Canllaw Goruchwyliaeth Ymchwil ar Gyfer Graddau Ymchwil Doethur mewn Athroniaeth (Allanol)
1. Rhaid i’r traethawd fod yn waith personol y myfyriwr, y mae’n cymryd cyfrifol
1.1
Fodd bynnag, dylai’r myfyriwr ymchwil ddisgwyl cael trefniadau goruchwylio effeithiol sy’n rhoi cyngor, arweiniad a chymorth rheolaidd ac o safon tra byddant wedi cofrestru fel myfyriwr ymchwil. Bydd gan bob myfyriwr dîm goruchwylio. Fel rheol sylfaenol, neilltuir dau oruchwyliwr i fyfyriwr ymchwil am hyd cyfan ei raglen astudio. Bydd y trefniant yn dechrau pan fyddwch yn cofrestru am y tro cyntaf, gan ddod i ben ar ddiwedd y broses arholi (gan gynnwys ailgyflwyno os bydd hynny’n berthnasol).
1.2
Fel arfer, bydd Prif Oruchwyliwr/Goruchwyliwr Cyntaf y myfyriwr ymchwil yn brif gyswllt drwy gydol taith ymchwil y myfyriwr ac ef/hi sydd â chyfrifoldeb pennaf am oruchwyliaeth academaidd. Bydd mewnbwn academaidd y Goruchwyliwr Eilaidd yn amrywio ym mhob achos. Prif rôl yr Ail Oruchwyliwr yn aml yw gweithredu fel prif gyswllt os na fydd Prif Oruchwyliwr/Gruchwyliwr Cyntaf y myfyriwr ymchwil ar gael. Mae’r Brifysgol yn cydnabod y gallai arfer goruchwylio amrywio rhwng disgyblaethau a Chyfadrannau/Ysgolion. Er enghraifft, efallai y bydd rhai Cyfadrannau/Ysgolion yn cynnwys un neu fwy o oruchwylwyr ychwanegol i atgyfnerthu gwaith Prif Oruchwylwyr/Goruchwylwyr Cyntaf ac Ail Oruchwylwyr. Yn nodweddiadol, gallai hyn fod yn ymgynghorydd o ddiwydiant/sefydliad partner/sefydliad addysg uwch/sefydliad ymchwil neu faes penodol o ymarfer proffesiynol i gefnogi’r ymchwil. Gellir defnyddio goruchwylwyr allanol o brifysgolion eraill hefyd. Byddai trefniadau o’r fath yn cael eu rhoi ar waith drwy Gyfadran/Ysgol ymchwil y myfyriwr. Bydd Cyfadrannau/Ysgol a/neu’r Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd yn sicrhau bod gan yr holl oruchwylwyr allanol y cymwysterau angenrheidiol a phrofiad i gefnogi ymchwil y myfyriwr ymchwil.
1.3
Bydd un o oruchwylwyr y myfyriwr ymchwil, fel arfer y Prif Oruchwyliwr/Goruchwyliwr Cyntaf, yn gweithredu fel Cyfarwyddwr Astudiaethau , gyda chyfrifoldeb pennaf dros ei gefnogi ar lefel fugeiliol a goruchwyliaeth weinyddol ei ymgeisyddiaeth. Bydd y Cyfarwyddwr Astudiaethau yn gyfrifol am dywys y myfyriwr ymchwil mewn materion gweinyddol ac am sicrhau yr adroddir am eu cynnydd i’r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau.
1.4
Dylai’r myfyriwr ymchwil sicrhau ei fod wedi derbyn gwybodaeth am y trefniadau penodol sydd ar waith mewn perthynas â rôl ei oruchwylwyr.
2. Cyfrifoldebau Prif Oruchwyliwr/Goruchwyliwr Cyntaf
Bydd gan y Prif Oruchwyliwr/Goruchwyliwr Cyntaf nifer o rolau. Yn gyffredinol, maent yn gynghorydd, yn diwtor ac yn hyrwyddwr y myfyriwr ymchwil. Yn gyffredinol, gall myfyrwyr ymchwil ddisgwyl i’r Prif Oruchwyliwr/Goruchwyliwr Cyntaf:
- Ddarparu goruchwyliaeth reolaidd. Bydd amlder yr oruchwyliaeth yn amrywio yn ystod cyfnod yr ymchwil. Gallwch ddisgwyl goruchwyliaeth fwy dwys yn ystod y flwyddyn gyntaf a’r flwyddyn olaf pan fydd eich goruchwyliwr yn darllen drafftiau o’r traethawd ymchwil ac yn cynnig sylwadau arnynt. Rhaid cynnal o leiaf bedwar cyfarfod goruchwylio ffurfiol bob blwyddyn. Fodd bynnag, oherwydd natur y rhaglen Doethur mewn Athroniaeth (Allanol), argymhellir y dylid cynnal nifer sylweddol uwch o gyfarfodydd goruchwylio (yn ddelfrydol yn fisol) i gynnig cymorth a sicrhau ymgysylltiad. Ni ofynnir fel arfer i fyfyrwyr ymchwil fynychu'r cyfarfodydd mewn person heblaw bod cais neu reswm penodol i wneud hyn. Dylid crynhoi’r drafodaeth a’r pwyntiau gweithredu mewn cofnod ysgrifenedig ffurfiol. Cyfrifoldeb y goruchwyliwr/goruchwylwyr yw cadw cofnodion o'r sesiynau goruchwylio, sicrhau bod y myfyriwr ymchwil yn derbyn copi electronig o'r cofnod o'r cyfarfod, a sicrhau bod copïau electronig o'r cofnod yn cael eu cadw'n ganolog yn y Gyfadran/Ysgol. Dylai Cyfadran/Ysgol y myfyriwr ymchwil ei hysbysu am faint o oruchwyliaeth y gall ei disgwyl;
- Bod ar gael, yn rhesymol (e.e. drwy gyswllt dros e-bost) y tu allan i gyfarfodydd goruchwyliaeth a gynlluniwyd pan allai fod angen cyngor. Dylai myfyrwyr ymchwil tramor gofio bod parthau amser gwahanol i’r DU, ynghyd â chyfnodau gwyliau cenedlaethol;
- Darparu arweiniad ar natur a gofynion y radd ymchwil yr ydych yn astudio ar ei chyfer a’r safonau a ddisgwylir. Dylai hynny gynnwys sicrhau bod gennych ddealltwriaeth glir o’r prif agweddau ar ymchwil ôl-raddedig; natur y radd ymchwil a ddyfernir ym Mhrifysgol Abertawe; a ffurf a strwythur traethawd ymchwil;
- Rhoi cyngor ac arweiniad i’r myfyriwr ymchwil er mwyn sicrhau bod modd cwblhau’r ymchwil, a pharatoi’r traethawd ymchwil, fel arfer cyn pen cyfnod byrraf posibl eich ymgeisiaeth;
- Cynorthwyo’r myfyriwr ymchwil wrth lunio cynllun gwaith ac amserlen manwl ar gyfer y gwaith ymchwil a monitro ei gynnydd mewn perthynas â’r cynllun hwn;
- Rhoi cyngor ac arweiniad ar y gwaith ymchwil rydych yn ymgymryd ag ef. Bydd hyn yn cynnwys cyngor ac arweiniad ar:
- Y pwnc a ddewisir; Hefyd, sicrhau y dilynir y weithdrefn gywir os bydd unrhyw newidiadau i bwnc ymchwil y myfyriwr ymchwil.Am ragor o wybodaeth, dylid cyfeirio at y Polisi a’r Weithdrefn ATAS a Newid Pwnc Ymchwil.
- Dewis cwestiynau neu ddamcaniaethau ymchwil;
- Llenyddiaeth ym maes ymchwil y myfyriwr a sut i’w chyrchu;
- Y broses o ddewis dulliau ymchwil;
- Pan fydd yn berthnasol, ystyriaethau moesegol ar gyfer ymchwil y myfyriwr;
- Y gwaith maes/gwaith labordy sydd i'w wneud;
- Sut i ysgrifennu ar gyfer cynulleidfa academaidd;
- Strwythur y traethawd ymchwil, ei gynnwys a’i gyflwyniad;
- Cwblhau Adroddiadau Dilyniant yn brydlon, yn ôl yr angen.
- Sicrhau bod y myfyriwr ymchwil yn derbyn rhybudd digonol cyn gynted â phosib pan fydd y cynnydd yn annigonol neu o safon anfoddhaol;
- Gofyn am waith ysgrifenedig fel y bo’n briodol ac yn unol â’r cynllun gwaith y cytunwyd arno, a dychwelyd gwaith o’r fath ynghyd ag adborth adeiladol o fewn y cyfnod y cytunwyd arno;
- Darparu cyngor ac arweiniad ar ysgrifennu’r traethawd ymchwil, gan gynnwys darllen y traethawd ymchwil cyfan yn ystod y cyfnod ysgrifennu a rhoi sylwadau arno. Fodd bynnag, gwaith y myfyriwr ymchwil yn unig yw’r traethawd ymchwil, a’r myfyriwr fydd â’r cyfrifoldeb terfynol am sicrhau y caiff y traethawd ei gyflwyno erbyn dyddiad hwyrach yr ymgeisyddiaeth lawn;
- Paratoi’r myfyriwr ymchwil am yr arholiad llafar (viva voce) ac esbonio ei rôl yn y broses arholi gyffredinol;
- Darparu goruchwyliaeth os bydd angen ailgyflwyno’r traethawd ymchwil;
- Cynnal yr arbenigedd angenrheidiol ar gyfer goruchwylio, gan gynnwys manteisio ar gyfleoedd perthnasol o ran datblygiad proffesiynol er mwyn cyflawni rôl y goruchwyliwr yn effeithiol;
- Darparu cyngor ar sut i rwydweithio ym maes arbenigol y myfyriwr ymchwil a chyfleoedd i wneud hyn. Gall hyn gynnwys cyngor ynghylch y cymdeithasau dysgedig y dylid ymuno â nhw a’r cynadleddau y dylid eu mynychu;
- Darparu cyngor ar sut a ble y dylai’r myfyriwr ymchwil gyflwyno ei waith, e.e. Mewn seminarau yn y Gyfadran/Ysgol a’r Brifysgol a/neu mewn cyfarfodydd/cynadleddau;
- Darparu cyngor ar sut a ble i gyhoeddi, lle bo'n briodol.
3. Cyfrifoldebau’r Ail Oruchwyliwr
Rôl gefnogol ac ategol fydd gan Ail Oruchwyliwr y myfyriwr ymchwil fel arfer. Mewn rhai achosion, bydd Ail Oruchwyliwr y myfyriwr ymchwil yn cyfrannu’n weithredol at yr oruchwyliaeth, e.e., gan gynorthwyo gydag agweddau penodol ar waith y myfyriwr ymchwil, mewn ffordd debyg i’w Oruchwyliwr Cyntaf/Ail Oruchwyliwr. Mae'n bosib y bydd rôl fugeiliol gan yr Ail Oruchwyliwr hefyd. Mewn achosion eraill, mae’n bosib na fydd eich ail oruchwyliwr yn ymwneud â chi gymaint â hynny o ddydd i ddydd. Nid oes angen i Ail Oruchwylwyr, o reidrwydd, arbenigo ym mhwnc penodol y myfyriwr ymchwil i'r un graddau â'r Prif Oruchwyliwr/Goruchwyliwr Cyntaf. Rôl unigryw’r Ail oruchwyliwr, fodd bynnag, yw:
- gweithredu fel cyswllt cyntaf os na fydd Prif Oruchwyliwr/Goruchwyliwr Cyntaf y myfyriwr ymchwil ar gael e.e. oherwydd salwch, absenoldeb ymchwil (cyfnod sabothol), absenoldeb mamolaeth, newid cyflogaeth;
- gweithredu fel cyswllt cyntaf, os bydd anghytundeb rhwng y myfyriwr ymchwil a'i Brif Oruchwyliwr/Goruchwyliwr Cyntaf. Os ceir anghytundeb, gall y myfyriwr ymchwil hefyd gysylltu â'i Bennaeth Adran neu ei Arweinydd Ymchwil Ôl-raddedig yn y Gyfadran. Os nad oes modd datrys problemau yn y modd hwn, caiff y myfyriwr ymchwil ei gyfeirio at brosesau cwyno’r Gyfadran/Ysgol a'r Brifysgol.
4. Cyfrifoldebau’r Cyfarwyddwr Astudiaethau
Bydd gan y goruchwyliwr sy’n gweithredu fel Cyfarwyddwr Astudiaethau’r myfyriwr ymchwil rôl fugeiliol a chyfrifoldeb am ddarparu cyngor a chymorth gyda’r prosesau gweinyddol angenrheidiol lle bydd angen, e.e. dilyniant ar raglen, trosglwyddo modd/rhaglen astudio, neu os bydd gofyn am ohirio, neu estyn yr ymgeisyddiaeth hiraf. Ei rôl ef fydd:
- Darparu cymorth bugeiliol yn ôl yr angen a/neu eich cyfeirio at ffynonellau cymorth eraill, e.e., Gwasanaethau Academaidd, Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr, y Ganolfan Gyrfaoedd;
- Cynorthwyo’r myfyriwr ymchwil wrth asesu ei anghenion hyfforddiant ar ddechrau ac yn ystod ei raglen ymchwil, a'i helpu i gynllunio rhaglen ymchwil a datblygu sgiliau trosglwyddo (gan gynnwys hyfforddiant ieithyddol ac archwilio modiwlau Lefel Meistr) fel y bo angen er mwyn cwblhau’r traethawd. Dylai’r myfyriwr ymchwil fod yn ymwybodol o gyfleoedd hyfforddiant a ddarperir gan y Gyfadran/Ysgol, Gwasanaethau Academaidd, Gwasanaethau Hyfforddiant a Datblygu’r Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig a ffynonellau sy’n berthnasol i’w ddisgyblaeth neu os yw’n berthnasol, y corff cyllido. Dylid ail-asesu anghenion hyfforddiant am holl gyfnod ymgeisyddiaeth y myfyriwr ymchwil. Dylai’r broses o ddatblygu sgiliau gael ei hystyried yn rhan hanfodol o’ch rhaglen ymchwil;
- Sicrhau bod Adroddiadau Dilyniant yn cael eu llunio mewn modd amserol ac yn ôl yr angen;
- Nodi unrhyw adborth gan y myfyriwr ymchwil, y Gyfadran/Ysgol neu’r Gwasanaethau Academaidd;
- Sicrhau bod y myfyriwr ymchwil yn ymwybodol o reoliadau Prifysgol Abertawe sy’n gysylltiedig â’i radd ymchwil sy’n cynnwys, ymysg pethau eraill, Uniondeb Academaidd neu Gamymddygiad Academaidd, eiddo deallusol, iechyd a diogelwch, ac unrhyw faterion moesegol a allai godi yn ystod ei ymchwil;
- Darparu cyngor a chymorth mewn perthynas â phrosesau gweinyddol angenrheidiol yn ôl yr angen, e.e. os byddwch yn gwneud cais i ohirio eich astudiaethau, newid dull/rhaglen astudio, estyn cyfnod hwyaf posibl eich ymgeisiaeth;
- Rhoi cyngor manwl ar y cerrig milltir disgwyliedig a’r dyddiadau ar gyfer camau dilynol ymchwil y myfyriwr ymchwil. Dylai hyn gynnwys, heb fod yn gyfyngedig i, roi gwybodaeth iddo am y meini prawf mae’n rhaid eu bodloni er mwyn symud ymlaen a’r dyddiadau perthnasol er mwyn cyflawni hyn.
5. Meini Prawf Cymhwyso Goruchwyliwr Ymchwil
5.1
Y Tîm Goruchwylio
Caiff pob myfyriwr Dîm Goruchwylio sy'n cynnwys o leiaf ddau oruchwyliwr cymwys sy'n aelodau staff Prifysgol Abertawe. Bydd y prif oruchwylwyr hyn yn gyfrifol am roi arweiniad academaidd i'r myfyriwr ac arweiniad ynghylch gweithgareddau gweinyddol a bugeiliol cysylltiedig, yn unol â'r diffiniadau canlynol:
5.2
Academaidd: Fel arfer, y Prif Oruchwyliwr/Goruchwyliwr Cyntaf fydd â'r prif gyfrifoldeb academaidd - cyfrifoldeb academaidd eilaidd fydd gan y goruchwylwyr eraill; mewn rhai achosion, bydd y Prif Oruchwyliwr/Goruchwyliwr Cyntaf a'r Ail Oruchwyliwr yn rhannu'r cyfrifoldeb academaidd yn gyfartal.
5.3
Gweinyddol/ Bugeiliol: Un goruchwyliwr, y Cyfarwyddwr Astudio, fydd â'r prif gyfrifoldeb gweinyddol/bugeiliol, a bydd gan y lleill gyfrifoldeb gweinyddol/bugeiliol eilaidd.
O ran cyfrifoldeb gweinyddol ac arweiniad bugeiliol, y drefn arferol fydd bod y Prif Oruchwyliwr/Goruchwyliwr Cyntaf yn gweithredu fel Cyfarwyddwr Astudiaethau hefyd, ac yn derbyn y prif gyfrifoldeb gweinyddol a bugeiliol, a bod yr Ail Oruchwyliwr yn derbyn cyfrifoldeb gweinyddol a bugeiliol eilaidd (gweler y Meini Prawf Cymhwyso isod).
Gall goruchwylwyr ychwanegol (trydydd, pedwerydd, etc.), a allai fod yn bartner diwydiannol/ymchwilwyr/academyddion o sefydliadau AU partner (neu gyfwerth) sy’n allanol i’r Brifysgol fod yn rhan o dîm goruchwylio i ddarparu arweiniad academaidd priodol ac, fel y bo’n briodol, arweiniad gweinyddol/bugeiliol.
Pan na fydd y Prif Oruchwyliwr/Goruchwyliwr Cyntaf neu’r Cyfarwyddwr Astudiaethau ar gael (e.e., oherwydd salwch, absenoldeb ymchwil (sabathol), newidiadau cyflogaeth), bydd y prif oruchwyliwr/goruchwyliwr arall yn cymryd y rôl/rolau a/neu bydd yn sicrhau y caiff tîm goruchwylio amgen ei greu, mewn cydweithrediad â’r Gyfadran/Ysgol.
5.4
Cymhwyso i fod yn Brif Oruchwyliwr/ Goruchwyliwr Cyntaf
Prif Oruchwyliwr/Goruchwyliwr Cyntaf:
5.4.1
Rhaid bod gan Brif Oruchwyliwr/Goruchwyliwr Cyntaf gontract cyflogaeth yn aelod o staff Prifysgol Abertawe, a ddylai barhau'n hirach na chyfnod ymgeisyddiaeth hwyaf arferol y myfyriwr sydd i'w oruchwylio;
5.4.2
Dylai fod wedi goruchwylio hyd at gwblhau'n llwyddiannus, ym Mhrifysgol Abertawe neu mewn sefydliad addysg uwch arall, fel Prif Oruchwyliwr/Goruchwyliwr Cyntaf neu Ail Oruchwyliwr, o leiaf un myfyriwr ar radd ar yr un lefel â’r myfyriwr y bydd yn ei oruchwylio neu ar lefel uwch na hynny. Os nad yw'r Prif Oruchwyliwr/Goruchwyliwr Cyntaf arfaethedig yn bodloni'r maen prawf hwn, (i) ni chaiff weithredu fel Cyfarwyddwr Astudiaethau, a (ii) rhaid i'r Deon Gweithredol neu os caiff y rôl ei dirprwyo, Arweinydd Ymchwil Ôl-raddedig y Gyfadran (neu gyfwerth), gymeradwyo penodi'r Prif Oruchwyliwr/Goruchwyliwr Cyntaf);
5.4.3
Rhaid bod y Prif Oruchwyliwr/ Goruchwyliwr Cyntaf wedi derbyn hyfforddiant perthnasol o ran goruchwylio, gweithdrefnau a systemau monitro cynnydd, a pholisïau sy'n benodol i'r sefydliad;
5.4.4
Dylai fod ar Lwybr Gyrfa Academaidd gydag Ymchwil yn faen prawf Uwch. Gellir ystyried bod aelod staff nad yw'n bodloni'r maen prawf hwn yn gymwys os yw ei Ddeon Gweithredol neu unigolyn a enwebir yn cyflwyno achos i'r Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd. Dylai'r achos hwn amlygu, gyda thystiolaeth, sut mae'r unigolyn yn dangos cymhwysedd ymchwil amlwg, a bod ganddo brofiad ymchwil diweddar a pherthnasol ym maes yr ymchwil arfaethedig. Mae enghreifftiau o dystiolaeth yn cynnwys cyhoeddiadau a adolygir gan gymheiriaid, presenoldeb mynych mewn cynadleddau, neu incwm grantiau ymchwil;
5.4.5
Rhaid iddo fod â chymhwyster academaidd ar yr un lefel, neu'n uwch, â'r radd y mae'n ei goruchwylio, neu dylai allu dangos profiad proffesiynol cyfatebol;
5.4.6
Ni ddylai fod yn ymgeisydd ar gyfer gradd ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe neu mewn sefydliad addysg uwch arall;
5.4.7
Dylai feddu ar gofnod goruchwylio da, wedi’i wirio gan y Deon Gweithredol neu Arweinydd Ymchwil Ôl-raddedig y Gyfadran (neu gyfwerth).
5.5
Cymhwyso i fod yn Ail Oruchwyliwr
Dylai Ail Oruchwyliwr fodloni'r un meini prawf â'r Prif Oruchwyliwr/Goruchwyliwr Cyntaf. O ran pwynt 2 uchod, sef y gofyniad bod y goruchwyliwr 'wedi goruchwylio myfyriwr i gwblhau gradd ar yr un lefel o'r blaen', dylid nodi os na fydd y Prif Oruchwyliwr/Goruchwyliwr Cyntaf na'r Ail Oruchwyliwr yn bodloni'r maen prawf hwn, fod rhaid penodi trydydd prif oruchwyliwr sy'n bodloni'r maen prawf hwn a'r holl feini prawf eraill yn llawn, fel Cyfarwyddwr Astudiaethau.
5.6
Cymhwyso i fod yn Gyfarwyddwr Astudiaethau
Mae'r Cyfarwyddwr Astudiaethau yn aelod o'r tîm goruchwylio sy'n bodloni'r holl feini prawf uchod yn llawn heb eithriad.