Canllaw i Arholi Myfyrwyr Ymchwil
1. Aelodau’r Bwrdd Arholi
1.1 Bydd pob Bwrdd Arholi ar gyfer ymgeiswyr yn cynnwys yr unigolion canlynol:
- Cadeirydd annibynnol, a fydd yn Ddeon Gweithredol neu’n aelod o staff a chanddo brofiad addas a enwebwyd gan y Ddeon Gweithredol. Mae disgwyl i Gadeirydd y Bwrdd Arholi gadeirio’r arholiad llafar ac unrhyw gyfarfod o’r arholwyr;
- Arholwr allanol;
- Arholwr mewnol neu, yn achos staff Prifysgol Abertawe, ail arholwr allanol (gweler yr adran 'Arholi Staff a Myfyrwyr Ymchwil a Gyflogir ym Mhrifysgol Abertawe' isod).
Fel arfer dylai'r arholwr mewnol ac allanol fod â phrofiad ar lefel y traethawd ymchwil rhyngddynt er mwyn arholi ar lefel gradd ôl-raddedig. Er enghraifft, lle nad oes gan arholwr allanol a gynigir fawr ddim profiad neu ddim profiad o gwbl o fod yn arholwr allanol, mae’n hollbwysig fod gan yr arholwr mewnol a gynigir brofiad helaeth o fod yn arholwr. Lle bo'r arholwr mewnol arfaethedig yn gymharol ddibrofiad, rhaid i’r arholwr allanol arfaethedig feddu ar brofiad helaeth o weithredu fel arholwr.
Rhyngddynt, dylai'r panel fod wedi arholi o leiaf chwe arholiad llafar ar y lefel sy'n cael ei harholi neu'n uwch. Os nad yw'n bosib cynnull panel â’r lefel hon o brofiad, bydd angen cyflwyno cyfiawnhad ar sail tystiolaeth gyda'r enwebiad i'w ystyried gan y Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig
1.2 Cadeirydd y Bwrdd Arholi
Bydd Cadeirydd y Bwrdd yn annibynnol yn y broses arholi a bydd yn atebol i’r Pwyllgor Ymchwil Ôl-raddedig parthed cynnal yr arholiad. Mae disgwyl i Gadeirydd y Bwrdd Arholi gadeirio’r arholiad llafar ac unrhyw gyfarfod o’r arholwyr.
1.2.1 Fel arfer byddai Cadeirydd arfaethedig:
- Yn aelod o staff Prifysgol Abertawe, sydd â statws digon uchel a digon o brofiad i allu hawlio awdurdod;
- Wedi gweithredu fel arholwr ar, neu'n uwch na, lefel y traethawd ymchwil i'w arholi;
- Yn meddu ar gymhwyster academaidd ar lefel y traethawd ymchwil neu’n uwch na lefel y traethawd i’w arholi neu’n meddu ar brofiad proffesiynol cyfatebol;
- Yn meddu ar ddealltwriaeth glir o reoliadau a gweithdrefnau’r Brifysgol;
- Wedi derbyn hyfforddiant perthnasol o ran goruchwylio a pholisïau a gweithdrefnau goruchwylio penodol y sefydliad.
Ni chaiff unrhyw aelod o staff a fu’n ymwneud â goruchwylio’r ymgeisydd fod yn Gadeirydd y Bwrdd Arholi.
1.3 Arholwr Allanol
Penodir arholwyr allanol gan y Ddeon Gweithredol neu ei enwebai, mewn ymgynghoriad â goruchwylwyr y myfyriwr. Cyfadrannau/Ysgolion ofalu rhag sefydlu trefniadau cilyddol a allai achosi diffyg gwrthrychedd posibl.
1.3.1
Yn dilyn cyflwyno rheoliadau a gofynion newydd y DU ar gyfer Fisâu a Mewnfudo, mae’n rhaid i’r Brifysgol fedru dangos bod pob arholwr allanol yn gymwys i weithio yn y Deyrnas Unedig. Adeg enwebu ymgeiswyr dylai’r Cyfadrannau ddangos ar ba sail y barnwyd bod yr arholwr allanol a gynigir yn gymwys i weithio yn y Deyrnas Unedig e.e. mae’r arholwr allanol a gynigir yn ddinesydd Prydeinig neu’n cael ei gyflogi gan sefydliad arall o fewn y Deyrnas Unedig (gall hyn eithrio'r rhai sydd wedi cael fisa i weithio mewn un sefydliad yn unig).
1.3.2
Dylai arholwr allanol arfaethedig:
- Fod yn weithgar wrth gynnal ymchwil a bod â digon o brofiad i orchymyn awdurdod;
- Bod yn ymwybodol o natur a diben y radd y mae’r ymgeisydd yn cael ei arholi amdani;
- Bod â gwybodaeth arbenigol ac arbenigedd yn y pwnc ymchwil;
- Fel arfer, fod wedi arholi gradd uwch ar o leiaf un achlysur blaenorol yn ei sefydliad fel arholwr allanol ar yr un lefel (gweler y troednodyn i Enwebu Bwrdd Arholi isod);
- Fel arfer, fod wedi goruchwylio myfyrwyr ôl-raddedig hyd lefel y traethawd ymchwil neu’r tu hwnt i hynny;
- Fel arfer, meddu ar y radd y mae’n ei harholi neu gyfwerth. Os nad oes gan yr arholwr radd ymchwil, yna mae’n rhaid i’r bwrdd arholi dderbyn digon o dystiolaeth ategol o addasrwydd yr unigolyn am y swydd;
- Peidio â chael ei benodi pan fo’r amgylchiadau canlynol yn gymwys, oni bai bod modd dangos tystiolaeth o amgylchiadau eithriadol:
- Bod yn oruchwyliwr neu’n fentor blaenorol yr ymgeisydd;
- Bod yn aelod blaenorol o staff y Brifysgol, sydd wedi gadael y Brifysgol yn ystod y cyfnod ymgeisyddiaeth;
- Bod yn noddwyr, perthynas neu ffrind i’r ymgeisydd;
- Bod yn bartner neu berthynas y goruchwyliwr;
- Wedi bod yn gyd-awdur neu wedi cyfrannu’n sylweddol at waith yr ymgeisydd neu y mae ei waith ei hun yn ganolbwynt i'r prosiect ymchwil;
- Aelod o staff o adran neu sefydliad ymchwil lle mae’n ymwneud â Phrifysgol Abertawe mewn trefniant darpariaeth doethurol cydweithredol y mae’r ymgeisydd dan sylw yn astudio;
- Ymwneud â phartneriaeth gydweithredol sylweddol uniongyrchol gyda goruchwylwyr yr ymgeisydd (h.y. y tîm goruchwylio) yn ystod y cyfnod goruchwyliaeth (e.e. mwy na thri phapur sydd ag awduron ar y cyd lle mae'r goruchwylwyr a'r arholwr yn gyfranwyr mawr).
1.3.3
Gall arholwr o’r tu allan i’r Brifysgol fod yn briodol lle mae angen arbenigedd proffesiynol, cyn belled â bod gan y person a benodir brofiad addas o arholiadau gradd ymchwil. Gall arholwyr o’r fath ddod o sefydliadau sy’n ymwneud ag ymchwil, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol: byrddau iechyd lleol, amgueddfeydd ac orielau cenedlaethol, llysoedd barnwrol a sefydliadau busnes cenedlaethol.
1.3.4
Os cynigir Arholwr Allanol o Brifysgol nad yw yn y DU, ac nad yw'n dangos ei fod yn gyfarwydd â system gradd ymchwil y DU yna dylai'r Cadeirydd fod yn brofiadol a dylai allu rhoi briff i'r Arholwr Allanol ar ddisgwyliadau cyflwyniad gradd ymchwil.
1.3.5
Ni ellir gwahodd cyn aelod o staff Abertawe i weithredu fel arholwr allanol nes bod o leiaf bum mlynedd wedi mynd heibio ers iddo/iddi adael y Brifysgol.
1.3.6
Ni ellir gwahodd cyn fyfyriwr o Abertawe i weithredu fel arholwr allanol nes bod o leiaf bum mlynedd wedi mynd heibio ers iddo/iddi raddio o’r Brifysgol.
1.3.7
I osgoi tuedd, rhagfarn neu wrthdaro buddiannau canfyddedig, ni ddylid penodi arholwr allanol os:
- Bu cyfathrebu/cydweithio academaidd sylweddol â'r ymgeisydd (gan gynnwys fel goruchwyliwr presennol neu gyn-goruchwyliwr yr ymgeisydd) neu oruchwylwyr yr ymgeisydd yn ystod y pum mlynedd diwethaf a fyddai'n codi amheuaeth ynghylch eu gallu i arfer safbwyntiau gwrthrychol, diduedd ac annibynnol;
- Ydynt wedi arholi graddau ymchwil yn rheolaidd yn yr un adran/ysgol/cyfadran;
- Yw goruchwyliwr yr ymgeisydd wedi bod yn arholwr allanol yn adran/ysgol/cyfadran arfaethedig yr arholwr allanol yn ddiweddar;
- Ydynt yn diwtoriaid bugeiliol, yn noddwr, yn gydweithiwr proffesiynol agos, yn berthynas neu'n ffrind naill ai yn y sefydliad hwn neu yn sefydliad blaenorol yr ymgeisydd;
- Ydynt yn rhywun a gafodd eu harholi eu hunain gan y goruchwyliwr, neu bartner neu berthynas y goruchwyliwr;
- Ydynt yn unigolyn y mae ei waith ei hun yn ganolbwynt y prosiect ymchwil;
- Ydynt o sefydliad sy'n ymwneud â threfniant darpariaeth gydweithredol y mae'r ymgeisydd yn astudio yn rhan ohono.
1.3.8
Nifer y traethodau ymchwil y gall un arholwr allanol eu harholi
Ni fydd nifer y traethodau ymchwil y gall un arholwr allanol penodol eu harholi mewn cyfnod o ddeuddeg mis fel arfer yn fwy na thri ar lefel doethur a deg ar lefel meistr ymchwil. Mewn amgylchiadau eithriadol, bydd angen cymeradwyaeth gan Ddeon Rhaglenni Ymchwil Ôl-raddedig y Brifysgol (neu ei gynrychiolydd).
1.4 Arholwr Mewnol
1.4.1
Fel arfer dylai arholwyr mewnol enwebedig:
- Feddu ar wybodaeth ddigonol o bwnc yr ymchwil;
- Bod â phrofiad perthnasol;
- Bod â dyfarniad academaidd ar yr un lefel y maen ei harholi, neu gael profiad proffesiynol cyfwerth;
- Bod yn aelod o staff Prifysgol Abertawe;
- Heb fod yn ymgeisydd cyfredol am radd ymchwil naill ai ym Mhrifysgol Abertawe neu mewn unrhyw sefydliad arall;
- Fel arfer heb fod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe ar yr un pryd â’r myfyriwr sy’n cael ei arholi;
- Fel arfer, fod yn rhan o’r Gyfadran/Ysgol lle mae’r myfyriwr wedi’i gofrestru;
- Wedi derbyn hyfforddiant perthnasol o ran goruchwylio a pholisïau a gweithdrefnau goruchwylio penodol y sefydliad.
Ni chaiff unrhyw aelod o staff a fu’n ymwneud â goruchwylio’r ymgeisydd fod yn arholwr mewnol.
1.4.2
Bydd yn ofynnol i aelod o staff nad yw wedi gweithredu fel arholwr mewnol o’r blaen arsylwi o leiaf un arholiad llafar cyn cael ei benodi'n arholwr mewnol. Gall unigolyn annibynnol arsylwi unrhyw arholiad llafar yn y Brifysgol heb geisio caniatâd penodol ymlaen llaw am bresenoldeb yr arsylwr gan bawb sy’n rhan o’r arholiad llafar.
1.4.3
O dan amgylchiadau eithriadol, os na lwyddir i benodi arholwr mewnol addas o’r Gyfadran/Ysgol perthnasol, gall y Deon Gweithredol enwebu arholwr mewnol o un o Gyfadrannau/Ysgolion eraill y Brifysgol.
1.4.4
Os bydd hi’n amhosibl penodi arholwr mewnol priodol o Gyfadran/Ysgol arall yn y Brifysgol, gall y Deon Rhaglenni Ymchwil Ôl-raddedig neu ei gynrychiolydd, ddilyn argymhelliad arbennig gan y Deon Gweithredol dan sylw, i benodi ail arholwr allanol yn lle arholwr mewnol. Wrth benodi arholwr o’r fath, gall y Deon Rhaglenni Ymchwil Ôl-raddedig neu ei gynrychiolydd, gymryd i ystyriaeth enwebiad a wneir gan y Deon Gweithredol, ond nid oes rhaid iddo gael ei glymu i’r enwebiad hwnnw.
1.4.5
Ni fydd y Deon Rhaglenni Ymchwil Ôl-raddedig ney Deon Gweithredol wedi darparu sicrwydd ysgrifenedig bod pob cam priodol wedi ei gymryd i benodi arholwr mewnol o’r Brifysgol ei hun.
1.4.6
I osgoi rhagfarn, neu wrthdaro buddiannau canfyddedig, ni ddylid penodi arholwr mewnol:
- Os cafwyd cyfathrebu/cydweithio academaidd sylweddol â'r ymgeisydd (gan gynnwys fel goruchwylydd presennol neu flaenorol yr ymgeisydd) neu oruchwylydd yr ymgeisydd yn ystod y pum mlynedd diwethaf a fyddai'n cwestiynu ei allu i roi barn wrthrychol, diduedd ac annibynnol;
- Mae'r rhain yn cynnwys tiwtoriaid bugeiliol, noddwr, cydweithiwr proffesiynol agos, perthynas i'r ymgeisydd;
- Mae'r rhain yn bobl sydd wedi cael eu harholi eu hunain gan y goruchwylydd neu bartner neu berthynas y goruchwyliwr;
- Mae'n berson y mae ei waith ei hun yn ffocws prosiect ymchwil.
2. Arholi Staff a Myfyrwyr Ymchwil a Gyflogir ym Mhrifysgol Abertawe
Mewn achos lle mae'r ymgeisydd ymchwil ôl-raddedig wedi'i gyflogi gan y Brifysgol ar unrhyw adeg cyn yr arholiad, gellir tybio bod gwrthdaro buddiannau os bydd yr Arholwr Mewnol yn un o gydweithwyr yr ymgeisydd. Mewn achos o'r fath, bydd angen ail Arholwr Allanol yn lle Arholwr Mewnol.
2.1 Mae'r eithriadau i'r rheoliad hwn fel a ganlyn:
A. Ymgeiswyr sy'n gweithio hyd at y cyfanswm arferol o 6 awr yn ystod yr wythnos weithio ar ffurf cyflogaeth achlysurol yn ymwneud â'r pwnc o fewn y Brifysgol (gweler "Canllaw i Gyflogi Myfyrwyr Ymchwil").
B. Ymgeiswyr sydd wedi gweithio i'r Brifysgol am gyfanswm o lai na 3 mis cyn cyflwyno.
C. Ymgeiswyr a gyflogir mewn rhan o'r Brifysgol heb unrhyw berthynas â'r Gyfadran/Ysgol y mae'r Arholwr Mewnol wedi'i ddewis ohono. (Mae enghreifftiau'n cynnwys cyflogaeth yng Ngweinyddiaeth y Brifysgol neu gan Gyfadran/Ysgol gwahanol.) Mewn achos o'r fath, rhaid cael datganiad ysgrifenedig yn nodi paham nad oes gwrthdaro buddiannau gyda'r ffurflen Enwebu Arholwyr.
2.2
Mewn rhai achosion, gall fod angen ailgyfansoddi Bwrdd Arholi os bydd yr ymgeisydd yn derbyn swydd yn y Brifysgol rhwng y dyddiad cyflwyno a dyddiad yr arholiad.
3. Enwebu Bwrdd Arholi
Dylai’r Deon Gweithredol neu ei enwebai gwblhau ffurflen Enwebu Bwrdd Arholi, gan nodi a yw'r myfyriwr yn aelod o staff ai peidio, a chan enwi'r holl unigolion sydd wedi ymwneud â goruchwylio'r myfyriwr.
3.1
Dylai’r Deon Gweithredol neu ei enwebai ddarparu manylion cyswllt llawn ar gyfer yr arholwr allanol arfaethedig. Rhaid darparu manylion llawn am brofiad goruchwylio ac arholi ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall ar gyfer pob arholwr arfaethedig oni bai i'r arholwr allanol arfaethedig gael ei benodi ac wedi gweithredu fel arholwr gradd ymchwil allanol ym Mhrifysgol Abertawe yn ystod y tair blynedd diwethaf). Dylai’r wybodaeth a ddarperir gynnwys:
• Cofnod o waith goruchwylio llwyddiannus ar y lefel briodol;
• Profiad blaenorol o arholi gradd ymchwil [1];
• Cymwysterau academaidd a/neu broffesiynol;
• Swyddi academaidd presennol a blaenorol;
• Crynodeb byr o gyhoeddiadau diweddar a chynnyrch ymchwil.
3.2
Ystyrir pob enwebiad gan y Deon Rhaglenni Ymchwil Ôl-raddedig neu ei enwebai. Gellir gofyn am ddarparu rhagor o wybodaeth ynghylch cymwysterau a/neu arbenigedd yr arholwyr a gynigir a hefyd y Cadeirydd a gynigir ar gyfer y Bwrdd Arholi os bydd unrhyw bryderon. Mae gan y Deon Rhaglenni Ymchwil Ôl-raddedig neu ei gynrychiolydd yr awdurdod i gymeradwyo neu wrthod yn weithredol penodi unrhyw arholwr neu Gadeirydd y Bwrdd Arholi a gynigir.
3.3
Disgwylir y bydd y Gyfadran/Ysgol yn sicrhau cytundeb anffurfiol gan yr arholwr allanol arfaethedig i weithredu fel arholwr allanol cyn i’r Deon Gweithredol anfon y Ffurflen Enwebu Bwrdd Arholi i’r Gwasanaethau Addysg. Dylai’r arholwr allanol a gynigir ddeall bod derbyn enwebiad fel arholwr allanol yn golygu ei fod yn ymrwymo i fod ar gael trwy gydol cyfnod y broses arholi, gan gynnwys proses o ailgyflwyno lle y bo’n briodol.
3.4
Rhaid i'r Ffurflen Enwebu Bwrdd Arholi gael ei llofnodi gan y Deon Gweithredol neu Gadeirydd Pwyllgor Ymchwil y Gyfadran/Ysgol (neu unigolyn cyfatebol). Lle bo'r Deon Gweithredoll neu Gadeirydd Pwyllgor Ymchwil y Gyfadran/Ysgol yn ymwneud â goruchwylio’r ymgeisydd, dylid sicrhau llofnod Dirprwy Bennaeth y Gyfadran/Ysgol neu ei gynrychiolydd.
3.5
Os yw’r traethawd ymchwil i’w gyflwyno a’i arholi mewn iaith heblaw am Gymraeg neu Saesneg (dylid sicrhau caniatâd i wneud hynny adeg cadarnhau’r ymgeisyddiaeth, gweler y Canllawiau i Fonitro Cynnydd), rhaid i'r Deon Gweithredol sicrhau y bydd holl aelodau’r Bwrdd Arholi’n gallu cymryd rhan lawn a gweithredol yn yr arholiad. Mae’n rhaid i’r Gyfadran/Ysgol gyflwyno pob cais sydd i’w arholi’n Gymraeg i’r Gwasanaethau Addysg er mwyn trefnu cyfieithiad.
[1] Os nad yw’r arholwr allanol arfaethedig wedi gweithredu fel arholwr allanol o’r blaen, rhaid bod tystiolaeth o brofiad o weithredu fel arholwr mewnol ar radd uwch a rhaid i’r arholwr mewnol arfaethedig feddu ar brofiad o weithredu fel arholwr mewnol ac fel arholwr allanol.
4. Canllawiau Cyffredinol ar Gyfansoddiad y Bwrdd Arholi
Canllawiau Cyffredinol ar Gyfansoddiad y Bwrdd Arholi
Os nad oes gan un o’r arholwyr lawer o brofiad blaenorol o arholi graddau ymchwil, mae’n hollbwysig bod gan yr arholwr arall brofiad helaeth. Er enghraifft, lle nad oes gan arholwr allanol a gynigir fawr ddim profiad neu ddim profiad o gwbl o fod yn arholwr allanol, mae’n hollbwysig bod gan yr arholwr mewnol a gynigir brofiad helaeth o fod yn arholwr. Lle bo'r arholwr mewnol arfaethedig yn gymharol ddibrofiad, rhaid i’r arholwr allanol arfaethedig feddu ar brofiad helaeth o weithredu fel arholwr.
Gyda'i gilydd, dylai'r panel fod wedi arholi o leiaf chwe arholiad llafar ar y lefel sy'n cael ei harholi neu uwchlaw hyn. Os nad yw'n bosib ymgynnull panel gyda'r lefel hon o arbenigedd, bydd angen cyflwyno cyfiawnhad â thystiolaeth gyda'r enwebiad i'w ystyried gan y Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig.
4.1
Ym mhob achos, rhaid i Gadeirydd y Bwrdd Arholi fod â digon o brofiad a bod ar lefel ddigon uchel, a rhaid iddo fod yn gyfarwydd iawn â Rheoliadau Graddau Ymchwil Prifysgol Abertawe a dull Prifysgol Abertawe o ymdrin â graddau ymchwil.
5. Penodi Bwrdd Arholi Cadarnhau
5.1 Arholwr Allanol
Bydd y Gwasanaethau Addysg yn anfon llythyr at yr arholwr allanol yn cadarnhau’r penodiad, gyda chopi at y Deon Gweithredol perthnasol. Hefyd, bydd y Gwasanaethau Addysg yn anfon ffurflen gais am dreuliau y gall yr Arholwr ei defnyddio i hawlio ei ffioedd a’i dreuliau ar ôl cwblhau’r broses arholi.
5.1.1
Yn ogystal â ffi’r arholwr allanol, bydd y Brifysgol yn talu treuliau dilys yr arholwr allanol (teithio a threuliau), o hyd at uchafswm o £300 (gwariant gwirioneddol â derbynebau yn unig), sy’n dod i ran yr arholwr allanol. Bydd gofyn i’r Cyfadrannau/Ysgolion dalu unrhyw gostau sydd uwchlaw’r trothwy hwn. Fel arfer, ni fydd y Brifysgol ond yn talu treuliau sy’n gysylltiedig â gwaith o fewn y Deyrnas Unedig. Ni fydd y Brifysgol yn talu treuliau nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â’r arholwr allanol (er enghraifft pryd o fwyd ar gyfer unigolyn arall).
5.2 Arholwr Mewnol a Chadeirydd y Bwrdd Arholi
Bydd y Gwasanaethau Addysg yn rhoi gwybod i'r Deon Gweithredol p'un a yw'r Bwrdd Arholi wedi'i gymeradwyo.
6. Trefniadau Arholi
6.1
Cyfrifoldebau Cyfadrannau/Ysgolion a Dosbarthu Dogfennau Arholiadau
Unwaith y bydd y ddau arholwr wedi eu penodi, cyfrifoldeb y Gyfadran/Ysgol yw darparu’r canlynol i bob arholwr:
- Copïau o’r rheoliadau perthnasol;
- Un copi o draethawd ymchwil yr ymgeisydd (fel arfer mewn rhwymiad dros dro);
- Un copi o’r Ffurflen Hysbysiad Ymgeisyddiaeth wedi’i llenwi;
- Un copi o’r Canllaw i Arholi Myfyrwyr Ymchwil;
- Un copi o’r Canllaw ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil;
- Y Ffurflenni Adroddiadau a Chanlyniadau angenrheidiol ar gyfer cynnal yr arholiad.
Mae’r Gyfadran/Ysgol hefyd yn gyfrifol am ddarparu’r manylion cyswllt i bob aelod o'r Bwrdd Arholi.
7. Camymddygiad Academaidd
Bydd arholwr sydd o'r farn bod ymgeisydd wedi ymgymryd â chamymddwyn academaidd, boed yn ystod y broses arholi neu wedi hynny, yn cyflwyno adroddiad ysgrifenedig am yr amgylchiadau ar unwaith i Gadeirydd y Bwrdd Arholi dan sylw.
8. Trefniadau Arholi
Trefniadau Arholi
Penodir Cynullydd ac Ysgrifennydd a fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y trefniadau gweinyddol cywir ar gyfer cyflwyno ac arholi’r traethawd ymchwil yn cael eu dilyn. Bydd y Deon Gweithredol dan yn gweithredu fel Cynullydd ac Ysgrifennydd neu bydd yn dirprwyo’r swyddogaethau hyn i uwch aelod o’r staff e.e. aelod o staff sy’n gyfrifol am reoli myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig neu Gadeirydd y Pwyllgor Ymchwil/Ôl-raddedigion.
8.1
Dylid trefnu dyddiad sy’n dderbyniol i bawb ar gyfer yr arholiad llafar. Dylai pob parti dderbyn o leiaf pythefnos o rybudd o ddyddiad yr arholiad llafar. Os bydd amgylchiadau eithriadol yn peri bod unrhyw barti’n methu bod ar gael, dylid gohirio’r arholiad llafar. Mewn amgylchiadau eithriadol iawn gellir cyflwyno cais i’r Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu am gymeradwyaeth i gynnal arholiad llafar drwy ddulliau electronig (gweler Cynnal Arholiad Llafar drwy Ddulliau Electronig isod). Os bydd myfyriwr yn methu â mynychu’r arholiad llafar heb roi rhybudd ymlaen llaw, bernir bod y myfyriwr wedi methu â bodloni gofynion y dyfarniad neu'r radd lefel is a dylai’r Bwrdd Arholi gytuno i roi argymhelliad o Heb ei Gymeradwyo (gweler Canlyniadau arholiadau ar gyfer pob gradd isod).
9. Amserlen Arholi
Gofynnir i’r ddau arholwr adrodd yn ôl ar y gwaith mewn da bryd. Mae disgwyl fel arfer i aelodau’r Bwrdd Arholi gwblhau a chyflwyno'r adroddiad a'r ffurflen ganlyniadau ar ddiwrnod y Bwrdd Arholi a heb fod yn hwyrach nag wythnos o ddyddiad y Bwrdd Arholi; byddai hyn hefyd yn berthnasol i draethodau ymchwil a ail-gyflwynwyd. Ni fydd ffioedd a threuliau yn cael eu talu nes bod adroddiad a ffurflen ganlyniadau cyflawn wedi'u derbyn.
9.1
Rhaid i bob arholiad llafar gael ei gynnal o fewn chwe mis i ddyddiad cyflwyno’r traethawd ymchwil. Mae'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’n monitro dyddiadau cyflwyno, a thybir bod myfyrwyr nad ydynt wedi cael eu harholi o fewn chwe mis ar ôl y dyddiad cyflwyno heb gydymffurfio, ac ni chânt eu cymeradwyo ar gyfer y dyfarniad neu ar gyfer gradd is.
10. Dyletswyddau'r Arholwyr
Mae gofyn i arholwyr gynnal arholiad llafar i bob ymgeisydd sydd wedi cyflwyno traethawd ymchwil am radd ymchwil. Fel rheol, rhaid i draethawd ymchwil a gafodd ei ailgyflwyno gael ei arholi drwy ail arholiad llafar. Mewn achosion eithriadol, gellir hepgor y gofyniad am ail arholiad llafar yn ôl disgresiwn yr arholwyr os ydynt yn cytuno ar farc llwyddo ar ôl i’r gwaith gael ei ailgyflwyno. Yn y sefyllfa hon, bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi'n rhoi gwybod i’r myfyriwr fod y gofyniad am ail arholiad llafar wedi'i hepgor. Disgwylir y byddai'r holl arholiadau llafar fel arfer yn cael eu cynnal ar sail wyneb yn wyneb, gyda phawb dan sylw yn bresennol, yn yr un ystafell ar gampws Prifysgol Abertawe, ar yr un amser. Gellir cytuno eithriadau naill ai ar sail eithriadol neu ynteu i adlewyrchu natur y radd, e.e. yn achos myfyrwyr sy'n astudio dan Ddull 'D' (cydweithredol). Os cynhelir yr arholiad llafar yn electronig, dylid cymryd gofal i sicrhau y cynhelir yr arholiad yn yr un ffordd a phrosesau a gweithdrefnau arholi wynen yn wyneb arferol lle bynnag y bo hynny'n bosib.
11. Rôl Benodol Arholwr Mewnol
Rhaid i’r arholwr mewnol benderfynu a yw gwaith ymchwil a gwybodaeth y myfyriwr yn cwrdd â’r safon a ddisgwylir fel arfer gan fyfyriwr yn y Gyfadran/Ysgol dan sylw sy’n cyflwyno traethawd am y radd honno.
12. Rôl benodol yr Arholwr Allanol
Rhaid i’r arholwr allanol benderfynu a yw gwaith ymchwil a gwybodaeth y myfyriwr yn cwrdd â’r safon sy’n cymharu ag ymchwil a gwybodaeth myfyrwyr sy’n cael eu harholi mewn sefydliadau eraill am yr un radd.
13. Rôl benodol Cadeirydd y Bwrdd Arholi
Cyfrifoldeb y Cadeirydd yw sicrhau bod y broses yn drylwyr, yn deg, yn ddibynadwy ac yn gyson â rheoliadau a gweithdrefnau’r Brifysgol. Mewn achos adolygu penderfyniad arholiad neu achos apêl, mae gofyn i’r Cadeirydd ddarparu adroddiad ysgrifenedig ar y modd i’r arholiad gael ei gynnal yn ôl yr angen.
13.1
Yn ystod y broses arholi, bydd yr arholwyr yn:
- Ystyried y traethawd ymchwil a’r crynodeb a gyflwynir gan yr ymgeisydd. Bydd unrhyw ran o’r traethawd ymchwil sydd eisoes wedi’i derbyn, neu sy’n cael ei chyflwyno ar yr un pryd, am unrhyw radd neu gymhwyster arall yn y Brifysgol, neu mewn man arall, yn cael ei heithrio o’r arholiad;
- Adrodd ar gwmpas, nodweddion ac ansawdd y gwaith a gyflwynwyd;
- Eu bodloni eu hunain fod yr ymgeisydd yn meddu ar wybodaeth gyffredinol dda yn y maes dysg arbennig y mae’r traethawd ymchwil yn ymwneud ag ef.
14. Cyflwyno'r Traethawd Ymchwil
Dylai aelodau’r Bwrdd Arholi gadw mewn cof gynnwys y Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil wrth asesu traethawd ymchwil. Bydd y Gyfadran/Ysgol yn darparu mynediad at y Canllawiau yn ystod yr arholiad llafar fel bo angen.
15. Ffurflenni Adroddiadau a Chanlyniadau
Bwriedir ffurflenni Adroddiadau a Chanlyniadau’r Arholwyr i fod yn gyfrwng ar gyfer adroddiadau’r arholwyr a Chadeirydd y Bwrdd Arholi, ac maent yn cael eu defnyddio gan y Bwrdd Arholi i wneud argymhelliad ffurfiol i Brifysgol Abertawe ar ganlyniad y broses arholi. Hysbysir arholwyr fod gan fyfyrwyr hawl i wneud cais i weld unrhyw sylwadau a wnaethpwyd amdanynt yn yr adroddiadau hyn, dan delerau Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ddilynol.
16. Cynnal yr Arholiad
Dylai’r arholwr allanol a mewnol gwblhau Adran 1.1 ac Adran 2. y Ffurflen adrodd yn y drefn honno (Adroddiad yr Arholwr Allanol ar Thesis ac Adroddiad yr Arholwr Mewnol) a chymryd y ffurflen gyfan i’r arholiad llafar. Gall rhai Cyfadrannau/Ysgolion ganiatáu i gopi electronig gael ei anfon ymlaen llaw cyn yr arholiad. Dylai Cadeirydd y Bwrdd Arholi drefnu bod adroddiad yr arholwr mewnol yn cael ei deipio yn, neu ei atodi mewn ffordd arall i, Adran 2 (Adroddiad yr Arholwr Mewnol).
16.1
Dylai ffurf a chynnwys adroddiadau’r arholwyr fod yn ddigon manwl i ganiatáu i’r Bwrdd Arholi asesu rhychwant ac arwyddocâd y traethawd ymchwil ac i werthfawrogi ei gryfderau a’i wendidau. Dylai adroddiadau, cyn belled ag y bo hynny’n bosibl, gael eu hysgrifennu mewn geiriau y gellir eu deall gan bobl nad ydynt yn arbenigwyr ym maes penodol y traethawd ymchwil. Yn ddelfrydol, dylai’r adroddiad gynnwys, yn agos at y dechrau, datganiad o’r hyn y mae’r traethawd ymchwil yn ceisio’i wneud, a chrynodeb o’r hyn y mae’n ei drafod mewn gwirionedd. Dylai sylwadau gwerthuso fod mor llawn â phosibl a dylent gynnwys awgrym o gryfderau yn ogystal â gwendidau, cyfyngiadau a bylchau.
16.2
Mae Cadeirydd y Bwrdd Arholi’n gyfrifol am sicrhau y dylai'r arholwyr gyfarfod cyn yr arholiad llafar er mwyn cymharu nodiadau o'u hadroddiadau ar y traethodau ymchwil, a chytuno ar strategaeth ar gyfer yr arholiad llafar. Rhaid i Gadeirydd y Bwrdd Arholi fod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod o’r fath. Mae disgwyl i’r Gyfadran/Ysgol sicrhau bod ystafell a lluniaeth digonol ar gael ar gyfer y cyfarfod cyn-arholi hwn.
Hyd yn oed pan fydd adroddiadau traethawd ymchwil y ddau arholwr yn dynodi bod y traethawd wedi cyrraedd y safon ofynnol, rhaid peidio â dweud wrth y myfyriwr ar ddechrau’r arholiad llafar y bydd y radd yn cael ei dyfarnu. Rhaid i’r arholwyr fodloni eu hunain drwy’r arholiad llafar mai’r myfyriwr yw awdur y traethawd ymchwil a’i fod yn deall ei gynnwys yn llwyr.
17. Cynnal yr Arholiad Llafar
Rhaid i Gadeirydd y Bwrdd Arholi sicrhau bod yr arholiad llafar yn cael ei gynnal mewn dull agored a theg yn unol â rheoliadau’r Brifysgol. Dylai’r Cadeirydd wneud yn siŵr bod y myfyriwr yn cael ei drin yn gwrtais ac yn deg, gan roi ystyriaeth a sylw priodol i leihau unrhyw anghysur, er mwyn galluogi’r myfyriwr i roi o'i orau. Dylai’r Cadeirydd sicrhau bod y myfyriwr yn cael cyfle teg i amddiffyn ei waith a bod yr arholwyr yn ymwybodol o unrhyw amgylchiadau eithriadol sy’n berthnasol i achos y myfyriwr.
17.1
Dylai’r Cadeirydd gwrdd â’r myfyriwr yn breifat cyn yr arholiad llafar i holi’r myfyriwr a oes unrhyw amgylchiadau iechyd neu amgylchiadau personol eraill, na roddwyd gwybod amdanynt eisoes trwy gyfrwng y goruchwyliwr, a allai effeithio ar berfformiad y myfyriwr yn yr arholiad llafar.
17.2
Cyfrifoldeb y myfyriwr yw tynnu sylw’r Bwrdd Arholi at unrhyw amgylchiadau eithriadol a allai effeithio ar ei berfformiad. Ni fydd apeliadau academaidd sy’n seiliedig ar amgylchiadau esgusodol y gellid bod wedi tynnu sylw’r Bwrdd Arholi atynt cyn yr arholiad llafar yn cael eu hystyried.
17.3
Dylai’r Cadeirydd esbonio pwrpas yr arholiad llafar i’r arholwyr ac i’r myfyriwr. Pwrpas yr arholiad llafar yw:
- Galluogi’r arholwyr i fodloni eu hunain mai gwaith y myfyriwr ei hun yw’r traethawd ymchwil;
- Rhoi’r cyfle i’r myfyriwr amddiffyn y traethawd ymchwil ac egluro unrhyw aneglurder ynddo;
- Galluogi’r arholwyr i asesu gwybodaeth gyd-destunol y myfyriwr yn ei faes dysg ei hun.
17.4
Nid asesu’r traethawd ymchwil yn unig a wna’r arholwyr yn yr arholiad llafar, ond hefyd asesu gallu’r ymgeisydd i’w amddiffyn, ac i gysylltu cynnwys y traethawd ymchwil â’r corff gwybodaeth sy’n bodoli eisoes o fewn y maes penodol hwnnw.
17.5
Dylai’r Cadeirydd sicrhau bod yr arholwyr a’r myfyriwr yn ymwybodol o reoliadau a chanllawiau’r Brifysgol sy’n ymdrin ag arholi traethawd ymchwil. Dylai’r Cadeirydd esbonio strwythur yr arholiad llafar ac egluro rolau’r arholwyr ac unrhyw unigolion eraill sy’n bresennol. Os oes unrhyw unigolion eraill yn bresennol, dylai’r Cadeirydd gadarnhau nad oes gan y myfyriwr, na’r arholwyr os yw'n briodol, unrhyw wrthwynebiad i bresenoldeb yr unigolion hynny. Mewn achos o’r fath dylai’r myfyriwr lofnodi datganiad ar y ffurflen Adrodd yn nodi ei fod wedi rhoi caniatâd i’r unigolion hynny fod yn bresennol. Mewn rhai achosion, gall rhai rhaglenni penodol ofyn bod yr arholiad llafar yn cael ei gynnal mewn fforwm cyhoeddus. Mewn achosion o’r fath nid oes rhaid ceisio caniatâd ar gyfer presenoldeb aelodau o’r gynulleidfa. Yn ystod yr arholiad llafar, ni ddylai’r Cadeirydd dorri ar draws ond i ddarparu cyngor ar reoliadau’r Brifysgol neu le mae tystiolaeth o unrhyw weithgaredd nad yw’n unol â’r rheoliadau.
17.6
Ar gyfer arholi’r Ddoethuriaeth Broffesiynol (neu rai graddau ar y cyd/cydweithredol), mae gofyn i’r myfyriwr roi cyflwyniad llafar o’i waith i gynulleidfa yn cynnwys aelod, neu aelodau, o’r Bwrdd Arholi a chynrychiolwyr y sefydliad proffesiynol/diwydiannol cysylltiedig cyn cychwyn yr arholiad llafar. Nid oes rhaid i fyfyrwyr sy'n astudio EdD roi cyflwyniad.
17.7
Ar ben hynny, caiff ymgeiswyr eu hasesu yn unol â'r cytundebau ar waith ar gyfer graddau ymchwil a ddarperir ac a asesir ar y cyd. Mewn achosion o'r fath, mae'n debygol y bydd aelodau'r Bwrdd Arholi’n cael eu haddasu i gynnwys arholwyr gan sefydliad partner. Yn ogystal, gall y gweithdrefnau asesu fod ar sail gweithdrefnau'r sefydliad partner a chynnwys amddiffyniad cyhoeddus o'r traethawd ymchwil o bosibl. Fel arfer, byddai rheolau’r sefydliad cartref yn berthnasol.
17.8
Yn yr arholiad llafar, dylai’r myfyriwr gael ei annog i ddangos ei wybodaeth a’i alluoedd yn y modd gorau posibl, a dylid cydnabod ac archwilio cryfderau yn ogystal â gwendidau’r traethawd ymchwil. Yn gynnar yn yr arholiad, dylid rhoi cyfle i’r myfyriwr esbonio’n union beth y mae’r traethawd ymchwil yn ceisio’i gyflawni a beth y mae'n ei gredu yw ei arwyddocâd fel cyfraniad tuag at wybodaeth. Os yw hi’n ymddangos bod anghysondeb mawr rhwng amcanion yr ymgeisydd a chynnwys y traethawd ymchwil ei hun, dylid ymchwilio i’r rhesymau dros hyn.
17.9
Dylid gofyn i’r myfyriwr esbonio ei ddewis o deitl os yw’n ymddangos nad yw’n cyfateb yn berffaith â chynnwys y traethawd ymchwil. Dylai’r myfyriwr gael cyfle hefyd i esbonio unrhyw fethiant amlwg i ddefnyddio deunyddiau pwysig, boed yn sylfaenol neu’n eilaidd, neu unrhyw esgeuluso o ran dulliau neu fethodolegau perthnasol.
17.10
Lle mae traethawd ymchwil yn dangos diffygion sylweddol a allai arwain at adroddiad nad yw’n gwbl ffafriol, mae’n bwysig dwyn sampl cynrychioliadol o’r rhain i sylw’r myfyriwr gan ganiatáu amser iddo esbonio ac amddiffyn y rhain yn yr arholiad llafar.
17.11
Lle mae arholwyr yn teimlo eu bod wedi disbyddu eu trywyddau holi, dylai’r Cadeirydd sicrhau nad oes gan y myfyriwr unrhyw beth pellach i’w ychwanegu neu i’w holi. Yna dylid gofyn i’r myfyriwr (a’r goruchwyliwr os yw’n bresennol) adael yr ystafell er mwyn caniatáu i’r arholwyr drafod yr arholiad llafar.
18. Y Broses ar ôl yr Arholiad Llafar
Dylai’r arholwr allanol gwblhau Adran 1.2 (Adroddiad yr Arholwr Allanol ar yr Arholiad Llafar), ac, os yw'n briodol, 1.3 (Materion Pryder a Diddordeb Cyffredinol) [2].
18.1
Dylai’r arholwyr drafod perfformiad y myfyriwr yn yr arholiad llafar ac ystyried pa un o’r argymhellion sydd ar gael yw’r mwyaf priodol (gweler Canlyniadau arholiadau ar gyfer pob gradd isod). Dylai’r Cadeirydd sicrhau bod yr argymhelliad a ddewisir yn cydymffurfio â rheoliadau’r Brifysgol.
18.2
Dylai’r arholwr allanol wedyn, ynghyd â’r arholwr mewnol, gwblhau Adran 3 (Adroddiad ar y Cyd gan Arholwyr Allanol a Mewnol). Dylai'r adroddiad grynhoi unrhyw wahaniaeth barn ar y traethawd ymchwil y bydd yr arholwyr wedi'i fynegi yn eu hadroddiadau unigol. Gellir hefyd fynegi barn gytunedig ar brif gryfderau a gwendidau'r ymgeisydd, yr ymagwedd tuag at y pwnc a'r perfformiad yn yr arholiad llafar.
18.3
Dylai Cadeirydd y Bwrdd Arholi gwblhau Adran 4 (Adroddiad gan Gadeirydd y Bwrdd Arholi), gan gynnig sylwadau ar gynnal yr arholiad llafar a nodi unrhyw faterion trefniadol. Os bydd yr arholwyr wedi argymell y dylai’r traethawd ymchwil gael ei ailgyflwyno i’w arholi heb ail arholiad llafar, dylid cyflwyno cyfiawnhad clir dros hyn yn adroddiad y Cadeirydd a dylai’r ddau arholwr lofnodi hwn.
18.4
Ar gyfer arholi’r Ddoethuriaeth Broffesiynol a'r PhD Cyfnod Astudio Estynedig, dylai Cadeirydd y Bwrdd Arholi neu Gyfarwyddwr Rhaglen y Radd gwblhau Adran 5 (Cadarnhad i’r Ymgeisydd Gwblhau’n Foddhaol Elfennau Hyfforddi ac Ymarferol Rhaglen y Ddoethuriaeth Broffesiynol a'r PhD Cyfnod Astudio Estynedig), i gadarnhau bod yr ymgeisydd wedi cwblhau elfennau hyfforddi ac ymarferol y radd. Dylid atodi adroddiad ar wahân yn rhoi manylion y modiwlau hyfforddi a ddilynwyd ar gyfer y radd, a’r canlyniadau a gafwyd, i’r Ffurflenni Adroddiadau a Chanlyniadau. Dylai’r arholwyr gwblhau Adran 6 (Adroddiad ar y Cyflwyniad Llafar gan yr Ymgeisydd) hefyd, yn cadarnhau bod yr ymgeisydd wedi cwblhau’r elfen cyflwyniad llafar gan fodloni’r arholwyr.
18.5
Ar gyfer arholi Gradd Meistr Ymchwil (Mhres), dylai Cadeirydd y Bwrdd Arholi gwblhau Adran 5 (Cadarnhad i’r Ymgeisydd Gwblhau’n Foddhaol Elfennau a Ddysgwyd ac Elfennau Ymarferol Rhaglen y Mhres), yn cadarnhau bod yr ymgeisydd wedi cwblhau elfennau a ddysgwyd ac elfennau ymarferol y radd. Dylid atodi adroddiad ar wahân yn rhoi manylion y modiwlau a addysgir a gafodd eu dilyn ar gyfer y radd honno, a’r canlyniadau a gafwyd, i’r Ffurflenni Adroddiadau a Chanlyniadau.
18.6
Wedyn, dylai’r arholwyr drefnu gyda Chadeirydd y Bwrdd Arholi i gwblhau a llofnodi’r ffurflen derfynol (y Ffurflen Ganlyniadau). Dylid nodi’r opsiwn priodol o blith yr argymhellion drwy dicio’r blwch perthnasol. Os oes angen gwneud cywiriadau, bydd raid i’r arholwr allanol, fel arfer, archwilio’r cywiriadau’n fanwl ar ran y Bwrdd Arholi oni nodir fel arall. Dylai’r arholwyr a Chadeirydd y Bwrdd Arholi lofnodi’r Ffurflen Ganlyniadau a dylai’r Cadeirydd sicrhau bod dyddiad ar y ffurflen.
18.7
Dylid gwahodd y myfyriwr i ddod yn ôl i’r ystafell a dylai’r Cadeirydd hysbysu’r myfyriwr o argymhelliad y Bwrdd Arholi. Dylai’r Cadeirydd esbonio goblygiadau’r argymhelliad a nodi’n glir unrhyw ddyddiadau ar gyfer darparu cywiriadau neu ailgyflwyno’r traethawd ymchwil yn ogystal â nodi pa arholwr fydd yn gyfrifol am gymeradwyo’r cywiriadau (os yw'n berthnasol).
[2] Mae’r adran hon yn caniatáu i Arholwyr Allanol gyflwyno adroddiad am unrhyw bryderon neu arfer da yn ystod y Broses Arholi. Caiff yr wybodaeth hon ei chyfleu'n uniongyrchol i Gadeirydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu i gymryd unrhyw gamau gweithredu angenrheidiol a/neu i'w chyfleu i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu. Bydd Cadeirydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'n ysgrifennu at yr Arholwr dan sylw i'w hysbysu o ganlyniad y broses o ystyried y pryder neu'r arfer da.
19. Hysbysu'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu
Ar ôl cwblhau’r arholiad llafar a llofnodi pob adran o’r Ffurflenni Adroddiad a Chanlyniadau, dylai’r Cadeirydd sicrhau bod y Ffurflenni Adroddiadau a Chanlyniadau gwreiddiol yn cael eu hanfon i’r Gwasanaethau Addysg ar unwaith. Rhaid cyflwyno argymhelliad y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu i'w gadarnhau cyn y gellir paratoi llythyr yn nodi'r canlyniad. Unwaith y ceir cadarnhad bod yr holl amodau wedi eu bodloni, bydd y Gwasanaethau Addysg yn hysbysu’r myfyriwr o ganlyniad ffurfiol yr arholiad.
20. Anghydfod Rhwng Arholwyr Ynghylch yr Argymhelliad
Pan fydd argymhelliad arholwr allanol yn arwain at achos o anghydfod rhwng yr arholwr allanol a’r arholwr mewnol, mae gan Gadeirydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu y grym, ar gais Cadeirydd y Bwrdd Arholi, i droi at arholwr allanol arall a fyddai’n cael cais i gymrodeddu. Gall Cadeirydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu gymryd i ystyriaeth unrhyw adroddiadau ysgrifenedig a gyflwynir gan aelodau’r Bwrdd Arholi. Wrth ddewis ail arholwr allanol gall Cadeirydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu gymryd i ystyriaeth enwebiad (os oes un) y Bwrdd Arholi am ail arholwr allanol hefyd, ond nid oes rhaid iddo gael ei rwymo gan yr enwebiad. Byddai penderfyniad ynghylch a ddylid ail-gynnull y Bwrdd Arholi ai peidio’n dod o fewn cylch gorchwyl yr ail arholwr allanol;
Mewn achos o anghydfod rhwng yr arholwyr allanol a mewnol, ni ddylid llofnodi’r ffurflen Adroddiad a Chanlyniad nes i’r anghydfod gael ei ddatrys.
21. Cyfathrebu â'r Myfyriwr ar ôl yr Arholiad Llafar
Rhaid hysbysu’r myfyriwr am y canlyniad gan esbonio goblygiadau’r argymhelliad ar ddiwedd yr arholiad llafar.
22. Canlyniadau Arholiadau ar Gyfer Pob Gradd
22.1 Canlyniadau ar gyfer Gradd Doethur mewn Athroniaeth (PhD):
1. Pasio - dim cywiriadau
Rhaid cyflwyno fersiwn derfynol o'r traethawd ymchwil o fewn mis.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD yn nhermau sylwedd a strwythur.
2. Mân newidiadau i'w cyflwyno o fewn 3 mis; Pasio
Fel arfer i'w cymeradwyo gan arholwr mewnol).
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD o ran sylwedd a strwythur; mae’r cywiriadau'n ymwneud â manylion. Nid oes angen gwneud ymchwil bellach na gwaith sylweddol arall. Yn gyffredinol, mae mân gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau.
3. Cywiriadau sylweddol a/neu newidiadau i'w cyflwyno o fewn 6 mis; Pasio
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w cymeradwyo gan yr arholwr mewnol a'r arholwr allanol, neu yn ôl doethineb y Bwrdd Arholi gan yr arholwr mewnol yn unig.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD drwy Ymchwil yn nhermau sylwedd, ond er mwyn pasio, mae angen newidiadau sy'n sylweddol ond yn amlwg yn fesuradwy o ran a) cyflwyno'r ymchwil e.e. ynghylch y cyflwyniad/casgliad; neu b) strwythur e.e. ynghylch aildrefnu'r data/adrannau/penawdau; neu c) ychwanegu deunydd newydd nad yw’n hwy nag un bennod, lle mae'r Bwrdd Arholi o'r farn bod modd gwneud newidiadau o'r fath o fewn cyfnod o 6 mis.
4. Penderfyniad wedi'i ohirio hyd nes y caiff y traethawd ymchwil ei ailgyflwyno o fewn 12 mis ac yna’i ailarholi.
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol. Fel rheol, bydd ail arholiad llafar; fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, yn nhermau sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 12 mis, gyflwyno traethawd ymchwil o safon briodol; gallai fod angen newidiadau/addasiadau/ychwanegiadau yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
5. Heb ei gymeradwyo ar gyfer PhD ond yn briodol ar gyfer pasio fel MPhil (yn ei ffurf bresennol)
Rhaid cyflwyno fersiwn derfynol o'r traethawd ymchwil o fewn mis.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon MPhil yn nhermau sylwedd a strwythur. Mae hawl gwneud newidiadau i deitl y traethawd ymchwil ac mae unrhyw gyfeiriadau at PhD yn gorfod newid i MPhil
6. Heb ei gymeradwyo ar gyfer PhD. Mân newidiadau i'w cyflwyno o fewn 3 mis; Pasio fel MPhil
Fel arfer i'w cymeradwyo gan arholwr mewnol.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon PhD mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno; fodd bynnag, bernir bod y traethawd ymchwil o safon MPhil yn nhermau sylwedd a strwythur. Nid oes angen gwneud ymchwil bellach na gwaith sylweddol arall. Yn gyffredinol, mae mân gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau.
7. Heb ei gymeradwyo ar gyfer PhD. Penderfyniad wedi'i ohirio hyd nes y caiff y traethawd ymchwil ei ailgyflwyno fel MPhil o fewn 12 mis ac yna’i ailarholi.
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol; fel rheol, bydd ail arholiad llafar; fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon PhD mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno, nac o safon MPhil yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, yn nhermau sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 12 mis, gyflwyno traethawd ymchwil o safon MPhil; fel arfer, bydd y newidiadau/addasiadau/ychwanegiadau angenrheidiol yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
8. Methu; heb ei gymeradwyo ar gyfer y dyfarniad nac ar gyfer gradd ymchwil is
Fel opsiwn uniongyrchol ac opsiwn wedi ailgyflwyno.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon PhD nac MPhil mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o safon PhD nac MPhil.
22.2 Canlyniadau ar gyfer Gradd Doethur mewn Athroniaeth (PhD) Cyfnod o Astudiaeth Estynedig):
1. Pasio- dim cywiriadau
Rhaid cyflwyno fersiwn derfynol o'r traethawd ymchwil o fewn mis.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD (Cyfnod o Astudiaeth Estynedig) yn nhermau sylwedd a strwythur.
2. Mân newidiadau i'w cyflwyno o fewn 3 mis; Pasio
Fel arfer i'w cymeradwyo gan arholwr mewnol.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD (Cyfnod o Astudiaeth Estynedig) yn nhermau sylwedd a strwythur; mae’r cywiriadau'n ymwneud â manylion. Nid oes angen gwneud ymchwil bellach na gwaith sylweddol arall. Yn gyffredinol, mae mân gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau.
3. Cywiriadau sylweddol a/neu newidiadau i'w cyflwyno o fewn 6 mis; Pasio
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w cymeradwyo gan yr arholwr mewnol a'r arholwr allanol, neu yn ôl doethineb y Bwrdd Arholi gan yr arholwr mewnol yn unig.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD Cyfnod Astudio Estynedig yn nhermau sylwedd, ond er mwyn pasio, mae angen newidiadau sy'n sylweddol ond yn amlwg yn fesuradwy o ran a) cyflwyno'r ymchwil e.e. ynghylch y cyflwyniad/casgliad; neu b) strwythur e.e. ynghylch aildrefnu'r data/adrannau/penawdau; neu c) ychwanegu deunydd newydd nad yw’n hwy nag un bennod, lle mae'r Bwrdd Arholi o'r farn bod modd gwneud newidiadau o'r fath o fewn cyfnod o 6 mis.
4. Penderfyniad wedi'i ohirio hyd nes y caiff y traethawd ymchwil ei ailgyflwyno o fewn 12 mis ac yna’i ailarholi.
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol; fel rheol, bydd ail arholiad llafar; fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD (Cyfnod o Astudiaeth Estynedig) yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, o ran sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, a gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 12 mis, gyflwyno traethawd ymchwil o safon briodol; gallai fod angen newidiadau/addasiadau/ychwanegiadau yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
5. Heb ei gymeradwyo ar gyfer PhD (Cyfnod o Astudiaeth Estynedig) ond yn briodol ar gyfer pasio fel MPhil (yn ei ffurf bresennol)
Rhaid cyflwyno fersiwn derfynol o'r traethawd ymchwil o fewn mis.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon MPhil yn nhermau sylwedd a strwythur. Mae hawl gwneud newidiadau i deitl y traethawd ymchwil ac mae unrhyw gyfeiriadau at PhD yn gorfod newid i MPhil.
6. Heb ei gymeradwyo ar gyfer PhD (Cyfnod Astudio Estynedig). Mân newidiadau i'w cyflwyno o fewn 3 mis; Pasio fel MPhil.
Fel arfer i'w cymeradwyo gan arholwr mewnol.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon PhD (Cyfnod o Astudiaeth Estynedig) mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno; fodd bynnag, bernir bod y traethawd ymchwil o safon MPhil yn nhermau sylwedd a strwythur. Nid oes angen gwneud ymchwil bellach na gwaith sylweddol arall. Yn gyffredinol, mae mân gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau.
7. Heb ei gymeradwyo ar gyfer PhD (Cyfnod Astudio Estynedig). Penderfyniad wedi'i ohirio hyd nes y caiff y traethawd ymchwil ei ailgyflwyno fel MPhil o fewn 12 mis ac yna’i ailarholi.
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol; fel rheol, bydd ail arholiad llafar; fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon PhD (Cyfnod o Astudiaeth Estynedig) mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno, nac o safon MPhil yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, yn nhermau sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 12 mis, gyflwyno traethawd ymchwil o safon MPhil; fel arfer, bydd y newidiadau/addasiadau/ychwanegiadau angenrheidiol yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
8. Methu; heb ei gymeradwyo ar gyfer y dyfarniad nac ar gyfer gradd ymchwil is
Fel opsiwn uniongyrchol ac opsiwn wedi ailgyflwyno.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon PhD (Cyfnod o Astudiaeth Estynedig) nac o safon MPhil mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o safon PhD nac o safon MPhil.
22.3 Canlyniadau ar gyfer Gradd Doethuriaeth Broffesiynol:
1. Pasio - dim cywiriadau
Rhaid cyflwyno fersiwn derfynol o'r traethawd ymchwil o fewn mis.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon Doethuriaeth Broffesiynol (EngD/DNursSci) yn nhermau sylwedd a strwythur.
2. Mân newidiadau i'w cyflwyno o fewn 3 mis; Pasio
Fel arfer i'w cymeradwyo gan arholwr mewnol.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon Doethuriaeth Broffesiynol (EngD/DNursSci) yn nhermau sylwedd a strwythur; mae’r cywiriadau'n ymwneud â manylion. Nid oes angen gwneud ymchwil bellach na gwaith sylweddol arall. Yn gyffredinol, mae mân gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau.
3. Cywiriadau sylweddol a/neu newidiadau i'w cyflwyno o fewn 6 mis; Pasio
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w cymeradwyo gan yr arholwr mewnol a'r arholwr allanol, neu yn ôl doethineb y Bwrdd Arholi gan yr arholwr mewnol yn unig.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon Doethuriaeth Broffesiynol (EngD/DNursSci) yn nhermau sylwedd, ond er mwyn pasio, mae angen newidiadau sy'n sylweddol ond yn amlwg yn fesuradwy o ran a) cyflwyno'r ymchwil e.e. ynghylch y cyflwyniad/casgliad; neu b) strwythur e.e. ynghylch aildrefnu'r data/ adrannau/ penawdau; neu c) ychwanegu deunydd newydd nad yw’n hwy nag un bennod, lle mae'r Bwrdd Arholi o'r farn bod modd gwneud newidiadau o'r fath o fewn cyfnod o 6 mis.
4. Penderfyniad wedi'i ohirio hyd nes y caiff y traethawd ymchwil ei ailgyflwyno o fewn 12 mis ac yna’i ailarholi.
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol. Fel rheol, bydd ail arholiad llafar; fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil o safon Doethuriaeth Broffesiynol (EngD/DNursSci) yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, yn nhermau sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 12 mis, gyflwyno traethawd ymchwil o safon briodol; gallai fod angen newidiadau/addasiadau/ychwanegiadau yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
5. Heb ei gymeradwyo ar gyfer Doethuriaeth Broffesiynol (EngD/DNursSci) ond yn briodol ar gyfer pasio fel MPhil (yn ei ffurf bresennol)
(Rhaid cyflwyno fersiwn derfynol o'r traethawd ymchwil o fewn mis)
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon MPhil yn nhermau sylwedd a strwythur. Mae hawl gwneud newidiadau i deitl y traethawd ymchwil ac mae unrhyw gyfeiriadau at EngD/DNursSci yn gorfod newid i MPhil
6. Heb ei gymeradwyo ar gyfer Doethuriaeth Broffesiynol (EngD/DNursSci). Mân newidiadau i'w cyflwyno o fewn 3 mis; Pasio fel MPhil.
Fel arfer i'w cymeradwyo gan arholwr mewnol.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon Doethuriaeth Broffesiynol (EngD/DNursSci) mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno; fodd bynnag, bernir bod y traethawd ymchwil o safon MPhil yn nhermau sylwedd a strwythur. Nid oes angen gwneud ymchwil bellach na gwaith sylweddol arall. Yn gyffredinol, mae mân gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau.
7. Heb ei gymeradwyo ar gyfer Doethuriaeth Broffesiynol (EngD/DNursSci). Penderfyniad wedi'i ohirio hyd nes y caiff y traethawd ymchwil ei ailgyflwyno fel MPhil o fewn 12 mis ac yna’i ailarholi
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol. Fel rheol, bydd ail arholiad llafar; fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon Doethuriaeth Broffesiynol (EngD/DNursSci) mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno, nac o safon MPhil yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, yn nhermau sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 12 mis, gyflwyno traethawd ymchwil o safon MPhil; fel arfer, bydd y newidiadau/addasiadau/ychwanegiadau angenrheidiol yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
8. Heb ei gymeradwyo ar gyfer Doethuriaeth Broffesiynol (EngD/DNursSci), ond yn briodol i'w basio fel MRes/MSc (yn ei ffurf bresennol)
Rhaid cyflwyno fersiwn derfynol o'r traethawd ymchwil o fewn mis.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon MRes/MSc yn nhermau sylwedd a strwythur. Mae hawl gwneud newidiadau i deitl y traethawd ymchwil ac mae unrhyw gyfeiriadau at EngD/DNursSci yn gorfod newid i MRes/MSc.
9. Heb ei gymeradwyo ar gyfer Doethuriaeth Broffesiynol (EngD / DNursSci). Mân newidiadau i'w cyflwyno o fewn 3 mis; Pasio fel MRes/MSc (fel arfer i'w cymeradwyo gan arholwr mewnol)
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon Doethuriaeth Broffesiynol (EngD/DNursSci) mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno; fodd bynnag, bernir bod y traethawd ymchwil o safon MRes/MSc yn nhermau sylwedd a strwythur. Nid oes angen gwneud ymchwil bellach na gwaith sylweddol arall. Yn gyffredinol, mae mân gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau.
10. Heb ei gymeradwyo ar gyfer Doethuriaeth Broffesiynol (EngD/DNursSci). Penderfyniad wedi'i ohirio hyd nes y caiff y traethawd ymchwil ei ailgyflwyno fel MRes/MSc o fewn 12 mis ac yna’i ailarholi.
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol; Fel rheol, bydd ail arholiad llafar; fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon Doethuriaeth Broffesiynol (EngD/DNursSci) mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno, nac o safon MRes/MSc yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, yn nhermau sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 12 mis, gyflwyno traethawd ymchwil o safon MRes/MSc; fel arfer, bydd y newidiadau/addasiadau/ychwanegiadau angenrheidiol yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
11. Heb ei gymeradwyo ar gyfer Doethuriaeth Broffesiynol (EdD), ond yn briodol am basio fel MA mewn Addysg/MA drwy Ymchwil (yn ei ffurf bresennol)
Rhaid cyflwyno fersiwn derfynol o'r traethawd ymchwil o fewn mis.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon MA mewn Addysg/MA drwy Ymchwil o ran sylwedd a strwythur. Caniateir newid teitl y traethawd ymchwil a rhaid newid unrhyw gyfeiriad at EdD i MA mewn Addysg/MA drwy Ymchwil.
12. Heb ei gymeradwyo ar gyfer Doethuriaeth Broffesiynol (EdD). Mân gywiriadau i'w cyflwyno o fewn tri mis; Pasio fel MA mewn Addysg/MA drwy Ymchwil (i’w gymeradwyo fel arfer gan arholwr mewnol)
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon Doethuriaeth Broffesiynol (EdD) mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno; fodd bynnag, bernir bod y traethawd ymchwil o safon MA mewn Addysg/MA drwy Ymchwil o ran sylwedd a strwythur. Nid oes angen cwblhau gwaith ymchwil pellach na gwaith sylweddol arall. Mae enghreifftiau nodweddiadol o fân gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau.
13. Heb ei gymeradwyo am Ddoethuriaeth Broffesiynol (EdD). Penderfyniad wedi'i ohirio hyd nes y caiff y traethawd ymchwil ei ailgyflwyno fel MA mewn Addysg/MA Drwy Ymchwil o fewn 12 mis ac yna’i ailarholi.
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol. Fel rheol, bydd ail arholiad llafar. Fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon Doethuriaeth Broffesiynol (EdD) mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno, nac o safon MA mewn Addysg/MA drwy Ymchwil yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, o ran cynnwys, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 12 mis, gyflwyno traethawd ymchwil o safon MA mewn Addysg/MA drwy Ymchwil; fel arfer, bydd y newidiadau/addasiadau/ychwanegiadau angenrheidiol yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
14. Methu; heb ei gymeradwyo ar gyfer y dyfarniad nac ar gyfer gradd ymchwil is
Fel opsiwn uniongyrchol ac opsiwn wedi ailgyflwyno.
Diffiniad: Ni fernir bod y thesis, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon Doethuriaeth Broffesiynol (EngD/DNursSci) nac o safon MPhil MRes/MSc (ar gyfer safon (EngD/DNursSci) neu MA mewn Addysg/MA drwy Ymchwil (ar gyfer EdD) ac nid oes ganddo’r potensial i fod o’r safon honno.
15. Methu; EdD
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon EdD.
22.4 Canlyniadau ar gyfer Gradd Doethur mewn Meddygaeth (MD):
1. Pasio- dim cywiriadau
Rhaid cyflwyno fersiwn derfynol o'r traethawd ymchwil o fewn mis.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon Doethur mewn Meddygaeth (MD) yn nhermau sylwedd a strwythur.
2. Mân newidiadau i'w cyflwyno o fewn 3 mis; Pasio
Fel arfer i'w cymeradwyo gan arholwr mewnol.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon MD o ran sylwedd a strwythur; mae’r cywiriadau'n ymwneud â manylion. Nid oes angen gwneud ymchwil bellach na gwaith sylweddol arall. Yn gyffredinol, mae mân gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau.
3. Cywiriadau sylweddol a/neu newidiadau i'w cyflwyno o fewn 6 mis; Pasio
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w cymeradwyo gan yr arholwr mewnol a'r arholwr allanol, neu yn ôl doethineb y Bwrdd Arholi gan yr arholwr mewnol yn unig.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon MD yn nhermau sylwedd, ond er mwyn pasio, mae angen newidiadau sy'n sylweddol ond yn amlwg yn fesuradwy o ran a) cyflwyno'r ymchwil e.e. ynghylch y cyflwyniad/casgliad; neu b) strwythur e.e. ynghylch aildrefnu'r data/adrannau/penawdau; neu c) ychwanegu deunydd newydd nad yw’n hwy nag un bennod, lle mae'r Bwrdd Arholi o'r farn bod modd gwneud newidiadau o'r fath o fewn cyfnod o 6 mis.
4. Mewn achosion eithriadol caiff y penderfyniad ei ohirio nes y caiff y traethawd ymchwil ei ailgyflwyno o fewn 12 mis ac yna’i ailarholi
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol. Fel rheol, bydd ail arholiad llafar; fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gellir hepgor yr ail arholiad llafar yn ôl doethineb yr arholwyr os cytunir ar basio wedi ailgyflwyno.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil o safon MD yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, yn nhermau sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 12 mis, gyflwyno traethawd ymchwil o safon briodol; gallai fod angen newidiadau/addasiadau/ychwanegiadau yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
5. Heb ei gymeradwyo ar gyfer Doethur Meddygaeth (MD), ond yn addas ar gyfer MA/MSc drwy Ymchwil (yn ei ffurf bresennol)
Rhaid cyflwyno fersiwn derfynol o'r traethawd ymchwil o fewn mis.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon MA/MSc drwy Ymchwil yn nhermau sylwedd a strwythur. Mae hawl gwneud newidiadau i deitl y traethawd ymchwil ac mae unrhyw gyfeiriadau at MD yn gorfod newid i MSc trwy Ymchwil.
6. Heb ei gymeradwyo ar gyfer Doethur Meddygaeth (MD). Mân newidiadau i'w cyflwyno o fewn 3 mis; Pasio. Fel arfer i'w cymeradwyo gan yr arholwr mewnol)
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon Doethur mewn Meddygaeth (MD) mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno; fodd bynnag, bernir bod y traethawd ymchwil o safon MSc drwy Ymchwil yn nhermau sylwedd a strwythur; mae’r cywiriadau gofynnol yn ymwneud â sylw i fanylion. Nid oes angen gwneud ymchwil bellach na gwaith sylweddol arall. Yn gyffredinol, mae mân gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau.
7. Heb ei gymeradwyo ar gyfer Doethur Meddygaeth (MD). Penderfyniad wedi'i ohirio hyd nes y caiff y traethawd ymchwil ei ailgyflwyno fel MSc drwy Ymchwil o fewn 12 mis ac yna’i ailarholi.
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol. Fel rheol, bydd ail arholiad llafar; fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon Doethuriaeth mewn Meddygaeth (MD) mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno, nac o safon MA/MSc drwy Ymchwil yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, yn nhermau sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 12 mis, gyflwyno traethawd ymchwil MA/MSc drwy Ymchwil; fel arfer, bydd y newidiadau/addasiadau/ychwanegiadau angenrheidiol yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
8. Methu; Heb ei gymeradwyo ar gyfer y dyfarniad nac ar gyfer gradd ymchwil is
Fel opsiwn uniongyrchol ac opsiwn wedi ailgyflwyno.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon MD mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno.
22.5 Canlyniadau ar gyfer gradd Doethur mewn Athroniaeth drwy Waith a Gyhoeddwyd:
1. Pasio - dim cywiriadau
Rhaid cyflwyno fersiwn derfynol o'r traethawd ymchwil o fewn mis.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD drwy Waith a Gyhoeddwyd o ran sylwedd a strwythur.
2. Mân gywiriadau i'r adolygiad beirniadol yn cael eu cyflwyno o fewn 3 mis; Pasio
Fel arfer i'w cymeradwyo gan yr arholwyr mewnol.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD drwy Waith a Gyhoeddwyd o ran sylwedd a strwythur; mae’r cywiriadau'n ymwneud â manylion. Nid oes angen gwneud ymchwil bellach na gwaith sylweddol arall. Yn gyffredinol, mae mân gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau.
3. Cywiriadau sylweddol a/neu newidiadau i'r adolygiad beirniadol yn cael eu cyflwyno o fewn 6 mis; Pasio
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w cymeradwyo gan yr arholwyr mewnol a'r arholwr allanol, neu yn ôl doethineb y Bwrdd Arholi gan un arholwr allanol yn unig.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD drwy Waith a Gyhoeddwyd yn nhermau sylwedd, ond er mwyn pasio, mae angen newidiadau sy'n sylweddol ond yn amlwg yn fesuradwy o ran a) cyflwyno'r ymchwil e.e. ynghylch y cyflwyniad/casgliad; neu b) strwythur e.e. ynghylch aildrefnu'r data/adrannau/penawdau; neu c) ychwanegu deunydd newydd nad yw’n hwy nag un bennod, lle mae'r Bwrdd Arholi o'r farn bod modd gwneud newidiadau o'r fath o fewn cyfnod o 6 mis.
4. Penderfyniad wedi'i ohirio hyd nes y caiff y traethawd ymchwil ei ailgyflwyno o fewn 6 mis
Addasu'r adolygiad beirniadol a'i ailgyflwyno wedi'i ategu gan yr un cyhoeddiadau.
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol.
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel rheol, bydd ail arholiad llafar; fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD drwy Waith a Gyhoeddwyd yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, yn nhermau sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 6 mis, gyflwyno traethawd ymchwil o safon briodol; gallai fod angen newidiadau/addasiadau/ychwanegiadau yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
5. Penderfyniad wedi'i ohirio tan y caiff y traethawd ymchwil ei ailgyflwyno o fewn 3 blynedd fan bellaf – amserlen i'w phennu gan y Bwrdd Arholi
Addasu'r adolygiad beirniadol a'i ailgyflwyno gyda chyhoeddiadau gwahanol neu gyhoeddiadau ychwanegol.
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol; fel rheol, bydd ail arholiad llafar; fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD drwy Waith a Gyhoeddwyd yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, yn nhermau sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod hwyaf posibl o 3 blynedd (amserlen i'w phennu gan y Bwrdd Arholi), gyflwyno traethawd ymchwil o safon briodol; gallai fod angen newidiadau/addasiadau/ychwanegiadau yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
6. Methu; heb ei gymeradwyo ar gyfer y dyfarniad nac ar gyfer gradd ymchwil is
Fel opsiwn uniongyrchol ac opsiwn wedi ailgyflwyno.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon PhD drwy Waith a Gyhoeddwyd mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno.
22.6 Canlyniadau ar gyfer Gradd Meistr mewn Athroniaeth (MPhil):
1. Pasio- dim cywiriadau
(Rhaid cyflwyno fersiwn derfynol o'r traethawd ymchwil o fewn mis)
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon Meistr mewn Athroniaeth (MPhil) yn nhermau sylwedd a strwythur.
2. Mân newidiadau i'w cyflwyno o fewn 3 mis; Pasio
(fel arfer i'w cymeradwyo gan arholwr mewnol)
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon MPhil yn nhermau sylwedd a strwythur; mae’r cywiriadau'n ymwneud â manylion. Nid oes angen gwneud ymchwil bellach na gwaith sylweddol arall. Yn gyffredinol, mae mân gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau.
3. Cyflwyno cywiriadau sylweddol a/neu newidiadau i'r adolygiad beirniadol o fewn 6 mis; Pasio
nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd
(fel arfer i'w cymeradwyo gan yr arholwr mewnol a'r arholwr allanol, neu yn ôl doethineb y Bwrdd Arholi gan yr arholwr mewnol yn unig);
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon MPhil yn nhermau sylwedd, ond er mwyn pasio, mae angen newidiadau sy'n sylweddol ond yn amlwg yn fesuradwy o ran a) cyflwyno'r ymchwil e.e. ynghylch y cyflwyniad/casgliad; neu b) strwythur e.e. ynghylch aildrefnu'r data/ adrannau/ penawdau; neu c) ychwanegu deunydd newydd nad yw’n hwy nag un bennod, lle mae'r Bwrdd Arholi o'r farn bod modd gwneud newidiadau o'r fath o fewn cyfnod o 6 mis.
4. Penderfyniad ei ohirio hyd nes y caiff y traethawd ymchwil ei ailgyflwyno o fewn 12 mis ac yna’i ailarholi
nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd
(fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol; fel rheol, bydd ail arholiad llafar;fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil o safon MPhil yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, yn nhermau sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 12 mis, gyflwyno traethawd ymchwil o safon briodol; gallai fod angen newidiadau/ addasiadau/ ychwanegiadau yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
5. Heb ei gymeradwyo ar gyfer MPhil, ond yn addas ar gyfer MA/MSc drwy Ymchwil (yn ei ffurf bresennol)
(1 mis i gyflwyno copïau caled wedi'u rhwymo)
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon MA/MSc drwy Ymchwil yn nhermau sylwedd a strwythur. Mae hawl gwneud newidiadau i deitl y traethawd ymchwil ac mae unrhyw gyfeiriadau at MPhil yn gorfod newid i MA/MSc drwy Ymchwil.
6. Heb ei gymeradwyo ar gyfer MPhil. Mân newidiadau i'w cyflwyno o fewn 3 mis; Pasio ar gyfer MA/MSc drwy Ymchwil.
(fel arfer i'w cymeradwyo gan arholwr mewnol)
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon MPhil mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno; fodd bynnag, bernir bod y traethawd ymchwil o safon MA/MSc drwy Ymchwil yn nhermau sylwedd a strwythur. Nid oes angen gwneud ymchwil bellach na gwaith sylweddol arall. Yn gyffredinol, mae mân gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau.
7. Heb ei gymeradwyo ar gyfer MPhil. Penderfyniad wedi'i ohirio hyd nes y caiff y traethawd ymchwil ei ailgyflwyno fel MRes/MSc drwy Ymchwil o fewn 12 mis ac yna’i ailarholi.
nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd
(fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol; Fel rheol, bydd ail arholiad llafar; fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar)
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon MPhil mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno, nac o safon MA/MSc drwy Ymchwil yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, yn nhermau sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 12 mis, gyflwyno traethawd ymchwil MA/MSc drwy Ymchwil; fel arfer, bydd y newidiadau/ addasiadau/ ychwanegiadau angenrheidiol yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
8. Methu; heb ei gymeradwyo ar gyfer y dyfarniad nac ar gyfer gradd ymchwil is
(fel opsiwn uniongyrchol ac opsiwn wedi ailgyflwyno)
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon MPhil mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno.
22.7 Canlyniadau ar gyfer y Radd Meistr yn y Celfyddydau drwy Ymchwil (MA drwy Ymchwil) a Meistr mewn Gwyddoniaeth drwy Ymchwil (MSc drwy Ymchwil):
1. Pasio - dim cywiriadau
Rhaid cyflwyno fersiwn derfynol o'r traethawd ymchwil o fewn mis.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon Meistr yn y Celfyddydau drwy Ymchwil (MA drwy Ymchwil) a Meistr mewn Gwyddoniaeth drwy Ymchwil (MSc drwy Ymchwil) yn nhermau sylwedd a strwythur.
2. Mân newidiadau i'w cyflwyno o fewn 1 mis; Pasio
Fel arfer i'w cymeradwyo gan arholwr mewnol.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon MA drwy Ymchwil/MSc drwy Ymchwil yn nhermau sylwedd a strwythur; mae’r cywiriadau'n ymwneud â manylion. Nid oes angen gwneud ymchwil bellach na gwaith sylweddol arall. Yn gyffredinol, mae mân gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau.
3. Cywiriadau sylweddol a/neu newidiadau i'w cyflwyno o fewn 3 mis; Pasio
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w cymeradwyo gan yr arholwr mewnol a'r arholwr allanol, neu yn ôl doethineb y Bwrdd Arholi gan yr arholwr mewnol yn unig.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon MA drwy Ymchwil/MSc drwy Ymchwil yn nhermau sylwedd, ond er mwyn pasio, mae angen newidiadau sy'n sylweddol ond yn amlwg yn fesuradwy o ran a) cyflwyno'r ymchwil e.e. ynghylch y cyflwyniad/casgliad; neu b) strwythur e.e. ynghylch aildrefnu'r data/adrannau/penawdau; neu c) ychwanegu deunydd newydd nad yw’n hwy nag un bennod, lle mae'r Bwrdd Arholi o'r farn bod modd gwneud newidiadau o'r fath o fewn cyfnod o 3 mis.
4. Penderfyniad ei ohirio hyd nes y caiff y traethawd ymchwil ei ailgyflwyno o fewn 6 mis ac yna’i ailarholi
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol; fel rheol, bydd ail arholiad llafar; fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil o safon MA drwy Ymchwil/MSc drwy Ymchwil yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, yn nhermau sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 6 mis, gyflwyno traethawd ymchwil o safon briodol; gallai fod angen newidiadau/addasiadau/ychwanegiadau yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
5. Methu; heb ei gymeradwyo ar gyfer y dyfarniad nac ar gyfer gradd ymchwil is
Fel opsiwn uniongyrchol ac opsiwn wedi ailgyflwyno.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon MA drwy Ymchwil/MSc drwy Ymchwil mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno.
22.8 Canlyniadau ar gyfer Gradd Meistr mewn Ymchwil (MRes):
1. Pasio- dim cywiriadau
Rhaid cyflwyno fersiwn derfynol o'r traethawd ymchwil o fewn mis.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon Meistr mewn Ymchwil (MRes) yn nhermau sylwedd a strwythur.
2. Mân newidiadau i'w cyflwyno o fewn 1 mis; Pasio
Fel arfer i'w cymeradwyo gan arholwr mewnol.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon MRes yn nhermau sylwedd a strwythur; mae’r cywiriadau'n ymwneud â manylion. Nid oes angen gwneud ymchwil bellach na gwaith sylweddol arall. Yn gyffredinol, mae mân gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau.
3. Cywiriadau sylweddol a/neu newidiadau i'w cyflwyno o fewn 3 mis; Pasio
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w cymeradwyo gan yr arholwr mewnol a'r arholwr allanol, neu yn ôl doethineb y Bwrdd Arholi gan yr arholwr mewnol yn unig.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon MRes yn nhermau sylwedd, ond er mwyn pasio, mae angen newidiadau sy'n sylweddol ond yn amlwg yn fesuradwy o ran a) cyflwyno'r ymchwil e.e. ynghylch y cyflwyniad/casgliad; neu b) strwythur e.e. ynghylch aildrefnu'r data/adrannau/penawdau; neu c) ychwanegu deunydd newydd nad yw’n hwy nag un bennod, lle mae'r Bwrdd Arholi o'r farn bod modd gwneud newidiadau o'r fath o fewn cyfnod o 3 mis.
4. Penderfyniad wedi'i ohirio tan i'r traethawd ymchwil gael ei ailarholi wedi iddo gael ei ailgyflwyno, o fewn 6 mis
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol; fel rheol, bydd ail arholiad llafar; fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar.
Diffiniad: Ni fernir bod y thesis o safon MRes yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, yn nhermau sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 6 mis, gyflwyno traethawd ymchwil o safon briodol; gallai fod angen newidiadau/addasiadau/ychwanegiadau yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
5. Methu; heb ei gymeradwyo ar gyfer y dyfarniad nac ar gyfer gradd ymchwil is
Fel opsiwn uniongyrchol ac opsiwn wedi ailgyflwyno.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon MRes mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno.
22.9 Canlyniadau Gradd Doethuriaeth mewn Gweinyddu Busnes
1. Llwyddo – dim cywiriadau
Rhaid cyflwyno fersiwn derfynol o'r traethawd ymchwil o fewn mis.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon Doethur mewn Meddygaeth o ran sylwedd a strwythur.
2. Mân-gywiriadau i'w cyflwyno o fewn 3 mis; Llwyddo
Fel arfer i'w cymeradwyo gan arholwr mewnol.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon Gradd Doethur mewn Gweinyddu Busnes Proffesiynol o ran strwythur a chynnwys; mae'r cywiriadau'n ymwneud â manylion. Nid oes angen cwblhau gwaith ymchwil pellach na gwaith sylweddol arall. Mae enghreifftiau nodweddiadol o fân-gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau.
3. Cywiriadau sylweddol a/neu newidiadau i'w cyflwyno o fewn 6 mis; Llwyddo
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w cymeradwyo gan yr arholwr mewnol a'r arholwr allanol, neu yn ôl doethineb y Bwrdd Arholi gan yr arholwr mewnol yn unig.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon Gradd Doethur mewn Gwinyddu Busnes o ran cynnwys, ond er mwyn llwyddo, mae angen newidiadau sy'n sylweddol ond sy'n amlwg yn fesuradwy o ran a) cyflwyno'r ymchwil e.e. ynghylch y cyflwyniad/casgliad; neu b) strwythur e.e. ynghylch aildrefnu'r data/adrannau/penawdau; neu c) ychwanegu deunydd newydd nad yw’n hwy nag un bennod, lle mae'r Bwrdd Arholi o'r farn bod modd gwneud newidiadau o'r fath o fewn cyfnod o 6 mis.
4. Penderfyniad wedi'i ohirio hyd nes y caiff y thesis ei ailgyflwyno o fewn 12 mis
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol; fel rheol, bydd ail arholiad llafar. Fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar.
Diffiniad: Nid ystyrir y traethawd ymchwil i fod o safon Doethur Gweinyddu Busnes yn ei ffurf bresennol. Fodd bynnag, o ran sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, a gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 12 mis, gyflwyno traethawd ymchwil o safon briodol; gallai fod angen newidiadau/addasiadau/ychwanegiadau yn ymwneud â chynnwys a chyflwyniad.
5. Heb ei Gymeradwyo ar gyfer Gradd Doethur mewn Gweinyddu Busnes ond yn briodol i'w llwyddo fel Gradd Meistr(MSc) drwy Ymchwil (yn ei ffurf bresennol)
Rhaid cyflwyno fersiwn derfynol o'r traethawd ymchwil o fewn mis.
Diffiniad: Bernir y traethawd ymchwil i fod o safon Gradd Meistr (MSc) drwy Ymchwil
o ran cynnwys a strwythur. Caniateir newidiadau i deitl y traethawd ymchwil a rhaid newid unrhyw gyfeiriad at Radd Doethur mewn Gweinyddu Busnes i Radd Meistr (MSc) drwy Ymchwil.
6. Heb ei Gymeradwyo ar gyfer Doethuriaeth mewn Gweinyddu Busnes. Mân-gywiriadau i'w cyflwyno o fewn tri mis; Llwyddo fel Gradd Meistr (MSc) drwy Ymchwil
Fel arfer i'w gymeradwyo gan arholwr mewnol.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon Radd Doethur mewn Gweinyddu Busnes mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno. Fodd bynnag, bernir bod y traethawd ymchwil o safon Gradd Meistr (MSc) drwy Ymchwil o ran cynnwys a strwythur. Nid oes angen cwblhau gwaith ymchwil pellach na gwaith sylweddol arall. Mae enghreifftiau nodweddiadol o fân-gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau.
7. Heb ei Gymeradwyo ar gyfer Doethuriaeth mewn Gweinyddu Busnes. Penderfyniad wedi'i ohirio hyd nes y caiff y traethawd ymchwil ei ailgyflwyno fel MSc drwy Ymchwil o fewn 12 mis ac yna’i ailarholi
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol. Fel rheol, bydd ail arholiad llafar. Fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon Doethuriaeth mewn Gweinyddu Busnes mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno, nac o safon MA drwy Ymchwil yn ei ffurf bresennol. Fodd bynnag, o ran cynnwys, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 12 mis, gyflwyno traethawd ymchwil o safon Gradd Meistr (MSc) drwy Ymchwil; fel arfer, bydd y newidiadau/addasiadau/ychwanegiadau angenrheidiol yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
8. Methu; heb ei gymeradwyo ar gyfer y dyfarniad nac ar gyfer gradd ymchwil is
Fel opsiwn uniongyrchol ac opsiwn wedi ailgyflwyno.
Diffiniad: Nid ystyrir y traethawd fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn i fod o safon naill ai Gradd Doethur mewn Gweinyddu Busnes na Gradd Meistr (MSc) drwy Ymchwil, mewn gwirionedd nac â'r potensial i fod o'r safon honno.
22.10 Canlyniadau ar gyfer Gradd ar y Cyd Doethur mewn Athroniaeth (PhD)
1. Pasio (dim cywiriadau)
1 mis i gyflwyno fersiwn derfynol y traethawd ymchwil.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD o ran sylwedd a strwythur.
2. Pasio (yn amodol ar gywiriadau) - rhaid cyflwyno'r cywiriadau o fewn 3 mis;
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w cymeradwyo gan yr arholwr mewnol a'r arholwr allanol neu, yn ôl doethineb y bwrdd arholi, gan yr arholwr mewnol yn unig.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD o ran sylwedd a strwythur, ond er mwyn pasio, mae angen newidiadau sylweddol y gellir eu nodi’n glir a’u mesur o ran a) cyflwyniad yr ymchwil e.e. ynghylch y cyflwyniad/casgliad; neu b) y strwythur, e.e. ynghylch aildrefnu'r data/adrannau/penodau; neu c) ychwanegu deunydd newydd nad yw’n hwy nag un bennod, lle mae'r Bwrdd Arholi o'r farn bod modd gwneud newidiadau o'r fath o fewn cyfnod o 3 mis.
3. Ailgyflwyno (penderfyniad wedi'i ohirio nes bod y traethawd ymchwil wedi'i ailgyflwyno i'w ailarholi o fewn 12 mis);
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol. Fel rheol, bydd ail arholiad llafar. Fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, o ran sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 12 mis, gyflwyno traethawd ymchwil o safon briodol; gallai fod angen newidiadau/addasiadau/ychwanegiadau yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
4. Heb ei gymeradwyo ar gyfer PhD ond yn briodol ar gyfer pasio fel MPhil Prifysgol Abertawe (yn ei ffurf bresennol);
1 mis i gyflwyno fersiwn derfynol y traethawd ymchwil
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon Meistr mewn Athroniaeth (MPhil) Prifysgol Abertawe o ran sylwedd a strwythur. Caniateir newidiadau i deitl y traethawd ymchwil a rhaid i bob cyfeiriad at PhD gael ei newid i MPhil Prifysgol Abertawe (dyfarniad gan Brifysgol Abertawe yw hwn nid dyfarniad ar y cyd). Sylwer, efallai na fydd y canlyniad hwn yn bosib i rai rhaglenni ar y cyd.
5. Heb ei gymeradwyo ar gyfer PhD. Mân gywiriadau i'w cyflwyno o fewn tri mis; Pasio fel MPhil Prifysgol Abertawe
Fel arfer i'w cymeradwyo gan arholwr mewnol.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon PhD mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno; fodd bynnag, bernir bod y traethawd ymchwil o safon MPhil Prifysgol Abertawe o ran sylwedd a strwythur. Nid oes angen cwblhau gwaith ymchwil pellach na gwaith sylweddol arall. Mae enghreifftiau nodweddiadol o fân gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau. Nid yw MPhil Prifysgol Abertawe'n cael ei ddyfarnu fel dyfarniad ar y cyd. Sylwer, efallai na fydd y canlyniad hwn yn bosib i rai rhaglenni ar y cyd.
6. Heb ei gymeradwyo ar gyfer PhD. Penderfyniad wedi'i ohirio hyd nes y caiff y traethawd ymchwil ei ailgyflwyno fel MPhil Prifysgol Abertawe o fewn 12 mis ac yna’i ailarholi.
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethawd ymchwil wedi'i ailgyflwyno.
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol; Fel rheol, bydd ail arholiad llafar. fodd bynnag, ar ôl ystyried y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall yr arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon PhD mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno, nac o safon MPhil Prifysgol Abertawe yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, o ran sylwedd, mae gwir botensial, ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 12 mis, gyflwyno traethawd ymchwil o safon MPhil Prifysgol Abertawe; fel arfer, bydd y newidiadau/ addasiadau/ychwanegiadau angenrheidiol yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad. Nid yw MPhil Prifysgol Abertawe'n cael ei ddyfarnu fel dyfarniad ar y cyd. Sylwer, efallai na fydd y canlyniad hwn yn bosib i rai rhaglenni ar y cyd.
7. Methu; heb ei gymeradwyo ar gyfer dyfarnu gradd ymchwil is
Fel opsiwn ar unwaith ac opsiwn wedi ailgyflwyno.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon PhD nac MPhil Prifysgol Abertawe mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o safon PhD nac MPhil.
23. Gwybodaeth i Gyd-fynd â Chanlyniadau'r Arholiad ar gyfer y Graddau uchod
Os nad yw’r cywiriadau, yr addasiadau neu'r ailgyflwyniad wedi'u cwblhau er boddhad yr arholwyr neu heb eu cyflwyno i’w craffu o fewn y cyfnod amser a roddwyd, ni fydd yr ymgeisydd yn cael ei gymeradwyo ar gyfer y dyfarniad neu radd is. Nid yw pob doethuriaeth yn cynnig y posibilrwydd o dderbyn gradd is, felly mae trefniant y dyfarniad ymadael yn berthnasol.
- Lle mynnir bod rhaid ailgyflwyno, rhaid i ymgeiswyr dalu'r ffi ailgyflwyno berthnasol.
- Mae gan ymgeiswyr hawl i ailgyflwyno gwaith unwaith.
24. Sefyllfa:Wedi’i Gymeradwyo gyda Chywiriadau
Newidiadau (hefyd yn berthnasol i Heb ei Gymeradwyo, ond Wedi’i Gymeradwyo am Ddyfarniad Is gyda Chywiriadau/Newidiadau)
24.1
Bydd y myfyriwr yn derbyn rhestr o gywiriadau/newidiadau oddi wrth yr arholwyr a bydd yn cael ei hysbysu y dylid cwblhau’r cywiriadau/newidiadau o fewn y cyfnod penodol a nodwyd ar ôl derbyn y rhestr o gywiriadau/newidiadau. Gall y rhestr o gywiriadau/newidiadau fod ar ffurf copi anodedig o’r traethawd ymchwil gan un arholwr neu’r ddau ohonynt a/neu ddogfen fer yn rhoi manylion y cywiriadau wedi’i pharatoi gan un arholwr neu’r ddau ohonynt. Adeg yr arholiad llafar bydd un arholwr neu’r ddau ohonynt wedi cael y cyfrifoldeb o graffu ar y cywiriadau/newidiadau.
24.2
Dylai’r myfyriwr gyflwyno ei gywiriadau/newidiadau i’r arholwr(wyr) enwebedig i’w cymeradwyo. Gellir cyflwyno cywiriadau/newidiadau mewn fformat electronig drwy gytundeb ymlaen llawn gan bob parti ynghyd â dogfen yn amlinellu’r cywiriadau/newidiadau a gafodd eu hargymell a’r camau a gafodd eu cymryd gan y myfyriwr i weithredu’r cywiriadau/newidiadau hynny. Dylai’r arholwr enwebedig nodi mewn ysgrifen bod cywiriadau/newidiadau wedi eu derbyn ac a yw’r cywiriadau/newidiadau yn dderbyniol.
24.3
Os yw’r cywiriadau/newidiadau’n dderbyniol, dylid hysbysu’r Gwasanaethau Addysg fod y cywiriadau/newidiadau wedi cael eu dilysu. Dylid gofyn i’r myfyriwr gyflwyno copïau o’r traethawd ymchwil wedi eu rhwymo mewn clawr caled (gweler Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil am fanylion) cyn gynted â phosibl. Unwaith y bydd copïau clawr caled o’r traethawd ymchwil wedi cael eu derbyn, bydd y Gwasanaethau Addysg yn hysbysu’r myfyriwr y bydd yn cael ei dderbyn yn ei absenoldeb.
24.4
Os bernir nad yw’r cywiriadau/ newidiadau’n dderbyniol, neu os na chânt eu derbyn o fewn yr amserlen y cytunwyd arni, yna bernir nad yw’r myfyriwr wedi bodloni’r amodau a osodwyd gan y Bwrdd Arholi a bydd canlyniad o Heb ei Gymeradwyo yn cael ei gofnodi.
24.5
Nid oes modd dyfarnu gradd is i bob doethuriaeth ac felly mae'r trefniant dyfarniad ymadael yn berthnasol.
25. Sefyllfa: Heb ei Gymeradwyo, ond Caniatâd i Ailgyflwyno
Hefyd yn berthnasol i Heb ei Gymeradwyo, ond Caniatâd i Ailgyflwyno am Radd Is.
25.1
Bydd y myfyriwr yn derbyn arwydd o ba feysydd yn y thesis y mae angen eu hailweithio'n sylweddol gan yr arholwyr a bydd yn cael ei hysbysu y caiff gyfnod o un flwyddyn (ar gyfer PhD drwy Waith a Gyhoeddwyd, chwe mis neu gyfnod a nodir gan y Bwrdd Arholi ar gyfer PhD drwy Waith a Gyhoeddwyd) i ailgyflwyno’r thesis. Fel rheol, rhaid cynnal ail arholiad llafar ar ôl ailgyflwyno traethawd ymchwil. Mewn achosion eithriadol iawn, gellir hepgor y gofyniad am ail arholiad llafar yn ôl disgresiwn yr arholwyr os ydynt yn cytuno ar farc llwyddo ar ôl i’r gwaith gael ei ailgyflwyno. Yn y sefyllfa hon, bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi'n rhoi gwybod i’r myfyriwr fod y gofyniad am ail arholiad llafar wedi'i hepgor.
25.2
Bydd y Gwasanaethau Addysg yn hysbysu’r myfyriwr bod ganddo’r cyfle i ailgyflwyno’r thesis o fewn chwe mis ac un flwyddyn i ddyddiad yr hysbysiad. Caiff y myfyriwr hawl i gael mynediad at y Llyfrgell ac at gyfleusterau cyfrifiadurol a dylai sefydlu cyswllt rheolaidd gyda’i oruchwylwyr yn ystod y cyfnod ailgyflwyno.
25.3
Dylai’r myfyriwr ddilyn y gweithdrefnau ar gyfer cyflwyno traethawd ymchwil (gweler y Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil am fanylion) cyn diwedd y cyfnod ailgyflwyno.
25.4
Os bydd y myfyriwr yn methu ag ailgyflwyno’r traethawd ymchwil o fewn yr amserlen y cytunwyd arni, yna bernir nad yw’r myfyriwr wedi bodloni’r amodau a osodwyd gan y Bwrdd Arholi a bydd canlyniad o Heb ei Gymeradwyo yn cael ei gofnodi.
25.5
Nid oes modd dyfarnu gradd is i bob doethuriaet ac felly mae'r trefniant dyfarniad ymadael yn berthnasol.
26. Sefyllfa: Heb ei Gymeradwyo
Ar ôl i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu gadarnhau’r argymhelliad, bydd Gwasanaethau Addysg yn hysbysu’r myfyriwr a yw wedi'i gymeradwyo ar gyfer y dyfarniad neu radd is ai peidio. Os yw’r myfyriwr yn gymwys i dderbyn dyfarniad ymadael, bydd rhaid iddo gyflwyno cais i’r Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu er mwyn i’r dyfarniad gael ei roi. Nid oes modd dyfarnu gradd is i bob doethuriaet ac felly mae'r trefniant dyfarniad ymadael yn berthnasol.
27. Cynnal Arholiadau Llafar drwy Ddulliau Electronig
27.1
Cred y Brifysgol fod arholiadau llafar yn rhan hanfodol o broses arholi ymgeiswyr am raddau ymchwil. I’r diben hwn, mae’n ofynnol yn ôl rheoliadau’r Brifysgol fod arholiad o’r fath yn cael ei gynnal, ac mae canllawiau ar gael sydd wedi’u bwriadu i osod y sylfeini ar gyfer yr arholiad llafar ei hun) (6.1 ymlaen).
27.2
Ar yr amod bod y canllawiau hyn yn cael eu dilyn, gall myfyrwyr, drwy ymgynghori â'u tîm goruchwylio, gyflwyno cais i gael eu harholiad llafar naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein.
Dylai myfyrwyr ddewis fformat eu harholiad llafar drwy ddefnyddio'r ffurflen Hysbysiad o Fwriad i Gyflwyno.
27.3
Pan fydd myfyriwr yn gofyn i'w arholiad llafar gael ei gynnal wyneb yn wyneb, rhaid ystyried cyfyngiadau teithio neu UKVI o ran yr Arholwr Allanol. Oherwydd goblygiadau penodol y gall hyn eu hachosi, efallai mai ar-lein neu gyfarfod hybrid fydd yr unig ateb ymarferol. Mewn achosion pan fydd myfyriwr wedi cyflwyno cais am arholiad llafar wyneb yn wyneb ond nid yw pob aelod o'r panel yn gallu bod yn bresennol, caniateir opsiwn hybrid. Mae hyn yn golygu y bydd rhai aelodau o'r panel yn bresennol a bydd eraill yn ymuno ar-lein.
27.4
Pan fydd myfyriwr yn cyflwyno cais i’w arholiad llafar gael ei gynnal ar-lein (yn gyfan gwbl neu mewn fformat hybrid), y dull ar-lein o ddewis fydd platfform Zoom a gefnogir gan y Brifysgol, ond gellir defnyddio platfformau eraill os bydd yr holl gyfranogwyr yn cytuno â hyn.
27.5
Lle bynnag y bo'n bosib, bydd dewis y myfyriwr ar gyfer fformat yr arholiad llafar yn cael blaenoriaeth. Os ceir amgylchiadau lle na all y panel ddod i gytundeb ynghylch a ddylid cynnal yr arholiad llafar wyneb yn wyneb, ar-lein neu drwy fformat hybrid, bydd y Swyddfa Ôl-raddedig yn asesu'r sefyllfa ac yn gwneud penderfyniad terfynol.