Mae’r Brifysgol yn ymfalchïo ar amgylchedd ymchwil cryf a chefnogol lle cynhelir gwaith ymchwil ardderchog - a llawer ohono o’r radd flaenaf. I helpu gyda’ch datblygiad, mae’r Brifysgol yn nodi’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gan y Brifysgol, gan eich Cyfadran/Ysgol a’r hyn rydym yn ei ddisgwyl gennych chi fel myfyriwr ymchwil. Mae gwybodaeth hefyd ar gael yn y Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil, Rheoliadau Graddau Ymchwil a Rheoliadau eraill y Brifysgol. Mae siarter myfyrwyr y Brifysgol yn crynhoi’r cyfrifoldebau hyn.
Mae pob Cyfadran/Ysgol yn mynnu bod myfyrwyr wedi ymrestru yn y Brifysgol a’u bod yn mynd i sesiwn sefydlu. Mae'r Brifysgol yn cydnabod bod presenoldeb, hyfforddiant ac ymgysylltu â dysgu ac addysgu yn elfennau allweddol o ran cadw myfyrwyr a hybu eu dilyniant, eu cyflawniadau a'u cyflogadwyedd. Mae'r ymagwedd hon yn ein helpu i adnabod myfyrwyr a allai fod yn profi anawsterau ac y gallai fod angen cymorth penodol arnynt e.e. gan y Gwasanaethau i Fyfyrwyr. Mae gan y Brifysgol ddyletswydd gyfreithiol hefyd i fonitro presenoldeb ac i weithredu ar ddiffyg presenoldeb er mwyn bodloni gofynion adrodd am bresenoldeb i noddwyr allanol, yn ogystal â bodloni gofynion nawdd Fisâu a Mewnfudo'r Deyrnas Gyfunol (UKVI) o ran monitro myfyrwyr rhyngwladol sy'n astudio yn y DU ar Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt). Mae’r System Rheoli Ymchwil wedi cael ei datblygu i fonitro presenoldeb at y dibenion hyn.
Mae cyfathrebu â’r Brifysgol yn hanfodol, a dylid adolygu gwybodaeth yn rheolaidd. Anfonir negeseuon swyddogol at eich cyfrif e-bost yn y Brifysgol, a dylid gwirio’r cyfrif hwn bob dydd. Mae gwybodaeth ynghylch ffïoedd, offer labordai ac yswiriant ar gael. Bydd pob myfyriwr yn cael tîm i’w gynorthwyo a’i gefnogi gyda’i astudiaethau. Mae canllawiau ar gyfer hyd yr astudiaethau e.e. amser llawn, rhan-amser ac ati o’r enw ymgeisyddiaeth. Mae gwybodaeth benodol ar gael ar gyfer myfyrwyr sy’n dod o du hwnt i’r UE ac ar gyfer cynllun Ymestyn Doethuriaethau Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt).