaglen astudio benodol ond yn hytrach yn astudio un modiwl neu nifer cyfyngedig o fodiwlau.
1.3
Mae’n rhaid i’r holl fyfyrwyr gofrestru â’r Brifysgol a thalu’r ffioedd priodol a bennwyd gan y Brifysgol.
2. Amodau Derbyn a Mynediad
2.1
Mae’n rhaid i’r holl ddarpar ymgeiswyr wneud cais i’r Swyddfa Dderbyn Prifysgol Abertawe yn y man gyntaf.
2.2
Fel rheol, bydd gofyn i ymgeiswyr ddangos eu bod yn bodloni’r gofynion mynediad isaf a nodwyd gan Ddarparwr y Gwasanaeth (Gwasanaeth Hyfforddiant Iaith Saesneg).
2.3
Mae’n rhaid i’r ymgeiswyr gydymffurfio â rheoliadau academaidd a chyffredinol y Brifysgol.
2.4
Gosodir gofynion isaf o ran yr iaith Saesneg gan Ddarparwr y Gwasanaeth (Gwasanaeth Hyfforddiant Iaith Saesneg) fel a ganlyn:
2.4.1
Yn achos ymgeiswyr sy’n astudio Saesneg ar gyfer astudio yn y Brifysgol, gofynion isaf o ran yr iaith Saesneg yw isafswm IELTS o 4.0 ym mhob agwedd (neu’r cyfwerth) ar gyfer pawb sy’n dechrau trwy ELTS. Dylai myfyrwyr sydd am gyflawni sgiliau iaith Saesneg er mwyn dechrau cwrs academaidd y mis Medi canlynol ddilyn y canllawiau isod:
Isafswm o 4 (IELTS) gydag isafswm o 4.0 mewn darllen ac ysgrifennu neu gymhwyster cyfatebol ar gyfer ymuno â'r Brifysgol ym mis Hydref;
Isafswm o 4.5 (IELTS) gydag isafswm o 4.5 mewn darllen ac ysgrifennu neu gymhwyster cyfatebol ar gyfer ymuno â'r Brifysgol ym mis Ionawr;
Isafswm o 5 (IELTS) gydag isafswm o 5.0 mewn darllen ac ysgrifennu neu gymhwyster cyfatebol ar gyfer ymuno â'r Brifysgol ym mis Ebrill.
2.4.2
Yn achos ymgeiswyr sy’n astudio cyrsiau byr, gosodir y safonau isaf o ran yr iaith Saesneg gan Ddarparwr y Gwasanaeth (Gwasanaeth Hyfforddiant Iaith Saesneg) fel y bo’n briodol ar gyfer y cwrs astudio byr hwnnw.
3. Strwythur y Semestrau
3.1
Bydd y flwyddyn academaidd wedi’i threfnu yn unol â’r rheoliadau perthnasol fydd ar waith ar y pryd; efallai na fydd yn berthnasol yn achos y myfyrwyr hyn.
4. Cofrestru â’r Brifysgol
4.1
Mae’r Brifysgol yn disgwyl i bob ymgeisydd gofrestru er mwyn cael ei gydnabod fel myfyriwr yn y Brifysgol. Dylai pob ymgeisydd gofrestru yn unol â chyfarwyddiadau cofrestru'r rhaglen astudio benodol ac o fewn y cyfnod cofrestru penodedig.
4.2
Mae’n rhaid i ymgeiswyr gofrestru o fewn y cyfnod a bennwyd ar gyfer cofrestru:
- Os ydynt yn cofrestru yn y brifysgol am y tro cyntaf;
- Os ydynt yn cofrestru ar raglen astudio benodol am y tro cyntaf;
- Os ydynt yn camu ymlaen at lefel nesaf eu hastudiaethau, blwyddyn nesaf eu hastudiaethau neu, mewn rhai achosion, rhan nesaf eu hastudiaethau, ac yn mynychu’n llawn-amser neu’n rhan-amser;
- Os yw’r Brifysgol yn disgwyl i ffi gael ei thalu yn unol â rheoliadau’r Brifysgol o ran cyllid a ffioedd myfyrwyr.
4.3
Er mwyn cofrestru yn y Brifysgol, mae’n ofynnol i ymgeiswyr, lle bo’n berthnasol, ddarparu tystiolaeth o’u hawl i astudio yn y Brifysgol yn unol â:
- Gofynion penodol y rhaglen;
- Rheoliadau’r Brifysgol o ran matriciwleiddio;
- Y ddeddfwriaeth ynghylch astudio yn y Deyrnas Unedig.
4.4
Os bydd ymgeisydd yn methu â chofrestru o fewn y cyfnod penodedig, bydd ei ymgeisyddiaeth yn dod i ben a bydd raid i’r ymgeisydd dynnu'n ôl o’r Brifysgol.
4.5
Bydd y Brifysgol yn hysbysu'r awdurdodau perthnasol, o fewn cyfnod penodol yn unol â deddfau’r Deyrnas Unedig parthed astudio yn y DU, am fyfyrwyr y tynnwyd eu henwau yn ôl oherwydd iddynt fethu â chofrestru ar raglen astudio o fewn y cyfnod cofrestru penodol.
5. Dewis Modiwlau
5.1
Bydd Darparwr y Gwasanaeth (Gwasanaeth Hyfforddiant Iaith Saesneg) yn llunio manylebau'r modiwlau.
6. Llawlyfr
6.1
Darperir manylion cynnwys, deilliannau dysgu a gofynion asesu’r modiwlau i’r myfyrwyr gan Ddarparwr y Gwasanaeth (Gwasanaeth Hyfforddiant Iaith Saesneg).
7. Trosglwyddo Rhwng Modiwlau
7.1
Ni chaniateir trosglwyddo rhwng modiwlau.
8. Ymgysylltu Myfyrwyr
8.1
Mae'r Brifysgol yn disgwyl bod myfyrwyr yn cydymffurfio â'r gofynion ymgysylltu fel y'u hamlinellir yn Datganiad ar Ymgysylltu.
8.2
Yn ogystal, mae’n rhaid i’r holl ymgeiswyr gydymffurfio â’r gofynion ymgysylltu ac asesu, a fydd yn cynnwys rhagofyniad ymgysylltu a bennwyd gan y Gwasanaeth Hyfforddiant Iaith Saesneg (presenoldeb 90%), sefyll arholiadau ar yr adeg a’r dyddiad a nodwyd gan y Brifysgol, ac unrhyw ofynion eraill fel yr amlinellir yn llawlyfr Darparwr y Gwasanaeth (Gwasanaeth Hyfforddiant Iaith Saesneg).
9. Monitro Cynnydd a Cyfranogiad
9.1
Caiff cyfranogiad ymgeiswyr ei fonitro'n unol â'r Bwrdd Arholi neu’r Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu perthnasol.
9.2
Caiff cynnydd ei fonitro trwy drefniadau tiwtoriaid personol, trafodaethau rheolaidd ac adborth tiwtoriaid, a thrwy fyrddau arholi a byrddau dilyniant.
10. Myfyrwyr Rhyngwladol a Gofynion Fisa
10.1
Dylai myfyrwyr rhyngwladol y mae angen fisa arnynt i astudio yn y Brifysgol nodi bod eu hawl i astudio yn y Brifysgol yn dibynnu ar gydymffurfio ag amodau eu fisa, ac â'r cyfyngiadau amser a osodir gan Asiantaeth Fisas a Mewnfudo'r Deyrnas Unedig. Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.gov.uk/browse/visas-immigration/study-visas.
10.2
Gwneir penderfyniadau gan y Brifysgol o ran statws cofrestru myfyriwr, perfformiad academaidd, cynnydd, a'r dyfarniad, yn unol â rheoliadau academaidd ac ariannol y Brifysgol, ac ni effeithir arnynt gan gyfyngiadau fisa na chyfyngiadau amser a osodir gan Asiantaeth Fisas a Mewnfudo'r Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, mae'r hawl i barhau i astudio yn amodol ar fodloni gofynion y Brifysgol a bod â fisa dilys.
Dylai unrhyw fyfyriwr sydd â phryder neu gwestiwn ynghylch ei fisa gysylltu â Rhyngwladol@BywydCampws
11. Cymorth Asesu a Darpariaeth Arholiadau Penodol
11.1
Cyfrifoldeb yr ymgeisydd fydd hysbysu’r Gwasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg o unrhyw amgylchiadau esgusodol a all fynnu cymorth penodol neu ystyriaeth benodol wrth ei asesu.
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno dogfennaeth briodol i ategu eu hamgylchiadau a rhaid cofnodi'r rhain ar y ffurflen briodol a'u hategu, lle bynnag y bo modd, gan dystiolaeth ysgrifenedig. Mae'n rhaid cyflwyno unrhyw gais i'r Adran cyn gynted ag sy'n ymarferol, ac yn bendant cyn yr arholiad neu'r asesiad dan sylw.
11.2
Os oes angen addasiadau i astudiaethau ymgeisydd oherwydd anabledd, cyflwr meddygol hirdymor, anhawster lles neu anhawster dysgu penodol, dylai drafod ei ofynion â'r Swyddfa Anableddau neu'r Gwasanaeth Lles. Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth ddogfennol ategol naill ai i'r Swyddfa Anableddau neu'r Gwasanaeth Lles. Ni chaiff y cais am addasiadau ei weithredu oni ddarperir tystiolaeth ategol.
11.3
Lle bo angen addasiad a chaiff ei ategu gan dystiolaeth feddygol, bydd y Swyddfa Anableddau neu'r Gwasanaeth Lles yn anfon eu hargymhellion at y Tiwtor Cyswllt Anabledd priodol i'r Gwasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg weithredu yn eu cylch.
11.4
Os oes angen darpariaeth benodol mewn arholiad ar ymgeisydd, dylai drafod ei ofynion â’r Swyddfa Anableddau neu'r Gwasanaeth Lles. Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth ddogfennol ategol naill ai i'r Swyddfa Anableddau neu'r Gwasanaeth Lles. Ni chaiff y cais am ddarpariaeth benodol mewn arholiad ei weithredu oni ddarperir tystiolaeth ategol briodol.
11.5
Pan dderbynnir cais am ddarpariaeth benodol mewn arholiad, bydd y Swyddfa Anableddau neu'r Gwasanaeth Lles yn anfon eu hargymhellion i'r Swyddfa Arholiadau ac at y Tiwtor Cyswllt Anabledd priodol ar gyfer Cyfadran/Ysgol yr ymgeisydd. Yn achos arholiadau a drefnir gan Swyddfa Arholiadau'r Brifysgol, bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gadarnhau eu trefniadau arholi gyda'r Swyddfa Arholiadau. Yn achos unrhyw arholiadau a drefnir gan yr Adran, cynghorir ymgeiswyr i drafod eu gofynion yn uniongyrchol a chaiff darpariaethau penodol mewn arholiad eu rhoi ar waith gan y Adran.
12. Rheoliadau Asesu
12.1
Bydd y (Gwasanaeth Hyfforddiant Iaith Saesneg) yn cyhoeddi manylion y rheoliadau a'r gofynion asesu yn y llawlyfr.
12.2 Ailasesu
12.2.1
Yn achos ymgeiswyr sy’n astudio'r rhaglen Saesneg ar gyfer Astudio yn y Brifysgol, os na fydd myfyriwr yn cael y marc gofynnol, yna yn ôl disgresiwn Darparwr y Gwasanaeth (Gwasanaeth Hyfforddiant Iaith Saesneg), caiff gyfleoedd pellach i gael marc uwch.
12.2.2
Ni chaniateir cyfle arall i gael sgôr uwch i ymgeiswyr sy'n dilyn cyrsiau byr ac sy'n methu â chael y sgôr gofynnol.
12.3
Mae’r rheoliadau, rheolau a gweithdrefnau a ganlyn gan y Brifysgol a Darparwr y Gwasanaeth (Gwasanaeth Hyfforddiant Iaith Saesneg) yn rheoli asesu:
Darpariaeth Arbennig ar gyfer Asesu;
Rheoliadau Arholi, gan gynnwys absenoldeb ac ymddygiad.
12.4
Caiff canlyniadau myfyrwyr eu cadarnhau a’u dilysu gan Fwrdd Safoni Arholiadau’r Gwasanaeth Hyfforddiant Iaith Saesneg. Yn achos ymgeiswyr sy’n astudio Saesneg ar gyfer Astudio yn y Brifysgol bydd y Bwrdd Safoni Arholiadau yn cadarnhau’r marciau ar y cyd â’r Bwrdd Ddilyniant Dyfarnu'r Brifysgol.
13. Diarddel/Ymadael
13.1
Ni fydd y rheoliadau yn ymwneud â diarddel yn berthnasol fel rheol. Er hynny, o dan amgylchiadau eithriadol, gall y Gyfadran/Ysgol ofyn i fyfyrwyr roi’r gorau i’w hastudiaethau.
13.2
Disgwylir i fyfyrwyr gydymffurfio â gweithdrefnau’r Brifysgol o ran tynnu’n ôl o gwrs.
14. Byrddau Arholi a Phenodi Arholwyr
14.1
Caiff yr holl arholiadau eu cynnal dan awdurdod Rheoliadau a Gweithdrefnau’r Brifysgol ar gyfer Gweithredu Arholiadau. Bydd y Bwrdd Arholi yn gweithredu'n unol â'r Rheoliadau Asesu Israddedigion.
14.2
Caiff arholwyr allanol eu henwebu a’u penodi yn unol â’r gweithdrefnau a amlygir yng Nghod Ymarfer Prifysgol Abertawe ar gyfer Arholwyr Allanol.
15. Gwirio'r Marc
15.1
Bydd gan fyfyrwyr hawl i ofyn am gael gwirio’u marc gan Ddarparwr y Gwasanaeth (Gwasanaeth Hyfforddiant Iaith Saesneg).
16. Camymddwyn Academaidd
16.1
Caiff honiadau o arfer annheg eu hystyried yn unol â Gweithdrefnau a Rheoliadau Camymddwyn Academaidd Prifysgol Abertawe.
17. Cwblhau’r Astudio
17.1
Ar sail bob cwrs unigol, rhoddir llythyr canlyniadau i fyfyrwyr sy’n rhoi manylion y marc terfynol a ddyfarnwyd iddynt.
17.2
Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, bydd Darparwr y Gwasanaeth (Gwasanaeth Hyfforddiant Iaith Saesneg) yn rhoi Tystysgrif Cwblhau i’r myfyriwr.