Myfyrwyr Israddedig
Absenoldeb Dros Dro
Fel arfer, ni ddisgwylir caniatáu i fyfyrwyr sy'n dilyn rhaglen israddedig fod yn absennol yn ystod y tymor. Fodd bynnag, cewch wneud cais am ganiatâd i fod yn absennol dros dro. Dylai Cyfadrannau/Ysgolion ystyried y rhesymau am y cais, hyd yr absenoldeb y gofynnir amdano ac effaith yr absenoldeb ar eich astudiaethau academaidd. Os oes gennych anawsterau personol, ariannol neu feddygol, y disgwyl arferol yw y byddech yn cael eich cynghori i ohirio'ch astudiaethau yn hytrach na chael absenoldeb dros dro.
Ail-wneud Modiwlau a Fethwyd
Mae rheoliadau Visas a Mewnfudo yn nodi, os nad yw'n ofynnol i fyfyriwr Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt)/Myfyriwr gymryd rhan yn ei raglen astudio (naill ai mewn sesiynau dysgu rheolaidd neu drwy ryw gyswllt arall) am fwy na 60 diwrnod, rhaid i'r myfyriwr adael y DU. Mewn achosion o'r fath, bydd y Brifysgol yn tynnu'n ôl ei nawdd Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt) i'r myfyriwr, bydd ei record myfyriwr yn cael ei 'hatal' a bydd Fisâu a Mewnfudo'r DU yn cael gwybod am yr amgylchiadau.
Mae'r rheoliad 60 diwrnod yn berthnasol i bob myfyriwr Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt) sy'n methu modiwlau ac sy'n gorfod ailadrodd modiwlau a fethwyd mewn un bloc addysgu yn unig (h.y. nad ydynt yn ymgymryd ag unrhyw astudiaeth nac yn mynychu unrhyw ddosbarthiadau yn y cyfamser) fel yn yr amgylchiadau canlynol, ond nid hollgynhwysfawr:
a) Mae'r myfyriwr yn cael ail-wneud Semester Un ac yna nid oes angen cyswllt pellach yn Semester Dau: dylai'r myfyriwr gwblhau Semester Un yn ôl y gofyn ac yna dychwelyd i'w wlad gartref ar gyfer Semester Dau;
b) Mae'r myfyriwr yn cael ail-wneud Semester Dau ond nid oes angen cyswllt yn ystod Semester Un: rhaid i'r myfyriwr ddychwelyd i'w wlad gartref ar gyfer Semester Un a dychwelyd i'r DU ar gyfer Semester Dau yn unig.
Os nad yw'n ofynnol i fyfyriwr gymryd rhan mewn astudiaeth o fewn cyfnod o 60 diwrnod, gofynnir i fyfyrwyr ddarparu tystiolaeth eu bod wedi gadael y DU (fel stamp ymadael wedi'i sganio yn ei basbort neu docyn aer wedi'i sganio). Bydd hyn wedyn yn eu heithrio o'r Polisi Monitro Ymgysylltu ar gyfer Myfyrwyr Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt)/Myfyrwyr a Noddir gan Lwybrau.
Argymhellir bod myfyrwyr yn cyflwyno cais am ddatganiad CAS i'r Gwasanaethau Academaidd tua thri mis cyn iddynt ddychwelyd i ailddechrau astudio.
I gael gwybodaeth fanwl a chyngor am adnewyddu eich fisa Llwybr Myfyrwyr Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt), cysylltwch â Rhyngwladol@BywydCampws, sydd wedi'i leoli ar lawr gwaelod Adeilad Keir Hardie neu e-bostiwch international.campuslife@abertawe.ac.uk.
Graddau Meistr Ôl-raddedig a Addysgir
Cwblhau'r rhaglen
Os ydych chi wedi cyflwyno'ch dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd a/neu ddod i ddiwedd eich astudiaethau, ni fydd eich enw ar y rhestr weithredol o fyfyrwyr i'w monitro ar ôl eich dyddiad gorffen disgwyliedig.
Myfyrwyr sy'n Ailgyflwyno
Os yw myfyrwyr wedi cael caniatâd y Bwrdd Arholi i ailgyflwyno eu dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd, byddant yn parhau'n fyfyrwyr mewnol a byddant yn parhau ar y rhestr o fyfyrwyr i'w monitro. Felly, bydd rhaid i chi barhau i gwrdd â goruchwyliwr eich prosiect unwaith y mis nes i chi ailgyflwyno'ch gwaith dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd.
Ymchwil Ôl-raddedig
Absenoldeb Dros Dro
Cewch wneud cais am ganiatâd i fod yn absennol am resymau personol neu feddygol ac, yn achos myfyrwyr ymchwil, er mwyn gwneud ymchwil y tu allan i Brifysgol Abertawe. Ni ddylai'r cyfnod y byddwch yn gofyn amdano fod mor hir fel y byddai gofyn i chi ohirio eich astudiaethau. 60 o ddiwrnodau yw'r cyfnod hwyaf a ganiateir ar gyfer absenoldeb dros dro a awdurdodwyd.
Mewn achosion fel hyn, dylech gwblhau ffurflen absenoldeb dros dro o astudiaethau gan fanylu ar y rhesymau am yr absenoldeb. Dylai'r absenoldeb gael ei awdurdodi a'i gymeradwyo gan y Deon Gweithredol neu ei enwebai.
Dylai'r Gyfadran/Ysgol gofnodi absenoldebau a awdurdodwyd yn y System Rheoli Ymchwil.
Ysgrifennu’ch Traethawd Ymchwil
Os ydych yn aros yn y DU yn ystod y cyfnod ysgrifennu, dylech barhau i ymwneud â'r Brifysgol, ac felly mae angen i ni eich monitro. Gellir caniatáu absenoldeb dros dro o dan yr amgylchiadau a amlinellwyd uchod.
Os ydych yn y DU ar Fisa Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt) myfyriwr ac os ydych yn cadarnhau'n ysgrifenedig eich bod wedi dychwelyd i'ch gwlad enedigol i ysgrifennu'ch traethawd ymchwil ac y byddwch yn aros yno am y cyfnod cyfan, bydd y cyfrifoldeb am eich monitro yn trosglwyddo o'r Uned Cydymffurfiaeth Myfyrwyr Rhyngwladol i'ch Cyfadran/Ysgol. Fodd bynnag, os byddwch yn dychwelyd i'r Brifysgol yn ystod y cyfnod hwn, bydd yr Uned Cydymffurfiaeth Myfyrwyr Rhyngwladol yn ailddechrau monitro eich cysylltiadau misol â'ch goruchwyliwr.