Canllaw i Goruchwylio Ymchwil
1. Canllaw i Oruchwyliaeth Ymchwil
1.1
Rhaid i’ch traethawd ymchwil fod yn waith a gynhyrchwyd gennych chi ac yn waith yr ydych chi wedi cymryd cyfrifoldeb amdano.
Fodd bynnag, dylech ddisgwyl trefniadau goruchwylio effeithiol sy'n darparu cymorth, cyngor ac arweiniad rheolaidd o safon yn ystod eich cyfnod fel myfyriwr ymchwil cofrestredig. Dynodir tîm goruchwylio i bob myfyriwr. Bydd gennych o leiaf dau oruchwyliwr drwy gydol eich rhaglen astudio. Bydd y trefniant yn dechrau pan fyddwch yn cofrestru am y tro cyntaf, gan ddod i ben ar ddiwedd y broses arholi (gan gynnwys ailgyflwyno os bydd hynny’n berthnasol).
1.2
Fel arfer, eich Prif Oruchwyliwr neu'ch Goruchwyliwr Cyntaf fydd eich prif gyswllt trwy gydol eich cyfnod fel myfyriwr ymchwil, a bydd ganddo gyfrifoldeb cyffredinol am eich goruchwyliaeth academaidd. Bydd mewnbwn academaidd y Goruchwyliwr Eilaidd yn amrywio ym mhob achos. Rôl bennaf eich Goruchwyliwr Eilaidd, yn aml, fydd bod yn ail gyswllt pan na fydd eich Prif Oruchwyliwr/Goruchwyliwr Cyntaf ar gael. Mae'r Brifysgol yn cydnabod y gall arferion goruchwylio amrywio rhwng disgyblaethau a Chyfadrannau/Ysgolion. Er enghraifft, mae rhai Chyfadrannau/Ysgolion y'n annog myfyrwyr i weithio fel rhan o grŵp neu dîm, neu gall fod yn ofynnol iddynt wneud hynny. Gallai'r timau hyn gynnwys un neu fwy o oruchwylwyr ychwanegol i ategu gwaith y Prif Oruchwyliwr/Goruchwyliwr Cyntaf a'r Goruchwyliwr Eilaidd. Gall y rhain fod yn oruchwylwyr allanol o faes diwydiant neu agwedd benodol ar ymarfer proffesiynol (e.e. meddygaeth) i gefnogi'r ymchwil. Gellir defnyddio goruchwylwyr allanol o brifysgolion eraill hefyd. Eich Cyfadran/Ysgol fydd yn gyfrifol am wneud unrhyw drefniadau o’r fath. Bydd y Gyfadran/Ysgol a/neu'r Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd yn sicrhau bod gan bob goruchwyliwr allanol y cymwysterau a'r profiad angenrheidiol i gefnogi'ch ymchwil.
1.3
Bydd un o'ch goruchwylwyr, fel arfer eich Prif Oruchwyliwr/Goruchwyliwr Cyntaf, yn gweithredu fel Cyfarwyddwr Astudiaethau sydd â chyfrifoldeb pennaf am ddarparu cymorth bugeiliol a goruchwyliaeth weinyddol yn ystod eich ymgeisiaeth. Bydd yn gyfrifol am roi arweiniad i chi ynghylch materion gweinyddol ac am sicrhau bod eich cynnydd yn cael ei adrodd i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu.
1.4
Dylech sicrhau eich bod wedi derbyn gwybodaeth am y trefniadau penodol sydd ar waith mewn perthynas â rôl eich goruchwylwyr.
2. Yr Hyn y Gallwch ei Ddisgwyl gan eich Prif Oruchwyliwr/Goruchwyliwr Cyntaf
Bydd gan eich Prif Oruchwyliwr/Goruchwyliwr Cyntaf amrywiaeth o ddyletswyddau. Yn gyffredinol, ef neu hi fydd eich cynghorydd academaidd, eich tiwtor a’ch hyrwyddwr. Fel arfer, gallwch ddisgwyl i’ch Prif Oruchwyliwr/Goruchwyliwr Cyntaf:
- Darparu goruchwyliaeth reolaidd. Bydd amlder yr oruchwyliaeth yn amrywio yn ystod cyfnod yr ymchwil. Gallwch ddisgwyl goruchwyliaeth fwy dwys yn ystod y flwyddyn gyntaf a’r flwyddyn olaf pan fydd eich goruchwyliwr yn darllen drafftiau o’r traethawd ymchwil ac yn cynnig sylwadau arnynt. Rhaid cynnal o leiaf bedwar cyfarfod goruchwylio ffurfiol bob blwyddyn (er, dan amgylchiadau eithriadol gellid cynnal goruchwyliaeth ar lein e.e. ar Zoom neu Skype), a dylai’r drafodaeth a’r pwyntiau gweithredu sy’n deillio ohonynt gael eu crynhoi mewn cofnod ysgrifenedig ffurfiol. Cyfrifoldeb yr goruchwyliwr yw cadw cofnodion o'r sesiynau goruchwylio, sicrhau bod y myfyriwr yn derbyn copi electronig o'r cofnod o'r cyfarfod, a sicrhau bod copïau electronig o'r cofnod yn cael eu cadw'n ganolog gan y Gyfadran/Ysgol. Dylai'ch Cyfadran/Ysgol roi gwybod i chi faint o oruchwyliaeth y gallwch ei ddisgwyl;
- Bod ar gael, o fewn rheswm (e.e. drwy e-bost), pan fydd angen cyngor arnoch y tu allan i gyfarfodydd goruchwylio sydd wedi’u trefnu ymlaen llaw;
- Darparu arweiniad ar natur a gofynion y radd ymchwil rydych yn astudio ar ei chyfer a’r safonau a ddisgwylir. Dylai hynny gynnwys sicrhau bod gennych ddealltwriaeth glir o’r prif agweddau ar ymchwil ôl-raddedig; natur y radd ymchwil a ddyfernir ym Mhrifysgol Abertawe; a ffurf a strwythur traethawd ymchwil;
- Rhoi cyngor ac arweiniad i chi er mwyn sicrhau bod modd cwblhau’r ymchwil, a pharatoi’r traethawd ymchwil, fel arfer cyn pen cyfnod byrraf posibl eich ymgeisiaeth;
- Eich cynorthwyo i lunio cynllun gwaith manwl ac amserlen ar gyfer eich ymchwil, a monitro eich cynnydd mewn perthynas â’r cynllun hwnnw;
- Rhoi cyngor ac arweiniad ar yr ymchwil rydych yn ymgymryd ag ef. Bydd hyn yn cynnwys cyngor ac arweiniad ar:
- Y testun a ddewisir, gan sicrhau y dilynir y weithdrefn gywir os bydd unrhyw newidiadau i’ch pwnc ymchwil wedi hynny. Am ragor o wybodaeth darllenwch yr ATAS a’r Polisi a’r Weithdrefn ar gyfer Newid Pwnc Ymchwil;
- Dewis cwestiynau neu ddamcaniaethau ymchwil;
- Llenyddiaeth yn eich maes a sut i gael gafael arni;
- Y broses o ddewis dulliau ymchwil;
- Ystyriaethau moesegol sy’n ymwneud â’ch ymchwil, lle bo hynny’n berthnasol;
- Y gwaith maes/gwaith labordy y mae angen ei wneud;
- Sut i ysgrifennu ar gyfer cynulleidfa academaidd;
- Strwythur y traethawd ymchwil, ei gynnwys a’i gyflwyniad;
- Cwblhau Adroddiadau Dilyniant yn brydlon, yn ôl yr angen.
- Sicrhau eich bod yn cael rhybudd digonol cyn gynted ag y bo modd os yw eich cynnydd yn annigonol neu o safon anfoddhaol;
- Gofyn am waith ysgrifenedig fel y bo’n briodol ac yn unol â’r cynllun gwaith y cytunwyd arno, a dychwelyd gwaith o’r fath ynghyd ag adborth adeiladol o fewn y cyfnod y cytunwyd arno;
- Darparu cyngor ac arweiniad ar ysgrifennu’r traethawd ymchwil, gan gynnwys darllen y traethawd ymchwil cyfan yn ystod y cyfnod ysgrifennu a rhoi sylwadau arno. Serch hynny, eich gwaith chi eich hun fydd y traethawd ymchwil, a chi fydd â’r cyfrifoldeb terfynol am sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno cyn pen cyfnod hwyaf posibl eich ymgeisiaeth;
- Eich paratoi ar gyfer yr arholiad llafar, gan esbonio ei ran yn y broses arholi gyffredinol;
- Darparu goruchwyliaeth os bydd angen ailgyflwyno’r traethawd ymchwil;
- Cynnal yr arbenigedd angenrheidiol ar gyfer goruchwylio, gan gynnwys sicrhau cyfleoedd perthnasol o ran datblygiad proffesiynol er mwyn cyflawni rôl y goruchwyliwr yn effeithiol;
- Darparu cyngor ynghylch sut i rwydweithio yn eich maes arbenigol a chyfleoedd i wneud hyn. Gall hyn gynnwys cyngor ynghylch y cymdeithasau dysgedig y dylech ymuno â nhw a’r cynadleddau y dylech eu mynychu;
- Darparu cyngor ar sut a lle i gyflwyno'ch gwaith, er enghraifft mewn seminarau yn y Gyfadran/Ysgol a'r Brifysgol a/neu mewn cyfarfodydd/cynadleddau allanol;
- Darparu cyngor ar sut a lle i gyhoeddi, lle bo'n briodol.
3. Yr Hyn y Gallwch ei Ddisgwyl gan Eich Goruchwyliwr Eilaidd
Rôl gefnogol ac ategol fydd gan Ail Oruchwyliwr y myfyriwr ymchwil fel arfer. Mewn rhai achosion, bydd Ail Oruchwyliwr y myfyriwr ymchwil yn cyfrannu’n weithredol at’ yr oruchwyliaeth, e.e., cynorthwyo gydag agweddau academaidd penodol ar waith y myfyriwr ymchwil , mewn ffordd debyg i'w Brif Oruchwyliwr. Gall yr Ail Oruchwyliwr gyflawni rôl fugeiliol hefyd. Mewn achosion eraill, mae’n bosib na fydd eich Ail Oruchwyliwr yn ymwneud â chi gymaint â hynny o ddydd i ddydd. Nid oes angen i Ail Oruchwylwyr, o reidrwydd, arbenigo ym mhwnc penodol y myfyriwr ymchwil i'r un graddau â'r Prif Oruchwyliwr/Goruchwyliwr Cyntaf. Rôl unigryw’r Ail Oruchwyliwr, fodd bynnag, yw:
- gweithredu fel cyswllt cyntaf os na fydd Prif Oruchwyliwr/Goruchwyliwr Cyntaf y myfyriwr ymchwil ar gael e.e. oherwydd salwch, absenoldeb ymchwil (cyfnod sabothol), absenoldeb mamolaeth, newid cyflogaeth;
gweithredu fel cyswllt cyntaf, os bydd anghytundeb rhwng y myfyriwr ymchwil a'i Brif Oruchwyliwr/ Goruchwyliwr Cyntaf. Os ceir anghytundeb, gall y myfyriwr ymchwil hefyd gysylltu â'i Bennaeth Adran neu ei Arweinydd Ymchwil Ôl-raddedig yn y Gyfadran. Os nad oes modd datrys problemau yn y modd yma, caiff y myfyriwr ymchwil ei gyfeirio at brosesau cwyno’r Gyfadran/ Ysgol a'r Brifysgol.
4. Yr Hyn Y Gallwch Ei Ddisgwyl Gan Eich Cyfarwyddwr Astudiaethau
Mae gan y goruchwyliwr sy'n gweithredu fel Cyfarwyddwr Astudiaethau i chi rôl fugeiliol, a chyfrifoldeb am ddarparu cyngor a chymorth gyda'r prosesau gweinyddol angenrheidiol yn ôl yr angen, er enghraifft o ran dilyniant, trosglwyddo rhwng dulliau astudio neu raglenni, cais i ohirio astudiaethau, neu i estyn hyd yr ymgeisiaeth. Ei rôl yw:
- Darparu cymorth bugeiliol yn ôl yr angen a/neu eich cyfeirio at ffynonellau cymorth eraill, e.e. Gwasanaethau Academaidd, Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr, y Ganolfan Gyrfaoedd;
- Eich cynorthwyo i asesu eich anghenion hyfforddi ar ddechrau ac yn ystod eich rhaglen ymchwil, a’ch helpu i gynllunio rhaglen ymchwil a rhaglen datblygu sgiliau trosglwyddadwy (gan gynnwys hyfforddiant iaith) yn ôl yr angen er mwyn cwblhau eich traethawd ymchwil. Dylech gael eich hysbysu am gyfleoedd hyfforddiant a ddarperir gan y Gyfadran/Ysgol, Gwasanaethau Academaidd, Gwasanaethau Hyfforddiant a Datblygu APECS a ffynonellau eraill sy’n berthnasol i’ch disgyblaeth neu’ch corff ariannu (e.e. myfyrwyr sy’n derbyn Dyfarniadau Cynghorau Ymchwil). Dylid ailasesu eich anghenion hyfforddi drwy gydol eich ymgeisiaeth. Dylai’r broses o ddatblygu sgiliau gael ei hystyried yn rhan hanfodol o’ch rhaglen ymchwil;
- Sicrhau bod Adroddiadau Dilyniant yn cael eu llunio mewn modd amserol ac yn ôl yr angen;
- Nodi unrhyw adborth gennych chi, y Gyfadran/Ysgol neu Wasanaethau Academaidd;
- Sicrhau eich bod yn ymwybodol o reoliadau Prifysgol Abertawe ar gyfer eich gradd ymchwil, gan gynnwys llên-ladrad, eiddo deallusol, iechyd a diogelwch, ac unrhyw faterion moesegol a allai godi yn ystod eich ymchwil;
- Darparu cyngor a chymorth mewn perthynas â phrosesau gweinyddol angenrheidiol yn ôl yr angen, e.e. os byddwch yn gwneud cais i ohirio eich astudiaethau, newid dull/rhaglen astudio, estyn cyfnod hwyaf posibl eich ymgeisiaeth;
- Rhoi cyngor manwl ynghylch y cerrig milltir disgwyliedig a'r dyddiadau ar gyfer camau dilynol eich ymchwil. Dylai hyn gynnwys gwybodaeth am y meini prawf mae angen eu bodloni er mwyn gwneud cynnydd boddhaol, uwchraddio i radd ymchwil lefel uwch, a'r dyddiadau erbyn pryd mae'n rhaid bodloni'r gofynion hyn.
5. Meini Prawf Cymhwysedd Goruchwyliwr Ymchwil
5.1
Y Tîm Goruchwylio
Caiff pob myfyriwr dîm goruchwylio sy'n cynnwys o leiaf ddau oruchwyliwr cymwys sy'n aelodau o staff Prifysgol Abertawe. Ni chaniateir eithriadau i'r rheol hon. Bydd y prif oruchwylwyr hyn yn cymryd cyfrifoldeb am arweiniad academaidd y myfyriwr a'r gweithgareddau gweinyddol a bugeiliol sy'n gysylltiedig â'r myfyriwr.
Dylid defnyddio'r term 'Ymgynghorwr Mewnol' i gynnwys cydweithwyr Abertawe sy'n cymryd rhan yn y broses fel 3ydd neu 4ydd goruchwyliwr.
Dylid defnyddio'r term ‘Ymgynghorydd Allanol' i gynnwys ymchwilwyr sy'n allanol i'r Brifysgol ond sy'n rhan o'r oruchwyliaeth.
5.2
Academaidd: Fel arfer, bydd y Goruchwyliwr Cyntaf yn cymryd y prif gyfrifoldeb academaidd a bydd yr Ail Oruchwyliwr yn cymryd cyfrifoldeb academaidd eilaidd. Os bydd y goruchwyliwr cyntaf a'r ail oruchwyliwr yn cyfrannu mewn ffordd gyfartal, mae'n bosib gofyn am statws 'cyd-oruchwyliwr cyntaf' drwy gysylltu ag is-bwyllgor Ymchwil Ôl-raddedig y Gyfadran. Ni chaiff rolau’r Goruchwyliwr Cyntaf na'r Ail Oruchwyliwr eu dynodi’n seiliedig ar hynafedd.
5.3
Gweinyddol/Bugeiliol: Bydd un goruchwyliwr yn cymryd y prif gyfrifoldeb gweinyddol/bugeiliol a bydd y llall/lleill yn cymryd cyfrifoldeb gweinyddol/bugeiliol eilaidd.
Y trefniant arferol fydd i'r Goruchwyliwr Cyntaf gymryd y prif gyfrifoldeb gweinyddol a bugeiliol ac i’r Ail Oruchwyliwr gymryd cyfrifoldeb gweinyddol a bugeiliol eilaidd.
Os oes gwahaniaeth o ran profiad, e.e. yn achos ymchwilwyr gyrfa gynnar neu oruchwylwyr â llai o brofiad ymchwil, y disgwyliad yw y bydd y goruchwyliwr mwy profiadol yn ymgymryd â rôl fentora ac yn cynnig cyngor a chymorth bugeiliol i'r cydweithiwr a'r myfyriwr ymchwil ôl-raddedig.
Gall Ymgynghorwyr Mewnol ac Allanol gynnig arweiniad academaidd a/neu weinyddol a bugeiliol priodol.
Pan na fydd y Goruchwyliwr Cyntaf na’r Ail Oruchwyliwr ar gael (e.e. oherwydd salwch, absenoldeb ymchwil (sabothol), cyfnod mamolaeth, newid cyflogaeth), bydd y prif oruchwyliwr arall yn cymryd y rôl honno/rolau hynny dros dro a/neu bydd yn sicrhau bod tîm goruchwylio priodol arall yn cael ei greu, mewn ymgynghoriad â'r Gyfadran/Ysgol.
5.4
Goruchwylwyr Categori A a B
Rydym ni'n diffinio dau gategori o oruchwylwyr: Goruchwylwyr Categori A a Chategori B
Goruchwyliwr Categori A:
5.4.1
Rhaid bod gan yr unigolyn gontract cyflogaeth yn aelod o staff Prifysgol Abertawe, a ddylai barhau'n hirach na chyfnod ymgeisyddiaeth hwyaf arferol y myfyriwr sydd i'w oruchwylio;
5.4.2
Dylai fod wedi goruchwylio hyd at gwblhau'n llwyddiannus, ym Mhrifysgol Abertawe neu mewn sefydliad addysg uwch arall, fel prif oruchwyliwr neu ail oruchwyliwr, o leiaf un myfyriwr ar radd ar yr un lefel â’r myfyriwr y bydd yn ei oruchwylio neu ar lefel uwch na hynny;
5.4.3
Rhaid ei fod wedi derbyn hyfforddiant perthnasol o ran goruchwylio, monitro cynnydd, gweithdrefnau a systemau a pholisïau sy'n benodol i'r sefydliad;
5.4.4
Dylai fod ar Lwybr Gyrfa Academaidd gydag Ymchwil yn faen prawf Uwch.
5.4.5
Rhaid iddo fod â chymhwyster academaidd ar yr un lefel, neu'n uwch, â'r radd y bydd yn ei goruchwylio, neu dylai allu dangos profiad proffesiynol cyfatebol;
5.4.6
Ni ddylai fod yn ymgeisydd ar gyfer gradd ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe neu mewn sefydliad addysg uwch arall;
5.4.7
Dylai feddu ar gofnod goruchwylio da, wedi’i wirio gan y Deon Gweithredol neu, os yw’r ddyletswydd yn cael ei dirprwyo, gan Arweinydd Ymchwil Ôl-raddedig y Gyfadran (neu rywun mewn rôl gyfatebol).
Goruchwyliwr Categori B:
5.4.8
Goruchwyliwr Categori B yw rhywun nad yw'n bodloni gofynion Categori A.
5.5
Cymhwysedd i weithredu fel Goruchwyliwr Cyntaf/Ail Oruchwyliwr
Bydd y tîm goruchwylio safonol yn cynnwys dau oruchwyliwr Categori A, neu un goruchwyliwr Categori A ac un goruchwyliwr Categori B. Yn yr ail achos, gellir dynodi'r naill neu'r llall fel Goruchwyliwr Cyntaf.
Os na fydd y naill na'r llall yn oruchwylwyr Categori A, bydd angen penodi Uwch-ymgynghorydd. Mae'r Uwch-ymgynghorydd yn cynnig gofal bugeiliol, mentora a goruchwyliaeth academaidd i'r cydweithwyr llai profiadol a'r myfyriwr ymchwil ôl-raddedig.
Nid yw cydweithwyr sy'n dilyn y llwybr Addysg yn unig fel arfer yn addas i oruchwylio myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig; fodd bynnag, gellir caniatáu iddynt wneud hynny, lle y bo'n briodol, ac fel eithriad.
Mae proses ffurfiol i ganiatáu i'r rhai nad ydynt ar y Llwybr Ymchwil oruchwylio yn cynnwys:
- Ffurflen cais i oruchwylio sy'n gofyn am CV, profiad ymchwil, cyhoeddiadau, grantiau ymchwil.
- Caiff y cais ei werthuso gan is-bwyllgor Ymchwil Ôl-raddedig y Gyfadran yn y Gyfadran berthnasol, fel "eitem gyfyngedig” ar yr agenda. Os bydd anghydfod, caiff y cais ei werthuso gan y Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig.
- Rhoddir cymeradwyaeth a goruchwyliaeth derfynol gan y Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd.
5.6
Cymhwysedd i weithredu fel Uwch-ymgynghorydd
Yn gyffredinol, tybir y bydd yr Uwch-ymgynghorydd yn berson sy'n ddigon uchel yn yr Adran neu'r Ysgol a chaiff ei benodi ar sail ei sgiliau mentora a'i brofiad o oruchwyliaeth ymchwil ôl-raddedig, ac nid o reidrwydd lle mae meysydd ymchwil yn gorgyffwrdd.