Gweler hefyd:

  • Gwybodaeth am ffioedd
  • Talu Ffioedd
  • Gohirio Astudiaethau/Tynnu'n ôl o'r Brifysgol

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i weithredu fel sy’n briodol mewn perthynas â myfyrwyr nad ydynt wedi talu eu dyledion ariannol i'r Brifysgol o ganlyniad i:

  • Ddyledion yn ymwneud â ffioedd llety;
  • Dyledion yn ymwneud â ffioedd dysgu.

Yn gryno, disgwylir i chi dalu, neu drefnu talu, ffioedd ar ddechrau’r sesiwn. Rhaid i chi dalu unrhyw gostau ychwanegol a gafwyd yn ystod blwyddyn academaidd, e.e. costau llety, erbyn y dyddiadau a gytunwyd.

Ffïoedd Dysgu

Os byddwch yn hwyr yn talu ffioedd dysgu a ffioedd eraill y Brifysgol, bydd y Brifysgol yn ceisio adennill unrhyw swm dyledus cyn gynted â phosib. Bydd y broses hon yn cynnwys anfon llythyr rhybudd cychwynnol atoch.

Oni thelir y ddyled ar ôl yr ail lythyr rhybudd, gellid mynnu eich bod yn gohirio eich astudiaethau. Cyn i ni gymryd y cam hwn, cewch gyfle i gyflwyno unrhyw amgylchiadau esgusodol i'w hystyried yn ystod y broses 'apelio yn erbyn penderfyniad i atal myfyriwr o'i astudiaethau’. Fel arfer, ni chaniateir i chi ailgydio yn eich astudio tan y sesiwn nesaf, hyd yn oed os byddwch yn talu'r ddyled wedyn.

Os oes gennych ddyled o sesiwn flaenorol, ni chaniateir i chi gofrestru ar ddechrau blwyddyn academaidd newydd. Os ydych ym mlwyddyn olaf eich astudio, mae'n rhaid i chi dalu'r symiau sy'n ddyledus i'r Brifysgol erbyn diwrnod cyntaf y cyfnod arholi fan bellaf oll. Os nad ydych yn gwneud hyn, bydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Academaidd yn cyfarwyddo Byrddau Arholi'r Brifysgol i'ch gwahardd rhag sefyll eich arholiadau. O ganlyniad, ni fyddwch yn cael eich ystyried am ddyfarniad ar gyfer unrhyw arholiadau rydych chi wedi'u sefyll ac ni fyddwch yn cael eich gwahodd i'r seremoni wobrwyo ar gyfer y Sesiwn honno.

Ffioedd Llety

Os yw eich dyledion yn ymwneud â ffioedd llety'r Brifysgol, tynnir eich sylw at Bolisi Rheoli Dyledion Gwasanaethau Preswyl, sydd ar wahân i unrhyw weithdrefnau adennill dyledion eraill y Brifysgol. Os oes gennych anawsterau talu ffioedd preswyl erbyn y dyddiad dyledus, fe’ch cynghorir i gysylltu â Chydlynydd y Gwasanaethau Ariannol yn y Gwasanaethau Preswyl cyn gynted â phosib drwy ffonio +44 (0)1792 295101, neu drwy e-bostio llety.

Mae cyngor ariannol ar gael gan Arian@BywydCampws i fyfyrwyr sy'n wynebu anhawster ariannol ac mae'n bosib y bydd cymorth ariannol cyfyngedig ar gael hefyd.