Rheoliadau ar gyfer Dysgwyr Proffesiynol
1. Cyflwyniad
1.1
Mae'r rheoliadau hyn yn berthnasol i'r rhai hynny sy'n astudio modiwlau ar raglenni israddedig neu ôl-raddedig a addysgir ond nad ydynt wedi'u cofrestru fel myfyrwyr ar raglen sy'n arwain at ddyfarniad. Ni fydd dysgwyr proffesiynol yn gymwys i gael eu hystyried am unrhyw ddyfarniad gan Brifysgol Abertawe, ond byddant yn cael credydau am unrhyw fodiwlau a gwblhawyd yn llwyddiannus ganddynt. Mae hyn yn cynnwys cyrsiau 0 credyd sy'n cynnig datblygiad proffesiynol parhaus lle bydd y dysgwr yn cael trawsgrifiad yn nodi teitl y cwrs ar ôl cwblhau'n llwyddiannus.
1.2
Nid yw dysgwr proffesiynol yn dilyn rhaglen astudio a enwir ond mae'n astudio modiwl unigol neu nifer cyfyngedig o fodiwlau, naill ai fel cyfle datblygu gyrfa, rhagflas ar gyfer astudiaethau pellach, neu er diddordeb. Gall unrhyw fodiwlau a astudir y tu allan i raglen astudio ond sy'n cynnig credyd prifysgol gael ei alw'n ficrocymwysterau.
1.3
Mae’n rhaid i bob myfyriwr proffesiynol gofrestru gyda’r Brifysgol a thalu’r ffïoedd priodol a bennir gan y Brifysgol.
1.4
Gall dysgwyr proffesiynol amser llawn sydd wedi cofrestru ar gyfer gradd gychwynnol israddedig neu raglen ôl-raddedig a addysgir gael eu cofrestru ar yr un pryd fel dysgwr proffesiynol gyda chaniatâd penodol y Gyfadran (Cyfadrannau)/Ysgol(ion) perthnasol. Dylai ymgeiswyr o'r fath sylwi na chaniateir defnyddio modiwl(au) a ddilynir fel myfyriwr proffesiynol yn lle modiwlau ar y rhaglen radd.
2. Derbyn Myfyrwyr ac Amodau Mynediad
2.1
Bydd dysgwyr proffesiynol yn cael eu dosbarthu fel:
- Dysgwyr Proffesiynol Israddedig (Lefelau 4, 5, 6); neu
- Ddysgwyr Proffesiynol Ôl-raddedig (Lefel 7).
2.2
Mae dysgwyr proffesiynol cofrestredig yn ddarostyngedig i reoliadau academaidd a chyffredinol y Brifysgol, a rhaid iddynt gydymffurfio â hwy.
2.3
Fel arfer, bydd angen i ddysgwyr proffesiynol fodloni gofynion mynediad a derbyn myfyrwyr gofynnol y rhaglen israddedig neu ôl-raddedig y mae'r modiwlau yr hoffent eu dilyn yn gysylltiedig â nhw. Rhaid i ddysgwyr proffesiynol allu dangos i'r Gyfadran/yr Ysgol berthnasol, lefel briodol o wybodaeth a/neu brofiad cyn cael caniatâd i ddilyn y modiwl(au) dan sylw. Bydd hyn yn cael ei ddangos drwy'r broses ymgeisio.
2.4
Bydd yr holl ddarpariaeth yn cael ei chyflwyno yn Gymraeg (neu Saesneg). Dylai dysgwyr sicrhau bod ganddynt yr hyfedredd iaith gofynnol i gwblhau eu hastudiaethau. Cyn cofrestru, rhaid i Gyfadrannau/Ysgolion sicrhau bod myfyriwr proffesiynol yn gallu cyfathrebu'n effeithiol yn Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig, a'i fod yn gallu cyflawni'r sgôr IELTS (neu brawf cyfatebol) ar gyfer y rhaglen astudio. Bydd hyn yn cael ei ddangos drwy'r broses ymgeisio.
3. Cofrestru gyda’r Brifysgol
3.1
Mae’r Brifysgol yn disgwyl i bob dysgwr proffesiynol gofrestru er mwyn cael ei gydnabod yn fyfyriwr y Brifysgol. Rhaid i bob myfyriwr proffesiynol gofrestru’n unol â'r cyfarwyddiadau cofrestru ar gyfer y modiwl neu raglen astudio penodol ac o fewn y cyfnod cofrestru penodedig.
4. Gwybodaeth am y Modiwl
4.1
Bydd y Gyfadran/Ysgol briodol yn darparu manylion cynnwys, deilliannau dysgu a gofynion asesu modiwlau i ddysgwyr proffesiynol. Gellir darparu hyn drwy lawlyfr neu ar-lein.
5. Trosglwyddo rhwng Modiwlau
5.1
Unwaith y bydd dysgwyr wedi cwblhau 20% neu fwy o addysgu neu asesu modiwl, ni chaniateir iddynt drosglwyddo i fodiwl arall na chael ad-daliad am eu ffi.
6. Cyfranogiad Dysgwyr
6.1
Mae'r Brifysgol yn disgwyl i ddysgwyr fodloni'r gofynion cyfranogiad a amlinellir yn natganiad y brifysgol am gyfranogiad.
7. Monitro Cyfranogiad
7.1
Bydd cyfranogiad dysgwyr yn cael ei fonitro yn unol â Pholisïau Monitro Cyfranogiad y Brifysgol - Polisi Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr a Addysgir; Polisi Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt).
7.2
Caiff cynnydd ei fonitro drwy drefniadau tiwtoriaid personol (os yw'n berthnasol), trafodaethau rheolaidd ac adborth tiwtoriaid, a thrwy fyrddau arholi a byrddau dilyniant
8. Darpariaeth Arbennig
8.1
Cyfrifoldeb y dysgwr fydd hysbysu'r Gyfadran (Cyfadrannau)/Ysgol(ion) perthnasol am unrhyw anabledd neu unrhyw amgylchiadau arbennig a allai olygu bod angen darpariaeth arbennig arnynt. Mae’n ofynnol i ddysgwyr gyflwyno dogfennaeth briodol i ategu hyn. Dylai pob cais, boed o ganlyniad i anabledd hirdymor neu amgylchiadau tymor byr, gael ei nodi ar y ffurflen briodol a’i ategu gan dystiolaeth ysgrifenedig os oes modd. Dylid cyflwyno unrhyw gais i’r Gyfadran/Ysgol cyn gynted ag sy'n ymarferol bosib ac yn bendant cyn yr arholiad neu’r asesiad dan sylw.
8.2
Ceir rhagor o fanylion a chanllawiau ar drefniadau arholiadau ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn y Polisi ar Amgylchiadau Esgusodol.
9. Rheoliadau Asesu
9.1
Mae'n rhaid i bob dysgwr gydymffurfio â'r gofynion ynghylch asesu, gan gynnwys cyflwyno gwaith cwrs erbyn y dyddiadau cau a bennir gan arweinydd y modiwl, sefyll arholiadau ar yr amser a'r dyddiad a bennir gan y Brifysgol, ac unrhyw ofynion eraill a amlinellir yn y disgrifiad o'r modiwl neu'r llawlyfr.
9.2
Fel arfer, y marc pasio ar gyfer modiwlau fydd 40% ar gyfer modiwlau israddedig ar lefel 4-6 a 50% ar gyfer modiwlau ar lefel 7. Dyfernir credydau wrth i fyfyrwyr gwblhau modiwl yn llwyddiannus.
9.3
Os bydd Dysgwr Proffesiynol yn methu modiwl, bydd fel arfer yn cael un cyfle yn unig, a hynny fel arfer yn ystod yr un flwyddyn academaidd, i wneud iawn am y methiant ar y cyfle perthnasol nesaf. Yn unol ag arfer y Brifysgol, bydd marciau unrhyw ymgais i wneud iawn am fodiwl a fethwyd yn destun y rheolau capio ar bob lefel, heblaw am lefel 4.
9.4
Bydd rheoliadau, rheolau a gweithdrefnau canlynol y Brifysgol a'r Gyfadran/yr Ysgol ynghylch asesu yn berthnasol i ddysgwyr proffesiynol:
- Cyflwyno gwaith yn hwyr;
- Camymddygiad academaidd;
- Cywirdeb marciau a gyhoeddwyd;
- Darpariaeth arbennig ar gyfer asesu;
- Rheoliadau arholi, gan gynnwys absenoldeb ac ymddygiad.
9.5
Caiff canlyniadau dysgwyr proffesiynol eu cadarnhau a'u gwirio gan Fwrdd Arholiadau'r Gyfadran/yr Ysgol a Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol.
10. Terfynau Amser
10.1
Fel arfer, bydd disgwyl i ddysgwyr proffesiynol gwblhau'r modiwl(au) y maent wedi cofrestru arnynt o fewn y terfynau amser a bennwyd gan y Brifysgol ar gyfer y modiwl.
11. Gohirio Astudiaethau/Tynnu'n Ôl
11.1
Caniateir gohirio astudiaethau gyda chytundeb gan y Brifysgol yn unig. Ym mhob achos arall, bydd disgwyl i ddysgwyr proffesiynol gydymffurfio â gweithdrefnau'r Brifysgol ynghylch tynnu'n ôl.
12. Trosglwyddo i Raglen Astudio
12.1
Bydd hawl gan ddysgwyr i barhau i gael eu cofrestru fel dysgwyr proffesiynol hyd at y pwynt o ennill isafswm y cymhwyster ymadael (fel y nodir isod).
- Tystysgrif Addysg Uwch - 120 credyd ar lefel israddedig;
- Tystysgrif Addysg Uwch Ôl-raddedig - 60 credyd ar lefel ôl-raddedig a addysgir.
Wedi hynny, bydd y dewisiadau canlynol ar gael i fyfyrwyr:
- Ar yr amod eu bod yn bodloni gofynion y rhaglen, ac yn amodol ar amodau cyllido, caiff dysgwyr drosglwyddo i raglen astudio a gadael â dyfarniad, e.e. tystysgrif ôl-raddedig;
- Ar yr amod eu bod yn bodloni gofynion y rhaglen, ac yn amodol ar amodau cyllido, caiff dysgwyr drosglwyddo i raglen astudio sy'n arwain at ddyfarniad, e.e. gradd israddedig neu ôl-raddedig;
- Parhau fel dysgwr proffesiynol. Ni fydd dysgwyr sy'n dewis parhau fel dysgwyr proffesiynol yn gymwys am unrhyw ddyfarniad arall.
12.2
Os yw dysgwyr yn penderfynu trosglwyddo i raglen astudio gydnabyddedig sy'n arwain at ddyfarniad, bydd yn rhaid iddynt gyflwyno cais i'r Gyfadran/Ysgol briodol yn unol â rheoliadau'r Brifysgol ynghylch trosglwyddo rhwng rhaglenni.
12.3
Yn achos dysgwyr rhyngwladol a noddir gan y Brifysgol, mae trosglwyddo rhaglen yn amodol ar feddu ar fisa Llwybr Myfyrwyr dilys (Haen 4 gynt). Ar adeg trosglwyddo, gwneir asesiad ynghylch a yw'r trosglwyddiad yn bodloni deddfwriaeth bresennol Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt) cyn cymeradwyo'r trosglwyddiad. Bydd yr asesiad yn cynnwys cyfeiriad at lefel y rhaglen newydd, cyfnod absenoldeb presennol y dysgwr, y terfynau amser presennol sy'n llywodraethu astudio Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt), p'un a yw'r rhaglen newydd yn bodloni "uchelgeisiau gyrfa gwirioneddol" dysgwr ac unrhyw ofynion eraill a bennir gan Wasanaeth Fisâu a Mewnfudo'r DU (UKVI).
Pan na ellir cwblhau'r rhaglen newydd o fewn cyfnod absenoldeb presennol Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt), bydd gofyn i'r dysgwr adael y DU i gyflwyno cais am ganiatâd pellach i gwblhau'r rhaglen. Os oes angen cymeradwyaeth gan y Cynllun Cymeradwyo Technoleg Academaidd (ATAS) ar raglen, bydd rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol gael cymeradwyaeth a darparu copi o'r dystysgrif ATAS i'r Brifysgol cyn y gellir cymeradwyo cais i newid rhaglen.
13. Byrddau Arholi a Phenodi Arholwyr
13.1
Bydd yr holl arholiadau’n cael eu cynnal dan awdurdod Rheoliadau a Gweithdrefnau’r Brifysgol ar gyfer Cynnal Arholiadau. Cynhelir Byrddau Arholi yn unol â'r rheoliadau asesu priodol.
13.2
Enwebir a phenodir Arholwyr Allanol yn unol â'r gweithdrefnau a nodir yng Nghôd Ymarfer Prifysgol Abertawe ar gyfer Arholwyr Allanol.
14. Apeliadau Academaidd
14.1
Bydd gan ddysgwyr proffesiynol sydd am herio cywirdeb marc a ddyfarnwyd hawl i wneud hynny o dan weithdrefnau'r Brifysgol ynghylch Cywirdeb Marciau a Gyhoeddir.
14.2
Ni chaiff apeliadau sy'n cwestiynu barn academaidd eu hystyried. Ceir rhagor o wybodaeth yn y Weithdrefn Apelio.
15. Camymddygiad Academaidd
15.1
Caiff honiadau o gamymddygiad academaidd eu hystyried yn unol â gweithdrefnau Camymddygiad Academaidd y Brifysgol.
16. Addasrwydd i Ymarfer
16.1
Caiff honiadau ynghylch addasrwydd i ymarfer eu hystyried yn unol â Rheoliadau Addasrwydd i Ymarfer y Brifysgol.
17. Cwblhau’r Astudio
17.1
Yn dilyn Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau perthnasol y Brifysgol, hysbysir dysgwr proffesiynol o ganlyniadau ei fodiwl(au) drwy borth y myfyrwyr.
17.2
Ar ôl cwblhau modiwl yn llwyddiannus, bydd dysgwr proffesiynol yn cael trawsgrifiad academaidd sy'n briodol i'w astudiaethau gorffenedig.
18. Cymhwyster Aegrotat/wedi Marwolaeth
18.1
Nid yw’r rheoliadau ar gyfer dyfarniadau ar ôl marwolaeth ac Aegrotat yn berthnasol i ddysgwyr proffesiynol.