Canllawiau ar Ymgeisyddiaeth Graddau Ymchwil
1. Diffiniadau o Astudio Amser Llawn ac Astudio Ran-amser
Mae myfyrwyr ymchwil yn astudio dros y flwyddyn galendr lawn. Mae myfyrwyr amser llawn yn gymwys am hyd at 31 niwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, ynghyd â gwyliau statudol. Ar gyfer myfyrwyr rhan-amser, bydd hwn ar sail pro rata. Gweler Hawl Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig i Wyliau Blynyddol am ragor o fanylion.
1.1
Bydd myfyrwyr amser llawn yn treulio isafswm o 35 awr yr wythnos ar ymchwil ac astudio yn ystod y cyfnod astudio dan oruchwyliaeth ar gyfer y radd. Fel arfer, mae’n rhaid i bob myfyriwr amser llawn (Dull A a Dull B) breswylio yn y Deyrnas Unedig yn ystod y cyfnod astudio dan oruchwyliaeth ar gyfer y radd, a dylent fyw o fewn pellter teithio hawdd i’r Brifysgol. Dylai myfyrwyr amser llawn y mae'r Brifysgol yn gweithredu fel noddwr fisa myfyriwr drostynt breswylio yn y Deyrnas Unedig gan fyw o fewn cyrraedd hawdd i’r Brifysgol trwy gydol cyfnod yr ymgeisyddiaeth.
1.2
Disgwylir i fyfyrwyr rhan-amser dreulio tua 15 awr yr wythnos ar ymchwil ac astudio yn ystod y cyfnod astudio dan oruchwyliaeth ar gyfer y radd. Nid oes angen i fyfyrwyr rhan-amser breswylio yn y Deyrnas Unedig yn ystod y cyfnod astudio dan oruchwyliaeth ar gyfer y radd; fodd bynnag, dylent sicrhau cyswllt rheolaidd gyda'r goruchwyliwr, ac, man lleiaf, un cyfarfod wyneb yn wyneb yn ystod bob blwyddyn academaidd.
2. Cyfnodau Astudio ar gyfer Pob Gradd
Tabl 1.1: Isafswm cyfnod cyflwyno/uchafswm mewn blynyddoedd | |||
---|---|---|---|
Rhaglen | Dull Astudio | Cyfnod byrraf yr ymgeisyddiaeth | Cyfnod hwyaf cyn cyflwyno |
PhD (a PhD Cyfnod Astudio Estynedig) | Amser Llawn | 3 | 4 |
Rhan-amser | 6 | 7 | |
Doethuriaeth Broffesiynol | Amser Llawn | 4 | 5 |
Rhan-amser | 6 | 7 | |
Doethur mewn Athroniaeth (BBSRC Rhaglen Hyfforddiant Doethurol) | Amser Llawn | 4 | 5 |
Rhan-amser | 8 | 9 | |
MD | Amser Llawn | 2 | 3 |
Rhan-amser | 4 | 5 | |
DBA | Rhan-amser | 4 | 7 |
MA/MSc/LLM drwy Ymchwil | Amser Llawn | 1 | 2 |
Rhan-amser | 2 | 3 | |
MPhil | Amser Llawn | 2 | 3 |
Rhan-amser | 4 | 5 | |
MRes | Amser Llawn | 1 | 2 |
Rhan-amser | 2 | 3 |
2.1
Fel arfer, yr uchafswm cyfnod cyflwyno ar gyfer cynlluniau gradd, beth bynnag y dull astudio, fydd blwyddyn yn fwy nag isafswm cyfnod yr ymgeisyddiaeth. Efallai bydd eithriadau (a gymeradwyir gan y Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd ee DBA).
2.2
Mae i bob rhaglen gradd ymchwil gyfnod arferol o astudio dan oruchwyliaeth - sef y cyfnod ymgeisyddiaeth - a disgwylir i bob myfyriwr gyflwyno ei draethawd ymchwil ar ddiwedd y cyfnod hwnnw (y dyddiad gorffen disgwyliedig). Y mae hefyd dyddiad dod i ben. Ar ôl y dyddiad hwnnw, tybir bod y myfyriwr yn rhy hwyr, ac ni chaniateir iddo gyflwyno traethawd ymchwil.
3. Cyfnod Ymgeisyddiaeth Byrraf
Yn ystod y cyfnod ymgeisyddiaeth, bydd y myfyriwr ymchwil yn ymgymryd â gwaith ymchwil dan oruchwyliaeth lawn. Bydd y myfyriwr yn derbyn cymorth, cyngor a chyfarwyddyd rheolaidd gan ei oruchwylwyr er mwyn sicrhau y gellir cwblhau’r ymchwil, gan gynnwys paratoi’r traethawd ymchwil, erbyn diwedd y cyfnod ymgeisyddiaeth (y dyddiad gorffen disgwyliedig). Bydd y goruchwylwyr yn cynorthwyo’r myfyriwr i gynhyrchu cynllun gwaith manwl ac amserlen ar gyfer yr ymchwil a byddant yn monitro cynnydd y myfyriwr mewn perthynas â’r cynllun hwn. Yn ystod y cyfnod ymgeisyddiaeth, bydd y myfyriwr yn atebol am ffioedd ar y lefel briodol yn seiliedig ar breswyliad, dull yr ymgeisyddiaeth a’r maes pwnc.
4. Cadarnhau Ymgeisyddiaeth
Mae’n ofynnol i’r Gyfadran/Ysgol gadarnhau ymgeisyddiaeth myfyriwr i'r Grŵp Gweithredol o fewn tri mis i gofrestru’r myfyriwr yn y lle cyntaf. Drwy wneud hynny, mae’r Gyfadran/Ysgol yn cadarnhau bod y myfyriwr wedi bodloni’r gofynion gweinyddol a nodwyd, ei fod yn barod yn academaidd i ymgymryd â’r prosiect ymchwil a gytunwyd, y tybir ei fod o safon academaidd ddigonol i wneud hynny, a bod ganddo'r gallu i'w wneud (gweler y Canllaw i Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil am ragor o fanylion).
4.1
Cyflwynir adroddiad am bob ymgeisyddiaeth nas cadarnhawyd dri mis ar ôl cofrestru. Os nad yw’r Gyfadran/Ysgol yn gallu cadarnhau ymgeisyddiaeth ar gyfer myfyriwr ar ôl tri mis, bydd y Bwrdd Academaidd ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig yn mynnu bod y myfyriwr naill ai’n gohirio neu’n tynnu yn ôl o’r rhaglen (gweler y Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Ohiriadau ac Estyniadau a’r Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Drosglwyddo a Thynnu yn ôl). Fodd bynnag, mewn amgylchiadau eithriadol iawn, caiff myfyriwr gyflwyno cais i ymestyn ei Gadarnhad Ymgeisyddiaeth am dri mis i'r Grŵp Gweithredol ei ystyried.
4.2
Ar ôl cadarnhau ymgeisyddiaeth, ni chaniateir i fyfyriwr newid testun ei ymchwil yn sylweddol, gan y byddai newid o’r fath yn annilysu cadarnhau'r ymgeisyddiaeth. Os yw myfyriwr yn dymuno newid ei destun ymchwil yn sylweddol, dylid mynnu bod y myfyriwr yn tynnu yn ôl o’r radd bresennol ac yn ailymgeisio ar gyfer y testun ymchwil newydd.
4.3
Os gwneir unrhyw newidiadau i gynigion ymchwil myfyrwyr ôl-raddedig, mae’n ofynnol i’r Brifysgol hysbysu Fisâu a Mewnfudo y DU o fewn 28 niwrnod am newidiadau i gynigion ymchwil myfyrwyr ôl-raddedig y mae angen tystysgrif Cynllun Cymeradwyo Technoleg Academaidd (ATAS) arnynt. Gellir cael gwybodaeth am y cyrsiau y mae angen tystysgrif ATAS arnynt yma: https://www.gov.uk/guidance/find-out-if-you-require-an-atas-certificate#find-out-how-to-apply
Mae hyn yn berthnasol i fyfyrwyr nad ydynt o’r AAE yn unig. Cyfrifoldeb goruchwylwyr Prifysgol Abertawe yw hysbysu Tîm Cydymffurfio Myfyrwyr Rhyngwladol y Brifysgol (Gwasanaethau Addysg) am newidiadau i gynnig ymchwil gwreiddiol y myfyriwr neu’r defnydd o dechneg ymchwil newydd. Am ragor o wybodaeth, darllenwch Bolisi a Gweithdrefn Newid Pwnc Ymchwil ac ATAS.
5. Monitro Cynnydd
Caiff cynnydd bob myfyriwr ymchwil ei fonitro'n gyson trwy gydol ei gyfnod astudio. Mae’n rhaid i Gyfadrannau/Ysgolion gyflwyno adroddiad cynnydd ffurfiol i'r Bwrdd Cynnydd Ymchwil Ôl-raddedig ar gyfer pob myfyriwr gradd ymchwil, ynghyd ag argymhelliad ynglŷn â chynnydd y myfyriwr er mwyn i'r myfyriwr barhau ar ei raglen (gweler y Canllawiau ar Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil am ragor o fanylion).
5.1
Ar ddiwedd y cyfnod ymgeisyddiaeth (y dyddiad gorffen disgwyliedig), disgwylir i’r myfyriwr fod wedi cwblhau ei ymchwil a bod wrthi'n paratoi i gyflwyno’r traethawd ymchwil. Mae’n rhaid i’r Gyfadran/Ysgol gyflwyno asesiad ffurfiol ar gynnydd y myfyriwr i Fwrdd Cynnydd Ymchwil Ôl-raddedig gan awgrymu pryd bydd y myfyriwr yn barod i gyflwyno traethawd ymchwil (gweler yr Canllawiau ar Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil am ragor o fanylion).
5.2
Fel arfer, disgwylir i fyfyriwr ymchwil gyflwyno ei draethawd ymchwil erbyn diwedd cyfnod/dyddiad hwyaf yr ymgeisyddiaeth, ac ar ôl hyn ystyrir bod y myfyriwr wedi rhedeg allan o amser a chaiff ei gofnod ei gau. Mewn achosion eithriadol, gall y myfyriwr ymchwil gyflwyno cais am estyniad i gyfnod/dyddiad hwyaf yr ymgeisyddiaeth (gweler y Canllaw ar Ohiriadau ac Estyniadau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil am ragor o wybodaeth).
6. Cyflwyno’n Gynnar
Os yw myfyriwr ymchwil yn dymuno cyflwyno ei draethawd ymchwil mwy na chwe mis cyn y Dyddiad Gorffen Disgwyliedig (cyfnod ymgeisyddiaeth byrraf), dylid ceisio caniatâd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau. Dylai’r myfyriwr ymchwil a’r goruchwyliwr/goruchwylwyr ddarparu datganiad ysgrifenedig manwl, wedi’i gydlofnodi gan y Deon Gweithredol neu enwebai, yn amlinellu’r rhesymau dros gyflwyno’n gynnar ac yn cadarnhau bod y myfyriwr yn barod i gyflwyno mewn gwirionedd. Os yw myfyriwr ymchwil yn dymuno cyflwyno ei draethawd ymchwil llai na chwe mis cyn y Dyddiad Gorffen Disgwyliedig (cyfnod ymgeisyddiaeth byrraf), dylid fel arfer anfon datganiad byr gan y myfyriwr ymchwil a'r goruchwyliwr/goruchwylwyr, (wedi ei gymeradwyo fel arfer gan Arweinydd Academaidd Ymchwil Ôl-raddedig y Gyfadran neu rywun mewn rôl gyfwerth), i’r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau.
6.1
Lle caniateir i fyfyriwr gyflwyno traethawd ymchwil cyn y dyddiad gorffen disgwyliedig, dylid nodi y bydd y myfyriwr yn parhau i fod yn atebol am ffioedd ar gyfer y cyfan o’r cyfnod ymgeisyddiaeth.
6.2
Os nad yw Gyfadran/Ysgol neu'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu yn cefnogi cais ymgeisydd am gyflwyno traethawd hir yn gynnar, neu cyn y ffenestr chwe mis a ganiateir o fewn y cyfnod ymgeisyddiaeth (yn unol â'r rheoliadau a'r canllawiau), gellir cyflwyno cais i'r Is-ganghellor am gyflwyno'n gynnar. Bydd yr Is-ganghellor neu ei enwebai (a fydd yn aelod o'r Uwch Dîm Rheoli ac sydd heb ddiddordeb materol yn yr achos) yn gallu awdurdodi cyflwyniad cynnar cyn belled â bod datganiad wedi'i eirio'n briodol wedi'i lofnodi gan y goruchwyliwr a'r myfyriwr, a hefyd wedi'i gydlofnodi gan aelod awdurdodedig yr Uwch Dîm Rheoli.
6.3
Bydd y datganiad hwn yn cynnwys hepgor unrhyw hawl ar ran yr ymgeisydd i ddilyn cwyn neu wneud yn iawn am unrhyw ddiffygion o ran cymorth ymchwil neu oruchwylio, neu unrhyw fater arall yn ymwneud â chofnodi a rheoli'r ymgeisyddiaeth sy'n codi oherwydd cyflwyno'n gynnar.
6.4
Ym mhob achos arall, bydd cyflwyno ac asesu'r traethawd ymchwil yn dilyn camau gweithredu priodol y Brifysgol, gan gynnwys er enghraifft, penodi arholwyr, ffurfio a threfnu'r bwrdd arholi, cynnal viva, a chanlyniadau posib yr arholiad.