Asesu a Dilyniant
Diffiniadau Asesu ac Addasiadau Rhesymol
Gweler hefyd restr fwy bras (ond heb fod yn hollgynhwysol) o ddiffiniadau asesu cyffredin.
Cynwysoldeb
Cynllunio a galluogi dysgu hygyrch er mwyn sicrhau bod yr holl fyfyrwyr, ni waeth am eu cefndiroedd addysgol, diwylliannol ac economaidd-gymdeithasol a/neu eu nodweddion gwarchodedig fel y'u diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, yn cael y cyfle a'r cymorth i fynd rhagddynt i addysg uwch ac i fynd ymhellach ynddi.
Asesu Cynhwysol
Cynllunio asesiadau o'r cychwyn cyntaf sydd, cymaint â phosib, yn hygyrch i'r holl fyfyrwyr (gan gydnabod y gall fod angen addasiadau i asesiadau ar rai myfyrwyr ag anghenion arbennig o gymhleth), gan ddefnyddio cysyniadau ‘cynllunio cyffredinol’.
Asesu wedi'i ‘Addasu’
Gwneud newidiadau rhesymol a phriodol i'r fformat asesu gwreiddiol er mwyn galluogi'r holl fyfyrwyr i gael eu hasesu, a chymryd rhan ynddo, heb aberthu safonau cymhwysedd.
Asesu Amgen
Cynnig math gwahanol o asesu i fyfyrwyr sy'n hygyrch iddynt, sy'n dal i brofi deiliannau dysgu'r asesiad gwreiddiol, heb aberthu safonau cymhwysedd.
Addasiad Rhesymol
Y disgwyliad yn ôl y gyfraith (Deddf Cydraddoldeb 2010) bod asesiadau'n hygyrch i fyfyrwyr â gofynion dysgu penodol cydnabyddedig (gan gynnwys anableddau, lles, cyflyrau iechyd tymor hir a/neu anghenion dysgu unigol), a bod asesiadau'n cael eu haddasu (gweler asesu wedi'i addasu neu amgen) pan fo'n rhesymol ac yn angenrheidiol er mwyn sicrhau y gall myfyrwyr gael eu hasesu'n deg. Gweler Canllaw Cydlynwyr Modiwl i Addasiadau Rhesymol ac Asesiadau Amgen 2020 hefyd.
Amseru/Hyd Asesu: Arholiadau nas gwelir ac a welir (ar y campws neu ar-lein)
Cynllunnir arholiadau (nas gwelir ac a welir, ar y campws ac ar-lein) fel arfer i fod yn asesiadau ffurfiol byr y disgwylir iddynt fod yn dair awr o hyd ar y mwyaf fel arfer (yn amodol ar addasiadau rhesymol). Gall asesiadau sy'n hwy na thair awr, neu y gellir eu cwblhau dros gyfnod hwy (e.e. chwe awr, wyth awr neu 24 awr), fod yn destun pryder estynedig i rai myfyrwyr a bydd angen eu haddasu'n rhesymol o hyd er mwyn galluogi myfyrwyr i gael cyfle cyfartal. Mae hyn yn arbennig o heriol i fyfyrwyr a fyddai'n cael rhagor o amser ychwanegol eisoes, a myfyrwyr sy'n astudio mewn parthau amser gwahanol. Gall hyn arwain at anghydraddoldeb ynghylch cyfleoedd a phrofiad y myfyrwyr.
Os llunnir arholiadau i fod yn hwy o ganlyniad i ddarpariaeth ar-lein, neu er mwyn galluogi myfyrwyr i gymryd rhan ynddynt ar eu cyflymder eu hunain (gweler Arholiadau i'w Sefyll Gartref), dylid ychwanegu amser ychwanegol at amser cwblhau disgwyliedig yr arholiad yn achos myfyrwyr sydd â hawl i gael amser ychwanegol. Fel arall, gellir addasu disgwyliadau'r asesiad er mwyn ystyried hyn, er enghraifft drwy leihau nifer y cwestiynau i'w hateb, er mwyn galluogi'r myfyriwr i'w gwblhau yn ystod yr amser a ddiffinnir, yn hytrach nag ymestyn ffenestr gyfan yr arholiad.
Gan na fydd myfyrwyr sydd â gofynion dysgu penodol yn gallu cael gafael ar gymorth ychwanegol pan bennir asesiad mewn cyfnod byr, dylid ystyried dull asesu amgen hefyd er mwyn sicrhau y gall yr holl fyfyrwyr gymryd rhan yn deg ym moddolrwydd yr asesiad.
Asesu
Mae'r term generig ‘asesu’ yn berthnasol i bob gweithgaredd sydd â'r nod o fesur dysgu myfyrwyr, gan gynnwys arholiadau ac asesu parhaus, ac asesu ffurfiannol a chrynodol.
Asesu Dilys
Mae asesu dilys yn disgrifio unrhyw fath o asesu sy'n adlewyrchu defnyddiau y gall myfyrwyr ddod ar eu draws yn y byd go iawn yn eu gyrfa yn y dyfodol.
Asesu Parhaus
Gwerthuso cynnydd myfyriwr drwy asesu rheolaidd drwy raglen astudio, yn hytrach na thrwy arholi.
At ddiben y diffiniadau hyn, mae ‘Asesu Parhaus’ yn cyfeirio at unrhyw ymagwedd asesu sydd â dyddiad cyflwyno, ond sydd heb unrhyw gyfyngiadau amser eraill, y cyfeirir ati hefyd fel gwaith cwrs. Felly, bydd gan fyfyrwyr amser a chyfle yn ystod yr asesu i geisio cymorth drwy sgiliau astudio, prawf-ddarllen allanol neu feddalwedd ategol ychwanegol yn ôl yr angen.
Arholi
At ddiben y diffiniadau hyn, mae ‘Arholi’ yn cyfeirio at unrhyw ymagwedd asesu â chyfyngiad amser ffurfiol a goruchwyliaeth sy'n annibynnol fel arfer oni bai y nodir yn wahanol. Yn gyffredinol, nid oes gan fyfyrwyr yr amser na'r cyfle yn ystod yr asesu i geisio cymorth drwy sgiliau astudio, prawf-ddarllen allanol neu feddalwedd ategol ychwanegol yn ôl yr angen, a rhoddir addasiadau rhesymol eraill, gan gynnwys amser ychwanegol, ar waith er mwyn sicrhau cyfle cyfartal.
Arholi ar y Campws
Arholiad y mae myfyrwyr yn ei sefyll drwy fynd i leoliad diogel â goruchwylwyr annibynnol.
Arholi Ar-lein
Arholiad y mae myfyrwyr yn ei sefyll ar-lein dan amodau sy'n efelychu arholiad ar y safle cymaint â phosib. Fel arfer, caiff yr arholiad ei oruchwylio neu bydd yn destun goruchwylio o bell.
Mae'r term ‘Arholi’ yn cynnwys yr asesiadau canlynol ym Mhrifysgol Abertawe:
Arholiad nas gwelir (ar y Campws)
Arholiad â chyfyngiad amser y mae myfyrwyr yn ei sefyll drwy fynd i leoliad diogel â goruchwylwyr, lle na chaiff y papur ei ryddhau i fyfyrwyr ymlaen llaw. Oni bai y cânt eu hysbysu'n wahanol, ni fydd gan fyfyrwyr fynediad at adnoddau allanol, a rhoddir addasiadau rhesymol ar waith ar gyfer myfyrwyr unigol lle y bo'n berthnasol.
Arholiad nas gwelir (Ar-lein)
Arholiad nas welir â chyfyngiad amser y mae myfyrwyr yn ei sefyll dan oruchwyliaeth ar-lein neu o bell, lle na chaiff y papur ei ryddhau i fyfyrwyr ymlaen llaw. Oni bai y cânt eu hysbysu'n wahanol, ni fydd gan fyfyrwyr fynediad at adnoddau allanol, a rhoddir addasiadau rhesymol ar waith ar gyfer myfyrwyr unigol lle y bo'n berthnasol.
Arholiad a welir (ar y Campws)
Arholiad â chyfyngiad amser y mae myfyrwyr yn ei sefyll drwy fynd i leoliad diogel â goruchwylwyr, ond lle mae'r cwestiynau wedi cael eu rhyddhau ymlaen llaw. Fel arall, gellir rhyddhau pynciau'r arholiad ymlaen llaw, ond ni welir y cwestiynau tan yr arholiad. Gall myfyrwyr hefyd gael mynediad at adnoddau allanol yn ystod yr arholiad lle nodir hynny. Rhoddir addasiadau rhesymol ar waith ar gyfer myfyrwyr unigol lle y bo'n berthnasol.
Arholiad a welir (Ar-lein)
Arholiad â chyfyngiad amser y mae myfyrwyr yn ei sefyll ar-lein sy'n cael ei oruchwylio ar-lein neu o bell, ond lle mae'r cwestiynau wedi cael eu rhyddhau ymlaen llaw. Fel arall, gellir rhyddhau pynciau'r arholiad ymlaen llaw, ond ni welir y cwestiynau tan yr arholiad. Gall myfyrwyr hefyd gael mynediad at adnoddau allanol yn ystod yr arholiad lle nodir hynny. Rhoddir addasiadau rhesymol ar waith ar gyfer myfyrwyr unigol lle y bo'n berthnasol.
Arholiad Llyfr Agored Cyfyngedig (ar y Campws)
Papur arholiad a welir neu nas gwelir â chyfyngiad amser y mae myfyrwyr yn ei sefyll drwy fynd i leoliad diogel, fel arfer â goruchwylwyr, ond bydd myfyrwyr yn cael mynediad at adnoddau a deunyddiau allanol penodol, a rhoddir addasiadau rhesymol ar waith ar gyfer myfyrwyr unigol lle y bo'n berthnasol.
Arholiad Llyfr Agored Cyfyngedig (Ar-lein)
Papur arholiad ar-lein a welir neu nas gwelir y mae myfyrwyr yn ei sefyll ar-lein, fel arfer wedi'i oruchwylio neu'n destun goruchwylio o bell, ond bydd myfyrwyr yn cael mynediad at adnoddau a deunyddiau allanol penodol, a rhoddir addasiadau rhesymol ar waith ar gyfer myfyrwyr unigol lle y bo'n berthnasol.
Arholiad i'w sefyll gartref/Llyfr Agored Llawn
Arholiad â chyfyngiad amser sy'n hwy lle gall myfyrwyr gwblhau'r papur ar eu cyflymder eu hunain, dros gyfnod a ddiffinnir ymlaen llaw. Ni ddisgwylir i fyfyrwyr dreulio'r amser llawn a ganiateir yn gweithio ar y papur, ac ni chaiff arholiad o'r math hwn ei oruchwylio fel arfer. Rhoddir addasiadau rhesymol ar waith ar gyfer myfyrwyr unigol lle y bo'n berthnasol er mwyn sicrhau hygyrchedd a phrofiad cyfartal.
Arholiad Sgiliau Strwythuredig Gwrthrychol (OSSE)/
Arholiad Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol (OSCE)/
Arholiad Ymarferol Strwythuredig Gwrthrychol (OSPE) (ar y Campws)
Mae myfyrwyr yn symud o gwmpas cyfres o weithfannau profi ac yn cael eu hasesu ar nifer o ddeilliannau dysgu, fel arfer dan amodau arholi ffurfiol, am gyfnod penodol bob tro. Rhoddir addasiadau rhesymol ar waith ar gyfer myfyrwyr unigol lle y bo'n berthnasol.
Nid ystyrir bod prawf dosbarth yn arholiad ffurfiol yn unol â rheoliadau'r Brifysgol, ond gall fod yn destun amodau arholi:
Prawf Dosbarth (ar y Campws neu Ar-lein)
Profion â chyfyngiad amser y mae myfyrwyr yn eu sefyll fel arfer yn y dosbarth neu ar-lein drwy'r Platfform Dysgu Digidol, neu feddalwedd briodol arall. Gall y rhain gael eu goruchwylio ai peidio neu gellir eu sefyll yn ddiogel, drwy gyfrwng papur nas gwelir neu a welir, ac ar-lein yn aml. Rhoddir addasiadau rhesymol ar waith ar gyfer myfyrwyr unigol lle y bo'n berthnasol.
Uniondeb Academaidd
Mae uniondeb academaidd yn adlewyrchu cyfres gyffredin o egwyddorion sy'n cynnwys gonestrwydd, ymddiriedaeth, diwydrwydd, tegwch a pharch, a’i nod yw diogelu uniondeb gwaith a dyfarniad myfyriwr.
Dyfarnu Credyd
Mae gan bob modiwl nifer o gredydau e.e. 10 credyd, 20 credyd ayyb. Rhaid i chi geisio cronni'r credydau hyn gan eu bod yn allweddol wrth benderfynu a fyddwch yn cael symud o un Lefel/Rhan Astudio i'r llall neu, er enghraifft, a ydych yn gymwys i'ch ystyried am radd neu ddyfarniad arall.
Gwybodaeth Benodol – Myfyrwyr Israddedig
Y Bwrdd Dilyniant (neu’r Bwrdd Dyfarnu yn achos myfyrwyr blwyddyn olaf) sy'n penderfynu a fyddwch yn derbyn credydau am y modiwlau rydych wedi eu hastudio. Wrth benderfynu, mae'r Bwrdd yn ystyried y marciau a enillwyd mewn modiwlau unigol a'ch perfformiad cyffredinol ym mhob modiwl. Bydd y Bwrdd yn dyfarnu credydau i chi am fodiwlau rydych yn eu pasio, h.y. yn bodloni'r asesiad a gofynion penodol eraill. Bydd marc o 40% neu uwch yn dynodi eich bod wedi pasio modiwl.
Gwybodaeth Benodol - Myfyrwyr Rhaglenni Ôl-raddedig a Addysgir
Yn achos rhaglenni ôl-raddedig a addysgir, y Bwrdd Dilyniant neu, ar ddiwedd eich rhaglen, y Bwrdd Dyfarniadau, fydd yn penderfynu a fyddwch yn ennill credydau am y modiwlau rydych wedi'u hastudio. Wrth benderfynu, bydd y Bwrdd yn ystyried y marciau a enillwyd mewn modiwlau unigol a’ch perfformiad cyffredinol ym mhob modiwl. Bydd y Bwrdd yn dyfarnu credydau i chi am fodiwlau rydych yn eu pasio, h.y. yn bodloni’r asesiad a gofynion penodol eraill yn unol â’r graddfeydd marcio.
Cymwysterau Ymadael a Chymwysterau Wrth Gefn
Efallai y cewch gymhwyster 'is' os nad ydych yn ennill digon o gredydau ar gyfer y dyfarniad roeddech chi'n gobeithio ei ennill. Cymhwyster Ymadael yw'r enw am ddyfarniad o'r fath a chaiff ei ddyfarnu i ymgeiswyr efallai nad ydynt wedi gallu cwblhau'r rhaglen, sydd wedi tynnu'n ôl o'r Brifysgol yn gynnar, neu wedi methu.
Dyfernir cymwysterau ymadael i gydnabod yr hyn rydych wedi'i gyflawni. Rhaid i chi fodloni'r meini prawf perthnasol, o ran ennill y nifer angenrheidiol o gredydau ar y lefelau priodol ac o ran pasio'r modiwlau craidd, cyn ennill y cymhwyster ymadael neu'r cymhwyster wrth gefn.
Nodir y cymwysterau ymadael sydd ar gael ar gyfer dyfarniadau Prifysgol Abertawe yn rheoliadau pob dyfarniad penodol.
Amgylchiadau Esgusodol
Mae’r Brifysgol yn cydnabod y gall amrywiaeth eang o anawsterau/amgylchiadau effeithio ar fyfyrwyr o dro i dro, sy’n gallu eu rhwystro rhag cyflwyno gwaith cwrs neu sefyll arholiad. Mae'r Brifysgol wedi mabwysiadu canllawiau â dyddiadau terfyn llym i ystyried yr amgylchiadau hyn mewn perthynas ag asesiad. Manylir ar y canllawiau hyn yn y Polisi ar Amgylchiadau Esgusodol mewn perthynas ag asesu.
Fformat Gwaith i’w Asesu
Bydd eich Cyfadran yn rhoi gwybod i chi, yn llawlyfr y Gyfadran, ym mha fformat y mae'n rhaid i chi gyflwyno gwaith cwrs (hynny yw, llawysgrifen, wedi'i deipio, a/neu’n electronig). Os oes gennych anabledd, cyflwr meddygol, neu anhawster dysgu penodol, gwneir addasiadau rhesymol. Mae'n bosib y bydd y Gyfadran yn pennu rheolau penodol am faterion megis y ffont, hyd yr aseiniad, y dull cyfeirnodi a gofynion arddull eraill.
Pan fyddwch yn cyflwyno gwaith ar ffurf electronig, dylech gofio y tybir mai cyfeirnod yr awdur yw’r cyfeirnod myfyriwr ar y gwaith a gyflwynir. Wrth ei gyflwyno, rydych yn datgan mai'ch gwaith chi ydyw, gan gyfeirio at waith pobl eraill ac yn ei gydnabod yn llawn. Wrth gyflwyno copi caled, mae'n bosib y gofynnir i chi lofnodi datganiad priodol i'r un perwyl.
Os ydych chi'n cyflwyno gwaith yn electronig, mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i ddefnyddio meddalwedd canfod llên-ladrad wrth asesu’r gwaith. Rydych chi wedi cytuno i hyn wrth gofrestru'n fyfyriwr.
Ni chewch gyflwyno gwaith ar ran neb arall, felly ni dderbynnir unrhyw honiad (er enghraifft mewn apêl neu mewn achos o gamymddwyn academaidd) nad chi oedd yr unigolyn a gyflwynodd y gwaith.
O ran cyflwyno'r elfen dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd ar gyfer Rhaglenni Ôl-raddedig a Addysgir, bydd y Gyfadran yn amlygu'r gofynion cyflwyno yn Llawlyfr y Gyfadran.
Mae'r rhan fwyaf o bapurau arholiad yn cael eu cwblhau'n ysgrifenedig. Gwneir eithriadau i hyn ar gyfer rhai myfyrwyr anabl lle cymeradwywyd defnyddio cyfrifiadur fel rhan o'r ddarpariaeth dysgu, addysgu ac asesu penodol ar eu cyfer.
Arweiniad i fyfyrwyr sy'n Colli Sesiynau Addysgu
Cydnabyddir bod adegau pan fydd gan fyfyrwyr anhawster cyrraedd rhai sesiynau dysgu ac addysgu. Mae amserlen addysgu'r Brifysgol yn gymhleth ac yn gyffredinol ni ellir ei haddasu i ystyried gofynion myfyrwyr unigol. Ond caiff myfyrwyr eu cefnogi drwy'r ffyrdd canlynol:
- Dylai myfyrwyr bob amser gysylltu â'r timau Cymorth i Fyfyrwyr yn eu Cyfadran, yr aelod priodol o’r staff addysgu, neu eu Tiwtor Personol i ddechrau i drafod anghenion ac opsiynau cyn gynted â phosib.
- Disgwyliad y brifysgol yw bod myfyrwyr yn mynd i'r holl sesiynau dysgu ac addysgu a drefnir, gan cyd-fynd â’i Pholisi Monitro Presenoldeb Myfyrwyr
- Dylai myfyrwyr rhyngwladol ar y Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt) yn benodol fod yn ymwybodol o bwysigrwydd dilyn gweithdrefnau cyfranogi sy'n helpu i ddiogelu eu statws mewnfudo
- Os bydd angen i fyfyriwr adael sesiwn yn gynnar, neu gyrraedd yn hwyr, dylai roi gwybod i'r aelod staff sy’n addysgu’r sesiwn cyn gynted â phosib.
- Yn achos sesiynau sy’n cael eu cynnal sawl gwaith (e.e mae’r myfyrwyr yn mynd i un o ddeg seminar a gynhelir bob wythnos i ddiwallu anghenion y garfan gyfan), gall myfyriwr ofyn am symud i sesiwn arall am y mathau o resymau a nodir isod. Gellir gwneud hyn drwy dîm Cymorth i Fyfyrwyr y Gyfadran. Gall rhesymau dilys dros y cais gynnwys:
- Defodau crefyddol rheolaidd (e.e. wythnosol), er enghraifft rhwng 1 a 2pm ar ddydd Gwener ar gyfer ein cymuned Islamaidd
- Gwrthdaro nad oes modd ei ddatrys oherwydd dewisiadau opsiwn neu amser teithio ar gyfer cyrsiau ar draws campysau (e.e. cynlluniau Cydanrhydedd)
- Ysgoloriaeth a gydnabyddir gan y Brifysgol (e.e. cynllun TASS sy'n golygu nad yw'r myfyriwr ar gael ar adegau penodol o'r wythnos)
- Cyflwr meddygol y rhoddir gwybod amdano i'r Brifysgol a gwneir addasiadau rhesymol ar ei gyfer
- Myfyrwyr sy'n ofalwyr ac mae ganddynt basbort gofalwr
- Sesiynau a gynhelir unwaith yn unig:
- Bydd recordiadau o sesiynau a addysgir ar gael, lle bynnag y bo'n bosib ac yn ymarferol, a bydd mynediad gan fyfyrwyr at ddeunyddiau ategol ar Canvas.
- Gall myfyrwyr wneud apwyntiadau fel rhan o oriau swyddfa arferol gydag aelodau'r staff addysgu, neu ofyn am gyfarfod y tu hwnt i'r oriau hyn i drafod unrhyw sesiynau a gollwyd ac ateb cwestiynau sy'n deillio o'r cyflwyniadau, y fideos a'r deunydd ar Canvas.
- Sylwer, efallai y bydd adegau pan na fydd modd symud digwyddiad gorfodol ac nid oes trefniadau amgen yn bosib (e.e. teithiau maes, lleoliad clinigol, sesiynau labordy). Dylai myfyrwyr bob amser droi at dimau Cymorth i Fyfyrwyr eu Cyfadran, yr aelod priodol o'r staff addysgu, neu eu Tiwtor Personol cyn gynted â phosib.
Gwneud Iawn am Fethiannau
Os nad ydych yn ennill y nifer gofynnol o gredydau i fodloni’r rheolau dilyniant, ni chaniateir i chi symud ymlaen i’r Lefel Astudio nesaf. Yn achos myfyrwyr blwyddyn olaf, neu fyfyrwyr sy’n astudio am Ddiploma Ôl-raddedig neu Dystysgrif Ôl-raddedig, mae hyn yn golygu na fyddwch yn cymhwyso am eich gradd neu’ch dyfarniad. Yn ei gyfarfod ar ddiwedd y sesiwn, bydd y Bwrdd Dilyniant neu’r Bwrdd Dyfarnu'n ymdrin â myfyrwyr sydd heb ennill digon o gredydau. Mae'r Brifysgol yn cydnabod y bydd nifer bach o fyfyrwyr yn methu rhai modiwlau ac felly mabwysiadwyd canllawiau i alluogi myfyrwyr i wneud iawn am fethiannau.
SYLWER: Os ydych yn dilyn rhaglen radd a achredir gan gorff proffesiynol, efallai y bydd y rheolau asesu'n llymach. Fe'ch cynghorir i gyfeirio at Lawlyfr eich Coleg am set gynhwysfawr o reolau.
Rhaid i fyfyrwyr fod yn ymwybodol o'r terfynau amser ar gyfer cwblhau'r rhaglenni amrywiol. Rhoddir manylion yn y rheoliadau ar gyfer rhaglenni penodol.
Rhaid ailsefyll pob arholiad ym Mhrifysgol Abertawe. Fel rheol, ni chaniateir i fyfyrwyr sefyll arholiadau mewn lleoliadau eraill.
Gwybodaeth Benodol – Myfyrwyr Israddedig
Os ydych ar Lefel 3, 4 neu 5, pasio arholiad atodol yw’r ffordd fwyaf cyffredin o wneud iawn am fethiant. Fel arall, efallai y caniateir i chi ail-wneud y flwyddyn/lefel astudio fel ymgeisydd mewnol yn ystod y sesiwn ddilynol.
Os ydych wedi methu modiwlau a asesir trwy asesu parhaus fel rheol, dylech gysylltu â'r Coleg i holi am y dulliau a ddefnyddir i'w hail-asesu.
Os ydych yn eich blwyddyn astudio olaf (Lefel 6 neu 7), dylech ddarllen y rheoliadau asesu ar gyfer eich rhaglen benodol i gael gwybodaeth o ran gwneud iawn am fethiannau. Yn achos y rhan fwyaf o raglenni astudio, ni roddir cyfle i fyfyrwyr wneud iawn am fethiannau os nad ydynt yn cymhwyso am ddyfarniad yn eu blwyddyn olaf.
Gall myfyrwyr israddedig, ac eithrio rhai yn y flwyddyn olaf, wneud cais i ail-wneud y modiwlau a fethwyd yn unig fel ymgeisydd mewnol. Fodd bynnag, os dewiswch ail-wneud y modiwlau a fethwyd yn unig, mae'n rhaid i chi gwblhau ffurflen ‘Cais i Ail-wneud Modiwlau a Fethwyd’ (ar gael o adran 'Ffurflenni a Dogfennau' gwefan 'Fy Astudiaethau' y Gwasanaethau Academaidd). Mewn achosion o'r fath, caiff y marciau a enillir yn y sesiwn ganlynol eu capio ar gyfer myfyrwyr ar Lefel 5 (a Lefel 6 gradd gychwynnol uwch). Caiff pob cais ei asesu wrth gyfeirio at ofynion yr asiantaethau allanol megis Asiantaeth Fisâu a Mewnfudo'r Deyrnas Unedig.
Os ydych wedi methu modiwl ar ddiwedd Semester 1, mae'n bosib y bydd y Gyfadran yn caniatáu i chi astudio modiwl amgen yn Semester 2 i wneud iawn am y methiant. Ystyrir hyn fel ymgais i wneud iawn am fethiant gwreiddiol, ac o ganlyniad ar gyfer myfyrwyr Lefel 5 a 6, gosodir terfyn marciau o 40% (neu 50% ar gyfer modiwlau Lefel M). Yn achos myfyrwyr israddedig amser llawn nad ydynt wedi cronni digon o gredydau i symud ymlaen i’r lefel astudio nesaf, ac eithrio’r rhai yn y flwyddyn astudio olaf, gall y Bwrdd Dilyniant ganiatáu hyd at dri chyfle pellach iddynt wneud iawn am y methiannau yn y modiwlau er mwyn cael symud ymlaen i’r lefel astudio nesaf. Rhaid i bob ymgais o'r fath ddigwydd o fewn dwy sesiwn academaidd (Gweler ‘Capio Marciau’ dan y pennawd Arholiadau).
Fel rheol, os ydych wedi trosglwyddo rhwng rhaglenni ac yn ail-wneud lefel astudio/ail-wneud modiwlau, cewch eich ystyried yn fyfyriwr sy'n ailadrodd, a bydd yr adolygiadau monitro llymach yn berthnasol. Os bydd y Gyfadran yn pryderu ynghylch eich cynnydd, gallant wneud argymhellion i’r Bwrdd Academaidd priodol (neu is-bwyllgor) i ofyn i chi dynnu'n ôl os ydych yn tanberfformio.
Chi sy’n gyfrifol am holi'r Cyfadran perthnasol a fydd y modiwl y mae angen gwneud iawn amdano ar gael yn ystod y sesiwn academaidd ddilynol.
Gwybodaeth Benodol - Myfyrwyr Dyfarniadau Ôl-raddedig a Addysgir
Ni chaniateir ond un ymgais i wneud iawn am fethiant yn achos myfyrwyr ar raglenni ôl-raddedig a addysgir.
Caiff achosion myfyrwyr sy’n sefyll arholiadau atodol eu hystyried gan y Bwrdd Dilyniant Ail-sefyll, fel arfer ym mis Medi.
50% fydd y marc uchaf am bob llwyddiant mewn modiwl ar ymgais atodol.