4.1 Cam Un - adroddiad i Brif Swyddog Uniondeb Academaidd y Gyfadran/yr Ysgol/y Sefydliad Partner
Os bydd aelod o staff o’r farn y bu camymddygiad academaidd mewn perthynas ag unrhyw waith a gwblhawyd dan amodau arholiad/amodau heblaw am arholiad, neu os yw’n amau hynny, dylai roi gwybod am y mater drwy’r system briodol a darparu tystiolaeth berthnasol i Brif Swyddog Uniondeb Academaidd y Gyfadran/yr Ysgol/y Sefydliad Partner, fel arfer o fewn pum niwrnod gwaith ar ôl iddo ystyried gwaith y myfyriwr neu ar ôl arholiad llafar uniondeb academaidd y myfyriwr. Fel arfer ni fyddai'r gwaith dan sylw yn cael ei farcio ac ni fyddai canlyniad y modiwl fel arfer yn cael ei roi i'r myfyriwr nes y penderfynir ar yr achos o gamymddygiad academaidd.
Gall yr aelod staff (neu ei gydweithiwr) ei gwneud hi’n ofynnol i'r myfyriwr gael arholiad llafar uniondeb academaidd i brofi gwybodaeth y myfyriwr am y gwaith a gyflwynwyd cyn rhoi gwybod am y mater i Brif Swyddog Uniondeb Academaidd yr Ysgol/y Gyfadran/y Sefydliad Partner, yn unol â 3.1 uchod.
4.2 Cam 2 - dangos achos prima facie
Yn gyntaf oll, bydd Prif Swyddog Uniondeb Academaidd y Gyfadran/yr Ysgol/y Sefydliad Partner, neu ei enwebai, yn penderfynu a oes achos prima facie o gamymddygiad academaidd, gan ystyried y dogfennau/y dystiolaeth a phan fo angen, drwy drafod â'r myfyriwr.
Gall y Prif Swyddog Uniondeb Academaidd ofyn i aelod o’r staff academaidd gynnal arholiad llafar uniondeb academaidd i brofi gwybodaeth y myfyriwr am y gwaith a gyflwynwyd, yn unol â 3.1 uchod.
Gall Ysgolion/Cyfadrannau/Sefydliadau Partner hefyd archwilio unrhyw waith arall a gyflwynwyd gan y myfyriwr o'r blaen (gan gynnwys gwaith a gyflwynwyd mewn Ysgolion/meysydd pwnc eraill lle mae'r myfyriwr wedi astudio modiwlau) i wirio am enghreifftiau posib eraill o gamymddygiad academaidd.
Bydd y Gyfadran/yr Ysgol yn ymdrin ag achosion sy'n ymwneud â myfyrwyr o’r Coleg, Prifysgol Abertawe, ar raglenni sydd wedi’u hintegreiddio yn unol â rheoliadau a nodir yn adran 7.0.
Mewn achosion sy'n ymwneud â neb arall ond myfyriwr (myfyrwyr) o’r Coleg/Prifysgol Abertawe ar raglen nad yw wedi’i hintegreiddio, dylid cyfeirio'r achos at Y Coleg, Prifysgol Abertawe.
Fel arfer, ni fydd y Prif Swyddog Uniondeb Academaidd yn cael ei hysbysu am unrhyw honiadau a gadarnhawyd o'r blaen o gamymddygiad academaidd cyn gwneud ei argymhelliad ar yr honiad dan sylw. Fodd bynnag, dylid rhannu’r wybodaeth hon â’r Ail Swyddog Uniondeb Academaidd cyn penderfynu ar y gosb mewn achosion priodol.
Os nad oes achos prima facie o gamymddygiad academaidd, dylid rhoi gwybod i'r myfyriwr ac ni chymerir camau ffurfiol pellach.
4.3 Ymarfer academaidd gwael
Mewn achosion lle mae myfyriwr yng nghamau cynnar ei yrfa academaidd (Lefel 3/4 neu'r bloc addysgu cyntaf ar raglen ar gyfer myfyrwyr mynediad uniongyrchol Lefel 5 a myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir Lefel 7) a cheir mân achosion o dorri’r rheoliadau, gall y Swyddog Uniondeb Academaidd benderfynu bod myfyriwr wedi camddeall y gofynion cyfeirnodi ac arfer academaidd gwael, yn hytrach na chyflawni camymddygiad academaidd.
Byddai achosion nodweddiadol yn cynnwys mân achosion a/neu achosion cymharol ddibwys o:
- Gyfeirnodi gwael
- Cydnabyddiaeth anghywir (neu ddiffyg cydnabyddiaeth) am waith a gopïwyd ac a ychwanegwyd at aseiniad
- Swm bach o waith a gopïwyd gan fyfyriwr arall neu a gynhyrchwyd gan systemau deallusrwydd cynhyrchio
- Darnau byr o aralleirio heb gydnabyddiaeth briodol
Mewn achosion o'r fath, rhoddir rhybudd anffurfiol i'r myfyriwr a chaiff ei gyfeirio at y ffynonellau priodol o gyngor (megis Tiwtor Personol, llyfrgellydd pwnc, cyrsiau hyfforddiant ar-lein a'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd) i gael arweiniad ar gyfeirnodi cywir ac arfer academaidd da. Dim ond un rhybudd anffurfiol fydd yn cael ei roi fel arfer. Fodd bynnag, gan gyfeirio at yr uchod, gall y Swyddog Uniondeb Academaidd ddefnyddio ei ddisgresiwn a rhoi rhybudd anffurfiol arall.
Bydd yr Ysgol/y Gyfadran/y Sefydliad Partner yn marcio'r gwaith yn unol â'r meini prawf marcio arferol. Caiff achosion o'r fath eu nodi ond ni chânt eu cofnodi fel camymddygiad academaidd. Bydd unrhyw dramgwyddau diweddarach yn cael eu hystyried dan y gweithdrefnau camymddygiad academaidd.
4.4 Prosesu honiad o gamymddygiad academaidd pan fydd achos prima facie wedi'i ddangos
Dylai Prif Swyddog Uniondeb Academaidd yr Ysgol/y Gyfadran/y Sefydliad Partner benderfynu a ddylid ymdrin â'r achos drwy gyfweliad neu'n ysgrifenedig.
Yn achos honiadau o gomisiynu ac achosion sy'n ymwneud â thraethawd ymchwil ôl-raddedig, mae'n ofynnol i'r Ysgol/y Gyfadran/y Sefydliad Partner gyfweld â’r myfyriwr neu'r myfyrwyr dan sylw.
4.5 Cam Tri – ymateb y myfyriwr i'r honiad
4.5.1
Os dangoswyd achos prima facie o gamymddygiad academaidd, hysbysir y myfyriwr neu'r myfyrwyr dan sylw'n ysgrifenedig am yr achos honedig o gamymddygiad academaidd. Lle mae myfyriwr wedi cael ei wahodd i gyfweliad ac mae'r myfyriwr wedi nodi nad yw'n dymuno bod yn bresennol, cynhelir y cyfarfod yn ei absenoldeb. Fel arfer, ni fydd myfyriwr yn cael anfon unigolyn arall i'r cyfweliad yn ei absenoldeb oni bai bod Swyddog Uniondeb Academaidd y Gyfadran/yr Ysgol/y Sefydliad Partner yn awdurdodi hyn cyn y cyfweliad. Os na cheir ymateb gan y myfyriwr ar ôl pob ymdrech resymol i gysylltu ag ef, cynhelir yr achos yn ei absenoldeb. Mewn amgylchiadau eithriadol gellir gohirio’r cyfweliad unwaith.
4.5.2
Pan wahoddir y myfyriwr i gyfweliad, bydd ganddo'r hawl i ddod â chyfaill neu gydweithiwr (sy'n aelod o'r Brifysgol) i'r cyfweliad, neu gynrychiolydd o Undeb y Myfyrwyr. Rôl unrhyw unigolyn sy'n dod gyda'r myfyriwr fydd cefnogi'r myfyriwr hwnnw, ac fel arfer, ni chaniateir iddo ateb cwestiynau ar ran y myfyriwr.
Mae gan fyfyrwyr fynediad at wasanaethau cymorth myfyrwyr profiadol ag adnoddau da ac felly fel arfer ni fydd angen iddynt geisio cyngor cyfreithiol na dod â rhywun sy'n gweithredu mewn rhinwedd gyfreithiol gyda nhw i'r cyfarfod.
Fodd bynnag, gall myfyrwyr ofyn i rywun sy'n gweithredu mewn rhinwedd gyfreithiol ddod gyda nhw os ydynt wedi cofrestru ar raglen Addasrwydd i Ymarfer. Mewn achosion o'r fath, dylai'r myfyriwr gyflwyno cais i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Addysg. Mae gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Addysg y disgresiwn llwyr i dderbyn neu wrthod cais a bydd ei benderfyniad yn derfynol.
Os caniateir i'r myfyriwr ddod â rhywun sy'n gweithio mewn rhinwedd gyfreithiol i'r cyfweliad, bydd natur y cyfweliad yn cael ei hegluro i’r unigolyn hwnnw, h.y. nid proses gyfreithiol ydyw ac ni chaiff ei chynnal felly.
Mae'n bosib hefyd y bydd cyngor cyfreithiol ar gael i Swyddogion Uniondeb Academaidd y Gyfadran, yn gyson â'r cyngor a ganiateir i'r myfyriwr.
4.5.3
Gall myfyriwr hefyd ddod â chyfieithydd ar y pryd i'r cyfweliad os teimlir na fydd yn gallu deall y cyfweliad yn llawn. Cyfrifoldeb y myfyriwr yw trefnu cyfieithydd ar y pryd o'r fath a'r myfyriwr fydd yn talu'r ffïoedd (ac eithrio yn achos cyfieithu Cymraeg gweler isod). Dylai’r myfyriwr roi enw’r cyfieithydd i’r Gyfadran/yr Ysgol/y Sefydliad Partner cyn y cyfweliad. Rôl y cyfieithydd ar y pryd yw cyfieithu'r deialog rhwng y partïon yn unig; ni chaiff ateb cwestiynau ar ran y myfyriwr nac ychwanegu unrhyw sylwadau ei hun.
Os yw myfyrwyr yn dymuno i'r cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg, dylent roi gwybod i’r Ysgol/y Gyfadran wrth dderbyn dyddiad y cyfweliad, er mwyn i Swyddfa Iaith Gymraeg y Brifysgol drefnu gwasanaeth cyfieithu. Darperir gwasanaethau o'r fath am ddim i'r myfyriwr.
4.5.4
Fel arfer, byddai'r cyfweliad yn cynnwys o leiaf ddau aelod o staff, fel arfer y Prif Swyddog Uniondeb Academaidd ac un arall. Gall yr Ail Swyddog Uniondeb Academaidd neu aelod arall o'r staff academaidd gyflawni’r rôl hon. Os bydd yr Ail Swyddog Uniondeb Academaidd yn bresennol yn y cyfweliad, byddai'r Prif Swyddog Uniondeb Academaidd Cyntaf yn dal i wneud argymhelliad ar yr achos yn dilyn y cyfweliad, a byddai'r Ail Swyddog Uniondeb Academaidd yn gwneud penderfyniad ar sail hyn. Mewn achosion sy'n ymwneud â thraethawd ymchwil ôl-raddedig, mae'n arfer da cynnwys Arweinydd Ymchwil Ôl-raddedig (nad yw wedi ymwneud â'r achos o'r blaen) fel trydydd aelod o'r staff academaidd i gynghori ar brosesau a rheoliadau ymchwil ôl-raddedig. Fodd bynnag, Swyddogion Uniondeb Academaidd yr Ysgol/y Gyfadran/y Sefydliad Partner fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.
4.5.5
Rhaid cadw cofnod o'r cyfarfod; gall hyn fod ar ffurf cofnodion ysgrifenedig a/neu recordiad sain/cyfryngau.Yn ôl disgresiwn yr Ysgol/y Gyfadran/y Sefydliad Partner, gellir enwebu aelod o staff i recordio/drawsgrifio'r cyfarfod.
Caiff cyfarfodydd eu cynnal yn electronig drwy fideo-gynadledda fel arfer, a disgwylir i bawb droi eu gwe-gamerâu ymlaen.
Dylid darparu copïau o'r dystiolaeth i fyfyrwyr.
Yn achos cydgynllwynio, dylid anfon copïau o'r holl waith sy'n destun yr ymchwiliad i'r myfyrwyr, neu rannau o’r gwaith fel y bo'n briodol, ac unrhyw dystiolaeth a gyflwynwyd cyn y cyfweliad gan y myfyriwr arall/myfyrwyr eraill. Nid yw'n ofynnol i dystiolaeth o'r fath fod yn ddienw.
4.5.6
Cylch gorchwyl y cyfweliad fydd:
- Ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd mewn perthynas â'r honiad o gamymddygiad academaidd
- Gwneud argymhelliad ynghylch canlyniad yr achos
Mewn achosion lle mae’r Ail Swyddog Uniondeb Academaidd yn bresennol yn y cyfweliad, bydd y cylch gorchwyl yn cynnwys:
- Ystyried argymhelliad y Prif Swyddog Uniondeb Academaidd
- Penderfynu a brofwyd yr honiad ai peidio
- Penderfynu, mewn achosion priodol, ar y gosb a ddylai gael ei rhoi
4.5.7
Bydd y weithdrefn yn ystod y cyfweliad fel a ganlyn:
Bydd y Prif Swyddog Uniondeb Academaidd yn:
- Cyflwyno ei hun ac unrhyw staff ychwanegol i'r myfyriwr
- Amlinellu diben y Panel a'r canlyniadau posib
- Hysbysu'r myfyriwr am yr honiad a chrynhoi tystiolaeth/ffeithiau'r achos
- Dweud wrth y myfyriwr y bydd yn ei holi, ar y cyd â'r Ail Swyddog Uniondeb Academaidd/aelod staff, yn galw tystion ac yn cyflwyno tystiolaeth fel y gwêl yn briodol
- Rhoi cyfle i'r myfyriwr a/neu ei gynrychiolwyr ymateb i'r honiad ac amlinellu ei achos
- Rhoi cyfle i'r myfyriwr gyflwyno unrhyw dystiolaeth sydd ganddo, er enghraifft drafftiau, ffynonellau, etc.
- Asesu dealltwriaeth y myfyriwr o uniondeb academaidd a chamymddygiad academaidd
- Pan fo'n briodol, gofyn i'r myfyriwr a yw'n dymuno cynnig unrhyw amgylchiadau lliniarol. Dylid atgoffa'r myfyriwr na fydd modd cyfeirio at yr amgylchiadau hynny fel rheswm dros adolygiad yn ddiweddarach, pe gallai fod wedi dwyn yr amgylchiadau hynny at sylw’r Gyfadran/yr Ysgol/y Sefydliad Partner, cyn i’r penderfyniad gael ei wneud
- Darparu gwybodaeth i'r myfyriwr ynghylch y llinell amser ar gyfer ei benderfyniad a'r hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad
- Pan fo'n briodol, cyfeirio'r myfyriwr at ffynonellau cymorth a chefnogaeth ychwanegol, er enghraifft, y Tiwtor Personol, y llyfrgellydd pwnc neu'r Rhaglen Llwyddiant Academaidd
- Cadw cofnod o'r cyfarfod
Gellir newid honiad yn ystod cyfweliad/ymchwiliad pan ystyrir bod un o'r tramgwyddau camymddygiad academaidd eraill yn fwy priodol.
4.5.8
Ar ôl ystyried y dystiolaeth ac unrhyw ymateb a ddarperir gan y myfyriwr, bydd y Prif Swyddog Uniondeb Academaidd yn cyfeirio'r achos, yr holl dystiolaeth berthnasol, yr ymateb ysgrifenedig a gafwyd gan y myfyriwr a nodiadau o unrhyw gyfarfod a gynhaliwyd gyda'r myfyriwr at sylw’r Ail Swyddog Uniondeb Academaidd ynghyd â'i argymhelliad o ran canlyniad yr achos. Os yw'r Ail Swyddog Uniondeb Academaidd yn bresennol yn y cyfarfod, bydd y Prif Swyddog Uniondeb Academaidd yn gwneud ei argymhelliad i'r Ail Swyddog Uniondeb Academaidd a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ar y canlyniad.
4.6 Cam Pedwar - profi'r achos
Bydd Ail Swyddog Uniondeb Academaidd y Gyfadran/yr Ysgol/y Sefydliad Partner yn ystyried yr holl dystiolaeth ac yna bydd yn penderfynu a brofwyd yr honiad o gamymddygiad academaidd ai peidio. Bydd baich y prawf (sef y ddyletswydd i brofi’r honiad) ar y Gyfadran/yr Ysgol/y Sefydliad Partner, a dylai safon y prawf fod yn seiliedig ar bwysau tebygolrwydd: caiff ffaith ei chadarnhau os yw’n fwy tebygol ei bod wedi digwydd na pheidio.
Nid oes rhaid i'r Ail Swyddog Uniondeb Academaidd ystyried bwriad mewn perthynas â honiad o gamymddygiad academaidd - ni ellir amddiffyn achos drwy ddweud bod y tramgwydd wedi’i gyflawni’n anfwriadol neu’n ddamweiniol. Fodd bynnag, gall y myfyriwr gyflwyno amgylchiadau o’r fath fel amgylchiadau lliniarol mewn perthynas â’r gosb a roddir.
Lle nad yw safon y prawf yn cael ei bodloni, dylid cau'r achos a rhoi gwybod i'r myfyriwr am y penderfyniad hwn yn ysgrifenedig.
Mewn achosion lle teimlir mai arfer academaidd gwael yn hytrach na chamymddygiad academaidd a gyflawnwyd, ymdrinnir â'r achos yn unol â 4.3.
Os bydd yr Ail Swyddog Uniondeb Academaidd yn canfod bod honiad o gamymddygiad academaidd wedi'i brofi, yna bydd yn penderfynu ar y gosb sydd i'w rhoi yn unol â Cham Pump isod.
4.7 Cam Pump – penderfynu ar gosbau
Er mwyn sicrhau cysondeb wrth roi cosbau, mae'r Brifysgol yn darparu arweiniad ar gosbau yn y Côd Ymarfer ar Gamymddygiad Academaidd.
Yn ogystal â'r arweiniad hwn, mewn perthynas â dysgu annibynnol cyfeiriedig gan fyfyrwyr ôl-raddedig a addysgir, traethodau ymchwil ôl-raddedig ac ail dramgwyddau neu dramgwyddau dilynol, bydd Prif Swyddog Uniondeb Academaidd y Gyfadran yn cadarnhau'r gosb arfaethedig. Ni ddylid hysbysu'r myfyriwr am y gosb nes bod yr achos wedi cael ei gadarnhau gan Brif Swyddog Uniondeb Academaidd y Gyfadran.
Dylai’r Ail Swyddog Uniondeb Academaidd gyfeirio at Gôd Ymarfer y Brifysgol ar Gamymddygiad Academaidd a gall ymgynghori â chydweithwyr wrth roi cosb.
Bydd yr ail Swyddog Uniondeb Academaidd hefyd yn ystyried y canlynol:
- Difrifoldeb y tramgwydd
- Goblygiadau'r gosb ar gyfer y myfyriwr
- Hanes yr achos
- Cofnod academaidd y myfyriwr (gan gynnwys unrhyw dramgwyddau blaenorol a brofwyd)
- Bwriad
- Unrhyw amgylchiadau lliniarol sy'n cael eu dwyn i'w sylw wrth benderfynu ar y gosb
Dylai’r Ail Swyddog Uniondeb Academaidd fod yn argyhoeddedig bod gan unrhyw amgylchiadau lliniarol gysylltiad uniongyrchol â’r achos ac, yn benodol, eu bod wedi dylanwadu ar weithredoedd y myfyriwr neu’r myfyrwyr dan sylw. Rhaid i ymgeiswyr sy'n cyflwyno amgylchiadau lliniarol ddarparu tystiolaeth i ategu’r amgylchiadau a darparu eglurdeb ar eu heffeithiau. Lle gallai ymgeisydd fod wedi hysbysu'r Gyfadran/yr Ysgol/y Sefydliad Partner am amgylchiadau o'r fath cyn i'r penderfyniad gael ei wneud, ni ellir cyfeirio at yr amgylchiadau hynny yn ddiweddarach fel rheswm dros gynnal adolygiad.
Gall yr Ail Swyddog Uniondeb Academaidd roi cosb yn unol â'r canlynol:
- Y cosbau sydd ar gael ar gyfer camymddygiad academaidd mewn amodau arholiad (gweler 5.1)
- Y cosbau sydd ar gael ar gyfer camymddygiad academaidd mewn amodau heblaw am arholiad (gweler 5.2)
- Y cosbau sydd ar gael ar gyfer camymddygiad academaidd mewn dysgu annibynnol cyfeiriedig mewn graddau ôl-raddedig a addysgir/graddau ymchwil (gweler 5.3)
Bydd cosbau'n cael eu nodi ar gofnod academaidd y myfyriwr.
4.8 Cofnod o'r Achos
Bydd Swyddog(ion) Uniondeb Academaidd y Gyfadran/yr Ysgol/y Sefydliad Partner yn cofnodi pob achos, gan nodi a brofwyd yr honiad, unrhyw gosb a roddwyd a'r rhesymau dros y penderfyniadau a wnaed. Bydd cofnod parhaol o'r achos yn cael ei gadw a gellir ystyried hwn mewn adolygiadau terfynol o achosion. Bydd y cofnod o'r achos ar gael i'r myfyriwr (gweler 4.9 isod).
4.9 Hysbysu'r myfyriwr
Dylai'r Gyfadran/yr Ysgol/y Sefydliad Partner roi gwybod i'r myfyriwr yn ysgrifenedig a brofwyd yr honiad ac am unrhyw gosb a roddwyd. Bydd y cofnod o'r achos ar gael i'r myfyriwr hefyd.
Caiff y myfyriwr ei hysbysu hefyd am Weithdrefn Adolygiad Terfynol y Brifysgol. Fodd bynnag, dylai myfyrwyr sylwi y gallai adolygiad terfynol o'r canlyniad arwain at gosb mwy llym (e.e. os caiff y canlyniad presennol ei ddiddymu a chaiff yr achos ei gyfeirio ar gyfer ymchwiliad a phenderfyniad newydd).
Pan fo honiad wedi ei brofi, a phan fo’r Gyfadran/yr Ysgol/y Sefydliad Partner yn pryderu y gall hyn effeithio ar addasrwydd y myfyriwr i ymarfer, gellir cyfeirio’r achos hefyd at y Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol (neu ei enwebai) yn unol â Rheoliadau'r Brifysgol ynghylch Addasrwydd i Ymarfer.
Pan brofwyd honiad ac mae'r myfyriwr eisoes wedi'i gofrestru gyda chorff proffesiynol, statudol neu reoleiddiol (er enghraifft, cofrestru gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol), mae'r myfyriwr yn gyfrifol am hysbysu'r corff proffesiynol am ganlyniad y Pwyllgor Ymchwilio.