6.1 Canllawiau'r Senedd ar gyfer Penodi Cynorthwywyr Addysgu (Arddangoswyr Myfyrwyr gynt)
Cydnabyddir bod profiad o addysgu ac asesu'n cyfrannu'n sylweddol at gyflogadwyedd myfyrwyr ôl-raddedig, felly anogir defnyddio cynorthwywyr addysgu/uwch-gynorthwywyr addysgu, yn unol â'r canllawiau canlynol:
6.1.1
Dim ond myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sydd wedi cofrestru, gan gynnwys myfyrwyr ymchwil sydd wedi cofrestru ar PhD (Allanol) ddylai gael eu cyflogi fel Cynorthwywyr Addysgu/Uwch-gynorthwywyr Addysgu.
6.1.2
Mae’n rhaid i Fyfyriwr Ôl-raddedig ymgymryd â’r hyfforddiant angenrheidiol sy’n cael ei gynnig drwy Adnoddau Dynol/Academi Dysgu ac Addysgy Abertawe/Canolfan Gwella Sgiliau Academaidd a Phroffesiynol Abertawe a’r adran/Cyfadran/Ysgol cyn ymgymryd â dyletswyddau arddangos/dysgu/tiwtorial neu asesu. Mae’n rhaid cwblhau’r hyfforddiant yn llwyddiannus a chadarnhau hynny i Adnoddau Dynol, cyn y gellir awdurdodi taliad ar gyfer gwasanaethau arddangos neu diwtorial.
6.1.3
Pan fydd a neilltuir iddynt Cynorthwywyr Addysgu/Uwch-gynorthwywyr Addysgu mae'n rhaid iddynt sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth, y sgiliau a'r profiad perthnasol i ymgymryd â'r addysgu a neilltuir iddynt.
6.1.4
Ni all myfyrwyr ôl-raddedig ymgymryd â gwaith arddangos, tiwtorial neu asesu, gan gynnwys gwaith paratoi, am fwy na chwe awr mewn unrhyw wythnos.
6.1.5
Fel arfer bydd Cynorthwy-ydd Addysgu/Uwch-gynorthwy-ydd Addysgu'n cael ei ddefnyddio er mwyn addysgu myfyrwyr israddedig yn unig.
6.1.6
Gall Cynorthwywyr Addysgu/Uwch-gynorthwywyr Addysgu gyfrannu'n rhydd at arddangos, tiwtorialau a gwaith cymorth addysgu arall, ond ni fyddai disgwyl iddynt gyfrannu at fwy na 25% o'r addysgu ar unrhyw fodiwl.
6.1.7
Rhoddir Mentor o'r Staff Academaidd i'r holl Gynorthwywyr Addysgu/ Uwch-gynorthwywyr Addysgu, a gallai'r mentor hwnnw fod yn Gydlynydd Modiwl y modiwl(au) y mae'r Cynorthwy-ydd yn addysgu arno/arnynt. Bydd cyfrifoldebau'r Mentor fel a ganlyn:
- Briffio'r Cynorthwy-ydd Addysgu/Uwch-gynorthwy-ydd Addysgu ar yr holl waith addysgu;
- Darparu deunyddiau, neu fonitro ansawdd unrhyw ddeunydd a ddarperir gan y Cynorthwy-ydd Addysgu/Uwch-gynorthwy-ydd Addysgu/;
- Monitro ansawdd y ddarpariaeth addysgu;
- Darparu meini prawf marcio lle defnyddir y Cynorthwywyr Addysgu/Uwch-gynorthwy-ydd Addysgu at ddibenion asesu a defnyddio prosesau sicrhau ansawdd i fonitro eu cyfranogiad mewn asesu, e.e. safoni marciau;
- Adolygu adborth myfyrwyr a geir am y Cynorthwy-ydd Addysgu/Uwch-gynorthwy-ydd Addysgu fel rhan o'r broses datblygu proffesiynol.
6.1.8
Mae unrhyw eithriadau i'r uchod yn amodol ar gymeradwyaeth Cadeirydd y Bwrdd Dilyniant Dyfarnu.