Rheolau ar Gyfer Dilyniant a Dyfarnu Credyd Mewn Amgylchedd Modiwlar
Adran 2: Rheolau ar Gyfer Dilyniant a Dyfarnu Credyd Mewn Amgylchedd Modiwlar
2.1 CYFLWYNIAD
Bydd y rheoliadau dilyniant canlynol yn gymwys i’r holl fyfyrwyr sy’n dechrau eu rhaglenni gradd. Mae’r rheolau hyn yn gymwys ar draws pob campws.
Bydd y rheoliadau asesu penodol ar gyfer graddau Baglor Meddygaeth a Baglor Llawfeddygaeth (MBBCh), y Diploma Graddedig yn y Gyfraith, Gradd Meistr mewn Osteopatheg, Graddau Sylfaen, y Dystysgrif Addysg Uwch a’r Diploma Addysg Uwch yn cael eu cyhoeddi yn Llawlyfr(au) priodol y Gyfadran/Ysgol.
Caiff rheoliadau asesu penodol ar gyfer myfyrwyr Y Coleg, Prifysgol Abertawe eu darparu yn Adran 2.9 isod.
Mae’r Brifysgol wedi awdurdodi Cyfadrannau/Ysgolion, sydd wedi’u hachredu’n broffesiynol, i gymhwyso rheolau asesu mwy caeth ar yr amod bod y myfyrwyr wedi cael eu hysbysu’n briodol ymlaen llaw a’i fod yn un o ofynion Corff Proffesiynol.
2.2 EGWYDDORION CYFFREDINOL
2.2.1 Cyflwyno Marciau ar gyfer Myfyrwyr Nad Ydynt yn eu Blwyddyn Olaf
Wrth benderfynu ar faterion dilyniant, bydd marciau’n cael eu cyflwyno i Fyrddau Arholi Cyfadrannau/Ysgolion ar gyfer yr holl asesiadau a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn academaidd (neu yn achos astudiaethau rhan-amser, a gwblhawyd yn ystod y sesiynau priodol). Bydd Byrddau Arholi Cyfadrannau/Ysgolion’n rhoi argymhellion ynghylch penderfyniadau ar ddilyniant i Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol.
2.2.2 Cyflwyno Marciau ar gyfer Myfyrwyr yn eu Blwyddyn Olaf
Bydd Byrddau Arholi Cyfadrannau/Ysgolion’n ystyried proffiliau canlyniadau myfyrwyr yn eu blwyddyn olaf ac yn rhoi argymhellion ynghylch canlyniadau dyfarniadau terfynol i Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol. Bydd proffil canlyniadau’r myfyrwyr perthnasol a gyflwynir i Fwrdd Arholiadau’r Gyfadran/Ysgol a Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol yn cynnwys:
- Canlyniadau’r flwyddyn olaf
- Canlyniadau modiwlau a ddilynwyd yn ystod Lefelau Astudio blaenorol ond sy’n cyfrannu at y broses ddyfarnu (e.e. yn nodweddiadol Lefel 5 o ddyfarniad israddedig 3-blynedd).
2.2.3 Marcio Dienw
Cyfeirier at Pholisi Asesu, Marcio ac Adborth
2.2.4 Datgelu Marciau
Dylid gwahaniaethu rhwng marciau dros dro a marciau wedi’u cadarnhau.
Cyfeirier at Bolisi’r Brifysgol ar Gyhoeddi Marciau.
2.2.5 Apeliadau yn erbyn Penderfyniadau Academaidd
Gall myfyrwyr apelio yn erbyn penderfyniad Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol yn unol â Rheoliadau’r Brifysgol ar gyfer Apeliadau Academaidd a/neu Weithdrefn Cywirdeb Marciau Cyhoeddedig y Brifysgol.
Ceir crynodeb o benderfyniadau dyfarnu a dilyniant y gall Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol eu rhoi yn Atodiad 3.
2.3 Rheolidau Asesu Israddedig – Rheolau Asesu Cyffredinol
G1
40% fydd y marc Llwyddo ar gyfer modiwlau ar bob Lefel ac eithrio Lefel 7. 50% fydd y marc Llwyddo ar gyfer modiwlau Lefel 7. Dim ond i ymgeiswyr sy’n llwyddo mewn modiwl y dyfernir credydau.
G2
Er mwyn symud ymlaen o un lefel i’r llall, mae’n rhaid i ymgeisydd basio 120 o gredydau drwy ennill marc o 40% mewn modiwlau (50% ar gyfer Lefel 7) neu'n well ym mhob modiwl.
G3
Rhaid i ymgeiswyr ateb gofynion pob modiwl o ran ymgysylltu ac asesu. Fel arfer byddai Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol yn cael ei hysbysu ynghylch ymgeiswyr y mae eu ymgysylltu neu eu cynnydd yn anfoddhaol.
G4
Gall Cyfadrannau/Ysgolion nodi modiwlau ‘craidd’ fel y bo’n briodol i bob rhaglen, y mae’n rhaid llwyddo ynddynt cyn y gall ymgeisydd gamu ymlaen o un Lefel i’r llall. Rhaid i’r modiwlau ‘craidd’ ar gyfer pob rhaglen fod wedi’u nodi’n glir yn llawlyfrau’r Gyfadran/Ysgol neu mewn llenyddiaeth arall gan y Gyfadran/Ysgol. Dylai Cyfadrannau/Ysgolion ystyried goblygiadau labelu gormod o fodiwlau fel rhai ‘craidd’ mewn unrhyw raglen gan na fydd yn bosibl i Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol oddef methiannau yn y modiwlau hynny. Rhaid i berfformiad ymgeiswyr mewn modiwlau ‘craidd’ gael ei fonitro gan Gyfadrannau/Ysgolion a chyfrifoldeb cynrychiolwyr y Cyfadrannau/Ysgolion fydd adrodd ar achosion myfyrwyr ym Mwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol.
G5
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llawn-amser nad ydynt yn eu blwyddyn olaf gwblhau lefel astudio o fewn uchafswm o ddwy sesiwn academaidd. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol, gellir caniatáu i ymgeiswyr nad oes ganddynt ddigon o gredyd i symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf wneud hyd at uchafswm o dri ymgais pellach i wneud iawn am fethiannau yn y modiwlau er mwyn gallu cwblhau'r lefel astudio. Rhaid i’r ymgeisiau hyn ddigwydd o fewn dwy sesiwn academaidd. (Yn achos modiwl Lefel 7, dim ond 1 ymgais i wneud iawn am y methiant ddylid ei ganiatáu.)
Ni ddylai ymgeiswyr ddisgwyl cael cynnig, fel mater o hawl, uchafswm nifer yr ymgeisiau i wneud iawn am fethiannau.
G6
Dim ond dan amgylchiadau eithriadol y bydd ymgeisydd yn cael gwneud iawn am y modiwlau a fethwyd dros drydedd sesiwn. Mewn achosion o’r fath, bydd disgwyl i’r Gyfadran/Ysgol gyflwyno cais i Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol, a hwnnw’n nodi’r amgylchiadau i ategu’r achos. Fel arfer, dim ond os yw’r myfyriwr o fewn uchafswm nifer yr ymgeisiau y bydd ceisiadau’n cael eu hystyried (rheol G5).
G7
Bydd ymgeiswyr, ac eithrio'r rhai hynny yn eu blwyddyn olaf, sy'n methu pasio digon o gredydau i gael cyfle i sefyll arholiadau atodol neu sy'n methu cwblhau lefel astudio yn dilyn yr arholiadau atodol fel arfer yn gorfod colli unrhyw gredydau a enillwyd ac ail-wneud y lefel astudio. Ni ellir defnyddio marciau a enillwyd yn y flwyddyn y mae’r credyd wedi cael ei fforffedu ohoni i bennu dosbarthiad gradd yr ymgeisydd nac i ddyfarnu credyd. Ni ddylai marciau ymgeiswyr sy’n ailadrodd y lefel astudio gael eu capio. Fodd bynnag, dylai ymgais i gwblhau asesiad wrth ailadrodd lefel astudio gael ei ystyried yn un o’r tri chyfle sydd ar gael i ymgeiswyr wneud iawn am fethiant.
G8
Gall myfyrwyr nad ydynt yn eu blwyddyn olaf y mae’n ofynnol iddynt ailadrodd y lefel astudio wneud cais i ailadrodd dim ond y modiwlau y maent wedi’u methu. Bydd y modiwlau hynny’n cael eu capio ar y marc llwyddo, sef 40% (50% ar gyfer Lefel 7/M) ac eithrio ar Lefel 4 neu 3.
Gall ymgeiswyr sy’n dymuno ailadrodd modiwlau a fethwyd gyflwyno cais i’w Cyfadran/Hysgol i gael gwneud hynny. Cynghorir myfyrwyr yn gryf i drafod eu penderfyniad gydag aelod priodol o staff yn Cyfadran Gartref/eu Hysgol Gartref. Argymhellir bod cofnod yn cael ei gadw sy’n crynhoi’r cyngor a roddwyd i’r myfyriwr, a hwnnw wedi’i lofnodi gan y myfyriwr a’r aelod o staff. Mae’n ofynnol i’r Gyfadran/Ysgol gwblhau’r adran Gyfadran/Ysgol o’r ffurflen a’i chyflwyno i’r Gwasanaethau Addysg i gael ei chymeradwyo. Rhaid cwblhau ceisiadau erbyn diwedd wythnos gyntaf y Sesiwn Academaidd newydd trwy’r ffurflen/system ar-lein.
Pan ganiateir i ymgeiswyr ailadrodd modiwlau a fethwyd:
- Ni allant ailadrodd unrhyw fodiwl y maent wedi llwyddo ynddo; a
- Rhaid iddynt ailadrodd pob modiwl a fethwyd (neu fodiwlau eraill â phwysoliad credydau cyfwerth yn ôl disgresiwn y Gyfadran/Ysgol).
Caiff myfyrwyr rhyngwladol eu cynghori’n gryf i geisio cyngor gan ISAS a’r Gwasanaethau Addysg. Efallai na fydd yn bosibl i fyfyrwyr rhyngwladol â gofynion fisa penodol ailadrodd modiwlau a fethwyd yn unig. Dylai ymgeiswyr sy’n fyfyrwyr rhyngwladol ac y caniateir iddynt ailadrodd modiwlau a fethwyd nodi ei bod yn bosibl na fyddant yn cael aros yn y DU am y flwyddyn academaidd gyfan (er enghraifft, os caiff y modiwlau a ailadroddir eu darparu yn Semester 1 yn unig, efallai y bydd rhaid i’r ymgeiswyr hynny adael y DU ar ddiwedd Semester 1).
Rhaid i ymgeiswyr sy’n ailadrodd modiwlau a fethwyd wneud hynny fel ymgeiswyr mewnol. Dim ond ymgeiswyr sy’n perthyn i’r categorïau canlynol all wneud cais i ailadrodd y modiwlau a fethwyd fel ymgeiswyr allanol.
- Myfyrwyr yn eu blwyddyn olaf sydd, fel eithriad, wedi cael cynnig y cyfle i ailadrodd modiwlau a fethwyd yn y sesiwn academaidd nesaf oherwydd amgylchiadau esgusodol.
- Myfyrwyr nad ydynt yn eu blwyddyn olaf sydd, fel eithriad, wedi cael cynnig y cyfle i ailadrodd modiwlau a fethwyd ar draws trydedd sesiwn academaidd oherwydd amgylchiadau esgusodol.
Rhaid i geisiadau i ailadrodd modiwlau fel ymgeisydd allanol gael eu cefnogi gan y Gyfadran/Ysgol a Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau.
Ni fydd ymgeiswyr y caniateir iddynt ailadrodd modiwlau a fethwyd yn gallu ailadrodd unrhyw fodiwl y llwyddwyd ynddo. Bydd yn ofynnol bod ymgeiswyr y caniateir iddynt ailadrodd modiwlau a fethwyd yn ailadrodd yr holl fodiwlau a fethwyd (neu fodiwlau eraill gyda phwysoliad credydau cyfwerth yn ôl disgresiwn y Gyfadran/Ysgol).
G9
Bydd gan ymgeiswyr sy’n ailadrodd modiwlau a fethwyd yn unig neu’n sefyll arholiadau atodol yn Lefelau 5, 6 ac S (sy’n cynnwys myfyrwyr yn eu blwyddyn olaf), ar yr amod eu bod yn bodloni’r arholwyr, farc wedi’i gapio o 40%. Bydd y marc wedi’i gapio’n cael ei ddefnyddio at ddibenion dosbarthu ym mhob modiwl o’r fath ni waeth beth fo’u lefel perfformiad mewn gwirionedd. Bydd gan ymgeiswyr sy’n ailadrodd modiwlau ar Lefel 7 sgôr wedi’i gapio o 50%. Bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol yn cyfeirio at y marc wedi’i gapio wrth bennu’r cyfartaledd ar gyfer lefel astudio.
Nid yw hyn yn gymwys i ymgeiswyr sy’n ailadrodd modiwlau ar Lefelau 3 a 4 gan mai’r marc gwirioneddol a sgoriwyd fydd yn cael ei gofnodi yn eu hachos hwy.
G10
Bydd ymgeiswyr sy’n dilyn graddau cychwynnol uwch (e.e. MEng, MPhys, MMath) sy’n methu â chymhwyso i gamu ymlaen i’r flwyddyn astudio olaf ac sydd wedyn yn trosglwyddo i flwyddyn olaf rhaglen radd gychwynnol yn cael eu hystyried yn fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ac yn ailadrodd modiwlau a fethwyd, a byddant felly’n ddarostyngedig i Reoliad G9.
G11
Wrth wneud penderfyniadau ynghylch dilyniant ar gyfer myfyrwyr yn dilyn yr arholiadau atodol, bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol yn cyfeirio at y marc gorau a gafodd y myfyriwr ym mhob modiwl penodol yn ystod y Sesiwn honno. Mae’n dilyn, felly, os sgoriodd myfyriwr farc uwch ar y cynnig cyntaf, y bydd y Bwrdd yn cyfeirio at y marc hwnnw yn y modiwl, yn hytrach na’r marc ailsefyll.
Dim ond mewn un sesiwn academaidd y bydd Egwyddor y Marc Gorau’n gymwys a bydd yn weithredol ym Myrddau Arholi Atodol yn unig. Nid yw’n berthnasol i ‘Fodiwlau Craidd’ gan bod rhaid llwyddo yn y modiwlau hynny.
G12
Ni fydd ymgeiswyr yn cael ail-wneud unrhyw fodiwl a basiwyd, nac ychwaith wneud iawn am fethiant sydd wedi cael ei ddigolledu, er mwyn gwella eu perfformiad.
G13
Bydd craffu manwl ar ymgeiswyr sy’n ailadrodd y lefel astudio neu’n ailadrodd modiwlau.
G14
Yn unol â Pholisi’r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy’n Effeithio ar Asesiad, cydnabyddir na fydd rhai ymgeiswyr yn gallu bod yn bresennol mewn arholiadau yn ystod y Cyfnod Asesu Canol neu Ddiwedd Sesiwn, e.e. oherwydd afiechyd neu amgylchiadau esgusodol eraill.
Yn achos yr ymgeiswyr hynny sy’n methu â bod yn bresennol mewn arholiadau oherwydd amgylchiadau esgusodol, rhaid cyflwyno hawliad am ohiriad i’r Gyfadran/Ysgol Cartref naill ai cyn dyddiad yr arholiad neu o fewn pum niwrnod i’r dyddiad y digwyddodd yr arholiad. Rhaid i geisiadau am ohiriadau gael eu hystyried a’u cefnogi gan y Gyfadran/Ysgol perthnasol a’u cyflwyno i’r Gwasanaethau Addysg i gael eu cymeradwyo. Cynghorir myfyrwyr a staff i gyfeirio at Bolisi’r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol.
Bydd yn ofynnol bod Ymgeiswyr nad ydynt yn eu blwyddyn olaf y caniatawyd gohiriadau iddynt yn sefyll yr arholiadau yn y cyfnod arholiadau nesaf sydd wedi’i amserlennu ar gyfer y modiwlau dan sylw.
G15
Mewn achosion pan fydd ymgeisydd L3/4/5 neu 6 (heb fod yn y flwyddyn olaf) wedi pasio'r holl fodiwlau ac eithrio un modiwl nad yw'n un craidd a fethwyd, nad yw'n gymwys am ddigolledu, ac mae gan yr ymgeisydd un ymgais ailsefyll yn weddill (naill ai oherwydd gohirio a gymeradwywyd ar yr ymgais gyntaf neu cafwyd datganiad amgylchiadau esgusodol cymeradwy yn ystod yr ymgais atodol), bydd hawl gan yr ymgeisydd roi un cynnig arall er mwyn symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf. Fel arfer bydd disgwyl i'r ymgeisydd basio/ddigolledu'r modiwl a fethwyd cyn diwedd cyfnod asesu mis Ionawr y lefel astudio nesaf.
G16
Dylai ymgeiswyr yn eu blwyddyn olaf sy’n methu â sefyll arholiad ym Semester Un, ac y caniatawyd gohiriad iddynt gan y Gwasanaethau Addysg, sefyll yr arholiad yng nghyfnod arholiadau Semester Dau yn hytrach na chyfnod arholiadau atodol.
G17
Gall ymgeiswyr sydd wedi methu modiwlau yn arholiadau Semester Un, gyda chymeradwyaeth y Gyfadran/Ysgol, ddilyn modiwlau eraill ychwanegol yn yr ail semester i wneud iawn am y methiannau. Bydd dilyn y modiwlau ychwanegol hyn yn cael ei ystyried yn ymgais i wneud iawn am fethiant ac felly bydd y rheol capio’n gymwys.
G18
Bydd penderfyniadau ynghylch dilyniant ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser yn cael eu gwneud gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol dim ond pan fo canlyniadau portffolio llawn o fodiwlau’n hysbys. Caiff penderfyniadau i ganiatáu i fyfyriwr rhan-amser barhau eu gwneud yn flynyddol ran o’r ffordd trwy lefel astudio. Bydd marciau ymgeiswyr rhan-amser yn cael eu cadarnhau ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.
G19
Fel arfer bydd y rheolau a nodir yn y Rheolau Dilyniant Penodol yn dylanwadu ar benderfyniad y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu ynghylch dilyniant ar gyfer ymgeiswyr. Fodd bynnag, ni ddylai ymgeiswyr ddisgwyl y byddant, fel mater o hawl, yn cael sefyll arholiadau atodol neu’n cael ailadrodd y lefel astudio. Gall Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol ystyried amgylchiadau eraill sy’n gysylltiedig ag achos yr ymgeisydd cyn gwneud unrhyw benderfyniad ynghylch dilyniant. Ni fyddai disgwyl i Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol ganiatáu i ymgeisydd gamu ymlaen i’r lefel astudio nesaf oni bai ei fod wedi bodloni’r meini prawf gofynnol.
G20
Gall Cyfadrannau/Ysgolion sydd wedi’u hachredu’n broffesiynol gymhwyso rheolau dilyniant mwy caeth ar yr amod bod y Corff Achredu Proffesiynol yn ei gwneud yn ofynnol cymhwyso’r rheolau hynny fel un o amodau achredu’r rhaglen. Bydd y rheol fwy caeth yn cael ei chymhwyso at ddibenion achredu yn unig. Gall Cyfadrannau/Ysgolion gyflwyno rheolau mwy caeth ynghylch dilyniant ar gyfer y Flwyddyn Ymsang neu o Lefel 6 i Lefel 7 (Gradd Gychwynnol Uwch) ar yr amod bod y rhain yn cael eu nodi’n glir i fyfyrwyr yn Llawlyfr y Gyfadran/Ysgol.
G21
Nid yw rheolau dilyniant yn gymwys i fyfyrwyr Cyfnewid ac Ymweliadol. Fodd bynnag, bydd y myfyrwyr hynny’n cael cyfle i wneud iawn am fethiannau, fel arfer trwy arholiadau ailsefyll, ond dan rai amgylchiadau, trwy ddulliau asesu eraill y cytunir arnynt gan y Gyfadran/Ysgol. Ni roddir unrhyw ymgais bellach ar eu rhaglen bresennol i ymgeiswyr sy’n methu’r flwyddyn dramor/blwyddyn mewn diwydiant, ond cânt drosglwyddo’n fewnol i raglen dair blynedd gyfwerth, ar yr amod bod rhaglen amgen ar gael.
G22
Bydd ymgeiswyr y mae’n ofynnol iddynt gyflwyno gwaith cwrs atodol yn cael eu hysbysu, gan y Gyfadran/Ysgol academaidd dan sylw, ynghylch y gwaith cwrs sy’n ofynnol. Ni fydd manylion gwaith cwrs atodol yn cael eu cynnwys yn y canlyniadau a gyhoeddir gan y Gwasanaethau Addysg ar gofnod y myfyriwr unigol ar y fewnrwyd.
G23
Cymwysterau Ymadael
Os na fydd ymgeisydd sy'n cael ei dderbyn ar raglen radd gychwynnol yn cwblhau'r rhaglen, a chan ddibynnu ar nifer y credydau a enillwyd ar y lefelau priodol erbyn iddo adael, efallai y bydd yn gymwys am un o'r dyfarniadau canlynol:
Cymhwyster Ymadael | Isafswm nifer y credydau y mae’n rhaid bod wedi’u dilyn | Lleiafswm y credydau mae’n rhaid eu pasio | Rheoliad Ychwanegol |
---|---|---|---|
Tystysgrif Sylfaen* | 120 ar Lefel 3. | 120 ar Lefel 3. | Rhaid bod isafswm o 120 o gredydau wedi’u dilyn yn Abertawe. |
Tystysgrif Addysg Uwch |
120 ar Lefel 4. Nid yw dyfarnu Tystysgrif Addysg Uwch fel cymhwyster ymadael yn berthnasol i ymgeiswyr a dderbyniwyd i Lefel 5 dan y rheoliadau trosglwyddo credyd. |
80 ar Lefel 4. | Er mwyn bod yn gymwys i gamu ymlaen i’r Lefel Astudio nesaf rhaid bod wedi dilyn 60 o’r 120 o gredydau yn Abertawe. |
Diploma Addysg Uwch |
120 ar Lefel 4 a 120 ar Lefel 5. Ar gyfer ymgeiswyr a dderbynnir i Lefel 5 dan y rheoliadau trosglwyddo credyd, ni fydd isafswm y gofynion ar Lefel 4 yn gymwys. |
Wedi cwblhau Lefel 4 ac 80 o gredydau ar Lefel 5. Ar gyfer ymgeiswyr a dderbynnir i Lefel 5 dan y rheoliadau trosglwyddo credyd, ni fydd isafswm y gofynion ar Lefel 4 yn gymwys. |
Er mwyn bod yn gymwys i gamu ymlaen i’r Lefel Astudio nesaf rhaid bod wedi dilyn isafswm o 120 o gredydau yn Abertawe. |
Gradd Gyffredin[2] Efallai na fydd yn bosibl dyfarnu’r Radd Gyffredin[2] ar gyfer rhai graddau a achredir yn broffesiynol. |
120 ar Lefelau 4 a 5 ac isafswm o 60 ar Lefel 6 (Ar gyfer ymgeiswyr a dderbynnir i Lefel 5 dan y rheoliadau trosglwyddo credyd, ni fydd isafswm y gofynion ar Lefel 4 yn gymwys). | Wedi cwblhau Lefelau 4 a 5 ac isafswm o 60 o gredydau ar Lefel 6 (Ar gyfer ymgeiswyr a dderbynnir i Lefel 5 dan y rheoliadau trosglwyddo credyd, ni fydd isafswm y gofynion ar Lefel 4 yn gymwys). | Rhaid bod wedi dilyn isafswm o 180 o gredydau yn Abertawe. |
BSc Anrhydedd neu BEng Anrhydedd[1] a/neu BSc gradd Gyffredin[2] (yn berthnasol i raddau cychwynnol uwch yn unig). | (360 o gredydau) 120 ar Lefel 4, 120 ar Lefel 5 a 120 ar Lefel 6 (Ar gyfer ymgeiswyr a dderbynnir i Lefel 5 dan y rheoliadau trosglwyddo credyd, ni fydd isafswm y gofynion ar Lefel 4 yn gymwys). | Wedi cwblhau Lefelau 4 a 5 ac 80 o gredydau ar Lefel 6 (Ar gyfer ymgeiswyr a dderbynnir i Lefel 5 dan y rheoliadau trosglwyddo credyd, ni fydd isafswm y gofynion ar Lefel 4 yn gymwys). | Bod wedi cymhwyso i gamu ymlaen i’r flwyddyn astudio olaf. |
Caiff myfyrwyr sy’n trosglwyddo rhaglen yn fewnol eu hystyried ar gyfer dyfarniad gadael yn unig (yn unol â’r uchod) os nad yw’r credyd a gyflawnwyd yn flaenorol yn cyfrif tuag at y rhaglen newydd
Mae dyfarnu gadael y Dystysgrif Addysg Uwch yn ddyfarnu heb enw. Fel arfer, bydd gan yr holl gymwysterau gadael eraill enw ac eithrio pan fydd gofynion cyrff proffesiynol yn datgan fel arall.
Bydd ymgeisydd sy’n ymadael â rhaglen radd gyda Thystysgrif neu Ddiploma israddedig mewn Addysg Uwch dan yr amgylchiadau a nodir yn y paragraff blaenorol yn gymwys ar gyfer Rhagoriaeth lle mae wedi ennill marc o 70% neu fwy ar y cyfan ar gyfer y dyfarniad dan sylw.
Bydd cymwysterau ymadael o’r fath yn cael eu cymeradwyo gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol.
*Ar hyn o bryd, mae’r dystysgrif ar gael i fyfyrwyr yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn unig.
[1] Dim ond os caniateir hynny dan reolau priodol y corff proffesiynol a rheoliadau’r rhaglen radd y dyfernir gradd anrhydedd
[2] Nodyn: Ni fydd gradd Gyffredin ar gael I fyfyrwyr o fis Medi 2018 ymlaen.
2.4 Rheolau Dilyniant ar Gyfer Graddau Israddedig Llawn-Amser
Rheolau Dilyniant Penodol – ar gyfer myfyrwyr sy’n dilyn Lefelau 3-4, 4-5 a B/T-5
Rheolau i’w cymhwyso yn ystod Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu Diwedd y Lefel
S1
Bydd ymgeiswyr sy'n pasio o leiaf 120 o gredydau mewn modiwlau ar y lefel briodol yn cymhwyso'n awtomatig i symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf.
S2
Gall ymgeiswyr sy'n pasio 80 o gredydau neu fwy, ond llai na 120 o gredydau, fod yn gymwys i symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf ar yr amod:
- Bod y modiwlau y maent wedi methu ynddynt heb gael eu nodi’n flaenorol fel ‘modiwlau craidd’ ar gyfer y rhaglenni penodol (gweler rheol ddilyniant gyffredinol G4);
- Bod y marciau yn y modiwlau hynny’n ddim is na 30% a
- Bod y cyfartaledd ar y cyfan ar gyfer y lefel astudio’n 35% neu uwch.
Cyfeirir at fethiannau o’r fath fel "methiannau a ddigolledir". Bydd credydau'n cael eu dyfarnu ar gyfer methiannau a ddigolledir.
S3
Bydd ymgeiswyr sy’n cronni 80 o gredydau neu fwy ond llai na 120 o gredydau ond sydd wedi methu mewn ‘modiwl(au) craidd’ yn methu â chymhwyso i gamu ymlaen i’r lefel astudio nesaf. Ar yr amod y ‘gellir goddef’ eu methiannau yn y modiwlau nad ydynt yn rhai craidd, fel arfer bydd angen iddynt ailsefyll y modiwl(au) craidd yn unig, a chedwir y marc(iau) ar gyfer y modiwlau eraill (nad ydynt yn rhai craidd) a fethwyd. Ni fydd myfyrwyr yn cael y cyfle i wella marciau yn y modiwlau di-graidd.
S4
Bydd ymgeiswyr sy’n pasio 60 o gredydau neu fwy, ond sy'n methu bodloni gofynion S1, S2 neu S3 uchod, yn methu cymhwyso i symud ymlaen i’r lefel astudio nesaf. Fel arfer, yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol, caniateir i’r myfyrwyr hynny sefyll arholiadau atodol ym mhob modiwl a fethwyd. Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr ailsefyll pob ‘modiwl craidd’ a bydd disgwyl iddynt ailsefyll pob arholiad arall; fodd bynnag, bydd ‘Egwyddor y Marc Gorau’ yn gymwys ym Mwrdd atodol (cyfeirier at G11). Rhaid nodi bod rhaid llwyddo ym mhob modiwl craidd.
Rhaid i’r holl aseiniadau sy’n gysylltiedig ag arholiadau atodol gael eu cyflwyno i’r Gyfadran/Ysgol perthnasol erbyn dechrau wythnos yr arholiadau atodol.
S5
Bydd ymgeiswyr sy'n pasio 20 o gredydau neu fwy, ond llai na 60 o gredydau, yn methu cymhwyso i symud ymlaen i'r Lefel Astudio nesaf. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol, bydd yn rhaid i'r ymgeiswyr hynny Ail-wneud y Lefel Astudio. Bydd yr ymgeiswyr hynny’n fforffedu unrhyw gredyd a enillwyd yn barod yn awtomatig (gweler G7).
(Yn unol â Rheol Ddilyniant Gyffredinol G8, gellir caniatáu i’r ymgeiswyr hynny sydd wedi cael penderfyniad Ailadrodd y Lefel Astudio ailadrodd y modiwlau a fethwyd yn unig).
Bydd yn ofynnol bod yr ymgeiswyr hynny’n gwneud iawn am y methiannau yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
S6
Bydd ymgeiswyr sy'n pasio llai nag 20 o gredydau'n cael eu cynghori i dynnu yn ôl. Caiff ymgeiswyr o'r fath eu cynghori i gwrdd â'u Cyfadran/Hysgol i drafod ai parhau ar y rhaglen astudio bresennol yw'r opsiwn mwyaf priodol iddyn nhw. Hefyd, efallai yr hoffai ymgeiswyr drafod eu hopsiynau ar gyfer trosglwyddo i raglen astudio amgen.
Gall ymgeiswyr o'r fath hefyd benderfynu dychwelyd i ail-wneud y lefel astudio ar eu rhaglen bresennol a byddant yn colli unrhyw gredydau a enillwyd eisoes yn awtomatig (gweler G7).
(Yn unol â Rheol Ddilyniant Gyffredinol G8, gellir caniatáu i’r ymgeiswyr hynny sydd wedi cael penderfyniad Ail-wneud y Lefel Astudio ail-wneud y modiwlau a fethwyd yn unig).
Bydd rhaid i ymgeiswyr o'r fath wneud iawn am y methiannau yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
S7
Bydd ymgeiswyr sy’n ail-wneud y lefel neu’n ail-wneud modiwlau a fethwyd, ac sy’n methu cymhwyso i symud ymlaen i’r Lefel Astudio nesaf ar ôl pasio 60 o gredydau neu fwy, yn cael sefyll arholiadau atodol fel y cyfle olaf i wneud iawn am fethiannau ym mhob modiwl a fethwyd.
S8
Bydd ymgeiswyr sy’n ail-wneud y lefel neu’n ail-wneud modiwlau a fethwyd, ac sy’n methu cymhwyso i symud ymlaen i’r lefel astudio nesaf ar ôl pasio llai na 60 o gredydau, yn Gorfod Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol.
Ni fydd ymgeiswyr sydd wedi cael penderfyniad ei bod Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol yn cael unrhyw ymgeisiau pellach i wneud iawn am fethiannau. Ni fydd ymgeiswyr yn gymwys i drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe a bydd eu hastudiaethau’n cael eu terfynu. Fel arfer, ni fydd ymgeiswyr sydd wedi cael penderfyniad ei bod ‘Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol’ yn cael eu derbyn yn ôl i’r un rhaglen astudio, nac i raglen gytras, heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn.
Gan ddibynnu ar nifer y credydau a enillwyd, gall y myfyrwyr hynny fod yn gymwys ar gyfer cymhwyster ymadael (gweler G23). Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol fydd yn gyfrifol am ystyried nifer y credydau a enillwyd ac, os yw’n briodol, am ddyfarnu’r cymhwyster ymadael perthnasol.
S9
Ni fydd marciau a enillwyd gan ymgeiswyr sy’n llwyddo i wneud iawn am fethiannau’n cael eu capio ar Lefel 3 a Lefel 4.
Rheolau i’w cymhwyso yn ystod Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu Atodol
S10
Mae ymgeiswyr sy’n pasio o leiaf 120 o gredydau mewn modiwlau ar y lefel briodol yn gymwys yn awtomatig i gamu ymlaen i’r lefel astudio nesaf.
S11
Gall ymgeiswyr sy’n pasio 80 o gredydau neu fwy ond llai na 120 o gredydau fod yn gymwys i gamu ymlaen i’r lefel astudio nesaf ar yr amod:
- Bod y modiwlau y maent wedi methu ynddynt heb gael eu nodi’n flaenorol fel ‘modiwlau craidd’ ar gyfer y rhaglenni penodol (gweler rheol ddilyniant gyffredinol G4);
- Bod y marciau yn y modiwlau hynny’n ddim is na 30% a
- Bod y cyfartaledd ar y cyfan ar gyfer y lefel astudio’n 35% neu uwch.
Cyfeirir at fethiannau o’r fath fel "methiannau a ddigolledir". Bydd credydau'n cael eu dyfarnu ar gyfer methiannau a ddigolledir.
S12
Bydd ymgeiswyr sy'n pasio 20 o gredydau neu fwy ond sy'n methu bodloni gofynion S10 neu S11 uchod yn methu cymhwyso i symud ymlaen i'r Lefel Astudio nesaf. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol, fel arfer bydd yn ofynnol i’r ymgeiswyr hynny Ailadrodd y Lefel Astudio. Bydd yr ymgeiswyr hynny’n fforffedu unrhyw gredyd a enillwyd yn barod yn awtomatig (gweler G7).
(Yn unol â Rheol Ddilyniant Gyffredinol G8, gellir caniatáu i’r ymgeiswyr hynny sydd wedi cael penderfyniad Ailadrodd y Lefel Astudio ailadrodd y modiwlau a fethwyd yn unig).
Bydd yn ofynnol bod yr ymgeiswyr hynny’n gwneud iawn am y methiannau yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
S13
Bydd ymgeiswyr sy'n pasio llai nag 20 o gredydau'n cael eu cynghori i dynnu yn ôl. Caiff ymgeiswyr o'r fath eu cynghori i gwrdd â'u Cyfadran/Hysgol i drafod ai parhau ar y rhaglen astudio bresennol yw'r opsiwn mwyaf priodol iddyn nhw. Hefyd, efallai yr hoffai ymgeiswyr drafod eu hopsiynau ar gyfer trosglwyddo i raglen astudio amgen.
Gall ymgeiswyr o'r fath hefyd benderfynu dychwelyd i ail-wneud y lefel astudio ar eu rhaglen bresennol a byddant yn colli unrhyw gredydau a enillwyd eisoes yn awtomatig (gweler G7).
(Yn unol â Rheol Ddilyniant Gyffredinol G8, gellir caniatáu i’r ymgeiswyr hynny sydd wedi cael penderfyniad Ail-wneud y Lefel Astudio ail-wneud y modiwlau a fethwyd yn unig).
Bydd rhaid i ymgeiswyr o'r fath wneud iawn am y methiannau yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
S14
Bydd ymgeiswyr sy’n ailadrodd y lefel neu’n ailadrodd modiwlau a fethwyd ac sy’n methu â chymhwyso i gamu ymlaen i’r lefel astudio nesaf yn cael gwybod ei bod Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol.
Ni fydd ymgeiswyr sydd wedi cael penderfyniad ei bod Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol yn cael unrhyw ymgeisiau pellach i wneud iawn am fethiannau. Ni fydd ymgeiswyr yn gymwys i drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe a bydd eu hastudiaethau’n cael eu terfynu. Fel arfer, ni fydd ymgeiswyr sydd wedi cael penderfyniad ei bod ‘Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol’ yn cael eu derbyn yn ôl i’r un rhaglen astudio, nac i raglen gytras, heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn.
Gan ddibynnu ar nifer y credydau a enillwyd, gall y myfyrwyr hynny fod yn gymwys ar gyfer cymhwyster ymadael (gweler G23). Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol fydd yn gyfrifol am ystyried nifer y credydau a enillwyd ac, os yw’n briodol, am ddyfarnu’r cymhwyster ymadael perthnasol.
S15
Ni fydd marciau a enillwyd gan ymgeiswyr sy’n llwyddo i wneud iawn am fethiannau’n cael eu capio ar Lefel 3 a Lefel 4.
2.4 Rheolau Dilyniant Penodol i fyfyrwyr yr Ysgol Feddygaeth sy'n dilyn Lefel 3
Rheolau i'w defnyddio yng nghyfarfodydd diwedd blwyddyn y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau
Dylai myfyrwyr MPharm mewn Fferylliaeth ac MPharm mewn Fferylliaeth gyda Blwyddyn Baratoi (Sylfaen) gyfeirio at y rheoliadau penodol ar gyfer y rhaglenni hyn: Rheoliadau Rhaglenni MPharm mewn Fferylliaeth ac MPharm mewn Fferylliaeth gyda Blwyddyn Baratoi (Sylfaen) Prifysgol Abertawe
S1
Mae ymgeiswyr sy'n cronni o leiaf 120 o gredydau mewn modiwlau ar y lefel briodol ac yn cyflawni marc cyfartalog cyffredinol o 60% ar gyfer y lefel astudio'n cymhwyso'n awtomatig i symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf.
S2
Gall ymgeiswyr sy'n cronni 80 o gredydau neu fwy, ond llai na 120 o gredydau, fod yn gymwys i symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf ar yr amod:
- Bod y modiwlau y maent wedi’u methu heb gael eu nodi’n flaenorol fel ‘modiwlau craidd’ ar gyfer y rhaglenni penodol (gweler rheol ddilyniant gyffredinol G4);
- Nad yw’r marciau yn y modiwlau hynny'n llai na 30% a
- Bod y cyfartaledd ar y cyfan ar gyfer y lefel astudio'n 60% neu’n uwch.
(Cyfeirir at fethiannau o’r fath fel 'methiannau a oddefir’. Ni roddir credyd am 'fethiannau a oddefir’.)
Ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn Sylfaen yr Ysgol Feddygaeth (Lefel 3) nad ydynt wedi cyflawni cyfartaledd o 60%, caiff ymgeisiau ychwanegol eu cynnig mewn unrhyw fodiwl pan fydd marc modiwl islaw 60%, yn benodol ar gyfer cydrannau asesu unigol yn y modiwlau hyn gyda marc islaw 60%.
S3
Bydd ymgeiswyr sy'n cronni 60 o gredydau neu fwy, ond sy'n methu â bodloni gofynion S1 neu S2 uchod, yn methu â chymhwyso i symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol, bydd ymgeiswyr o'r fath fel arfer yn cael arholiadau atodol ym mhob modiwl a fethwyd a hefyd mewn unrhyw fodiwlau sydd â marc islaw 60%.
Rhaid i'r holl aseiniadau sy'n gysylltiedig ag arholiadau atodol gael eu cyflwyno i'r Gyfadran/Ysgol berthnasol erbyn dechrau wythnos yr arholiadau atodol.
S4
Bydd ymgeiswyr sy'n cronni 20 o gredydau neu fwy, ond llai na 60 o gredydau, yn methu â chymhwyso i symud ymlaen i'r Lefel Astudio nesaf. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol, fel arfer bydd yn ofynnol i'r ymgeiswyr hynny Ail-wneud y Lefel Astudio. Bydd yr ymgeiswyr hynny'n fforffedu unrhyw gredyd a enillwyd eisoes yn awtomatig (gweler G7).
(Yn unol â Rheol Ddilyniant Gyffredinol G8, gellir caniatáu i’r ymgeiswyr hynny sydd wedi cael penderfyniad Ail-wneud y Lefel Astudio ail-wneud y modiwlau a fethwyd yn unig).
Bydd yn ofynnol i’r ymgeiswyr hynny wneud iawn am y methiannau yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
S5
Bydd ymgeiswyr sy’n cronni llai nag 20 o gredydau yn methu â chymhwyso i symud ymlaen i’r lefel astudio nesaf ac yn Gorfod Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol.
Ni fydd ymgeiswyr yn cael unrhyw gyfleoedd pellach i wneud iawn am fethiannau, ni fyddant yn gymwys i drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe a bydd eu hastudiaethau’n cael eu terfynu.
Fel arfer, ni chaiff ymgeisydd â phenderfyniad ‘Gorfod Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol’ ei ail-dderbyn i'r un rhaglen astudio na rhaglen gytras heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn Myfyrwyr.
S6
Bydd ymgeiswyr sy'n ailadrodd y lefel neu sy'n ailadrodd modiwlau a fethwyd, ac sy'n methu â chymhwyso i symud ymlaen i'r Lefel Astudio nesaf ar ôl cronni 60 credyd neu fwy, yn cael sefyll arholiadau/asesiad atodol fel yr ymgais terfynol i wneud iawn am fethiannau ar gyfer pob modiwl a fethwyd.
S7
Bydd ymgeiswyr sy’n ail-wneud y lefel neu’n ail-wneud modiwlau a fethwyd, ac sy’n methu â chymhwyso i symud ymlaen i’r lefel astudio nesaf, ar ôl cronni llai na 60 o gredydau, yn Gorfod Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol.
Ni fydd ymgeiswyr sy'n Gorfod Tynnu'n Ôl o'r Brifysgol yn cael cyfleoedd pellach i wneud iawn am fethiannau. Ni fydd ymgeiswyr yn gymwys i drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe a bydd eu hastudiaethau'n cael eu terfynu. Fel arfer, ni fydd ymgeiswyr sydd wedi cael penderfyniad ‘Gorfod Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol’ yn cael eu derbyn yn ôl i’r un rhaglen astudio, nac i raglen gytras, heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn Myfyrwyr.
Gan ddibynnu ar nifer y credydau a enillwyd, gall y myfyrwyr hynny fod yn gymwys ar gyfer cymhwyster ymadael (gweler G22). Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol fydd yn gyfrifol am ystyried nifer y credydau a enillwyd ac, os yw’n briodol, am ddyfarnu’r cymhwyster ymadael perthnasol.
S8
Ni fydd marciau a enillwyd gan ymgeiswyr sy'n llwyddo i wneud iawn am fethiannau'n cael eu capio.
Rheolau i'w defnyddio yng nghyfarfod Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau Atodol y Brifysgol.
S9
Mae ymgeiswyr sy'n cronni o leiaf 120 o gredydau mewn modiwlau ar y lefel briodol ac sy’n cyflawni marc cyfartalog cyffredinol o 60% ar gyfer y lefel astudio'n cymhwyso'n awtomatig i symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf.
S10
Gall ymgeiswyr sy'n cronni 80 o gredydau neu fwy, ond llai na 120 o gredydau, fod yn gymwys i symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf ar yr amod:
- Bod y modiwlau y maent wedi’u methu heb gael eu nodi’n flaenorol fel ‘modiwlau craidd’ ar gyfer y rhaglenni penodol (gweler rheol ddilyniant gyffredinol G4);
- Nad yw’r marciau yn y modiwlau hynny'n llai na 30% a
- Bod y cyfartaledd ar y cyfan ar gyfer y lefel astudio'n 60% neu’n uwch.
(Cyfeirir at fethiannau o’r fath fel 'methiannau a oddefir’. Ni roddir credyd am 'fethiannau a oddefir’.)
S11
Bydd ymgeiswyr sy'n cronni 20 o gredydau neu fwy ond sy'n methu â bodloni gofynion S10 neu S11 uchod yn methu â chymhwyso i symud ymlaen i'r Lefel Astudio nesaf. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol, fel arfer bydd yn ofynnol i'r ymgeiswyr hynny Ail-wneud y Lefel Astudio. Bydd yr ymgeiswyr hynny'n fforffedu unrhyw gredyd a enillwyd eisoes yn awtomatig (gweler G7).
(Yn unol â Rheol Ddilyniant Gyffredinol G8, gellir caniatáu i’r ymgeiswyr hynny sydd wedi cael penderfyniad Ail-wneud y Lefel Astudio ail-wneud y modiwlau a fethwyd yn unig). Bydd yn ofynnol bod yr ymgeiswyr hynny'n gwneud iawn am y methiannau yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
S12
Bydd ymgeiswyr sy’n cronni llai nag 20 o gredydau (y cynigiwyd cyfle iddynt i sefyll arholiadau atodol gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarniadau mis Mehefin y Brifysgol neu Fwrdd Apeliadau Academaidd gan gydnabod amgylchiadau esgusodol) yn methu â chymhwyso i symud ymlaen i’r Lefel Astudio nesaf. Bydd yr ymgeiswyr hynny'n Gorfod Tynnu'n Ôl o'r Brifysgol. Ni fydd ymgeiswyr yn cael cyfleoedd pellach i wneud iawn am fethiannau, ni fyddant yn gymwys i drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe a bydd eu hastudiaethau’n cael eu terfynu. Fel arfer, ni chaiff ymgeisydd â phenderfyniad ‘Gorfod Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol’ ei ail-dderbyn i'r un rhaglen astudio na rhaglen gytras heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn Myfyrwyr.
S13
Ni fydd ymgeiswyr sy'n 'Gorfod Tynnu'n Ôl o'r Brifysgol' yn cael cyfleoedd pellach i wneud iawn am fethiannau. Ni fydd ymgeiswyr yn gymwys i drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe a bydd eu hastudiaethau'n cael eu terfynu.
Fel arfer, ni fydd ymgeisydd sydd wedi cael penderfyniad 'Gorfod Tynnu'n Ôl o'r Brifysgol' yn cael ei ail-dderbyn i'r un rhaglen astudio neu i raglen gytras, heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn Myfyrwyr.
Gan ddibynnu ar nifer y credydau a enillwyd, gall y myfyrwyr hynny fod yn gymwys ar gyfer cymhwyster ymadael (gweler G22). Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol fydd yn gyfrifol am ystyried nifer y credydau a enillwyd ac, os yw’n briodol, am ddyfarnu'r cymhwyster ymadael perthnasol.
S14
Ni fydd marciau a enillwyd gan ymgeiswyr sy'n llwyddo i wneud iawn am fethiannau'n cael eu capio.
Bydd angen i ymgeiswyr sy'n methu â symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf Dynnu'n ôl o'r Brifysgol.
2.4 parhaodd - Rheolau Dilyniant Penodol – Lefel 5-6, Lefel 5-S/E a Lefel 6-7
Rheolau i’w cymhwyso yn ystod Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu Ddiwedd Lefel
S1
Bydd ymgeiswyr sy'n pasio o leiaf 120 o gredydau mewn modiwlau ar y lefel briodol yn cymhwyso'n awtomatig i symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf. Rhaid i’r ymgeiswyr hynny gyflawni cyfartaledd ar y cyfan ar gyfer y lefel astudio o 35% o leiaf. Yn achos myfyriwr gradd gychwynnol uwch ar Lefel 5, byddai’r Gyfadran/Ysgol fel arfer yn ei gwneud yn ofynnol i’r ymgeisydd ennill y marc cyfartalog a nodir yn Llawlyfr y Gyfadran/Ysgol hefyd.
S2
Gall ymgeiswyr sy'n pasio 80 o gredydau neu fwy, ond llai na 120 o gredydau, fod yn gymwys i symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf ar yr amod:
- Bod y modiwlau y maent wedi methu ynddynt heb gael eu nodi’n flaenorol fel ‘modiwlau craidd’ ar gyfer y rhaglenni penodol (gweler rheol ddilyniant gyffredinol G4);
- Bod y marciau yn y modiwlau hynny’n ddim is na 30% a
- Bod y cyfartaledd ar y cyfan ar gyfer y lefel astudio’n 35% neu uwch.
Cyfeirir at fethiannau o’r fath fel "methiannau a ddigolledir". Bydd credydau'n cael eu dyfarnu ar gyfer methiannau a ddigolledir.
S3
Gall ymgeiswyr sy'n pasio 80 o gredydau neu fwy, ond llai na 120 o gredydau ond sydd wedi methu mewn ‘modiwl(au) craidd’ yn methu â chymhwyso i gamu ymlaen i’r lefel astudio nesaf. Ar yr amod y ‘gellir goddef’ eu methiannau yn y modiwlau nad ydynt yn rhai craidd, fel arfer bydd angen iddynt ailsefyll y modiwl(au) craidd yn unig, a chedwir y marc(iau) ar gyfer y modiwlau eraill (nad ydynt yn rhai craidd) a fethwyd. Ni fydd myfyrwyr yn cael y cyfle i wella marciau yn y modiwlau di-graidd.
S4
Bydd ymgeiswyr sy’n pasio 60 o gredydau neu fwy, ond sy'n methu bodloni gofynion S1, S2 neu S3 uchod, yn methu cymhwyso i symud ymlaen i’r lefel astudio nesaf. . Fel arfer, yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol, caniateir i’r myfyrwyr hynny sefyll arholiadau atodol ym mhob modiwl a fethwyd. Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr ailsefyll pob ‘modiwl craidd’ a bydd disgwyl iddynt ailsefyll pob arholiad arall. Fodd bynnag, bydd ‘Egwyddor y Marc Gorau’ yn gymwys ym Mwrdd Atodol (cyfeirier at G11). Rhaid nodi bod rhaid llwyddo ym mhob modiwl craidd.
Rhaid i’r holl aseiniadau sy’n gysylltiedig ag arholiadau atodol gael eu cyflwyno i’r Gyfadran/Ysgol perthnasol erbyn dechrau wythnos yr arholiadau atodol.
S5
Bydd ymgeiswyr sy'n pasio 20 o gredydau neu fwy, ond llai na 60 o gredydau, yn methu cymhwyso i symud ymlaen i'r Lefel Astudio nesaf. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol, bydd yn rhaid i'r ymgeiswyr hynny Ail-wneud y Lefel Astudio.
Bydd yr ymgeiswyr hynny’n fforffedu unrhyw gredyd a enillwyd yn barod yn awtomatig (gweler G7).
(Yn unol â Rheol Ddilyniant Gyffredinol G8, gellir caniatáu i’r ymgeiswyr hynny sydd wedi cael penderfyniad Ailadrodd y Lefel Astudio ailadrodd y modiwlau a fethwyd yn unig).
Bydd yn ofynnol bod yr ymgeiswyr hynny’n gwneud iawn am y methiannau yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
S6
Bydd ymgeiswyr sy'n pasio llai nag 20 o gredydau'n cael eu cynghori i dynnu yn ôl. Caiff ymgeiswyr o'r fath eu cynghori i gwrdd â'u Cyfadran/Hysgol i drafod ai parhau ar y rhaglen astudio bresennol yw'r opsiwn mwyaf priodol iddyn nhw. Hefyd, efallai yr hoffai ymgeiswyr drafod eu hopsiynau ar gyfer trosglwyddo i raglen astudio amgen.
Gall ymgeiswyr o'r fath hefyd benderfynu dychwelyd i ail-wneud y lefel astudio ar eu rhaglen bresennol a byddant yn colli unrhyw gredydau a enillwyd eisoes yn awtomatig (gweler G7).
(Yn unol â Rheol Ddilyniant Gyffredinol G8, gellir caniatáu i’r ymgeiswyr hynny sydd wedi cael penderfyniad Ail-wneud y Lefel Astudio ail-wneud y modiwlau a fethwyd yn unig).
Bydd rhaid i ymgeiswyr o'r fath wneud iawn am y methiannau yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
S7
Yn achos myfyriwr gradd gychwynnol uwch ar Lefel 5, byddai’r Gyfadran/Ysgol fel arfer yn ei gwneud yn ofynnol i’r ymgeisydd ennill y marc cyfartalog a nodir yn Llawlyfr y Gyfadran/Ysgol hefyd.
Bydd ymgeiswyr sy’n dilyn graddau cychwynnol uwch ac sy’n methu â chymhwyso i gamu ymlaen i’r flwyddyn olaf ac yna’n trosglwyddo i flwyddyn olaf rhaglen radd gychwynnol (h.y. Lefel 6), yn cael eu hystyried yn fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ac yn ailadrodd modiwlau a fethwyd. Felly bydd modiwlau’r myfyrwyr hynny wedi’u capio ar 40%. Dylai myfyrwyr nodi y bydd y marc wedi’i gapio’n cael ei ddefnyddio at ddibenion dosbarthu ym mhob modiwl o’r fath (Rheol Ddilyniant Gyffredinol G9).
S8
Bydd ymgeiswyr sy’n ailadrodd y lefel neu’n ailadrodd modiwlau a fethwyd, ac sy’n methu cymhwyso i symud ymlaen i’r Lefel Astudio nesaf ar ôl pasio 60 o gredydau neu fwy, ond sy’n methu â bodloni S1, S2 ac S3, yn cael sefyll arholiadau atodol fel cyfle olaf i wneud iawn am fethiannau ym mhob modiwl a fethwyd.
S9
Bydd ymgeiswyr sy’n ail-wneud y lefel neu’n ail-wneud modiwlau a fethwyd, ac sy’n methu cymhwyso i symud ymlaen i’r lefel astudio nesaf ar ôl pasio llai na 60 o gredydau, yn Gorfod Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol.
Ni fydd ymgeiswyr sydd wedi cael penderfyniad ei bod Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol yn cael unrhyw ymgeisiau pellach i wneud iawn am fethiannau. Ni fydd ymgeiswyr yn gymwys i drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe a bydd eu hastudiaethau’n cael eu terfynu. Fel arfer, ni fydd ymgeiswyr sydd wedi cael penderfyniad ei bod ‘Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol’ yn cael eu derbyn yn ôl i’r un rhaglen astudio, nac i raglen gytras, heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn.
Gan ddibynnu ar nifer y credydau a enillwyd, gall y myfyrwyr hynny fod yn gymwys ar gyfer cymhwyster ymadael (gweler G23). Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol fydd yn gyfrifol am ystyried nifer y credydau a enillwyd ac, os yw’n briodol, am ddyfarnu’r cymhwyster ymadael perthnasol.
S10
Ni fydd y marciau a enillwyd gan ymgeiswyr sy’n ailadrodd y lefel astudio’n cael eu capio.
Bydd marciau a enillir gan ymgeiswyr sy’n ailadrodd modiwlau a fethwyd yn unig, ar Lefelau 5, 6 ac S, yn cael eu capio ar 40%. Dylai myfyrwyr nodi y bydd y marc wedi’i gapio’n cael ei ddefnyddio at ddibenion dosbarthu ym mhob modiwl o’r fath.
Rheolau i’w cymhwyso yn ystod Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu Atodol
S11
Bydd ymgeiswyr sy'n pasio o leiaf 120 o gredydau mewn modiwlau ar y lefel briodol yn cymhwyso'n awtomatig i symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf. Yn achos myfyriwr gradd gychwynnol uwch ar Lefel 5, byddai’r Gyfadran/Ysgol fel arfer yn ei gwneud yn ofynnol i’r ymgeisydd ennill y marc cyfartalog a nodir yn Llawlyfr y Gyfadran/Ysgol hefyd.
S12
Gall ymgeiswyr sy'n pasio 80 o gredydau neu fwy, ond llai na 120 o gredydau, fod yn gymwys i symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf ar yr amod:
- Bod y modiwlau y maent wedi methu ynddynt heb gael eu nodi’n flaenorol fel ‘modiwlau craidd’ ar gyfer y rhaglenni penodol (gweler rheol ddilyniant gyffredinol G4);
- Bod y marciau yn y modiwlau hynny’n ddim is na 30% a
- Bod y cyfartaledd ar y cyfan ar gyfer y lefel astudio’n 35% neu uwch.
Cyfeirir at fethiannau o’r fath fel "methiannau a ddigolledir". Bydd credydau'n cael eu dyfarnu ar gyfer methiannau a ddigolledir.
S13
Bydd ymgeiswyr sy’n methu ag ateb gofynion S11 neu S12 uchod, yn methu â chymhwyso i gamu ymlaen i’r lefel astudio nesaf. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol, fel arfer bydd yn ofynnol i’r ymgeiswyr hynny Ailadrodd y Lefel Astudio. Bydd yr ymgeiswyr hynny’n fforffedu unrhyw gredyd a enillwyd yn barod yn awtomatig (gweler G7).
(Yn unol â Rheol Ddilyniant Gyffredinol G8, gellir caniatáu i’r ymgeiswyr hynny sydd wedi cael penderfyniad Ailadrodd y Lefel Astudio ailadrodd y modiwlau a fethwyd yn unig).
Bydd yn ofynnol bod yr ymgeiswyr hynny’n gwneud iawn am y methiannau yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
S14
Bydd ymgeiswyr sy'n pasio llai nag 20 o gredydau'n cael eu cynghori i dynnu yn ôl. Caiff ymgeiswyr o'r fath eu cynghori i gwrdd â'u Cyfadran/Hysgol i drafod ai parhau ar y rhaglen astudio bresennol yw'r opsiwn mwyaf priodol iddyn nhw. Hefyd, efallai yr hoffai ymgeiswyr drafod eu hopsiynau ar gyfer trosglwyddo i raglen astudio amgen.
Gall ymgeiswyr o'r fath hefyd benderfynu dychwelyd i ail-wneud y lefel astudio ar eu rhaglen bresennol a byddant yn colli unrhyw gredydau a enillwyd eisoes yn awtomatig (gweler G7).
(Yn unol â Rheol Ddilyniant Gyffredinol G8, gellir caniatáu i’r ymgeiswyr hynny sydd wedi cael penderfyniad Ail-wneud y Lefel Astudio ail-wneud y modiwlau a fethwyd yn unig).
Bydd rhaid i ymgeiswyr o'r fath wneud iawn am y methiannau yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf
S15
Bydd ymgeiswyr sy’n dilyn graddau cychwynnol uwch ac sy’n methu â chymhwyso i gamu ymlaen i’r flwyddyn olaf ac yna’n trosglwyddo i flwyddyn olaf rhaglen radd gychwynnol (h.y. Lefel 6), yn cael eu hystyried yn fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ac yn ailadrodd modiwlau a fethwyd. Felly bydd modiwlau’r myfyrwyr hynny wedi’u capio ar 40%. Dylai myfyrwyr nodi y bydd y marc wedi’i gapio’n cael ei ddefnyddio at ddibenion dosbarthu ym mhob modiwl o’r fath (Rheol Ddilyniant Gyffredinol G9).
S16
Bydd ymgeiswyr sy’n ailadrodd y Lefel neu’n ailadrodd modiwlau a fethwyd ac sy’n methu â chymhwyso i gamu ymlaen i’r Lefel Astudio nesaf yn cael gwybod ei bod Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol.
Ni fydd ymgeiswyr sydd wedi cael penderfyniad ei bod Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol yn cael unrhyw ymgeisiau pellach i wneud iawn am fethiannau. Ni fydd ymgeiswyr yn gymwys i drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe a bydd eu hastudiaethau’n cael eu terfynu. Fel arfer, ni fydd ymgeiswyr sydd wedi cael penderfyniad ei bod ‘Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol’ yn cael eu derbyn yn ôl i’r un rhaglen astudio, nac i raglen gytras, heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn.
Gan ddibynnu ar nifer y credydau a enillwyd, gall y myfyrwyr hynny fod yn gymwys ar gyfer cymhwyster ymadael (gweler G23). Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol fydd yn gyfrifol am ystyried nifer y credydau a enillwyd ac, os yw’n briodol, am ddyfarnu’r cymhwyster ymadael perthnasol.
S17
Bydd marciau a enillir gan ymgeiswyr sy’n llwyddo i wneud iawn am fethiannau yn ystod cyfnod yr arholiadau atodol ar Lefelau 5 a 6 yn cael eu capio ar 40% (gweler Rheol Ddilyniant Gyffredinol G9). Dylai myfyrwyr nodi y bydd y marc wedi’i gapio’n cael ei ddefnyddio at ddibenion dosbarthu ym mhob modiwl o’r fath.
Ceir Crynodeb o benderfyniadau dilyniant y gall Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol eu rhoi yn Atodiad 3.
2.5 Canllawiau ar Gyfer Dilyniant Myfyrwyr Rhan-Amser ar Raddau Israddedig
Bydd Byrddau Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol, wrth ystyried canlyniadau ymgeiswyr rhan-amser sydd wedi dilyn 120 o gredydau ar Lefel Astudio benodol, yn cymhwyso’r rheolau dilyniant arferol ar gyfer graddau israddedig llawn-amser fel a nodir yn yr adran hon (ac eithrio y bydd y penderfyniad ‘Ailadrodd Modiwlau a Fethwyd’ yn cael ei roi yn yr achosion hynny pan fyddai ‘Ailadrodd Lefel’ yn gymwys fel arfer).
Dylid nodi na chaniateir diogolledu yn cael ei ganiatáu ran o’r ffordd trwy Lefel Astudio, dim ond ar ddiwedd Lefel Astudio. Bydd marciau ymgeiswyr rhan-amser yn cael eu cadarnhau ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd.
Bydd myfyrwyr rhan-amser yn cael hyd at dri ymgais pellach i wneud iawn am fethiannau o fewn dwy sesiwn academaidd.
Dylai Byrddau Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol, wrth ystyried canlyniadau ymgeiswyr rhan-amser sydd ran o’r ffordd trwy Lefel Astudio benodol, ystyried y canlynol fel canllaw:
Myfyrwyr Nad Ydynt Yn Eu Blwyddyn Olaf
Credydau a ddilynwyd | Credydau y mae’n rhaid llwyddo ynddynt ar gyfer penderfyniad Parhau | Credydau y mae’n rhaid llwyddo ynddynt ar gyfer penderfyniad Atodol | Credydau y mae’n rhaid llwyddo ynddynt ar gyfer penderfyniad Tynnu’n Ôl o’r Rhaglen |
---|---|---|---|
30 | 30 | 10-25 | 0 |
40 | 40 | 10-35 | 0 |
50 | 50 | 10-45 | 0 |
60 | 60 | 20-55 | 0-15 |
70 | 70 | 20-65 | 0-15 |
80 | 80 | 20-75 | 0-15 |
90 | 90 | 20-80 | 0-15 |
Credydau a ddilynwyd | Credydau y mae’n rhaid llwyddo ynddynt ar gyfer penderfyniad Parhau | Credydau i’w pasio i gael penderfyniad o Ail-wneud Modiwlau | Credydau y mae’n rhaid llwyddo ynddynt ar gyfer penderfyniad Tynnu’n Ôl o’r Rhaglen |
---|---|---|---|
30 | 30 | 10-25 | 0 |
40 | 40 | 10-35 | 0 |
50 | 50 | 10-45 | 0 |
60 | 60 | 20-55 | 0-15 |
70 | 70 | 20-65 | 0-15 |
80 | 80 | 20-75 | 0-15 |
90 | 90 | 20-80 | 0-15 |
Myfyrwyr Blwyddyn Olaf
Rheolau ar gyfer Dyfarnu Credyd yn y Lefel Astudio Olaf (Lefel 6/7) ar gyfer Myfyrwyr Rhan-amser
Mae’r rheoliadau hyn yn gymwys i’r holl fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf sy’n astudio’n rhan-amser ac eithrio’r rhai sy’n dilyn graddau achrededig yn y Gyfadran Peirianneg a Gwyddoniaeth a rhaglenni yn y Gyfadran Meddygaeth, Gwyddorau Iechyd a Bywyd sy’n arwain at gofrestriad proffesiynol.
Fel arfer, mae myfyrwyr rhan-amser yn cwblhau lefel astudio o fewn dwy flynedd academaidd. Fodd bynnag, gall y myfyrwyr hynny gymryd hyd at dair blynedd ar yr amod y gellir cwblhau’r radd o fewn yr uchafswm cyfnod ymgeisyddiaeth o 10 mlynedd. Felly mae’r rheoliadau isod yn cyfeirio at ddyfarnu credydau am astudio ar Lefel 6/7.
Blwyddyn 1, Bwrdd Dilyniant ddiwedd y flwyddyn
- Ymgeiswyr sydd wedi llwyddo ym mhob credyd a ddilynwyd - parhau
- Ymgeiswyr sydd wedi methu 40 o gredydau neu lai, nad yw’r un ohonynt yn fodiwlau craidd - parhau
- Ymgeiswyr sydd wedi methu 40 o gredydau neu lai gan gynnwys modiwlau craidd – craidd atodol
- Ymgeiswyr sydd wedi methu mwy na 40 ond dim mwy na 60 o gredydau – parhau (ond hysbysu mai dim ond ar gyfer gradd Gyffredin[4] y gallent fod yn gymwys)
- Ymgeiswyr sydd wedi methu mwy na 60 o gredydau – cymhwyster ymadael
Blwyddyn 1, Bwrdd Dilyniant Atodol
:[1]
- Ymgeiswyr sydd wedi llwyddo ym mhob credyd a gymerwyd gan gynnwys unrhyw fodiwlau craidd y gwnaethant eu hailsefyll – parhau
- Ymgeiswyr sydd wedi methu unrhyw fodiwlau craidd y gwnaethant eu hailsefyll – parhau (ond hysbysu mai dim ond ar gyfer gradd Gyffredin[4] y gallent fod yn gymwys)
- Ymgeiswyr sydd wedi methu 40 o gredydau neu lai, nad yw’r un ohonynt yn fodiwlau craidd - parhau
- Ymgeiswyr sydd wedi methu 40 o gredydau neu lai gan gynnwys modiwlau craidd na wnaethant eu hailsefyll – ailadrodd modiwlau craidd a fethwyd
- Ymgeiswyr sydd wedi methu mwy na 40 ond dim mwy na 60 o gredydau – parhau (ond hysbysu mai dim ond ar gyfer gradd Gyffredin[4] y gallent fod yn gymwys)
- Ymgeiswyr sydd wedi methu mwy na 60 o gredydau – cymhwyster ymadael
Blwyddyn 2, Bwrdd Dilyniant ddiwedd y flwyddyn (mae’n gymwys dim ond i fyfyrwyr sy’n cymryd tair blynedd i gwblhau’r lefel):
- Ymgeiswyr sydd wedi llwyddo ym mhob credyd a ddilynwyd yn y flwyddyn hon a’r flwyddyn flaenorol gan gynnwys unrhyw fodiwlau craidd y gwnaethant eu hailsefyll - parhau
- Ymgeiswyr sydd wedi methu unrhyw fodiwlau craidd y gwnaethant eu hailsefyll ac sydd wedi methu dim mwy na 60 o gredydau yn y flwyddyn hon a’r flwyddyn flaenorol – parhau (ond hysbysu mai dim ond ar gyfer gradd Gyffredin[4] y gallent fod yn gymwys)
- Ymgeiswyr sydd wedi methu 40 o gredydau neu lai ar y cyfan yn y flwyddyn hon a’r flwyddyn flaenorol, nad yw’r un ohonynt yn fodiwlau craidd - parhau
- Ymgeiswyr sydd wedi methu 40 o gredydau neu lai ar y cyfan (mae modiwlau craidd a fethwyd yn wreiddiol ac y llwyddwyd ynddynt wedi hynny’n cyfrif fel methiannau at y diben hwn) yn y flwyddyn hon a’r flwyddyn flaenorol, gan gynnwys modiwlau craidd nad ydynt wedi’u hailsefyll yn flaenorol – craidd atodol
- Ymgeiswyr sydd wedi methu mwy na 40 ond dim mwy na 60 o gredydau ar y cyfan yn y flwyddyn hon a’r flwyddyn flaenorol – parhau (ond hysbysu mai dim ond ar gyfer gradd Gyffredin[4] y gallent fod yn gymwys)
- Ymgeiswyr sydd wedi methu mwy na 60 o gredydau yn y flwyddyn hon a’r flwyddyn flaenorol – cymhwyster ymadael
Blwyddyn 2, Bwrdd Dilyniant Atodol (mae’n gymwys dim ond i fyfyrwyr sy’n cymryd tair blynedd i gwblhau’r lefel):[2]
- Ymgeiswyr sydd wedi llwyddo ym mhob credyd a ddilynwyd yn y flwyddyn hon a’r flwyddyn flaenorol gan gynnwys unrhyw fodiwlau craidd y gwnaethant eu hailsefyll - parhau
- Ymgeiswyr sydd wedi methu unrhyw fodiwlau craidd y gwnaethant eu hailsefyll – parhau (ond hysbysu mai dim ond ar gyfer gradd Gyffredin[4] y gallent fod yn gymwys)
- Ymgeiswyr sydd wedi methu 40 o gredydau neu lai ar y cyfan yn y flwyddyn hon a’r flwyddyn flaenorol, nad yw’r un ohonynt yn fodiwlau craidd - parhau
- Ymgeiswyr sydd wedi methu 40 o gredydau neu lai ar y cyfan (mae modiwlau craidd a fethwyd yn wreiddiol ac y llwyddwyd ynddynt wedi hynny’n cyfrif fel methiannau at y diben hwn) yn y flwyddyn hon a’r flwyddyn flaenorol, gan gynnwys modiwlau craidd nad ydynt wedi’u hailsefyll yn flaenorol–ailadrodd modiwlau craidd a fethwyd
- Ymgeiswyr sydd wedi methu mwy na 40 ond dim mwy na 60 o gredydau ar y cyfan yn y flwyddyn hon a’r flwyddyn flaenorol – parhau (ond hysbysu mai dim ond ar gyfer gradd Gyffredin[4] y gallent fod yn gymwys)
- Ymgeiswyr sydd wedi methu mwy na 60 o gredydau ar y cyfan yn y flwyddyn hon a’r flwyddyn flaenorol – cymhwyster ymadael
Y flwyddyn olaf, Bwrdd Dilyniant ddiwedd y flwyddyn:
- Ymgeiswyr sydd wedi llwyddo ym mhob credyd a ddilynwyd yn y flwyddyn hon a’r flwyddyn flaenorol / blynyddoedd blaenorol gan gynnwys unrhyw fodiwlau craidd y gwnaethant eu hailsefyll – cwblhau
- Ymgeiswyr sydd wedi methu unrhyw fodiwlau craidd y gwnaethant eu hailsefyll ac sydd wedi methu dim mwy na 60 o gredydau ar y cyfan yn y flwyddyn hon a’r flwyddyn flaenorol/blynyddoedd blaenorol – cwblhau gradd Gyffredin[4]
- Ymgeiswyr sydd wedi methu 40 o gredydau neu lai ar y cyfan yn y flwyddyn hon a’r flwyddyn flaenorol/blynyddoedd blaenorol, nad yw’r un ohonynt yn fodiwlau craidd - cwblhau
- Ymgeiswyr sydd wedi methu 40 o gredydau neu lai ar y cyfan (mae modiwlau craidd a fethwyd yn wreiddiol ac y llwyddwyd ynddynt wedi hynny’n cyfrif fel methiannau at y diben hwn) yn y flwyddyn hon a’r flwyddyn flaenorol/blynyddoedd blaenorol, gan gynnwys modiwlau craidd nad ydynt wedi’u hailsefyll yn flaenorol – craidd atodol
- Ymgeiswyr sydd wedi methu mwy na 40 ond dim mwy na 60 o gredydau ar y cyfan yn y flwyddyn hon a’r flwyddyn flaenorol/blynyddoedd blaenorol – cwblhau gradd Gyffredin[4]
- Ymgeiswyr sydd wedi methu mwy na 60 o gredydau ar y cyfan yn y flwyddyn hon a’r flwyddyn flaenorol – cymhwyster ymadael
Blwyddyn olaf, Bwrdd Dilyniant Atodol:[3]
- Ymgeiswyr sydd wedi llwyddo ym mhob credyd a ddilynwyd gan gynnwys unrhyw fodiwlau craidd y gwnaethant eu hailsefyll – cwblhau
- Ymgeiswyr sydd wedi methu unrhyw fodiwlau craidd y gwnaethant eu hailsefyll ac sydd wedi methu dim mwy na 60 o gredydau ar y cyfan yn y flwyddyn hon a’r flwyddyn flaenorol/blynyddoedd blaenorol – cwblhau gradd Gyffredin[4]
- Ymgeiswyr sydd wedi methu 40 o gredydau neu lai ar y cyfan yn y flwyddyn hon a’r flwyddyn flaenorol / blynyddoedd blaenorol, nad yw’r un ohonynt yn fodiwlau craidd - cwblhau
- Ymgeiswyr sydd wedi methu 40 o gredydau neu lai ar y cyfan (mae modiwlau craidd a fethwyd yn wreiddiol ac y llwyddwyd ynddynt wedi hynny’n cyfrif fel methiannau at y diben hwn) yn y flwyddyn hon a’r flwyddyn flaenorol/blynyddoedd blaenorol, gan gynnwys modiwlau craidd nad ydynt wedi’u hailsefyll – ailadrodd modiwlau craidd a fethwyd
- Ymgeiswyr sydd wedi methu mwy na 40 ond dim mwy na 60 o gredydau ar y cyfan yn y flwyddyn hon a’r flwyddyn flaenorol/blynyddoedd blaenorol – cwblhau gradd Gyffredin[4]
- Ymgeiswyr sydd wedi methu mwy na 60 o gredydau ar y cyfan yn y flwyddyn hon a’r flwyddyn flaenorol – cymhwyster ymadael
[1] Gall gynnwys myfyrwyr â gohiriadau, yn ogystal â myfyrwyr â phenderfyniadau craidd atodol.
[2] Gall gynnwys myfyrwyr â gohiriadau, yn ogystal â myfyrwyr â phenderfyniadau craidd atodol.
[3] Gall gynnwys myfyrwyr â gohiriadau, yn ogystal â myfyrwyr â phenderfyniadau craidd atodol.
([4] Nodyn: Ni fydd gradd Gyffredin ar gael I fyfyrwyr o fis Medi 2018 ymlaen.)
2.7 Rheolau ar Gyfer Dyfarnu Credyd yn y Flwyddyn Olaf
Rheolau i’w cymhwyso yn ystod Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol
S1
Mae ymgeiswyr sy’n pasio o leiaf 120 o gredydau mewn modiwlau ar y lefel briodol ar gyfer y lefel astudio olaf yn cymhwyso’n awtomatig i gael eu hystyried ar gyfer dyfarnu gradd Anrhydedd.
S2
Gall ymgeiswyr sy’n pasio 80 o gredydau neu fwy ond llai na 120 o gredydau ac sy’n cyflawni marc cyfartalog o 35% yn y Flwyddyn Olaf fod yn gymwys i gael eu hystyried ar gyfer dyfarnu gradd Anrhydedd neu Lwyddo ar yr amod bod y modiwlau y maent wedi methu ynddynt heb gael eu nodi’n flaenorol fel ‘modiwlau craidd’ ar gyfer y rhaglenni penodol (gweler rheol ddilyniant gyffredinol G4).
(Cyfeirir at fethiannau o’r fath fel "methiannau a ddigolledir”. Bydd credydau'n cael eu dyfarnu ar gyfer methiannau a ddigolledir. Gall methiannau yn y Flwyddyn Astudio Olaf gael eu goddef i lawr i farc o 0%.)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ymgeiswyr ym mlwyddyn olaf gradd Bagloriaeth ac ymgeiswyr ym mlwyddyn olaf Gradd Gychwynnol Uwch.
S3
Bydd ymgeiswyr sy’n pasio 80 o gredydau neu fwy ond llai na 120 o gredydau ac sy’n cyflawni marc cyfartalog o 35% o leiaf yn y Flwyddyn Olaf ond sydd wedi methu mewn modiwl(au) craidd yn methu â chymhwyso ar gyfer gradd anrhydedd. Gellir caniatáu un ymgais olaf i’r myfyrwyr hynny wneud iawn am y methiant/methiannau yn y modiwl(au) craidd yn ystod cyfnod yr arholiadau atodol. At ddibenion dosbarthu’r radd, bydd y marc(iau) a gyflawnwyd felly’n cael ei gapio/eu capio ar 40% (50% ar gyfer modiwlau Lefel 7). Bydd y marciau ar gyfer yr holl fodiwlau eraill gan gynnwys methiannau mewn modiwlau di-graidd yn cael eu cadw at ddibenion dosbarthu’r radd.
Ni fydd ymgeiswyr sy'n dilyn Graddau Atodol sy'n cronni 80 o gredydau neu fwy ond llai nai 120 o gredydau ac sy'n cyflawni marc cyfartalog o 35% neu uwch yn y Flwyddyn Derfynol ond sydd wedi methu modiwl(au), yn cymhwyso am radd anrhydedd. Efallai y caiff yr ymgeiswyr hynny un ymgais olaf i wneud iawn am y methiant/methiannau yn y modiwl(au) yn ystod y cyfnod arholiadau atodol. At ddibenion dosbarthiad gradd, ni ellir cyflawni marc(iau) uwch na 40% (50% ar gyfer modiwlau Lefel 7)
S4
Bydd ymgeiswyr sy’n methu ag ateg gofynion S1, S2, S3 uchod yn methu â chwblhau’r lefel astudio olaf.
Ni fydd yr ymgeiswyr hynny’n cael unrhyw ymgeisiau pellach i wneud iawn am fethiannau a byddant yn cael gwybod ei bod Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol. Ni fydd ymgeiswyr yn gymwys i drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe a bydd eu hastudiaethau’n cael eu terfynu. Fel arfer, ni fydd ymgeiswyr sydd wedi cael penderfyniad ei bod ‘Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol’ yn cael eu derbyn yn ôl i’r un rhaglen astudio, nac i raglen gytras, heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn.
Gan ddibynnu ar nifer y credydau a enillwyd, gall y myfyrwyr hynny fod yn gymwys ar gyfer cymhwyster ymadael (gweler G23). Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol fydd yn gyfrifol am ystyried nifer y credydau a enillwyd ac, os yw’n briodol, am ddyfarnu’r cymhwyster ymadael perthnasol.
S5
Bydd y rheolau a nodir yn yr adran hon fel arfer yn dylanwadu ar benderfyniad Byrddau Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol ar gyfer ymgeiswyr. Fodd bynnag, ni ddylai ymgeiswyr ddisgwyl y byddant, fel mater o hawl, yn cael sefyll arholiad atodol mewn modiwl(au) craidd. Gall y Bwrdd ystyried amgylchiadau eraill sy’n gysylltiedig ag achos yr ymgeisydd cyn gwneud unrhyw benderfyniad.
S6
Dan amgylchiadau eithriadol a dim ond gyda chaniatâd penodol Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol gellir caniatáu i ymgeiswyr yn eu blwyddyn olaf ailadrodd eu hastudiaethau yn y sesiwn ganlynol. Bydd penderfyniad o’r fath yn cael ei wneud gan gyfeirio o bosibl at ganlyniadau Pwyllgor Ymholi, Pwyllgor Amgylchiadau Arbennig neu Fwrdd Apeliadau Academaidd. Bydd penderfyniad o’r fath yn cynnwys argymell a ddylai’r marciau a gyflawnir wrth ailadrodd yr astudiaethau fod wedi’u capio neu heb eu capio.
Ni fydd ymgeiswyr sy’n ailadrodd eu hastudiaethau yn y flwyddyn olaf ac sy’n methu â chymhwyso i gael eu hystyried ar gyfer dyfarniad ar y lefel astudio olaf yn cael unrhyw ymgeisiau pellach i wneud iawn am fethiannau a byddant yn cael gwybod ei bod Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol. Ni fydd ymgeiswyr yn gymwys i drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe a bydd eu hastudiaethau’n cael eu terfynu. Fel arfer, ni fydd ymgeiswyr sydd wedi cael penderfyniad ei bod ‘Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol’ yn cael eu derbyn yn ôl i’r un rhaglen astudio, nac i raglen gytras, heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn.
Gan ddibynnu ar nifer y credydau a enillwyd, gall y myfyrwyr hynny fod yn gymwys ar gyfer cymhwyster ymadael (gweler G23). Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol fydd yn gyfrifol am ystyried nifer y credydau a enillwyd ac, os yw’n briodol, am ddyfarnu’r cymhwyster ymadael perthnasol.
2.9 Rheoliadau Asesiadau Israddedig ar Gyfer Rhaglenni Achrededig yn Y Coleg, Prifysgol Abertawe
RHEOLAU ASESU CYFFREDINOL
G1
40% fydd y marc llwyddo ar gyfer modiwlau ar gyfer rhaglenni Sylfaen a Lefel 4 a 50% fydd y marc llwyddo ar gyfer rhaglenni Cyn-Feistr. Dim ond i ymgeiswyr sy’n llwyddo mewn modiwl y dyfernir credydau.
G2
Rhaid i ymgeiswyr ar raglenni darpariaeth safonol (Sylfaen, Lefel 4, Cyn-Feistr) basio 15 o gredydau cyn diwedd ail semester eu hastudiaethau er mwyn parhau â’u hymgeisyddiaeth astudio. Os nad yw ymgeisydd yn ateb y gofyniad hwn yna bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd dynnu’n ôl o’i astudiaethau.
G3
Rhaid i ymgeiswyr ateb gofynion pob modiwl o ran ymgysylltu ac asesu.
G4
Mae’r Coleg, Prifysgol Abertawe yn gweithredu system ac iddi dair haen ar gyfer prosesau ffurfiol i gytuno ar ganlyniadau asesu fel a ganlyn;
- Panel Modiwlau’r Coleg – mae’n cadarnhau’r marciau ar lefel modiwlau ar gyfer yr holl fyfyrwyr yn ystod cyfnod astudio;
- Bwrdd Dilyniant y Coleg – mae’n gwneud penderfyniadau ynghylch (i) dilyniant myfyrwyr i’r cyfnod astudio nesaf yn Y Coleg a (ii) asesiadau atodol, ailadrodd modiwlau ‘n llawn a gwahardd myfyrwyr (y gofyniad i fyfyrwyr dynnu’n ôl o’r Coleg oherwydd perfformiad academaidd gwael);
- Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol – mae’n cadarnhau marciau a’r holl benderfyniadau ynghylch dilyniant a dyfarniadau.
ASESIADAU ATODOL A MODIWLAU A AILADRODDIR
G5
Bydd Bwrdd Dilyniant y Coleg yn adolygu argymhellion Panel Modiwlau’r Coleg wrth gadarnhau asesiadau atodol a modiwlau a ailadroddir. Bydd y penderfyniadau a wneir gan Fwrdd Dilyniant y Coleg yn cael eu cadarnhau gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol.
G6
Ar gyfer rhaglenni darpariaeth safonol (rhaglenni Sylfaen, Lefel 4, Cyn-Feistr heb eu hintegreiddio);
- Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant Y Coleg gall yr ymgeiswyr sy’n methu mewn modiwl mewn semester penodol gael cynnig asesiad(au) atodol ar yr amod bod y marciau yn y modiwlau y gwnaethant fethu ynddynt heb fod yn fwy na 15% islaw’r marc llwyddo.
- Os bydd yr ymgeisydd yn methu yn yr asesiad(au) atodol yna, os yw’n gymwys, bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd ailadrodd y modiwl yn llawn (gyda ymgysylltu).
- Bydd yn ofynnol bod ymgeiswyr nad ydynt yn gymwys ar gyfer asesiad(au) atodol yn ailadrodd y modiwl cyfan yn llawn (gyda ymgysylltu).
- Gall ymgeiswyr ddilyn cymysgedd o fodiwlau a ailadroddir, asesiadau atodol a modiwlau a gaiff eu sefyll am y tro cyntaf ar yr amod nad yw cyfanswm credydau’r modiwlau’n uwch na 95 o gredydau, yn amodol ar unrhyw gyfyngiadau mewn trefniadau amserlennu.
- Os yw ymgeisydd yn methu mewn modiwl a ailadroddir (gyda ymgysylltu) yna caniateir cyfle olaf atodol i’r ymgeisydd pan fo’r marciau ar gyfer y modiwl(au) y gwnaeth fethu ynddo/ynddynt heb fod yn fwy na 15% islaw’r marc llwyddo. Os nad yw ymgeisydd yn cyrraedd y trothwy hwn bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd dynnu’n ôl o’i astudiaethau.
- Rhaid i ymgeiswyr ateb gofynion yr holl fodiwlau o ran ymgysylltu ac asesu. Fel arfer byddai Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol yn cael ei hysbysu ynghylch ymgeiswyr y mae eu ymgysylltu neu eu cynnydd yn anfoddhaol.
G7
Ar gyfer rhaglenni integredig (gan gynnwys elfennau/modiwlau integredig mewn rhaglenni) cyfeirier at Arweiniad Academaidd Prifysgol Abertawe ynghylch gwneud iawn am fethiannau a’r rheoliadau asesu ar gyfer rhaglen astudio benodol yr ymgeisydd.
G8
Ni all myfyrwyr ddewis ailadrodd modiwl yn llawn mewn ymgais i wella’u graddiad.
G9
Ni chyfyngir ar y radd a gyflawnir ar gyfer modiwl yr ailgofrestrwyd ar ei gyfer ar raglen darpariaeth safonol, oni bai bod un o Banelau Modiwlau’r Coleg neu Fwrdd Dilyniant Y Coleg wedi cytuno fel arall. Cyfyngir ar raddau’r modiwlau yr ailgofrestrwyd ar eu cyfer mewn rhaglenni Integredig fel a nodir yn Arweiniad Academaidd Prifysgol Abertawe, ac fel a nodir yn nogfennaeth y rhaglen benodol.
G10
Ni all ymgeisydd ar gyfer ailgofrestru fynnu ailasesiad mewn elfennau nad ydynt yn gyfredol yn y modiwl mwyach. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd felly yw gwirio a yw maes llafur neu fformat yr ailasesiad yn wahanol i’r gwreiddiol. Lle mae’n ystyried bod hynny’n briodol, gall Bwrdd Dilyniant Y Coleg wneud trefniadau arbennig lle nad yw’n ymarferol i fyfyrwyr gael eu hailasesu yn yr un elfennau neu’r un modd ag ar yr ymgais cyntaf.
G11
Wrth wneud penderfyniadau ynghylch dilyniant myfyrwyr yn dilyn asesiad(au) atodol, bydd Bwrdd Dilyniant Y Coleg yn cyfeirio at y marc gorau a sgoriwyd gan y myfyriwr ym mhob modiwl penodol.
CADARNHAU DILYNIANT I’R CYFNOD ASTUDIO NESAF
G12
Ar argymhelliad Bwrdd Dilyniant Y Coleg, gall myfyriwr ddechrau astudio modiwl(au) yn y semester nesaf cyn bod y Bwrdd wedi cwrdd i ystyried canlyniadau’r asesiad yn y semester blaenorol, yn amodol ar gyfyngiadau fisa’r myfyriwr.
G13
Gellir caniatáu i fyfyriwr gamu ymlaen i’r lefel astudio nesaf gyda modiwl y methwyd ynddo o’i lefel astudio flaenorol, cyn belled â bod y lefel astudio nesaf yn cael ei rheoli’n gyfan gwbl gan Y Coleg, Prifysgol Abertawe ac nid lle mae’n cynnwys pwynt cymalu.
G14
Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol fydd yn gwneud pob penderfyniad ynghylch dilyniant a bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud fel a ganlyn;
- Rhaid i fyfyrwyr sy’n camu ymlaen yn uniongyrchol i Lefel 4, Lefel 5 neu Radd Meistr ym Mhrifysgol Abertawe lwyddo ym mhob modiwl cyn y ceir dilyniant.
- Rhaid i fyfyrwyr sy’n camu ymlaen i raglenni Integredig ar Lefel 4 lwyddo ym mhob modiwl cyn y gellir cadarnhau dilyniant.
- Gall myfyrwyr sy’n camu ymlaen i raglenni Darpariaeth Safonol ar Lefel 4 gario 20 o gredydau o fodiwlau y gwnaethant fethu ynddynt, ond rhaid iddynt wneud iawn am y credydau y methwyd ynddynt ochr yn ochr â’r ddarpariaeth ar Lefel 4.
CAMYMDDWYN ACADEMAIDD
G15
Mae ymgeiswyr sy’n astudio yn Y Coleg, Prifysgol Abertawe yn ddarostyngedig i weithdrefnau Camymddwyn Academaidd Prifysgol Abertawe. Yn ogystal â’r cosbau a nodir yn adran 12 ac adran 13 o’r gweithdrefnau, gall Y Coleg osod yr amod canlynol;
Ar gyfer amodau nad ydynt yn gysylltiedig ag arholiadau;
- Os nad oes gan yr ymgeisydd unrhyw achosion blaenorol o gamymddwyn academaidd a gadarnhawyd, y cyfle i ailgyflwyno’r asesiad, wedi’i gapio ar y marc llwyddo.
G16 Cymwysterau Ymadael
Os na fydd ymgeisydd sy'n cael ei dderbyn ar raglen radd gychwynnol yn cwblhau'r rhaglen, a chan ddibynnu ar nifer y credydau a enillwyd ar y lefelau priodol erbyn iddo adael, efallai y bydd yn gymwys am un o'r dyfarniadau canlynol:
Cymhwyster Ymadael | Isafswm nifer y credydau y mae’n rhaid bod wedi’u dilyn | Lleiafswm y credydau mae’n rhaid eu pasio | Rheoliad Ychwanegol |
---|---|---|---|
Tystysgrif Addysg Uwch |
120 ar Lefel 4. Nid yw dyfarnu Tystysgrif Addysg Uwch fel cymhwyster ymadael yn berthnasol i ymgeiswyr a dderbyniwyd i Lefel 5 dan y rheoliadau trosglwyddo credyd. |
100 ar Lefel 4 | Er mwyn bod yn gymwys i gamu ymlaen i’r Lefel Astudio nesaf rhaid bod wedi dilyn isafswm o 60 o’r 120 o gredydau yn Abertawe. |
Diploma Addysg Uwch |
120 ar Lefel 4 a 120 ar Lefel 5. Ar gyfer ymgeiswyr a dderbynnir i Lefel 5 dan y rheoliadau trosglwyddo credyd, ni fydd isafswm y gofynion ar Lefel 4 yn gymwys. |
Wedi cwblhau Lefel 4 a 100 o gredydau ar Lefel 5 Ar gyfer ymgeiswyr a dderbynnir i Lefel 5 dan y rheoliadau trosglwyddo credyd, ni fydd isafswm y gofynion ar Lefel 4 yn gymwys. | Er mwyn bod yn gymwys i gamu ymlaen i’r Lefel Astudio nesaf rhaid bod wedi dilyn isafswm o 120 o gredydau yn Abertawe. |
Bydd cymwysterau ymadael yn cael eu galw’n ddyfarniadau fel arfer ac eithrio lle mae gofynion cyrff proffesiynol yn mynnu fel arall.
Bydd cymwysterau ymadael o’r fath yn cael eu cymeradwyo gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol.