Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Drosglwyddo a Thynnu yn Ôl
1. Trosglwyddo Dull Astudio
Ni chaniateir trosglwyddo dull astudio (amser llawn i ran-amser neu ran-amser i amser llawn) ond pan fydd myfyriwr o fewn cyfnod ymgeisyddiaeth byrraf y rhaglen. Ni cheir gweithredu'r broses o drosglwyddo dull astudio ond ar ddechrau blwyddyn astudio myfyriwr (ar ben-blwydd cofrestru’r myfyriwr). Ni chaniateir newidiadau o ran-amser i amser llawn ond ar ddiwedd blynyddoedd eilrif o astudio ran-amser (ar ôl 2 neu 4 blynedd). Caiff amgylchiadau eithriadol eu hystyried gan Y Bwrdd Achosion Myfyrwyr/Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu ar sail unigol.
1.1
Os yw myfyriwr yn dymuno trosglwyddo dull astudio fwy nag unwaith yn ystod un ymgeisyddiaeth, bydd yn ofynnol i’r myfyriwr ddarparu esboniad manwl o’r angen am y trosglwyddiad pellach.
1.2 Gweithdrefn
Dylai’r myfyriwr drafod y trosglwyddiad dull arfaethedig gyda’i oruchwylwyr er mwyn sicrhau na fydd trosglwyddiad o’r fath yn niweidiol i'w ymgeisyddiaeth. Dylai’r myfyriwr geisio cymeradwyaeth gan ei noddwr (os yw’n briodol) cyn gwneud cais am drosglwyddiad.
Os yw’r holl bartïon yn cytuno i’r trosglwyddiad mewn egwyddor, dylai’r myfyriwr ofyn i’w Gyfadran/Ysgol gyflwyno’r cais drwy’r rhyngrwyd (Newid Amgylchiadau), i’w ystyried gan y Bwrdd Achosion Myfyrwyr/y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu.
Bydd angen i’r myfyriwr a’r goruchwylwyr ddarparu datganiad ysgrifenedig byr yn amlinellu’r rhesymau dros drosglwyddo. Bydd hefyd angen i’r myfyriwr ddarparu cydsyniad ysgrifenedig ei noddwr (os yw’n briodol).
Os caiff y cais ei gymeradwyo, bydd cofnod y myfyriwr yn cael ei ddiweddaru fel y bo’n briodol.
2. Trosglwyddo Rhaglen – i Fyny ac i Lawr
Byddai cais i drosglwyddo rhaglen astudio fel arfer yn dod oddi wrth Gyfadran/Ysgol y myfyriwr drwy'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu fel argymhelliad dilyniant. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau gall myfyriwr wneud cais i drosglwyddo rhaglen y tu allan i’r system ddilyniant.
2.1
Ni chaniateir trosglwyddo rhaglen astudio ond pan fydd y myfyriwr o fewn cyfnod ymgeisyddiaeth byrraf y rhaglen bresennol neu’r rhaglen newydd arfaethedig. Mewn achosion eithriadol iawn, gellir caniatáu trosglwyddo rhaglen pan fydd y myfyriwr y tu allan i’r cyfnod ymgeisyddiaeth byrraf ar gyfer y ddwy raglen os yw’r myfyriwr am drosglwyddo i ddyfarniad is (e.e. PhD i MPhil neu PhD i MA/MSc drwy Ymchwil).
2.2 Trosglwyddo i fyny at Radd Ymchwil Uwch
Rhaid i fyfyrwyr ymchwil sy'n gwneud cais i drosglwyddo i radd ymchwil uwch (e.e. MPhil i PhD neu MSc/MA drwy Ymchwil i MPhil neu PhD) fodloni'r holl feini prawf uwchraddio perthnasol cyn y caiff eu hachosion unigol eu hystyried yn y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu priodol. Dylai'r meini prawf a ddefnyddir gynnwys fan leiaf: adroddiad yn amlinellu'n glir sut y gellir ehangu'r ymchwil hyd yma i gwrdd â'r safon ofynnol ar gyfer y radd uwch, cyflwyniad gan y myfyriwr i gynrychiolwyr perthnasol o'r Gyfadran/Ysgol (viva bach), prawf o gyllid i dalu costau'r flwyddyn/blynyddoedd astudio ychwanegol a chymwysterau mynediad addas. Rhaid i'r myfyriwr hefyd gael cefnogaeth ei dîm goruchwylio a'r Gyfadran/Ysgol.
2.3 Gweithdrefn
Os yw’r trosglwyddo rhaglen o ganlyniad i argymhelliad dilyniant i’r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau, caiff ei roi ar waith fel arfer o ddechrau blwyddyn astudio nesaf y myfyriwr.
2.4
Os yw’r trosglwyddiad rhaglen y tu allan i’r system ddilyniant, yna dylai’r myfyriwr drafod y trosglwyddiad arfaethedig gyda’i oruchwylwyr er mwyn sicrhau na fydd trosglwyddiad o’r fath yn niweidiol i'w ymgeisyddiaeth.
Dylai’r myfyriwr geisio cymeradwyaeth ei noddwr (os yw’n briodol) cyn gwneud cais am drosglwyddiad.
Os yw’r holl bartïon yn cytuno i’r trosglwyddiad mewn egwyddor, dylai’r myfyriwr ofyn i’w Gyfadran/Ysgol gyflwyno’r cais drwy’r rhyngrwyd (Newid Amgylchiadau), i’w ystyried gan y Bwrdd Achosion Myfyrwyr/y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu.
Bydd angen i’r myfyriwr a’r goruchwylwyr ddarparu datganiad ysgrifenedig byr yn amlinellu’r rhesymau dros drosglwyddo. Bydd hefyd angen i’r myfyriwr ddarparu cydsyniad ysgrifenedig gan ei noddwr (os yw’n briodol).
Os caiff y cais ei gymeradwyo, bydd cofnod y myfyriwr yn cael ei ddiweddaru fel y bo’n briodol.
2.5
Os yw’r trosglwyddiad rhaglen yn golygu newid Cyfadrannau/Ysgolion, yna mae angen i’r ffurflen gael ei llofnodi gan y Deon Gweithredol neu enwebai o'r Gyfadran/Ysgol sy’n rhyddhau a’r Deon Gweithredol neu enwebai o'r Gyfadran/Ysgol sy’n ei dderbyn.
Fel arfer, caiff y myfyriwr ei gofrestru yn yr un Gyfadran//Ysgol â’i brif oruchwyliwr.
2.6
Cyfyngiadau’r Brifysgol a osodir ar drosglwyddiadau rhaglen astudio yw bod yn rhaid i fyfyriwr:
- Bodloni gofynion mynediad y rhaglen astudio arfaethedig;
- Cael ei dderbyn ar y rhaglen arfaethedig gan y Gyfadran//Ysgol dan sylw;
- Cael ei ryddhau o’i ymrwymiad i’r rhaglen astudio bresennol;
- HEB gael ei ofyn i dynnu yn ôl o’r Brifysgol yn flaenorol.
2.7
Cyfrifoldeb y myfyriwr yw hysbysu unrhyw noddwr am y trosglwyddiad rhaglen a sicrhau cefnogaeth barhaus gan y noddwr ar gyfer hyd y rhaglen.
2.8
Yn achos myfyrwyr rhyngwladol a noddir gan y Brifysgol, mae trosglwyddo rhwng rhaglenni'n amodol ar feddu ar deitheb Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt) ddilys. Cyn y caiff y myfyriwr drosglwyddo i raglen arall, asesir a yw'r broses drosglwyddo'n bodloni deddfwriaeth Haen 4 gyfredol cyn y caiff y cais ei gymeradwyo. Bydd yr asesiad yn cyfeirio at lefel y rhaglen newydd, cyfnod caniatâd i aros presennol y myfyriwr, y terfynau amser cyfredol sy'n llywodraethu astudio Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt) ; asesir a yw'r rhaglen newydd yn bodloni 'dyheadau go iawn' y myfyriwr o ran ei yrfa ac ystyrir unrhyw ofynion eraill a bennir gan Swyddfa Teithebau a Mewnfudo'r DU). Lle nad oes modd cwblhau'r rhaglen newydd o fewn y cyfnod caniatâd i aros sy'n weddill o dan Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt), bydd angen i'r myfyriwr adael y DU i gyflwyno cais pellach am ganiatâd i aros er mwyn cwblhau'r rhaglen. Os oes angen cymeradwyaeth gan y Cynllun Cymeradwyo Technoleg Academaidd (ATAS) ar raglen, bydd rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol gael cymeradwyaeth a darparu copi o'r dystysgrif ATAS i'r Brifysgol cyn y gellir cymeradwyo cais i newid rhaglen.
3. Trosglwyddo i Sefydliad Arall
3. Trosglwyddo i Sefydliad Arall
Cyn i fyfyriwr ystyried trosglwyddo i sefydliad arall, mae’n bwysig ei fod yn trafod hyn gyda’i oruchwylwyr a/neu’r Deon Gweithredol neu enwebai a’i fod yn trefnu apwyntiad gyda’r Gwasanaethau Addysg, fel bod modd ystyried opsiynau posibl eraill cyn gwneud penderfyniad terfynol. Anogir myfyrwyr rhyngwladol yn gryf i gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr Rhyngwladol cyn gwneud penderfyniad terfynol, oherwydd gallai hyn fod â goblygiadau o ran statws mewnfudo. Gwaherddir myfyrwyr rhag trosglwyddo eu hymgeisyddiaeth i sefydliad arall ar ôl i’r cyfnod ymgeisyddiaeth byrraf ddod i ben.
3.1
Er mwyn trosglwyddo i sefydliad arall, mae’n ofynnol i’r myfyriwr dynnu yn ôl o’r Brifysgol yn gyntaf (gweler Tynnu yn ôl yn wirfoddol isod). Fodd bynnag, dylid cynghori myfyrwyr i beidio â thynnu yn ôl nes bod cynnig pendant wedi’i wneud gan y sefydliad newydd. Dylai myfyrwyr gysylltu â’r sefydliad newydd i wirio a fydd unrhyw gyfnod astudio yn y Brifysgol yn cael ei gyfrif tuag at y cyfnod ymgeisyddiaeth yn y sefydliad newydd. Gall y sefydliadau newydd wneud cais am eirda academaidd a chaniatâd ffurfiol y Brifysgol er mwyn caniatáu i ymgeisyddiaeth y myfyriwr gael ei throsglwyddo. Dylai’r myfyriwr sicrhau bod unrhyw rwystrau o ran Hawliau Eiddo Deallusol wedi’u goresgyn cyn trosglwyddo i sefydliad arall.
4. Trosglwyddo o Sefydliad Arall
Gall myfyrwyr drosglwyddo o sefydliadau eraill drwy gyflwyno cais am fynediad yn y ffordd arferol. Byddai modd i fyfyrwyr sy’n trosglwyddo o sefydliad arall, ar argymhelliad Pennaeth y y Deon Gweithredol neu ei enwebai, sicrhau cydnabyddiaeth ar gyfer y cyfnod astudio yn y sefydliad arall. Fel arfer, bydd myfyrwyr sy'n trosglwyddo o un sefydliad yn gorfod cwblhau o fewn blwyddyn (neu'r cyfnod cyfatebol rhan-amser) o'r ymgeisyddiaeth fyrraf. Bydd y Brifysgol yn ceisio cadarnhad ysgrifenedig gan y sefydliad gwreiddiol nad oes unrhyw wrthwynebiad i drosglwyddo’r myfyriwr.
5. Tynnu yn ôl o Raglen
5. Tynnu yn ôl yn Wirfoddol
5.1
Cyn i fyfyriwr ystyried tynnu yn ôl o’r Brifysgol, mae’n bwysig ei fod yn trafod hyn gyda’i oruchwylwyr a/neu’r Deon Gweithredol neu ei enwebai, a’i fod yn trefnu apwyntiad gyda’r Gwasanaethau Addysg, fel bod dewisiadau eraill posibl yn cael eu hystyried cyn gwneud penderfyniad terfynol. Dylai’r myfyriwr hefyd ymgynghori â’r Swyddfa Cymorth Myfyrwyr a’i noddwr (os yw’n berthnasol). Anogir myfyrwyr rhyngwladol yn gryf i gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr Rhyngwladol cyn gwneud penderfyniad terfynol, oherwydd gallai hyn fod â goblygiadau o ran statws mewnfudo.
5.2
Os yw bwriad myfyriwr i dynnu yn ôl yn ganlyniad i anawsterau ariannol, dylai’r myfyriwr ymweld â Swyddfa Cyngor a Chymorth Ariannol y Brifysgol yn gyntaf. Gall myfyrwyr hefyd gysylltu â’r Adran Gyllid er mwyn trafod trefniant er mwyn talu ffioedd neu ddyledion i’r Brifysgol.
5.3
Mae’n rhaid cyflwyno hysbysiad ffurfiol am dynnu yn ôl ar ffurflen “Tynnu yn ôl o’r Brifysgol”. Mae’n rhaid hysbysu’r Brifysgol ynglŷn â’r rhesymau am y penderfyniad i dynnu yn ôl, ac mae’n rhaid derbyn cadarnhad o’r dyddiad ymgysylltu olaf. Os yw’r myfyriwr yn tynnu yn ôl am resymau iechyd, dylid atodi tystysgrif feddygol i’r ffurflen.
5.4
Ar ôl derbyn y ffurflen tynnu yn ôl, bydd Gwasanaethau Addysg yn sicrhau bod cofnodion y myfyriwr yn cael eu diweddaru (gan gofnodi’r rheswm dros dynnu yn ôl) ac yn hysbysu noddwr y myfyriwr (os yw’n berthnasol) a’r holl bartïon perthnasol eraill, megis Cyfadran/Ysgol y myfyriwr, y Swyddfa Gyllid, y Swyddfa Lety, y Llyfrgell ac, os yw’r myfyriwr yn fyfyriwr Rhyngwladol, yr awdurdodau Mewnfudo.
5.5
Lle bydd myfyriwr yn methu ag ailgychwyn ei astudiaethau erbyn y dyddiad dychwelyd a nodwyd yn dilyn cyfnod o ohiriad (gweler y Canllaw ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Ohiriadau ac Estyniadau am ragor o wybodaeth), bydd y Bwrdd Achosion Myfyrwyr/Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu yn tybio bod y myfyriwr wedi tynnu yn ôl o’r Brifysgol. Bydd y weithdrefn ar gyfer tynnu yn ôl yn wirfoddol yn cael ei dilyn gyda’r eithriad y bydd y ffurflen “Tynnu yn ôl o’r Brifysgol” yn cael ei llenwi gan y Gwasanaethau Addysg ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig yn absenoldeb y myfyriwr.
6. Tynnu yn ôl yn Ofynnol
Gall fod yn ofynnol i fyfyriwr dynnu yn ôl o’i raglen o ganlyniad i:
- Methu â chofrestru neu ailgofrestru ar ben-blwydd y cofrestriad cyntaf;
- Methu â chadarnhau ei ymgeisyddiaeth (gweler y Canllawiau ar Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil);
- Methu â gwneud cynnydd academaidd boddhaol. [Nodyn: Rhaid bod y goruchwylwyr wedi gosod targedau clir a chyraeddadwy ar gyfer y myfyriwr a rhaid eu bod yn gallu darparu tystiolaeth ddogfennol o fethiant y myfyriwr i gwrdd â'r targedau hyn fel bod modd barnu bod myfyriwr wedi methu â gwneud cynnydd academaidd boddhaol];
- Argymhelliad dilyniant (gweler y Canllawiau ar Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil);
- Methu â glynu wrth Polisi Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol;
- Mater disgyblu.
6.1
Lle bydd yn ofynnol i fyfyriwr dynnu yn ôl, bydd Gwasanaethau Addysg yn sicrhau bod cofnodion y myfyriwr yn cael eu diweddaru (gan gofnodi ei bod yn ofynnol i’r myfyriwr dynnu yn ôl) ac yn hysbysu noddwr y myfyriwr (os yw’n berthnasol) a’r holl bartïon perthnasol eraill, megis Cyfadran/Ysgol y myfyriwr, y Swyddfa Gyllid, y Swyddfa Lety, y Llyfrgell ac, os yw’r myfyriwr yn fyfyriwr Rhyngwladol, yr awdurdodau Mewnfudo. Hefyd, bydd y Brifysgol yn hysbysu noddwr y myfyriwr (os yw’n berthnasol). Mae gan y myfyriwr hawl i geisio adolygiad neu apêl yn erbyn y penderfyniad (gweler y Rheoliadau ar gyfer Apeliadau Academaidd).