Canllawiau ar Gyflwyno'r Traethawd Ymchwil Allanol
1. Beth yw Traethawd Ymchwil?
DRAFFTIO, CYFLWYNO, AC ARHOLI TRAETHAWD YMCHWIL
Mae traethawd ymchwil yn cyflwyno canlyniadau ymchwil myfyriwr, gan ddisgrifio’r ymchwil trwy gyfeirio at waith perthnasol yn y maes. Bydd yn cynnwys disgrifiad o’r dulliau ymchwil a ystyriwyd, y rhai a ddefnyddiwyd mewn gwirionedd ac yn cyflwyno casgliadau’r myfyriwr. Mae’n hanfodol y caiff unrhyw ddefnydd o waith awdur arall ei gydnabod yn gywir. Gwaith y myfyriwr ei hun yw’r traethawd ymchwil a rhaid iddo gael ei ysgrifennu gan y myfyriwr.
1.1
Mae’n hanfodol bod y myfyriwr ymchwil yn trafod cynllun cyffredinol a chonfensiynau cyfeirnodi gyda’i oruchwylwyr i sicrhau y dilynir gofynion neu reolau sy’n benodol i’r pwnc neu’r ddisgyblaeth o’r cychwyn cyntaf. Mae disgwyl i oruchwylwyr ddarparu beirniadaeth ac adborth adeiladol ar y traethawd ymchwil yn ystod ymgeisyddiaeth; fodd bynnag, ni ddylid gofyn i’r goruchwylwyr ddarparu hyfforddiant iaith Saesneg na phrawf ddarllen.
1.2
Wrth asesu traethawd ymchwil, bydd yr arholwyr yn cadw mewn cof safon a chwmpas y gwaith y mae’n rhesymol disgwyl i fyfyriwr ymchwil galluog a diwyd ei gyflwyno ar ôl cyfnod o amser sy’n gyfwerth â’r cyfnod ymgeisyddiaeth isaf ar gyfer y radd sy’n cael ei harholi.
1.3
Mae rheoliadau academaidd y Brifysgol ar gyfer lefel gradd meistr drwy ymchwil yn datgan:
Dyfernir y cymhwyster i fyfyrwyr ymchwil sydd:
- Wedi dangos gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n seiliedig ar alluoedd a gysylltir fel rheol â gradd ar lefel Baglor, ac sy’n estyn a/neu’n cyfoethogi’r galluoedd hynny, ac sy’n darparu sail neu gyfle am wreiddioldeb wrth ddatblygu a/neu gymhwyso syniadau, yn aml mewn cyd-destun ymchwil;
- Yn gallu defnyddio’u gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u galluoedd datrys problemau mewn amgylcheddau newydd neu anghyfarwydd mewn cyd-destunau ehangach (neu amlddisgyblaethol) sy’n gysylltiedig â’u maes astudio;
- Yn meddu ar y gallu i integreiddio gwybodaeth a thrafod cymhlethdod, a ffurfio barn ar gorff o wybodaeth, a myfyrio ar gyfrifoldebau cymdeithasol a moesegol sy’n gysylltiedig â defnyddio’u gwybodaeth a’u barn;
- Yn gallu cyfleu eu casgliadau, a’r wybodaeth a’r rhesymeg sy’n sail i’r rhain, i gynulleidfaoedd arbenigol a lleyg mewn ffordd glir a diamwys;
Yn meddu ar y sgiliau dysgu i’w galluogi i barhau i astudio mewn ffordd a allai fod yn hunan gyfeiriedig neu’n annibynnol gan fwyaf.
1.4
Dyfernir y Radd Doethur mewn Athroniaeth i'r myfyriwr ymchwil sydd wedi:
1. Cyflwyno traethawd ymchwil sy’n cynnwys astudiaeth ac ymchwil uwch y myfyriwr ymchwil sy’n bodloni’r Bwrdd Arholwyr am ei fod yn:
- Gwneud cyfraniad gwreiddiol a sylweddol at ddealltwriaeth;
- Rhoi tystiolaeth o wreiddioldeb meddwl a barn feirniadol wrth greu a chyflawni prosiect ymchwil mewn pwnc penodol;
- Cynnwys deunydd sy’n deilwng o’i gyhoeddi mewn cyfnodolyn a adolygwyd gan gymheiriaid;
foddhaol o ran ei gyflwyniad llenyddol a/neu dechnegol a’i strwythur, gyda llyfryddiaeth a chyfeirnodau llawn; - Dangos dealltwriaeth o gyd-destun yr ymchwil, a meistrolaeth ar y sgiliau a’r dulliau ymchwil sy’n gysylltiedig â’r maes.
2. Llwyddo mewn arholiad Viva Voce a gynhaliwyd gan yr arholwyr ar agweddau ehangach y maes ymchwil, yn ogystal â phwnc y traethawd ymchwil.
1.5
Myfyrwyr ymchwil y Cynllun Cymeradwyo Technoleg Academaidd (ATAS)
Os gwneir unrhyw newidiadau i gynigion ymchwil myfyrwyr ymchwil, mae’n ofynnol i’r Brifysgol hysbysu Fisâu a Mewnfudo'r DU o fewn 28 niwrnod am newidiadau i gynigion ymchwil myfyrwyr ôl-raddedig y mae angen tystysgrif y Cynllun Cymeradwyo Technoleg Academaidd (ATAS) arnynt. Gellir cael gwybodaeth am y cyrsiau y mae angen tystysgrif ATAS arnynt yma https://www.gov.uk/guidance/find-out-if-you-require-an-atas-certificate.
Sylwer, mae hyn yn berthnasol i fyfyrwyr nad ydynt o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd yn unig. Cyfrifoldeb goruchwylwyr Prifysgol Abertawe yw hysbysu Tîm Cydymffurfiaeth Myfyrwyr Rhyngwladol y Brifysgol (Gwasanaethau Addysg) am newidiadau i gynnig ymchwil gwreiddiol y myfyriwr ymchwil neu’r defnydd o dechneg ymchwil newydd Am ragor o wybodaeth, darllenwch ATAS.
2. Terfynau geiriau uchaf Gradd (Allanol) Doethur mewn Athroniaeth
2.1
PhD (Allanol)
Y terfyn geiriau yw 100,000 ar gyfer y prif destun. Nid yw'r terfyn geiriau’n cynnwys atodiadau (os oes rhai), troednodiadau hanfodol, rhannau a datganiadau rhagarweiniol neu’r llyfryddiaeth a’r mynegai.
3. Terfynau geiriau isaf
Nid oes isafswm o eiriau wedi’i osod ar gyfer Gradd Doethur mewn Athroniaeth (Allanol), ond gellir cymryd terfyn geiriau uchaf y radd MPhil traddodiadol a’i rhagflaenodd fel canllaw.
3.1
Sylwer: Yn y pen draw, yr arholwyr fydd yn penderfynu a yw traethawd ymchwil yn rhy hir neu’n rhy fyr. Canllaw yw’r terfyn geiriau, felly, yn hytrach na gofyniad. Gall goruchwyliwr gofnodi amheuon mewn perthynas â hyd traethawd ymchwil myfyriwr ymchwil ar y System Rheoli Ymchwil. Os yw’n amlwg bod traethawd ymchwil uwchlaw’r terfyn geiriau a fynegir, dylai’r myfyriwr ymchwil drafod camau golygyddol gyda’i oruchwylwyr cyn ei gyflwyno.
3.2
Dylai myfyrwyr ymchwil fod yn ymwybodol y gall arholwyr benderfynu nad yw traethawd ymchwil rhy hir yn bodloni safonau’r radd, ac ni fydd y radd, na dyfarniad is yn cael eu dyfarnu, heb symud ymlaen i’r cam arholiad llafar. Yn ogystal, gall fod yn ofynnol i fyfyriwr ymchwil ailgyflwyno traethawd ymchwil os oes ynddo wallau gramadegol neu sillafu difrifol – argymhellir yn gryf iawn defnyddio gwirydd sillafu.
4. Traethawd Ymchwil Gradd Ymchwil yn Seiliedig ar Ymarfer
Mae'r radd ymchwil yn seiliedig ar ymarfer (naill ai radd ddoethurol ynteu gradd meistr trwy ymchwil) yn wahanol i'r radd ymchwil safonol oherwydd bod elfen sylweddol o'r cyflwyniad yn waith creadigol gwreiddiol, a grëwyd gan y myfyriwr ymchwil yn benodol ar gyfer ei gyflwyno am y dyfarniad. Ar wahân i gynnwys deunyddiau o’r fath, rhaid i’r traethawd ymchwil yn seiliedig ar ymarfer gyflawni’r un safonau a ddisgwylir gan draethawd ymchwil gradd ymchwil safonol.
4.1
Rhaid gwneud cais i gyflwyno traethawd ymchwil gradd ymchwil yn seiliedig ar ymarfer i’r Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd cyn cadarnhau’r ymgeisyddiaeth. Dylai’r myfyriwr ymchwil a’r goruchwyliwr lunio cais ysgrifenedig, wedi’i gydlofnodi gan y Deon Gweithredol neu enwebai, yn esbonio pam mae’r fformat seiliedig ar ymarfer yn fwy priodol i’r prosiect ymchwil ac yn dangos sut bydd y prosiect yn manteisio’n llawn ar yr elfen greadigol ac/neu ymarferol. Dylai’r cais hefyd nodi’n glir gydbwysedd arfaethedig yr elfennau ysgrifenedig ac ymarferol i’w cyflwyno. Rhaid i’r cais nodi unrhyw faterion o ran anghenion penodol i gefnogi’r myfyriwr ymchwil oherwydd natur yr ymchwil e.e. effaith ar ofynion hyfforddiant sgiliau, gofynion goruchwylio etc. Dylai’r goruchwylwyr ddarparu gwybodaeth fanwl am sut caiff yr elfen ymarferol ei goruchwylio.
4.2
Elfen fawr o’r cyflwyniad yw gwaith creadigol gwreiddiol a grëwyd gan y myfyriwr ymchwil yn benodol i’w gyflwyno. Dylid cyflwyno sylwebaeth ysgrifenedig gyda’r elfen ymarferol. Dylid penderfynu ar hyd yr elfen ysgrifenedig ar sail natur yr ymchwil, ond ni ddylai fod yn fwy na 40,000 o eiriau ar gyfer lefel doethuriaeth ac 20,000 o eiriau ar gyfer lefel meistr ymchwil.
5. Gwaharddiad ar Fynediad
Weithiau, mae canlyniadau ymchwil yn werthfawr o safbwynt masnachol neu'n sensitif am reswm arall e.e. o ran defnyddio deunydd sy'n destun cytundeb neu gontract arall sy'n cyfyngu ar fynediad ato. Er mwyn diogelu’r cyfrinachedd hwn, mae’r Brifysgol yn caniatáu rhoi gwaharddiad ar fynediad at y traethawd ymchwil. Bydd hyn yn golygu na fydd ar gael i’r darllenydd cyffredin am hyd at bum mlynedd (gellir estyn y cyfnod dan amgylchiadau arbennig).
5.1
Mae'r Brifysgol yn cynnig system mynediad haenog at draethodau ymchwil: Mynediad Agored, Dan embargo (i ddod yn Fynediad Agored yn y pen draw), Cynnwys mynediad agored a olygwyd a Mynediad Cyfyngedig parhaol. Dylai awduron sicrhau bod y lefel mynediad a ddewiswyd ar gyfer y traethawd ymchwil yn briodol ac yn gyfreithlon. Dylid cyflwyno'r cais am Waharddiad ar Fynediad i'r Gyfadran/Ysgol i’w gymeradwyo gan y Deon Gweithredol neu enwebai. Rhaid i geisiadau am waharddiad ar fynediad nodi teitl y gwaith, a'r rhesymau dros y gwaharddiad. Gall ymgeiswyr ofyn am gyfyngiad ffurfiol am hyd cyfan y cyfnod embargo dros dro (pum mlynedd ar y mwyaf), mynegi bwriad i gyhoeddi fersiwn electronig o'r traethawd ymchwil wedi ei olygu, neu ofyn am gyfyngiad parhaol ffurfiol ar y’ fersiwn electronig.
5.2
Rhaid i awduron ddarparu cytundeb cyflwyno wedi'i gwblhau i’r Llyfrgell ar ôl cwblhau'r radd yn llwyddiannus. Bydd y Llyfrgell yn parchu unrhyw waharddiad parhaol ar fynediad neu embargo dros dro a nodir yn y cytundeb cyflwyno.
5.3
Myfyrwyr ymchwil a ariennir gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI - Cynghorau Ymchwil y DU gynt;) Disgwylir y bydd fersiwn testun llawn o'r traethawd ymchwil ar gael dim mwy na deuddeg mis ar ôl dyfarnu'r ddoethuriaeth. Mae UKRI yn cydnabod y gall trefniadau masnachol, cydweithredol neu gyhoeddi achosi oedi byr ond disgwylir i'r traethawd ymchwil gael ei gyflwyno cyn gynted â phosibl wedi hynny, oni bai fod gwaharddiad ar waith.
6.1 - 6.2.15 Confensiynau Rhwymo
6.1 E-draethawd Ymchwil
O 1 Hydref 2021 ymlaen, mae'n rhaid i bob fersiwn derfynol (wedi’i chwblhau) o draethodau ymchwil ar gyrsiau ôl-raddedig ymchwil gael eu cyflwyno ar ffurf electronig (e-draethawd ymchwil). Nid oes bellach angen cyflwyno copïau clawr caled i Lyfrgell Prifysgol Abertawe na Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, ond serch hynny efallai y bydd angen rhwymo dros dro at ddibenion arholi (gweler isod).
6.2 Rhwymo Dros Dro
Mae'n bosib y bydd angen rhwymo dros dro at ddibenion arholi, yn ogystal â’r copi electronig o’r traethawd ymchwil. Argymhellir bod myfyrwyr yn gwirio gyda'u Cyfadran/Ysgol pa ffurf o draethawd ymchwil sy’n briodol at ddibenion arholi.
6.3 Rhwymo clawr caled parhaol
Nid yw’r Brifysgol bellach yn gofyn i fyfyrwyr gyflwyno copïau clawr caled parhaol o draethodau ymchwil terfynol, ond yn hytrach disgwylir i bob traethawd Ymchwil Ôl-raddedig gael ei gyflwyno ar ffurf electronig (e-draethawd ymchwil). Fodd bynnag, mae adrannau 6.3.1-6.7 isod wedi'u cadw fel canllaw ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno creu eu copïau clawr caled eu hunain yn yr arddull a ddefnyddiwyd yn hanesyddol ym Mhrifysgol Abertawe.
6.3.1
Nid yw’r Brifysgol yn pennu lliw’r clawr, ond du, gwyrdd tywyll neu goch yw’r lliw fel arfer.
6.3.2
Rhaid i feingefn y traethawd ymchwil (rhwymo parhaol yn unig) ddangos:
• Cyfenw a llythrennau blaen y myfyriwr ymchwil
• Prifysgol Abertawe
• Teitl llawn neu fyr y gwaith
• Y flwyddyn gyflwyno
• Y radd y mae’r gwaith yn cael ei gyflwyno ar ei chyfer.
6.3.3
Sylwer:
Os oes angen dwy gyfrol, dylid ychwanegu Cyfrol 1 a Chyfrol 2, fel y bo’n briodol, at y testun ar y meingefn.
Enghraifft: Meingefn
Tugandlow, G. Prifysgol Abertawe
Hunan feirniadaeth a Hunan benderfyniad [Cyfrol. 1]PhD
6.3.4
Cynllun mewnol traethawd ymchwil
Bydd cynllun y traethawd ymchwil (boed wedi'i rwymo dros dro neu'n e-draethawd) yn dilyn y patrwm isod fel arfer. Fodd bynnag, rhaid i'r myfyriwr ymchwil wirio gyda'i oruchwylwyr i weld a oes unrhyw gonfensiynau penodol sy'n berthnasol i'r maes pwnc dan sylw:
Tudalen Deitl
Crynodeb
Datganiadau a Gosodiadau
Tudalen Cynnwys
Cydnabyddiaethau
Rhestr o dablau, darluniau ac ati.
Diffiniadau neu Fyrfoddau
TESTUN: Wedi’i rannu’n briodol a chyda phenodau ac adrannau wedi’u tudalennu’n barhaus. (Mae cynllun y testun yn agwedd bwysig ar ddyluniad y traethawd ymchwil. Gellir rhannu'r deunydd yn ôl Rhannau, Penodau, Adrannau, etc., mae cyngor y goruchwyliwr yn hanfodol)
Atodiadau (Dylid ystyried cyfrol ar wahân os yw’r rhain yn sylweddol) (ddim yn berthnasol ar gyfer fersiynau e-draethawd ymchwil)
Rhestr Termau
Llyfryddiaeth
Gall traethodau ymchwil wyro o'r strwythur uchod, os derbynnir caniatâd y Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd, dim hwyrach na dyddiad cyflwyno'r ffurflen 'Hysbysiad o Fwriad i Gyflwyno'.
6.3.5
Tudalen Deitl
Rhaid i’r dudalen deitl gynnwys yr wybodaeth ganlynol:
• Y teitl cymeradwy ac unrhyw isdeitl
• Cyfanswm y cyfrolau os oes mwy nag un, a rhif y gyfrol benodol (ddim yn berthnasol ar gyfer e-draethawd ymchwil)
• Enw llawn y myfyriwr ymchwil ac, os dymunir, unrhyw gymwysterau ac anrhydeddau yn dilyn yr enw.
• Y testun “Cyflwynwyd i Brifysgol Abertawe yn unol â’r gofynion ar gyfer y Radd ”wedi'i ddilyn gan enw'r raglen gradd ymchwil e.e. Doethur mewn Athroniaeth (Allanol) etc)
• Y testun “Prifysgol Abertawe”
• Y flwyddyn gyflwyno
6.3.6
Crynodeb
Disgrifiad byr o’r gwaith: Nodau, dulliau a chasgliadau'r ymchwil. Dim mwy na thri chant o eiriau, gan ddefnyddio llinellau gofod sengl.
Dylai myfyrwyr ymchwil gofio, wrth ysgrifennu’r crynodeb, efallai mai hon yw’r unig ran o’r traethawd ymchwil y bydd gweithwyr ymchwil eraill yn ei darllen. Dylid ei ysgrifennu mewn ffordd a fydd yn helpu ymchwilwyr yn yr un maes i benderfynu a ddylent ddarllen y traethawd ymchwil ai peidio. Dylai’r crynodeb gynnwys darn o ryddiaith gysylltiedig, ac ni ddylai fod yn fwy na 300 o eiriau mewn hyd. Gall fod yn llawer byrrach. Dylid osgoi byrfoddau.
6.3.7
Datganiadau a Gosodiadau
Darperir gwybodaeth am y datganiadau a’r gosodiadau safonol y mae’n rhaid eu gwneud pan fydd myfyriwr ymchwil yn cyflwyno’i draethawd ymchwil gyda’r Pecyn Cyflwyno a ddosberthir i fyfyrwyr sydd wedi cyflwyno eu ffurflen “Hysbysiad o Fwriad i Gyflwyno”. Yn gryno, mae’r rhain yn cynnwys:
- Datganiad nad yw sylwedd y gwaith wedi’i dderbyn o’r blaen ar gyfer unrhyw radd ac nad yw’n cael ei gyflwyno ar yr un pryd mewn ymgeisyddiaeth ar gyfer unrhyw radd arall.
- Gosodiad mai canlyniad ymchwiliadau’r myfyriwr ymchwil ei hun yw’r traethawd ymchwil, ac eithrio lle y nodir fel arall, a bod ffynonellau eraill yn cael eu cydnabod gan droednodiadau sy’n rhoi cyfeiriadau penodol a bod llyfryddiaeth wedi'i hatodi.
- Gosodiad ynghylch meta data a chrynodeb Gwneir y meta data a'r crynodeb ar gael yn awtomatig yng nghronfa'r Brifysgol i sefydliadau allanol. Mae angen Cytundeb Cyflwyno e-draethawd ymchwil ar y Llyfrgell os caiff ei dderbyn. Rheolir lefelau mynediad at y testun llawn yn unol â'r cytundeb sydd wedi'i gwblhau.
- Gosodiad sy'n nodi bod gweithdrefnau moesegol y Brifysgolwedi'u dilyn a, lle bo hynny'n briodol, bod cymeradwyaeth foesegol wedi'i derbyn.
6.3.8
Tudalen Gynnwys
Manylion rhaniad y traethawd ymchwil, gyda rhifau’r tudalennau.
6.3.9
Cydnabyddiaethau
Os yw’r myfyriwr yn dymuno cynnwys cyflwyniad neu gydnabyddiaeth yn y traethawd ymchwil, dylid cynnwys hyn ar dudalen sy’n dilyn y Dudalen Gynnwys.
6.3.10
Rhestr o dablau, darluniau etc.
Teitlau’r holl dablau a darluniau yn y traethawd ymchwil, gyda rhifau tudalennau.
6.3.11
Diffiniadau neu Fyrfoddau
Dylid diffinio’n glir pob byrfodd a ddefnyddir yn y traethawd ymchwil.
6.3.12
Y Prif Destun – wedi’i rannu’n briodol yn rhannau, penodau ac adrannau.
Dylai’r myfyriwr ymchwil geisio cyngor ei oruchwylwyr ar y ffurf briodol o rannu i’w defnyddio yn y prif destun. Dylai’r prif destun sefyll fel dogfen ar ei phen ei hun ac ni ddylai fod angen i’r darllenydd gyfeirio at yr atodiadau.
6.3.13
Atodiadau
Nid yw cyfanswm geiriau’r traethawd ymchwil yn cynnwys yr atodiadau. Mae’r atodiadau’n galluogi’r myfyriwr ymchwil i egluro’r prif destun ymhellach a gallant weithredu fel storfa o ddata crai. Dylid nodi nad oes rhaid i’r arholwyr ddarllen yr atodiadau wrth arholi traethawd ymchwil.
6.3.14
Rhestr Termau
Dylai’r rhestr termau gynnwys rhestr o dermau arbenigol a ddefnyddir yn y traethawd ymchwil nad oes disgwyl i’r darllenydd fod yn gyfarwydd â nhw, pob un â’i ddiffiniad fel y’i deellir yn y testun.
6.3.15
Llyfryddiaeth
Dylai’r llyfryddiaeth restru’r holl waith y cyfeirir ato yn y traethawd ymchwil a dylai hefyd gynnwys gwaith sydd wedi llywio’r traethawd ymchwil, hyd yn oed os na chyfeiriwyd ato'n uniongyrchol.
6.4 - 6.7 Confensiynau Traethawd Ymchwil
6.4 Ymddangosiad diriaethol y traethawd ymchwil
6.4.1
Papur (os oes angen copïau caled)
Gwyn, maint A4 sy’n ddigon didraidd i atal unrhyw beth rhag dangos trwyddo.
6.4.2
Y Print
Rhaid i’r prif destun gael ei argraffu mewn inc du, a gellir ei argraffu ar ddwy ochr y dudalen.
6.4.3
Ffont y Nodau neu Uchder Print
Ni ddylai maint y print na’r nodau fod yn llai nag 8 pwynt (2.50mm), ond fel rheol, byddai maint y testun yn cyfateb i 12 pwynt Times New Roman.
6.4.4
Ymylon
Dylai’r ymylon fod yn 4cm (1½ modfedd) o led ar yr ochr chwith ac o leiaf 2cm (¾ modfedd) ar yr ochr dde, ond mae 1 fodfedd (2.5cm) ar yr ochr dde yn well.
6.4.5
Bylchiad Llinellau
Dylid defnyddio bylchiad o un llinell a hanner yn y prif destun. Fodd bynnag, dylid defnyddio bylchiad sengl yn y Crynodeb, ac mewn unrhyw ddyfyniadau wedi’u mewnoli ac mewn troednodiadau.
6.4.6
Rhifo’r Tudalennau
Dylid rhifo’r tudalennau yn y traethawd ymchwil mewn trefn.
6.5 Cyfeiriadau a’r llyfryddiaeth
6.5.1
Y gofyniad cyntaf ar gyfer traethawd ymchwil a gyflwynir mewn ymgeisyddiaeth am radd yw ei fod yn cyflwyno canlyniadau gwaith y myfyriwr ymchwil ei hun. Wrth reswm, nid yw’r gofyniad hwn yn eithrio defnyddio dyfyniadau na chynrychioliad safbwyntiau neu ganlyniadau ysgolheigion eraill yn y maes. Yn wir, disgwyliad arall mewn unrhyw draethawd ymchwil yw y bydd y myfyriwr ymchwil yn cysylltu ei waith ei hun â gwaith ymchwilwyr eraill.
Mae’n bwysig bod y myfyriwr ymchwil yn gwahaniaethu’n glir ac yn ddiamwys rhwng ei feddyliau, ei gasgliadau a’i ganlyniadau ei hun ac rhai ysgolheigion eraill wrth ysgrifennu’r traethawd ymchwil. Y ffordd safonol o sicrhau y gwahaniaethir yn eglur yw rhoi dyfynodau ar gyfer dyfyniadau uniongyrchol o waith ysgolheigion eraill a chyfeiriadau er mwyn cydnabod defnydd uniongyrchol ac anuniongyrchol o waith ysgolheigion eraill. Rhaid i’r cyfeiriadau fod yn ddigon manwl i alluogi’r darllenydd i gael gafael ar y gwaith gwreiddiol a'i ystyried. Tybir bod aralleirio heb briodoli’n camymddygiad academaidd.
6.5.2
Nod cyfeiriad yw galluogi’r darllenydd i ddod o hyd i’r gwaith y mae’r myfyriwr ymchwil wedi’i ddyfynnu yn y traethawd ymchwil a throi ato.
6.5.3
Defnyddir cyfeiriadau i nodi’r gwaith a grybwyllwyd yn y testun, ond ni fydd y llyfryddiaeth, a osodir ar ddiwedd y traethawd ymchwil, yn gyfyngedig i fanylion angenrheidiol y gwaith a ddyfynnwyd yn unig; bydd hefyd yn rhoi manylion angenrheidiol gwaith arall a fu’n ddefnyddiol i ymchwil y myfyriwr, hyd yn oed os na chaiff ei ddyfynnu’n benodol yn y testun.
6.5.4
Mae llunio traethawd ymchwil yn dechrau drwy archwilio’r deunydd darllen perthnasol yn y maes astudio ac mae’n bwysig mabwysiadu dull defnyddiol o gofnodi darllen y myfyriwr ymchwil ar y dechrau. Mae meddalwedd Endnote ar gyfer rheoli cyfeiriadau llyfryddiaethol ar gael ar bob cyfrifiadur mynediad agored ledled y campws, ac mae hyfforddiant ar gael gan y Llyfrgell.
6.5.5
Mae’n bwysig iawn bod y myfyriwr ymchwil yn trafod pa system gyfeirnodi sydd fwyaf priodol ar gyfer y traethawd ymchwil gyda'i oruchwylwyr yn y camau astudio cynharaf. Mae arholwyr yn aml yn tybio bod cyfeirnodi anghywir yn fethiant i fodloni safonau angenrheidiol gradd ymchwil yn llawn. Os nad yw’r Gyfadran/Ysgol yn argymell confensiwn penodol, mae arweiniad sylfaenol ar arddulliau cyfeirnodi ar gael yng Nghanllaw Cyfeirnodi’r Llyfrgell neu gan eich llyfrgellydd pwnc
6.5.6
Rhaid i unrhyw gyfeiriad at ffynhonnell o'r we gynnwys y cyfeiriad gwe (llwybr llawn) a’r dyddiad diwethaf y cafodd ei gyrchu.
Ni ddylai'r traethawd ymchwil gynnwys darnau helaeth o ddeunydd heb ei newid sydd eisoes wedi'i gyflwyno a'i gymeradwyo am ddyfarniad gradd gan y Brifysgol hon neu unrhyw brifysgol arall.
6.6.1
Cynnwys Cyhoeddiadau
Gall traethawd ymchwil gynnwys papurau a ysgrifennwyd gan y myfyriwr ymchwil sydd wedi cael eu cyhoeddi'n allanol ac wedi'u hadolygu gan gymheiriaid, er enghraifft mewn cyfnodolion a thrafodion cynhadledd.
Dylai’r papurau ymwneud yn uniongyrchol ag astudiaethau'r myfyriwr ymchwil a rhaid eu bod wedi'u hysgrifennu yn ystod cyfnod yr ymgeisyddiaeth.
Rhaid bod cyhoeddiadau'n rhan hanfodol o gorff cydlynol a chyfannol o waith, yn hytrach nag elfen ar wahân.
I ddangos eu cyfraniad, fel arfer y myfyriwr ymchwil fyddai'r awdur cyntaf ar bapurau o'r fath. Lle mae'r myfyriwr ymchwil wedi cynnwys cyhoeddiadau mewn cyfnodolion sy'n mynnu bod yr awduron yn cael eu rhestru yn nhrefn yr wyddor, dylid nodi hyn yn glir. Rhaid i fyfyrwyr ymchwil gydnabod cyd-awduron a'u cyfraniad penodol at y papur, drwy ddatganiad o awduriaeth ar gyfer pob papur, i'w gynnwys yn y traethawd ymchwil. Gweler y datganiad enghreifftiol yn 6.7.6.
6.6.2
Nid oes cyfyngiad ar nifer y papurau y gellir eu cynnwys, ond dylai'r rhain, a chynnwys arall y traethawd ymchwil, adlewyrchu swm, gwreiddioldeb a lefel y gwaith a ddisgwylir gan fyfyriwr ymchwil ar gyfer traethawd ymchwil confensiynol.
6.6.3
Nid yw'r ffaith bod traethawd ymchwil yn cynnwys papur a gyhoeddwyd yn gwarantu y bydd yr arholwyr yn argymell y dyfarniad mae'r myfyriwr ymchwil yn cael ei arholi ar ei gyfer. Mae'n ofynnol i'r arholwyr asesu ansawdd y traethawd ymchwil cyfan yn unol â'r meini prawf a nodwyd yn adran 1.0.
6.6.4
Atgoffir myfyrwyr ymchwil o'r angen i lynu wrth delerau eu cytundeb cyhoeddi mewn perthynas â pherchnogaeth hawlfraint. Dylai myfyrwyr ymchwil hysbysu'r golygydd o'u bwriad i gynnwys yr erthygl yn rhan o'u traethawd ymchwil a chael cydsyniad ysgrifenedig. Dylai myfyrwyr ymchwil sylwi y gall fod yn angenrheidiol golygu'r fersiwn mynediad agored o'u traethawd ymchwil i ddileu deunydd sy'n eiddo i gyhoeddwr.
6.6.5
Lle bwriedir cynnwys papurau a gyhoeddwyd fel pennod traethawd ymchwil, rhaid i'r rhain gynnwys rhagymadrodd a chasgliad a rhaid iddynt gael eu rhwymo'n rhan o'r traethawd ymchwil yn y man priodol.
6.7
Datganiad o Awduriaeth
Rhaid cynnwys y datganiad canlynol yn y traethawd ymchwil i gofnodi cyfraniadau awduron at gyhoeddiad. Rhaid i'r myfyriwr ymchwil restru'r holl awduron ar gyfer pob papur a darparu manylion am eu rôl yn y gwaith a gyhoeddwyd. Lle bynnag y bo modd, dylid darparu amcangyfrif ar ffurf canran o gyfraniad pob awdur hefyd.
Datganiad:
Cyfrannodd y bobl a'r sefydliadau canlynol at gyhoeddi'r gwaith a wnaed fel rhan o'r traethawd ymchwil hwn:
Datganiad Awduriaeth Ymgeisydd | Enw a Chyfadran/Ysgol |
---|---|
Awdur 1 | Enw a Sefydliad |
Awdur 2 | Enw a Sefydliad |
Awdur 3 | Enw a Sefydliad |
Awdur 4 | Enw a Sefydliad |
Awdur 5 | Enw a Sefydliad |
Awdur 6 | Enw a Sefydliad |
Manylion yr Awdur a'i Rolau:
Papur 1 (teitl)
Wedi'i leoli ym Mhennod <nodwch rif y bennod>
Dyma gyfraniad y myfyriwr ymchwil <nodwch y math a chyfran y cyfraniad>
Awdur <nodwch rif yr awdur> wedi cyfrannu <nodwch y math a chyfran y cyfraniad>
<Ychwanegwch rifau papurau ychwanegol os oes angen>
Rydym ni sydd wedi arwyddo isod yn cytuno â "chyfran y gwaith a wnaed" a nodwyd uchod ar gyfer pob un o'r llawysgrifau wedi’u hadolygu gan gymheiriaid a gyhoeddwyd sy'n cyfrannu at y traethawd ymchwil hwn:
Llofnod y myfyriwr ymchwil _______________________________________
Awdur 1_____________________________________________
Awdur 2_____________________________________________
Awdur 3_____________________________________________
Awdur 4_____________________________________________
Awdur 5_____________________________________________
Awdur 6_____________________________________________
7. Confensiynau
7. Hysbysiad o Fwriad i Gyflwyno
O leiaf tri mis cyn y dyddiad y mae'r myfyriwr ymchwil yn disgwyl cyflwyno traethawd ymchwil, dylai nodi hyn trwy gyflwyno ffurflen Hysbysiad o Fwriad i Gyflwyno i'w Gyfadran/Ysgol. Mae hyn er mwyn i Gyfadran/Ysgol y myfyriwr ymchwil allu gwneud y trefniadau angenrheidiol ar gyfer ei arholiad mewn da bryd. Nid oes yn rhaid i'r myfyrwyr ymchwil fod yn or-benodol wrth nodi'r dyddiad cyflwyno (ar yr amod bod hyn cyn y dyddiad hwyraf a ganiateir). Cyn cyflwyno ei draethawd ymchwil, dylai'r myfyriwr ymchwil wirio'n ofalus mai dyna'r fersiwn yr hoffai ei chyflwyno i'w arholi, ac nad oes unrhyw wallau neu hepgoriadau damweiniol ynddi. Dylai'r myfyriwr ymchwil nodi na fydd modd iddynt dynnu'r traethawd ymchwil yn ôl wedi iddynt ei gyflwyno.
7.1
Ar ôl i'r myfyriwr nodi ei fwriad i gyflwyno, ni fydd y myfyriwr fel arfer yn gallu cyflwyno cais am estyniad i’r ymgeisyddiaeth wedi hynny.
7.2
Gweithdrefnau
- Mae’r myfyriwr ymchwil yn nodi ei fwriad i gyflwyno traethawd ymchwil dri mis cyn y dyddiad cyflwyno disgwyliedig;
- Mae’r goruchwyliwr yn cofnodi a gafwyd cymeradwyaeth os yw’r myfyriwr am gyflwyno’r traethawd ymchwil cyn dyddiad ymgeisyddiaeth fyrraf y myfyriwr (gweler yr Arweiniad ar Ymgeisyddiaeth Graddau Ymchwil Allanol am fanylion ynghylch cyflwyno'n gynnar);
- Mae’r goruchwyliwr yn cofnodi a oes bwriad i wneud cais am waharddiad ar fynediad neu os gwnaethpwyd hynny eisoes;
- Mae’r goruchwyliwr yn nodi a fydd y traethawd ymchwil yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg ac a fydd yr arholiad llafar yn Gymraeg;
- Mae’r goruchwyliwr yn nodi a fydd y traethawd ymchwil yn cael ei gyflwyno mewn iaith heblaw am Gymraeg/Saesneg (dylid cael caniatâd i wneud hynny ar adeg cadarnhau’r ymgeisyddiaeth, gweler y Canllawiau ar Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil Allanol) ac a fydd yr arholiad llafar mewn iaith heblaw am Gymraeg/Saesneg.
- Os oes gan y goruchwyliwr unrhyw sylwadau/pryderon ynglŷn â bwriad y myfyriwr i gyflwyno, dylid nodi hynny ar yr Hysbysiad o Fwriad i Gyflwyno. Os bydd y myfyriwr yn cyflwyno cyn dyddiad yr ymgeisyddiaeth fyrraf, dylai'r goruchwyliwr gynnwys sylw penodol ar hyn;
- Mae'r Gyfadran/Ysgol yn hysbysu Gwasanaethau Academaidd o'r cyflwyniad sydd i ddod;
- Mae'r Gyfadran/Ysgol yn dechrau'r broses o enwebu'r Bwrdd Arholi (gweler y Canllaw i Arholi Graddau Ymchwil Allanol am arweiniad ar sut i enwebu arholwyr).
7.3 Cyflwyno’r Traethawd Ymchwil i’w Arholi
Ar ôl nodi ei fwriad i gyflwyno drwy'r ffurflen Hysbysiad o Fwriad i Gyflwyno, bydd y myfyriwr ymchwil yn derbyn "Pecyn Cyflwyno". Mae’r pecyn yn cynnwys:
- Llythyr eglurhaol;
- Rhestrwirioi’rmyfyriwrymchwil;
- Nodiadau ac arweiniad i fyfyrwyr ymchwil;
- Cynlluniau a awgrymir ar gyfer datganiadau agosodiadau;
- Taflen cryno debo’r traethawd ymchwil.
7.3.1
Ar ôl i’r myfyriwr ymchwil ysgrifennu ei draethawd ymchwil, dylai’r goruchwylwyr weld y copi drafft terfynol i roi sylwadau arno. Yna, bydd y myfyriwr ymchwil yn gwneud y diwygiadau terfynol i’r traethawd ymchwil.
7.3.2
Mae’n ofynnol i bob myfyriwr ymchwil gynnwys crynodeb o’r traethawd ymchwil a’r datganiadau a’r gosodiadau perthnasol (gweler Cynllun mewnol traethawd ymchwil uchod).
7.3.3
Pan fydd myfyriwr ymchwil yn barod i gyflwyno'r traethawd ymchwil dylai gwblhau'r gosodiadau a'r datganiadau gofynnol, a pharatoi copi electronig i’w arholi. Mae'n bosibl y bydd hefyd angen darparu copi caled dros dro wedi'i rwymo os yw’r Gyfadran/Ysgol argymell hyn. Caiff y copi electronig ei gadw'n ddiogel gan Gyfadran/Ysgol gartref y myfyriwr ymchwil hyd nes nad oes ei angen mwyach.
7.3.4
Mae gan bob Cyfadran/Ysgol aelod penodol o staff sy’n gyfrifol am dderbyn traethodau ymchwil yn ffurfiol. Dylai’r myfyriwr ymchwil gyflwyno’r copi electronig o’r traethawd ymchwil ynghyd â chopi caled wedi’i rwymo dros dro (os oes angen).
Cofnodir y ffaith bod y traethawd ymchwil wedi’i gyflwyno ar y System Rheoli Ymchwil ac anfonir e-bost awtomatig at y myfyriwr yn cadarnhau ei fod wedi cyflwyno’r traethawd ymchwil.
Caiff y camau canlynol wedyn eu dilyn:
a) Caiff statws matriciwleiddio a statws ariannol y myfyriwr ymchwil eu gwirio. Os bydd y myfyriwr ymchwil mewn dyled i’r Brifysgol, ni chaiff y traethawd ymchwil ei arholi.
b) Gofynnir i’r myfyriwr ymchwil gadarnhau’r cyfeiriad y mae’n gofyn i’r hysbysiad ffurfiol gael ei anfon ato, fel rheol “Cyfeiriad Cartref” y myfyriwr fydd hwn.
Unwaith y bydd y Gwasanaethau Academaidd wedi cadarnhau eu bod wedi penodi’r Bwrdd Arholi, gellir dechrau arholi’r traethawd ymchwil.
Sylwer: ni ddylid trefnu dyddiadau’r arholiad /arholiad llafar tan fod y Bwrdd Arholi wedi'i gymeradwyo. Bydd cyflwyno’r traethawd ymchwil yn gam terfynol a ni fydd modd ei dynnu’n ôl ar ôl cyflwyno.
7.4 Mynediad parhaus i gyfleusterau ar ôl cyflwyno
Bydd gan bob myfyriwr fynediad i’r Llyfrgell ac i’r cyfleusterau TG tan ddiwedd y broses arholi (fel y’i nodir yn yr hysbysiad ffurfiol gan y Gofrestrfa Academaidd).
7.5 Trefniadau Ailgyflwyno
Os bydd yn ofynnol i fyfyriwr ymchwil ailgyflwyno’i draethawd ymchwil (yn hytrach na gwneud cywiriadau a diwygiadau), mae’r trefniadau ailgyflwyno yn union fel yr amlinellir uchod ar gyfer y cyflwyniad cyntaf. Dylai’r Bwrdd Arholi gael ei ail-enwebu ac ni ellir dechrau arholi’r traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd hyd nes i’r ddau arholwr gael eu hailbenodi a’u cadarnhau gan y Gwasanaethau Academaidd.
7.5.1
Yn dilyn yr arholiad llafar, caiff y myfyriwr ymchwil ei hysbysu’n ffurfiol gan y Brifysgol o argymhellion y Bwrdd Arholi. Bydd y myfyriwr ymchwil yn derbyn adborth manwl ar y pwyntiau y mae’n rhaid mynd i’r afael â hwy wrth ailgyflwyno gan Gadeirydd y Bwrdd Arholi. Fel arfer, bydd yr un arholwyr yn arholi’r traethawd ymchwil wedi’i ailgyflwyno i weld a aed i’r afael â’r pwyntiau a godwyd yn yr adroddiadau ar yr arholiad cyntaf. Fel rheol, rhaid arholi’r traethawd ymchwil sydd wedi’i ailgyflwyno trwy ail arholiad llafar. Mewn achosion eithriadol iawn, gellid hepgor y gofyniad am ail arholiad llafar yn ôl disgresiwn yr arholwyr os cytunir bod y traethawd a ailgyflwynwyd yn pasio. Yn yr achos hwn, bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn hysbysu’r myfyriwr ymchwil bod yr angen am ail arholiad llafar wedi’i hepgor (gweler y Canllaw i Arholi Myfyrwyr Ymchwil).
7.5.2
Gofynnir i Gadeirydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau gadarnhau’r ffurflenni Canlyniad ac Adroddiad unwaith y bydd y Gwasanaethau Addysg wedi’u derbyn. Unwaith y bydd canlyniad yr arholiad llafar wedi’i gadarnhau caiff e-bost ei anfon at y myfyriwr yn cadarnhau canlyniad yr arholiad llafar a’r dyddiad erbyn pryd y disgwylir iddo ailgyflwyno. Ar ôl i gofnod y myfyriwr ymchwil gael ei ddiweddaru, bydd yn gallu defnyddio cyfleusterau electronig y Brifysgol a gwasanaethau’r Llyfrgell tan y dyddiad diwedd ymgeisyddiaeth newydd.
7.5.3
Rhaid i’r myfyriwr ymchwil ailgyflwyno’i draethawd ymchwil ar y dyddiad cau a hysbyswyd gan y Brifysgol neu cyn hynny a thalu’r ffi ailgyflwyno ar neu cyn y dyddiad ailgyflwyno. Gellir talu â cherdyn trwy My Uni Hub. Gellir cysylltu â My Uni Hub i drafod ffyrdd eraill o dalu.
8. Confensiynau Rhwymo
Ar ôl i un neu'r ddau o'r arholwyr gymeradwyo'r cywiriadau a'r diwygiadau y gofynnwyd amdanynt gan y Bwrdd Arholi (fel y’u nodwyd ar y Ffurflen Ganlyniadau), rhaid i'r myfyriwr gyflwyno copi electronig mewn Fformat Dogfen Gludadwy (PDF) i’r Gyfadran/Ysgol, cyn y gellir dyfarnu’r radd. Ers 1 Hydref 2021, nid oes gofyniad mwyach i gyflwyno copi clawr caled o'r traethawd ymchwil terfynol i Lyfrgell Prifysgol Abertawe nag i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.