Yn ystod eich rhaglen, byddwch yn cael eich asesu drwy amrywiaeth o ddulliau i safon academaidd uchel. Darperir adborth rheolaidd i wella'ch profiad dysgu. Bydd eich cynnydd yn cael ei fonitro'n rheolaidd a gwneir penderfyniadau academaidd ar eich astudiaethau. Mae'r broses asesu'n galluogi'r sefydliad i sicrhau bod safonau priodol yn cael eu cyflawni, yn unol â safonau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol.
