Canllawiau ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil
DERBYNIADAU, YMGEISWYR, GWEITHDREFNAU A GWNEUD CYNNYDD
1. Canllawiau ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil
1.1
Mae Polisi Derbyn y Brifysgol, a gymeradwywyd gan y Senedd, fel a ganlyn:
1.2
Ein Polisi Derbyn yw annog cofrestriadau gan fyfyrwyr sydd â’r potensial i ennill ystod eang o sgiliau newydd, cymhleth; meistroli corff helaeth o wybodaeth uwch ac, yn anad dim, mynd drwy gyfnod o ddatblygiad deallusol, trwyadl, sy’n arwain at ddyfarnu cymhwyster Prifysgol.
1.3
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau ac ymholiadau gan bobl waeth beth yw eu hoedran, tarddiad ethnig neu genedlaethol, hil, crefydd, rhyw, tueddfryd rhywiol, statws priodasol, cyfrifoldebau teuluol, anabledd ffisegol neu synhwyrol, credoau neu weithgareddau gwleidyddol neu grefyddol, oni bai fod y gweithgareddau hynny'n anghyfreithlon neu'n groes i bolisïau'r Brifysgol.
1.4
Wrth ystyried addasrwydd ymgeisydd ar gyfer mynediad, bydd y bobl y dirprwywyd y dasg o argymell myfyrwyr i’w derbyn iddynt yn rhoi ystyriaeth ddyledus, fel y bo’n briodol, i berfformiad academaidd blaenorol a profiad gwaith (fel sy'n briodol).
1.5
Rydym yn cydnabod, er ei bod yn bosibl iawn y byddant yn bodloni rhai neu’r cyfan o’r meini prawf ar gyfer dethol, y gall fod yn rhaid gwrthod mynediad i rai ymgeiswyr oherwydd dwyster y gystadleuaeth am nifer gyfyngedig o leoedd.
2. Egwyddorion Cyffredinol Derbyn Myfyrwyr Ymchwil
Mae’n rhaid glynu wrth Bolisi Derbyn y Brifysgol ym mhob achos ac yn ddieithriad. Goruchwylir gweithrediad Polisi Derbyn y Brifysgol gan y Pwyllgor Derbyn, a gadeirir gan y Dirprwy Is-ganghellor sy’n gyfrifol am Dderbyn. Mae gan bob Cyfadran/Ysgol o leiaf un Tiwtor Derbyn Myfyrwyr Ymchwil sydd wedi’i enwebu gan y Deon Gweithredol perthnasol. Y Tiwtor Derbyn, sydd â'r hawl i benderfynu derbyn neu beidio â derbyn, gan weithredu ar ran y Deon Gweithredol; fodd bynnag, y Dirprwy Is-ganghellor ) sy’n gyfrifol yn gyfreithiol am dderbyn myfyrwyr. Dim ond Rheolwr Derbyn Myfyrwyr y Brifysgol (Ymchwil Ôl-raddedig) sy'n gallu gwneud cynnig derbyn ffurfiol a datganiad sy'n cadarnhau bod myfyriwr wedi’i dderbyn. Rheolwr Derbyn Myfyrwyr y Brifysgol (Ymchwil Ôl-raddedig) sy’n gyfrifol yn weinyddol am bob agwedd ar dderbyn ymgeiswyr yn ffurfiol, gan gynnwys pob cyswllt â chyrff ac asiantaethau allanol sy’n ymwneud â derbyn myfyrwyr.
3. Y Swyddfa Derbyn a’i Rôl wrth Dderbyn Ôl-raddedigion
3.1
Mae’r Swyddfa Derbyn yn gyfrifol am:
- Dosbarthu pecynnau cais i fyfyrwyr o'r Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd;
- Delio ag ymholiadau manwl oddi wrth ddarpar ymgeiswyr ôl-raddedig;
- Prosesu cychwynnol ceisiadau ôl-raddedig, gan gynnwys creu cofnodion myfyrwyr y Brifysgol;
- Cydlynu â, a rhoi cyngor i, Diwtoriaid Derbyn ar bob agwedd berthnasol ar geisiadau ôl-raddedig;
- Prosesu argymhellion cynnig y Tiwtoriaid Derbyn;
- Yr holl gydlynu ag ymgeiswyr;
- Paratoi ystadegau a gwybodaeth arall ar gyfer y Pwyllgor Derbyn;
- Gwaith dilynol ar ôl gwneud cynnig;
- Cadarnhau lleoedd ymgeiswyr;
- Paratoi defnyddiau cofrestru a chyflwyno ar gyfer myfyrwyr newydd.
3.2
Mae gan y Swyddfa Derbyn weithdrefnau penodol ar gyfer:
- Cwynion gan ymgeiswyr;
- Apeliadau gan ymgeiswyr aflwyddiannus;
- Ymddygiad afresymol gan ymgeiswyr;
- Darparu gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol i gefnogi cais.
4. Y Broses Ymgeisio
4.1
Myfyrwyr sy’n eu hariannu eu hunain/Myfyrwyr a Ariennir yn Allanol
Yn gyntaf, dylai darpar fyfyrwyr ymchwil nodi pa Gyfadran/Ysgol sydd fwyaf perthnasol i’r maes ymchwil arfaethedig. Gall darpar fyfyrwyr ymchwil ei chael yn ddefnyddiol adnabod aelod o staff a fyddai’n gallu goruchwylio’r testun ymchwil arfaethedig. Os nad oes gan y Brifysgol yr arbenigedd angenrheidiol i oruchwylio testun ymchwil penodol, gwrthodir y cais heb ystyried ei rinweddau academaidd. Fel arfer, ceir proffiliau staff, a manylion am eu diddordebau ymchwil, ar dudalennau gwefan y Gyfadran/Ysgol perthnasol. Fel arall, cewch ofyn amdanynt trwy gysylltu â’r Gyfadran/Ysgol yn uniongyrchol.
4.2
Dylid nodi nad yw’r ffaith bod darpar oruchwyliwr wedi’i adnabod yn golygu unrhyw fath o warant o fynediad i’r Brifysgol ac mae’n rhaid dilyn y weithdrefn ymgeisio lawn ym mhob achos.
4.3
Derbynnir ceisiadau drwy gydol y flwyddyn ond argymhellir bod darpar fyfyrwyr ymchwil yn ymgeisio mor gynnar â phosibl cyn y dyddiad cychwyn a ddymunir. Cofrestrir myfyrwyr ymchwil ar bedair adeg yn ystod y flwyddyn: Hydref; Ionawr; Ebrill a Gorffennaf. Er nad oes dyddiad cau penodol ar gyfer ceisiadau, mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhoddir y rhain i ymgeiswyr cymwys addas ar sail 'cyntaf i'r felin'. Hefyd, cyfyngir ar nifer y myfyrwyr y gall goruchwyliwr eu goruchwylio.
4.4
Gall darpar fyfyrwyr ymchwil gyflwyno cais ar-lein drwy’r system cyflwyno cais "APPLY"
4.5
Myfyrwyr a Ariennir gan Brifysgol Abertawe
Gall ymgeiswyr sy’n dymuno ymgeisio/cofrestru diddordeb mewn ymgeisio am raglen ymchwil a ariennir wneud hynny yn Ymchwil Ysgoloriaethau Ôl-raddedig. Ceir manylion ynghylch sut i ymgeisio/dangos diddordeb ym mhob un o’r hysbysebion ar gyfer ysgoloriaethau unigol.
5. Y Broses o Ystyried y Ceisiadau
Ar ôl i'r Brifysgol dderbyn ffurflen gais wedi’i llenwi, bydd yr ymgeisydd yn derbyn llythyr cydnabod (bydd ymgeiswyr arlein yn derbyn cydnabyddiaeth drwy e-bost). Bydd y Swyddfa Derbyn yn gwirio pob cais i sicrhau bod gofynion y Brifysgol a’r Gyfadran/Ysgol wedi’u bodloni, neu y byddant yn cael eu bodloni, cyn anfon y cais at y Tiwtor Derbyn perthnasol. Os derbynnir ffurflen gais heb eirda, bydd y cais yn cael ei gadw yn y Swyddfa Derbyn hyd nes derbynnir o leiaf un geirda. Bob wythnos, anfonir ceisiadau heb eirda at y Tiwtor Derbyn perthnasol i weld a fyddai modd gwneud cynnig ai peidio - yn amodol ar dderbyn geirdaon boddhaol.
5.1
Lle bo angen, ychwanegir nodiadau cynghori yn y blwch 'Nodyn Cynghori gan y Swyddfa Derbyn' yn yr adran 'At Ddefnydd y Brifysgol yn Unig' ar y ffurflen gais.
5.2
Wrth wneud penderfyniad ynglŷn ag addasrwydd ymgeisydd, mae’n rhaid i Diwtoriaid Derbyn fod yn ymwybodol o ddangosydd Cod ansawdd y DU Cyngor ac arweiniad Derbyniadau, recriwtio ac ehangu mynediad:
"Gan ystyried y côd ansawdd uchod, dylid cynnal proses effeithiol i sicrhau mai ymgeiswyr cymwys sydd wedi’u paratoi’n briodol yn unig, ac y credir eu bod yn gallu bodloni’r gofynion angenrheidiol ar gyfer y cwrs y maent wedi’i ddewis, sy’n cael eu derbyn ar raglenni gradd ymchwil. Bydd penderfyniadau ar dderbyn myfyrwyr yn cynnwys dau aelod o staff y darparwr addysg uwch, sydd wedi derbyn hyfforddiant ac arweiniad ar ddewis a derbyn myfyrwyr gradd ymchwil. Mae’r broses o wneud penderfyniadau’n galluogi’r darparwr addysg uwch i sicrhau y gwnaethpwyd penderfyniadau ar dderbyn myfyrwyr sy’n deg, yn ddibynadwy, yn gynhwysol ac yn annibynnol, yn unol â’i bolisi derbyn myfyrwyr."
6. Amodau Derbyn ar Gyfer Graddau Ymchwil
Fel arfer rhaid i ymgeiswyr ar gyfer graddau ymchwil doethurol fod â gradd israddedig o brifysgol gymeradwy, a’u bod wedi cyflawni (neu fod disgwyl iddynt gyflawni) o leiaf ail ddosbarth uchaf (2:1) neu gyfwerth. Fel arfer bydd gan ymgeiswyr radd meistr neu gymhwyster ar lefel debyg mewn prifysgol gymeradwy* (neu eu bod yn astudio ar gyfer un).
Fel arfer rhaid i ymgeiswyr ar gyfer graddau MRes (Meistr mewn Ymchwil) neu MA/MSc/LLM drwy Ymchwil fod â gradd israddedig o brifysgol gymeradwy* a’u bod wedi cyflawni (neu fod disgwyl iddynt gyflawni) o leiaf ail ddosbarth isaf (2:2) neu gyfwerth. Gellir ystyried ymgeiswyr nad oes ganddynt radd ar gyfer graddau MRes (Meistr mewn Ymchwil) neu MA/MSc/LLM drwy Ymchwil ar sail polisi ‘mynediad heb radd’ y Brifysgol. Ewch i dudalen y rhaglen yr hoffech ei hastudio i gael gofynion penodol y pwnc ychwanegol. Yn ogystal â chymwysterau academaidd, gall ffactorau eraill ddylanwadu ar y penderfyniadau derbyn, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i): safon y crynodeb/cynnig ymchwil, perfformiad mewn cyfweliad, pa mor frwd yw’r gystadleuaeth ar gyfer y lleoedd cyfyngedig a phrofiad proffesiynol perthnasol.
*Mae prifysgolion cymeradwy’n cynnwys pob prifysgol yn y DU a’r rhan fwyaf o brifysgolion mawr rhyngwladol. Cysylltwch â study@abertawe.ac.uk am restr lawn.
6.1
Bydd ymgeiswyr sy’n meddu ar gymwysterau gan sefydliadau y tu allan i’r DU yn cael eu gwirio gan ddefnyddio cronfa ddata’r ENIC sydd wedi’i sefydlu gan y Cyngor Prydeinig. Defnyddir ENIC wrth asesu bob cais o’r tu allan i’r DU.
6.2
Mae’n rhaid i ymgeiswyr nad y Saesneg yw eu hiaith frodorol ddarparu tystiolaeth o hyfedredd yn yr iaith Saesneg sy’n ddigonol ar gyfer astudiaethau ymchwil. Bydd gwahanol Ggyfadrannau/Yysgolion yn gofyn am wahanol lefelau o hyfedredd yn yr iaith Saesneg. Mae Gwasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg y Brifysgol yn cynnig ystod o gyrsiau iaith Saesneg yn ystod y flwyddyn. Maer Gwasanaeth yn cynnig ei brawf mewnol ei hun o ruglder yn yr iaith Saesneg a gydnabyddir at ddibenion derbyn i raglenni gradd y Brifysgol. Gofynnir i fyfyrwyr ddarparu prawf o’u cymwysterau iaith Saesneg cyn y caniateir iddynt gofrestru’n llawn gyda’r Brifysgol.
6.3
Mae'r Brifysgol yn cydnabod efallai y bydd myfyrwyr sydd wedi cael diagnosis o gyflwr hirdymor yn dymuno dechrau sgwrs gyda'r gwasanaeth cymorth perthnasol i drafod sut i ddiwallu unrhyw anghenion cymorth ychwanegol. Mae'r term 'cyflwr hirdymor' yn gysylltiedig ag unrhyw anhawster corfforol, meddyliol, dysgu a chyfathrebu, a ddiffinnir o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 fel anabledd.
Gofynnir i ymgeiswyr sy’n anabl neu sy’n dioddef o gyflyrau meddygol cronig, difrifol godio eu hanabledd ar eu ffurflenni cais. Ni ofynnir am wybodaeth am ofynion cefnogi’r ymgeiswyr nes y gwneir cynnig ar sail academaidd. Amlygir hyn at sylw’r Tiwtoriaid Derbyn. Ni fydd y gwaith o brosesu ymgeiswyr o’r fath yn fanwl yn cychwyn nes bod y Tiwtoriaid Derbyn perthnasol yn nodi, ar sail academaidd, y byddent yn barod, mewn egwyddor, i argymell bod cynnig yn cael ei wneud. Yna, anfonir llythyr a holiadur ar wahân at ymgeiswyr o’r fath, yn dilyn eu cynnig derbyn ffurfiol amodol. Mae'r holiaduron wedi'u cwblhau yn cael eu dychwelyd i'r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr. Bydd y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr yn gweithio gyda'r ymgeisydd a (lle bo angen) aelodau staff perthnasol eraill yn y Brifysgol i drafod y cymorth a all fod yn angenrheidiol. Unwaith y bydd y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr yn hysbysu’r Swyddfa Derbyn Myfyrwyr bod ymgeisydd yn ‘glir i symud ymlaen’, bydd yr amod yn cael ei dynnu o’r llythyr cynnig.
6.4
Gellir dod o hyd i fanylion am gyfleusterau’r Brifysgol ar gyfer myfyrwyr anabl a rhai ag anghenion arbennig yn y Canllawiau Arfer Da a Gwybodaeth berthnasol a gyhoeddir gan y Swyddfa Derbyn ar gyfer Tiwtoriaid Derbyn.
6.5
Fel arfer, ni all myfyrwyr fod wedi’u cofrestru ar yr un pryd ar raglen arall sy’n dwyn dyfarniad yn y brifysgol hon neu unrhyw brifysgol/sefydliad arall. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, gellir derbyn myfyriwr ar radd ymchwil tra ei fod wedi’i gofrestru ar raglen arall sy’n dwyn dyfarniad:
- Mae’r myfyriwr wedi cwblhau unrhyw fodiwlau a addysgir ar y rhaglen arall sy’n dwyn dyfarniad ac mae’n paratoi i gyflwyno traethawd hir;
- Nid yw’r myfyriwr bellach yn atebol am ffioedd ar gyfer y rhaglen arall sy’n dwyn dyfarniad;
- Mae'r myfyriwr yn aelod o staff ac mae angen iddo drwy gontract gofrestru ar Dystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch (PGCTHE) yn rhan o amodau'r gyflogaeth.
6.6
Mewn achos lle mai amod derbyn yn golygu bod angen cyflwyno traethawd hir ar gyfer y rhaglen arall sy’n dwyn dyfarniad, yna mae’n rhaid i’r myfyriwr fod wedi cwblhau’r rhaglen honno yn llwyddiannus heb fod yn hwyrach na thri mis ar ôl cofrestru ar y radd ymchwil (ar neu cyn 31 Rhagfyr ar gyfer rhai sy’n dechrau ym mis Hydref) er mwyn caniatáu iddo barhau i astudio ar y radd ymchwil. Bydd myfyrwyr sydd wedi’u cofrestru ar gyrsiau cydamserol yn cael eu hysbysu, wrth gofrestru, am y dyddiad y mae angen cwblhau'r rhaglen sy’n dwyn dyfarniad, ac anfonir nodyn atgoffa o leiaf mis cyn y dyddiad. Os nad yw’r myfyriwr yn cwblhau’r rhaglen sy’n dwyn dyfarniad yn llwyddiannus erbyn y dyddiad a nodwyd, yna bydd y myfyriwr yn torri’r rheoliad sy’n ymwneud â bod wedi’i gofrestru ar yr un pryd, a bydd yr ymgeisyddiaeth ar gyfer y radd ymchwil yn cael ei therfynu neu ei gohirio hyd nes y cwblheir y rhaglen sy’n dwyn dyfarniad.
6.7
Gofynnir i ymgeiswyr ar gyfer graddau ymchwil nodi a oes ganddynt unrhyw gollfarnau troseddol neu beidio (ac eithrio mân droseddau moduro). Mae Rheolwr Derbyn Myfyrwyr y Brifysgol (Ymchwil Ôl-raddedig) yn ysgrifennu'n uniongyrchol at ymgeisydd gradd ymchwil sy'n nodi bod ganddo euogfarnau i ofyn am ragor o wybodaeth.
7. Amodau Mynediad Penodol
Gellir cael gwybodaeth am amodau mynediad penodol ar gyfer rhaglenni ymchwil unigol drwy’r linc isod: https://www.swansea.ac.uk/cy/ol-raddedig/ymchwil/.
8. Trosglwyddo o Sefydliad Arall
Mae’n bosibl y caniateir i fyfyrwyr drosglwyddo o sefydliadau eraill drwy gyflwyno cais am fynediad yn y ffordd arferol. Gweler y Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Drosglwyddo a Thynnu yn Ôl am ragor o fanylion. Sylwer bod yn rhaid ichi fod wedi cofrestru ar eich rhaglen ymchwil bresennol o hyd a’ch bod wedi gwneud cynnydd academaidd hyd yma er mwyn bod yn gymwys i wneud cais i drosglwyddo.
9. Dulliau Ymgeisyddiaeth
9.1
Derbynnir myfyrwyr ymchwil naill ai yn fyfyrwyr amser llawn neu'n fyfyrwyr rhan-amser (gweler y Canllawiau ar Ymgeisyddiaeth Graddau Ymchwil am ddiffiniadau o astudio amser llawn ac astudio rhan-amser).
9.2
Derbynnir myfyrwyr ymchwil dan un o bedwar dull ymgeisyddiaeth:
Dull A:
Fel arfer disgwylir bod myfyrwyr a dderbynnir o dan Ddull A yn preswylio yn y Deyrnas Unedig ac yn gallu teithio i’r Brifysgol yn hawdd yn ystod cyfnod yr astudio dan oruchwyliaeth ar gyfer y cwrs gradd. Cydnabyddir gall amgylchiadau eithriadol* rwystro hyn ond cyn gynted ag y bydd amgylchiadau’n caniatáu, disgwylir i fyfyrwyr fod yn preswylio yn y Deyrnas Unedig yn unol ag ail-ddechrau cyfarfodydd goruchwylio wyneb yn wyneb (personol).
9.3
Dull B:
Myfyriwr amser llawn, drwy wneud ymchwil mewn gweithle allanol.
Bydd myfyrwyr a dderbynnir dan Ddull B wedi’u lleoli mewn gweithle allanol yn y Deyrnas Unedig a gymeradwywyd gan y Brifysgol.
Nodyn: Dylai unrhyw leoliad gwaith allanol fod yn gwbl allanol i’r Brifysgol ac yn darparu adnoddau ar wahân i’r rheini a ddarperir gan y Brifysgol, yn bennaf oll goruchwyliaeth. Nid oes rhaid i’r myfyriwr dderbyn cytundeb o gyflogaeth yn y lle gwaith allanol, ond mae’n rhaid penodi goruchwyliwr allanol cymeradwy yn ogystal â’r goruchwylwyr mewnol. Os lleolir y gwaith o fewn y Brifysgol lle y mae modd i’r goruchwyliwr mewnol arolygu’r myfyriwr yn barhaus, yna nid yw Dull B yn briodol.
Penodir Goruchwyliwr Allanol/Diwydiannol cymeradwy ar gyfer myfyrwyr a dderbynnir dan Ddull B, yn ogystal â’r goruchwylwyr sydd wedi’u lleoli yn y Brifysgol. Mae’n rhaid ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y gweithle a Goruchwyliwr Allanol/ Diwydiannol ym mhob achos unigol (ni chaniateir cymeradwyaeth gyffredinol ar gyfer gweithleoedd neu oruchwylwyr). Mae myfyrwyr a dderbynnir dan Ddull B yn atebol am ffioedd ar hanner y lefel amser llawn berthnasol (gan ddibynnu ar eu statws preswylio).
9.4
Dull C:
Nid oes yn rhaid i fyfyrwyr a dderbynnir o dan Ddull C fod yn preswylio yn y Deyrnas Unedig yn ystod cyfnod yr astudio dan oruchwyliaeth ar gyfer y cwrs gradd. Dylai myfyrwyr nad ydynt yn byw yn ddigon agos i’r Brifysgol i deithio sicrhau eu bod yn cysylltu â’r goruchwyliwr yn rheolaidd ac, fel isafswm, dylid cynnal un cyfarfod goruchwylio wyneb yn wyneb (personol) bob blwyddyn academaidd. Cydnabyddir gall amgylchiadau eithriadol* rwystro cyfarfodydd goruchwylio personol rhag cael eu cynnal felly dylid defnyddio ffurfiau eraill nes bod modd cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb eto.
* Ystyr Amgylchiadau Eithriadol yw heb gyfyngiad, amgylchiadau eithriadol trwy bandemig neu reoli heintiau neu ymyrraeth angenrheidiol trwy ganllawiau ac arfer gorau a gyhoeddir gan awdurdod cyhoeddus y tu hwnt i reolaeth y Brifysgol.
9.5
Dull Ch:
Myfyriwr amser llawn, drwy wneud ymchwil o fewn rhaglen ymchwil gymeradwy a gynigir ar y cyd gan y Brifysgol a Phrifysgol arall, sefydliad partner, neu bartner cymeradwy.
Gall myfyrwyr a dderbynnir dan Ddull Ch fod wedi’u lleoli naill ai mewn Prifysgol arall neu’n rhannol yn y Brifysgol ac yn rhannol mewn Prifysgol arall ar raglen ymchwil gymeradwy. Mae myfyrwyr a dderbynnir dan Ddull Ch yn atebol am ffioedd ar y lefel amser llawn berthnasol (gan ddibynnu ar eu statws preswylio).
9.6
Ymgeiswyr staff
Fel arfer, derbynnir aelodau o staff y Brifysgol dan Ddull C a gallant fod yn gymwys i dderbyn bwrsariaeth staff i dalu am ran o'r ffioedd. Mewn rhai achosion, derbynnir Cynorthwy-ydd Ymchwil/Arweinydd Clinigol dan Ddull A (gweler troednodyn 1 i Ddull A uchod).
Nodyn: Mae Aelodau o staff sydd am gael eu hystyried ar gyfer bwrsariaeth staff yn gyfrifol am ddarparu ffurflen cyn neu yn ystod cofrestru wedi'i llofnodi gan:
i. Y Deon Gweithredol;
ii. Yr Adran Adnoddau Dynol a fydd yn gwirio statws y cynorthwyydd ymchwil;
iii. Yr Uned Datblygu Staff, yn cymeradwyo'r cais am fwrsariaeth. Bydd aelodau staff amser llawn yn gymwys i dderbyn bwrsariaeth sy’n cyfateb i’r ffi gartref safonol am gwrs rhan-amser. Bydd aelodau staff rhan-amser yn gymwys am fwrsariaeth a gyfrifir yn ôl nifer yr oriau a nodir yn eu cytundeb ar ddechrau'r sesiwn neu ar yr adeg dderbyn (a gyfrifir ar sail 35 awr yr wythnos yn gontract llawn amser ar gyfartaledd). Lle mae gan aelod o staff gytundeb cyfnod penodedig, bydd gwerth y cymorth ffioedd pro rata i’r cyfnod cyflogaeth. Caiff y fwrsariaeth ei thynnu yn ôl o unrhyw aelod o staff nad yw'n gwneud cynnydd boddhaol.
10. Y Broses o Wneud, a Derbyn neu Wrthod, Cynnig
Dylid ysgrifennu/teipio penderfyniad y Gyfadran/Ysgol ar dudalen olaf y ffurflen gais, sydd wedi’i marcio PENDERFYNIAD YR ADRAN. Mae’n rhaid i’r Tiwtor Derbyn dicio’r blwch Derbyn (Amodol neu Ddiamod) neu Wrthod, fel y bo’n berthnasol. Mae’n rhaid amlinellu’r amodau yn y lle a ddarperir ar y ffurflen. Gall Cyfadrannau/Ysgolion gwblhau’r broses benderfynu yn electronig yn achos ceisiadau a gyflwynir arlein.
10.1
Yn unol â Chod Ansawdd, Cyngor a Chanllawiau QAA: Derbyniadau, Recriwtio ac Ehangu Mynediad, gofynnir i Diwtoriaid Derbyn sicrhau:
- Mae’r Gyfadran/Ysgol, o’r adeg pan gewch eich derbyn tan eich bod wedi cwblhau’ch gradd, yn darparu’r profiad academaidd, y cyfleusterau, yr adnoddau dysgu a’r cymorth y mae eu hangen i gyflwyno profiad academaidd ac allbynnau ymchwil o safon.
- Mae’r holl fyfyrwyr a dderbynnir yn briodol gymwys a chredir eu bod yn gallu bodloni’r gofynion angenrheidiol ar gyfer y cwrs y maent wedi’i ddewis.
- Gall myfyrwyr sy’n cael eu derbyn, boed hynny ar sail amser llawn, rhan-amser, astudio allanol/dull astudio mewn partneriaeth, fodloni’r gofynion angenrheidiol ar gyfer y cwrs y maent wedi’i ddewis.
10.2
Y penderfyniadau sy’n agored i Diwtoriaid Derbyn wrth ddelio â ffurflenni cais ôl-raddedigion yw:
DERBYN (Amodol)
Argymhelliad y gellir cynnig lle yn amodol i'r ymgeisydd os bydd yn bodloni’r meini prawf academaidd a nodwyd (e.e. canlyniad gradd neu ofyniad Iaith Saesneg).
DERBYN (Diamod)
Argymhelliad y gellir cynnig lle yn ddiamod gan fod yr ymgeisydd eisoes wedi cyflawni’r cymwysterau academaidd y barnwyd eu bod yn briodol ar gyfer ei dderbyn. (Mae cynigion o’r fath yn dal i fod yn amodol ar wirio cymwysterau’r ymgeisydd.)
Rhaid i'r Swyddfa Dderbyn gael enw o leiaf ddau oruchwylydd/goruchwylwyr disgwyliedig.
GWRTHOD
Argymhelliad i beidio â chynnig lle. Dylai Tiwtoriaid Derbyn roi crynodeb o’r rheswm neu'r rhesymau dros y penderfyniad hwn oherwydd y gall fod cais i'r Swyddfa Derbyn am wybodaeth bellach gan ymgeiswyr a wrthodwyd. Nid yw diffyg cymorth ariannol/cyllid yn rheswm dilys dros wrthod cais ymgeisydd.
11. Llythyr Cynnig
Cynnig derbyn ffurfiol, wedi’i lofnodi gan Reolwr Derbyn Myfyrwyr y Brifysgol (Ymchwil Ôl-raddedig) yw llythyr derbyn swyddogol yr ymgeisydd i ddilyn astudiaethau ôl-raddedig yn y Brifysgol hon. Bydd y llythyr cynnig yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
- Gwybodaeth am y cwrs: dyddiad dechrau, manylion am y Gyfadran/Ysgol, manylion am y radd, y cyfnod astudio, dyddiad cyflwyno, enwau’r goruchwylwyr, ffioedd mainc (os yw’n briodol);
- Amodau’r cynnig (os yw’n berthnasol);
- Ffioedd dysgu yn ogystal â gwybodaeth ynglŷn â thalu’r ffioedd;
- Gwybodaeth am lety (ymgeiswyr amser llawn yn unig);
- Manylion llawn telerau'r cynnig;
- Copi o’r cynnig i’r ymgeisydd ei lofnodi a’i ddychwelyd.
11.1
Gofynnir i’r ymgeisydd ddychwelyd y copi o’i lythyr cynnig yn nodi ei benderfyniad. Yr opsiynau sydd ar gael yw derbyn neu wrthod y cynnig. Bydd ymgeiswyr sy’n derbyn cynigion yn derbyn ymateb yn eu cynghori ynglŷn â phryd y maent yn debygol o dderbyn gwybodaeth ychwanegol gan y Swyddfa Derbyn.
11.2
Yn ystod eich ymgeisyddiaeth rhaglen ymchwil, disgwylir i chi ddangos cynnydd academaidd digonol trwy asesiad parhaus. Mae'n bosibl y bydd gofyn i chi drosglwyddo i raglen gradd is (lle bo'n addas) neu dynnu'n ôl os tybir nad ydych wedi gwneud digon o gynnydd academaidd yn unol â meini prawf dilyniant y Gyfadran/Ysgol/Prifysgol, neu dargedau ymchwil; neu os ydych wedi methu, ar unrhyw adeg, â chydymffurfio â rheoliadau'r Brifysgol.
Rhaglen Gradd Ymchwil a Astudir | Dyfarniad Gadael Posibl yn ôl penderfyniad y Bwrdd Arholi | Rhaglen is y mae modd trosglwyddo iddi |
---|---|---|
PhD | Dim | MPhil, MA/MSc/LLM drwy Ymchwil |
PhD Estynedig | Tystysgrif Ôl-raddedig / Diploma Ôl-raddedig | MPhil, MA/MSc/LLM drwy Ymchwil |
MPhil | Dim | MA/MSc drwy Ymchwil |
Doethuriaeth Broffesiynol / EngD | Tystysgrif Ôl-raddedig / Diploma Ôl-raddedig | MRes, MPhil |
MRes | Tystysgrif Ôl-raddedig | Amherthnasol |
MD | Dim | MA/MSc drwy Ymchwil, Mphil |
PhD/MD trwy Waith a Gyhoeddwyd | Dim | Amherthnasol |
Doethuriaeth Uwch | Dim | Amherthnasol |
MA/MSc/LLM drwy Ymchwil | Dim | Amherthnasol |
DBA | Dim | MSc drwy Ymchwil |
12. Gwaith Dilynol ar Ôl Gwneud Cynnig
Anfonir llythyrau/ negeseuon e-bost amrywiol at ymgeiswyr ar ôl gwneud cynnig er mwyn cadw cysylltiad rhwng yr ymgeisydd a Phrifysgol Abertawe. Cysylltir ag ymgeiswyr nad ydynt wedi derbyn eu cynigion eto ac fe’u hanogir i wneud penderfyniad pendant ynglŷn â mynediad.
12.1
Anfonir gwybodaeth ymrestru cyn cofrestru at bob ymgeisydd sydd wedi derbyn cynnig neu sydd â chynnig diamod.
12.2
Matriciwleiddio yw derbyn ymgeiswyr yn ffurfiol i raglen astudio sy’n arwain at radd neu ddyfarniad academaidd arall y Brifysgol. Rhaid i ymgeiswyr nad ydynt wedi astudio ym Mhrifysgol Abertawe gynt ddarparu tystiolaeth o'u gradd neu gymhwyster cyfwerth yn ôl cais y Swyddfa Derbyn Myfyrwyr. Bydd y dystiolaeth hon ar ffurf tystysgrif Baglor swyddogol neu drawsgrifiad swyddogol sy'n cadarnhau dyfarnu'r radd.
12.3
Rhaid bod ymgeiswyr wedi ennill cymhwyster cydnabyddedig gan sefydliad 'cymeradwy' (fel a nodir gan UK ECCTIS). Os na fydd sefydliad/cymhwyster penodol yn cael ei gydnabod, rhaid i'r Swyddfa Derbyn Myfyrwyr gyflwyno achos arbennig i Cadeirydd y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn a fydd yn penderfynu a yw'r cymwysterau a gyflwynwyd yn dderbyniol neu beidio. Os caiff achos penodol ei wrthod, byddai cynnig lle'r ymgeisydd (a fyddai wedi bod yn amodol ar gymeradwyaeth o'i gymwysterau) yn cael ei dynnu yn ôl a/neu bydd y myfyriwr yn anghymwys i gofrestru.
12.4
Ystyrir nad yw ymgeiswyr yn gymwys i gofrestru pan nad ydynt yn bodloni gofynion y Brifysgol o ran matriciwleiddio (gweler Rheoliadau 2.7 a 2.8 uchod). Lle tybir nad yw'r ymgeisydd yn gymwys i gofrestru a/neu os nad yw'n cofrestru o fewn cyfnod cofrestru penodedig, bydd ei ymgeisyddiaeth yn dod i ben a bydd yn rhaid i’r ymgeisydd dynnu'n ôl o’r Brifysgol (gweler Rheoliad 4).
Monitro'r Polisi Newydd
Cedwir yr hawl i fonitro'r polisi a heb gyfyngiadau i ddilysu tystiolaeth yn annibynnol gan ddefnyddio Gwasanaeth Gwirio Cymwysterau neu wiriad data Gradd Addysg Uwch neu gyfwerth. At ddibenion asesu cyflwyno'r polisi newydd, bydd 5% o'r myfyrwyr newydd yn cael eu dilysu'n annibynnol. Caiff y canlyniadau eu hadrodd ym Mhwyllgor Recriwtio a Derbyn mis Chwefror i sicrhau bod y polisi'n addas at y diben.
13. Cadarnhau
Cadarnhau yw’r broses lle mae’r Swyddfa Derbyn yn cofnodi bod amodau cynnig wedi’u bodloni ac, felly, y gellir derbyn yr ymgeisydd ar y rhaglen o'i ddewis.
13.1
O ganol mis Mehefin ymlaen, bydd y Swyddfa Derbyn yn dechrau ysgrifennu at Brifysgolion i ofyn am fanylion canlyniadau gradd ymgeiswyr. Ysgrifennir i ofyn am ganlyniadau academaidd eraill hefyd ar yr adeg hon. Bydd y Swyddfa Derbyn hefyd yn cysylltu ag ymgeiswyr drwy e-bost i’w hatgoffa am unrhyw amodau nad ydynt wedi’u bodloni gan ofyn iddynt gyflwyno’r ddogfennaeth berthnasol.
13.2
Os bydd ymgeisydd yn methu â bodloni telerau’r cynnig, yna bydd y cais yn cael ei gyfeirio yn ôl at sylw'r Tiwtor Derbyn perthnasol ar gyfer penderfyniad a allai (gan ddibynnu ar amgylchiadau unigol yr achos) olygu derbyn neu wrthod.
13.3
Yna, bydd y Swyddfa Derbyn yn ysgrifennu at yr ymgeiswyr a dderbyniwyd sydd wedi bodloni telerau eu cynigion, yn ogystal ag ymgeiswyr diamod, i ofyn am gadarnhad terfynol eu bod yn dymuno cychwyn ar eu cwrs astudio ôl-raddedig. Bydd cofnodion myfyrwyr yn cael eu trosglwyddo o’r amgylchedd derbyn i’r prif gofnod myfyrwyr ar gyfer ymgeiswyr sy’n cadarnhau y byddant yn dilyn eu rhaglen astudio ddewisedig. Bydd ffeiliau ymgeiswyr sy’n gwneud cais am yr opsiwn gohirio yn cael eu symud i’r sesiwn nesaf.
14. Apeliadau gan Ymgeiswyr Aflwyddiannus
Gall ymgeiswyr aflwyddiannus apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â’u derbyn i’r Brifysgol. Bydd yr holl apeliadau yn cael eu cynnal yn unol â gweithdrefnau apelio cyfredol y Swyddfa Dderbyn.
15. Cofrestru
Mae’r Brifysgol yn disgwyl i bob ymgeisydd gofrestru er mwyn cael ei gydnabod yn fyfyriwr y Brifysgol. Dylai pob ymgeisydd gofrestru yn unol â chyfarwyddiadau cofrestru'r rhaglen astudio benodol ac o fewn y cyfnod cofrestru a bennir.
15.1
Mae’n ofynnol i ymgeiswyr gofrestru o fewn y cyfnod cofrestru a bennir:
- Os ydynt yn cofrestru yn y brifysgol am y tro cyntaf;
- Os ydynt yn cofrestru ar raglen astudio benodol am y tro cyntaf;
- Os ydynt yn mynd ymlaen i’r lefel astudio nesaf, y flwyddyn astudio nesaf neu mewn rhai achosion, rhan nesaf yr astudio ac yn mynychu'n amser llawn neu’n rhan-amser;
- Os yw’r Brifysgol yn disgwyl i ffi gael ei thalu yn unol â rheoliadau’r Brifysgol o ran cyllid a ffioedd myfyrwyr.
15.2
Er mwyn cofrestru yn y Brifysgol, mae’n ofynnol i ymgeiswyr, lle bo’n berthnasol, ddarparu tystiolaeth o’u hawl i astudio yn y Brifysgol yn unol â:
- Gofynion penodol y rhaglen;
- Rheoliadau’r Brifysgol o ran matriciwleiddio;
- Y ddeddfwriaeth ynghylch astudio yn y Deyrnas Unedig;
- Rheoliadau Addasrwydd i Ddychwelyd i Astudio.
15.3
Os dyfarnwyd gradd i'r ymgeisydd eisoes, efallai y caiff pro-forma dilysu ei anfon i’r brifysgol sy'n dyfarnu neu gellir gofyn i'r ymgeisydd gael dilysiad o'i radd flaenorol o'r brifysgol a oedd yn dyfarnu ar ffurf tystysgrif wreiddiol neu drawsgrifiad academaidd swyddogol yn cadarnhau ei ddyfarniad blaenorol, a rhoi'r dogfennau hyn i'r Swyddfa Dderbyn a/neu MyUniHub. Bydd canlyniadau israddedigion Abertawe yn cael eu gwirio gan ddefnyddio cronfa ddata cofnodion myfyrwyr y Brifysgol.
15.4
Os na fydd yr ymgeisydd yn darparu tystiolaeth foddhaol o hawl i astudio yn y Brifysgol yn unol â Rheoliad 15.2 uchod ac erbyn y dyddiad cau a bennir gan y Gwasanaethau Addysg, ystyrir nad yw’r ymgeisydd yn gymwys i gofrestru (oni bai fod Rheoliad 15.5 isod yn gymwys).
15.5
Pan fydd yr ymgeisydd yn bodloni’r holl ofynion i gofrestru (yn unol â Rheoliad 15.2) oni bai am ofynion llywodraethu matriciwleiddio’r Brifysgol, gall yr ymgeisydd, yn ôl disgresiwn y Swyddfa Dderbyn, gael caniatâd i gofrestru dros dro am gyfnod penodol o amser, cyhyd â bod yr ymgeisydd yn cytuno i fodloni gofynion y Brifysgol o ran matriciwleiddio erbyn y dyddiad a bennir gan y Swyddfa Dderbyn. Os yw’r ymgeisydd wedyn yn methu bodloni gofynion y Brifysgol ynghylch matriciwleiddio erbyn y dyddiad cau a bennir gan y Swyddfa Dderbyn, bydd y cofrestriad dros dro yn dod i ben, ac ystyrir nad yw’r ymgeisydd yn gymwys i gofrestru, a bydd Rheoliad 15.6 isod yn berthnasol.
15.6
Os na fydd yr ymgeisydd yn gallu cofrestru mewn cyfnod cofrestru penodedig, bydd hyn yn golygu bod ymgeisyddiaeth yr ymgeisydd yn dod i ben a bydd rhaid i’r ymgeisydd dynnu'n ôl o’r Brifysgol.
15.6.1
Ailsefydlu'r ymgeisiaeth a chaniatâd i gofrestru'n hwyr
Gwneir y penderfyniad i gymeradwyo neu beidio â chymeradwyo caniatâd i gofrestru'n hwyr gan Bennaeth Cofnodion Academaidd neu ei enwebai. I ofyn am ganiatâd i gofrestru myfyrwyr hwyr, rhaid cyflwyno ffurflen Caniatâd i Gofrestru o fewn 10 niwrnod gwaith i ddyddiad y llythyr/e-bost i'r myfyrwyr yn cadarnhau eu bod yn tynnu yn ôl am beidio â chofrestru.
Wrth ystyried ceisiadau o'r fath, bydd Pennaeth Cofnodion Academaidd neu ei enwebai, yn ystyried y canlynol:
Amseru'r cais; yr amgylchiadau sy'n ymwneud â'r cais hwyr; argymhellion gan goleg/ysgol y myfyriwr; gofynion cyfreithlon ac ariannol y cofrestriad; y gyfraith sy'n llywodraethu'r hawl i astudio yn y brifysgol; yr amodau a/neu ddiddymu fisa'r myfyriwr (lle bo'n briodol); argymhellion gan reolwyr derbyn/cydymffurfio/cyllid/cofnodion myfyrwyr (lle bo'n briodol).
15.6.2
Adolygiad Terfynol
I ofyn am adolygiad terfynol o'r penderfyniad i beidio â chymeradwyo ailsefydlu ymgeisyddiaeth a chaniatâd i gofrestru'n hwyr, gweler Gweithdrefn Adolygiad Terfynol Prifysgol Abertawe. Dylai myfyrwyr sylwi bod rhaid cyflwyno unrhyw gais am adolygiad terfynol i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Addysg o fewn 14 diwrnod gwaith i ddyddiad y llythyr/e-bost yn cadarnhau’r penderfyniad i beidio â chymeradwyo ailsefydlu’r myfyriwr a rhoi chaniatâd iddo gofrestru’n hwyr, yn unol â'r Weithdrefn Adolygiad Terfynol.
15.7
Bydd y Brifysgol yn hysbysu'r awdurdodau perthnasol, o fewn cyfnod penodedig, yn unol â deddfau’r Deyrnas Unedig parthed astudio yn y DU, am fyfyrwyr y tynnwyd eu henwau yn ôl oherwydd iddynt beidio â chofrestru ar raglen astudio o fewn y cyfnod cofrestru penodedig.
15.8
Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr sy'n astudio ar raglen a ddarperir mewn partneriaeth â sefydliad arall gofrestru gyda'r sefydliad partner yn unol â'r gweithdrefnau cofrestru a gyhoeddir gan y sefydliad partner unigol.
15.9
Drwy gwblhau'r broses gofrestru, bydd myfyrwyr yn cadarnhau y byddant yn ufuddhau i reoliadau'r sefydliad(au) dan sylw ac, yn achos rhaglenni a ddarperir ar y cyd â phartneriaid, yn cadarnhau y byddant yn ufuddhau i reoliadau'r ddau sefydliad, gan adlewyrchu eu statws fel myfyrwyr cofrestredig ym mhob sefydliad.