two people sat looking at laptop

'Dylech ymgyfarwyddo â'r Polisi Monitro Cyfranogiad y Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 ynghynt) a'r Datganiad ar Gyfranogiad oherwydd bod gan y Brifysgol ddyletswydd gyfreithiol i weithredu ar ddiffyg cyfranogiad er mwyn bodloni'r gofynion sydd arni o ran adrodd am bresenoldeb i noddwyr allanol, yn ogystal â bodloni gofynion nawdd Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI) ar gyfer monitro myfyrwyr rhyngwladol sy'n astudio yn y Deyrnas Unedig ar fisa Llwybr Myfyriwr (Haen 4 ynghynt). Mae system electronig ganolog wedi cael ei datblygu i fonitro presenoldeb at y dibenion hyn.’

Materion sy’n berthnasol - Llwybr Myfyrwyr
  • Os ydych chi'n fyfyriwr ymchwil ôl-raddedig o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, wedi cofrestru'n amser llawn yn y Brifysgol am Radd Ymchwil, rhaid i chi ddarllen yr wybodaeth ganlynol yn ofalus a chynllunio eich astudiaethau'n unol â hynny: 
  • Os ydych yn ddinesydd o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd y mae angen fisa myfyriwr arnoch i astudio yn y DU, rhaid i chi fod yn astudio amser llawn er mwyn cael fisa Llwybr Myfyrwyr; Gallwch astudio'n rhan-amser dim ond os ydych chi'n gymwys am statws fisa arall yn y DU;
  • Er mwyn cyflwyno cais am fisa Llwybr Myfyrwyr (i astudio cwrs newydd yn benodol), bydd angen Cadarnhad Derbyn i Astudio (CAS) gan dîm Derbyn Myfyrwyr y Brifysgol;
  • Mae pedwar dyddiad cofrestru posib bob blwyddyn ar gyfer PhD neu MPhil (1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf, 1 Hydref) a bydd eich CAS yn dangos eich dyddiad cofrestru y cytunwyd arno;
  • Rhaid i fyfyrwyr MRes wirio i gadarnhau pryd bydd eu rhaglen yn dechrau. Efallai na fydd cynifer o ddyddiadau cofrestru gan raglenni MRes â rhaglen ymchwil draddodiadol;
  • Mae rheolau Fisâu a Mewnfudo'r DU yn nodi mai dyddiad dod i ben eich fisa myfyriwr fydd ar ddiwedd eich ymgeisyddiaeth ynghyd â phedwar mis, fel a ganlyn:
    • 4 blynedd ynghyd â 4 mis ar gyfer ymgeisydd PhD;
    • 3 blynedd ynghyd â 4 mis ar gyfer ymgeisydd MPhil;
    • 2 flynedd ynghyd â 4 mis ar gyfer ymgeisydd MRes.
    • 2 flynedd ynghyd â 4 mis ar gyfer ymgeisydd Meistr trwy Ymchwil
    • 5 flynedd ynghyd â 4 mis ar gyfer ymgeisydd EngD
  • Nid yw rheolau'r fisa yn caniatáu i chi gael fisa am hwy na hynny, oni bai bod y Brifysgol yn ymestyn eich ymgeisyddiaeth;
  • Gan y gall gymryd mwy na phedwar mis ar ôl cyflwyno'r traethawd ymchwil i chi gael eich arholiad llafar a gwneud cywiriadau, mae'r Brifysgol yn eich cynghori'n gryf i beidio ag aros tan ddiwedd pedwaredd flwyddyn eich ymgeisyddiaeth i gyflwyno eich traethawd ymchwil;
  • Os ydych chi'n cyflwyno eich traethawd ymchwil ar ddiwedd eich ymgeisyddiaeth, mae'n debygol y bydd eich fisa wedi dod i ben cyn i'ch gradd gael ei chadarnhau'n ffurfiol, ac efallai na fyddwch chi'n gallu aros yn y DU er mwyn cyflwyno cais arall am fisa neu gael swydd.
  • Os oes gennych gwestiynau am eich fisa neu faterion mewnfudo eraill, cysylltwch â thîm Cyngor ar Fisâu'r Brifysgol.
Gweithdrefn Gwneud Cais am Ddatganiad 'Cadarnhad Derbyn i Astudio' o'r Gofrestrf Fisa Llwybr i Raddedigion Llwybr Myfyrwyr Cynllun Cymeradwyaeth Technoleg Academaidd (ATAS)