Gwybodaeth Gyffredinol ynghylch Trosglwyddo rhwng Rhaglenni
Os ydych yn fyfyriwr israddedig, gellir caniatáu i chi newid eich rhaglen astudio os teimlir bod y newid er eich lles gorau, ar ôl ymgynghori â'r tiwtor neu'r tiwtoriaid neu gynrychiolydd (cynrychiolwyr) eich Cyfadran/Ysgol Cartref (y Deon Gweithredol fel arfer). Ni chaniateir i fyfyrwyr ôl-raddedig a addysgir, fel rheol, newid rhaglenni, er y gellir caniatáu hyn mewn amgylchiadau eithriadol. Os yw'r broses newid rhaglen hefyd yn golygu newid modiwlau, bydd y terfynau amser trosglwyddo a nodir mewn rheoliadau rhaglenni penodol yn berthnasol hefyd. Os yw’r trosglwyddiad yn golygu dilyn rhaglen sy’n cael ei chynnig gan Gyfadran/Ysgol arall, mae’n debygol y bydd rhaid i Gadeirydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu awdurdodi newidiadau o'r fath.
Rhaid i chi gwblhau'r ffurflen trosglwyddo rhaglen ar-lein, trefnu iddi gael ei hawdurdodi gan aelod(au) priodol o'r staff academaidd, a'i chyflwyno'n electronig i adran Cofnodion Myfyrwyr y Gwasanaethau Academaidd. Mae'r drefn hon yn berthnasol i bob cais am drosglwyddo rhwng rhaglenni, gan gynnwys trosglwyddiadau o fewn yr un Gyfadran/Ysgol.
Dyma grynodeb o weithdrefnau a rheoliadau'r Brifysgol:
- Ceisiwch gymeradwyaeth y Gyfadran/Ysgol sy’n derbyn a chyflwynwch ffurflen cais am drosglwyddiad yn electronig;
- Ceisiwch gymeradwyaeth y Gyfadran(nau)/Ysgol(ion) sy'n rhyddhau (darperir hyn yn electronig);
- Darperir cymeradwyaeth Cadeirydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu yn electronig;
- Cyflwynir y ffurflen yn electronig i’r Gwasanaethau Academaidd;
- Cwblheir y trosglwyddiad;
- Mae'r myfyriwr a'r Brifysgol yn hysbysu'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr/yr awdurdod lleol/y noddwr.
Gwybodaeth Benodol i Fyfyrwyr Israddedig am Drosglwyddo rhwng Rhaglenni
Tynnir eich sylw at y rheoliadau sy'n berthnasol i drosglwyddo rhwng rhaglenni, oherwydd y gall methu bodloni terfynau amser a bennwyd gael effaith sylweddol ar eich Cyllid Myfyrwyr gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr i'ch cynnal drwy gydol y rhaglen.
Mae'r rheoliadau'n nodi bod rhaid i chi sicrhau caniatâd awdurdodau academaidd y Brifysgol cyn newid rhaglen ar neu cyn DIWRNOD CYNTAF ail flwyddyn y rhaglen wreiddiol y byddai disgwyl i chi ei mynychu fel rheol.
Mae hyn yn golygu y dylid derbyn ceisiadau i newid rhaglen fel arfer cyn diwedd y flwyddyn gyntaf o astudio neu fel arall yn ystod wythnos gofrestru'r ail flwyddyn. Gallai cymeradwyo ceisiadau i newid rhaglenni yn hwyr arwain at oblygiadau difrifol, yn enwedig os bydd angen estyn y cyfnod astudio, o ganlyniad i'r newid. Os caiff y cais i drosglwyddo ei gymeradwyo ar ôl y dyddiad cau, mae rheoliadau Cyllid Myfyrwyr y DU yn nodi "efallai na fydd ef neu hi'n derbyn cefnogaeth lawn ar gyfer yr ail gwrs", a byddai'n rhaid i'r myfyriwr dalu'r costau ychwanegol ei hun.
Bydd Gwasanaethau Academaidd (Cyllid Myfyrwyr) yn hysbysu'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (Cyllid Myfyrwyr y DU) am unrhyw drosglwyddiadau rhwng rhaglenni. Gall y Brifysgol gymeradwyo cais hwyr, yn enwedig os nad oes unrhyw oblygiadau ariannol. Fodd bynnag, rhaid i'r cais gael ei gymeradwyo gan Gadeirydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu.
Gwybodaeth Benodol i Fyfyrwyr Ôl-raddedig a Addysgir am Drosglwyddo rhwng Rhaglenni
Sylwer, os oes angen cymeradwyaeth rhwng 2 a 4 wythnos ar ôl dechrau'r rhaglen, bydd angen cael cymeradwyaeth gan Gadeirydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu. Bydd rhaid i unrhyw geisiadau i drosglwyddo wedi hynny gael eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Achosion Myfyrwyr. Mae angen i fyfyrwyr a noddir roi gwybod i’w noddwr am unrhyw drosglwyddiadau.
Gwybodaeth Benodol i Fyfyrwyr Tramor am Drosglwyddo rhwng Rhaglenni
Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol o'r tu allan i'r UE sydd am newid rhaglen, mae'n rhaid i chi roi gwybod i’r Gwasanaethau Academaidd cyn bwrw ymlaen â’ch cais i drosglwyddo oherwydd y gall effeithio ar eich fisa astudio.
Yn achos myfyrwyr rhyngwladol a noddir gan y Brifysgol, mae caniatâd i newid rhaglen yn amodol ar feddu ar fisa myfyriwr ddilys (Haen 4). Cyn y caiff y myfyriwr drosglwyddo i raglen arall, asesir a yw'r broses drosglwyddo'n bodloni deddfwriaeth Haen 4 gyfredol cyn y caiff y cais ei gymeradwyo. Bydd yr asesiad yn cyfeirio at lefel y rhaglen newydd, cyfnod caniatâd i aros presennol y myfyriwr, y terfynau amser cyfredol sy'n berthnasol i astudio Haen 4; asesir a yw'r rhaglen newydd yn bodloni 'dyheadau go iawn' y myfyriwr o ran ei yrfa ac ystyrir unrhyw ofynion eraill a bennir gan Swyddfa Fisâu a Mewnfudo'r DU (UKVI). Lle nad oes modd cwblhau'r rhaglen newydd o fewn y cyfnod caniatâd i aros sy'n weddill o dan Haen 4, bydd angen i'r myfyriwr adael y DU i gyflwyno cais pellach am ganiatâd i aros er mwyn cwblhau'r rhaglen. Os oes angen cymeradwyaeth gan y Cynllun Cymeradwyo Technoleg Academaidd (ATAS) ar raglen, bydd rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol gael cymeradwyaeth a darparu copi o'r dystysgrif ATAS i'r Brifysgol cyn y gellir cymeradwyo cais i newid rhaglen.
Trosglwyddo sy'n Arwain at Ddyfarniad Uwch
Os ydych yn astudio ar raglen Ôl-raddedig a Addysgir sy'n arwain at Dystysgrif neu Ddiploma Ôl-raddedig, os yw’r Deon Gweithredol cymeradwyo hynny, gellir caniatáu i chi drosglwyddo i ddyfarniad uwch yn yr un maes pwnc.
Gohirio Astudiaethau/Tynnu'n ôl o'r Brifysgol
Mae rheoliadau penodol yn berthnasol i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig sy'n dymuno gohirio eu hastudiaethau neu dynnu'n ôl o'r Brifysgol.