AR GYFER POB RHAGLEN A ADDYSGIR A PHOB RHAGLEN YMCHWIL

Gwybodaeth Bwysig 

Ni fwriedir i'r weithdrefn hon gael ei defnyddio i ystyried cwynion gan fyfyrwyr. Dylai myfyrwyr sydd am gwyno ddefnyddio Gweithdrefnau Cwynion y Brifysgol. Os yw ymgeiswyr am ofyn i farciau unigol gael eu gwirio, dylent  ddefnyddio'r weithdrefn Cywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd.

Mae’r gweithdrefnau hyn yn berthnasol i fyfyrwyr sy’n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan Fwrdd Arholi.

Gall myfyrwyr gyflwyno apêl academaidd yn unol â Gweithdrefnau Apeliadau Academaidd y Brifysgol, yn seiliedig ar amgylchiadau iechyd neu amgylchiadau personol eithriadol eraill nad ydynt yn gysylltiedig â'r boicot marcio ac asesu. Nid yw apêl a gyflwynir ar sail sy'n gysylltiedig â'r boicot marcio ac asesu neu gymhwyso'r Rheoliadau Eithriadol yn unig yn debygol o fod yn llwyddiannus. Camau Gweithredu Diwydiannol - Prifysgol Abertawe

Os ydych yn teimlo eich bod yn gymwys, bod gennych reswm dros apelio, ac eich bod o fewn y terfynau amser, bydd angen i chi gwblhau’r Ffurflen apêl academaidd

Bydd angen cyflwyno’r Ffurflen Gais am Apêl, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r cais trwy e-bostio studentcases@swansea.ac.uk. Gan fod staff yn gweithio o bell ar hyn o bryd, ni allwn dderbyn ffurflenni apêl neu unrhyw ddogfennaeth/ohebiaeth drwy’r post.

Cynghorir myfyrwyr hefyd i ddarllen y ddogfen Apeliadau Academaidd Cwestiynau Cyffredin sy’n darparu rhagor o wybodaeth am ddyddiadau cau allweddol ar gyfer cyflwyno apeliadau a sut y penderfynir ar yr apeliadau.

Os oes gennych gwestiynau ar y weithdrefn neu’r rheoliadau, cysylltwch â’r Tîm Achosion Myfyrwyr, a fydd yn hapus i ateb ymholiadau sydd gennych, drwy e-bost: studentcases@abertawe.ac.uk

Yn ogystal â hyn, mae Canolfan Gyngor Undeb y Myfyrwyr ar gael i gynorthwyo ac i gynghori myfyrwyr. I drefnu apwyntiad i weld rhywun yn Undeb y Myfyrwyr gallwch chi gysylltu â'r Ganolfan Gyngor drwy borth newydd i fyfyrwyr http://hello.swansea-union.co.uk/ lle gallwch godi tocyn a dewis y categori - Cyngor a Chymorth o'r gwymplen. 

Dyddiadau Ystyriaethau Arbennig

Er bod gan fyfyrwyr dri mis i gyflwyno apêl yn dilyn cyhoeddi canlyniadau asesiadau atodol mis Awst ar y fewnrwyd, os wyt ti’n fyfyriwr MBBCh sydd a am gyflwyno apêl mewn perthynas â pharhau â'th astudiaethau (er enghraifft, os wyt ti wedi cael dy dynnu'n ôl o'r Brifysgol ac rwyt ti am gyflwyno apêl am gael y cyfle i ail-wneud y lefel astudio) yn ystod Sesiwn Academaidd 23/24, bydd angen i ti gyflwyno dy apêl gerbron y Gwasanaethau Addysg erbyn y dyddiadau a nodir isod gan fod yr addysgu i fod i ddechrau ar 1 Medi 2025:

Math o fyfyriwr                                                                            Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno apêl

 

MBBCh (Meddygaeth i Raddedigion) blynyddoedd 1 i 3*              Dydd Iau 31 Awst 2025

* Gwybodaeth bwysig i fyfyrwyr Cydymaith Meddygol (blynyddoedd 1 a 2) yn unig:

Er bod gennych 3 mis i gyflwyno apêl academaidd, mae'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd yn gofyn i chi fod yn ymwybodol o'r cyfle asesu nesaf sydd ar gael ar gyfer yr asesiad yr effeithir arno. Er enghraifft, os byddwch yn cyflwyno apêl academaidd am drydydd ymgais eithriadol yn y prawf cynnydd (sydd i fod i gael ei gynnal ym mis Rhagfyr 2025), mae'r cyfrifoldeb arnoch chi i gyflwyno eich apêl academaidd mewn modd amserol i sicrhau y gellir ystyried eich apêl a bod penderfyniad yn cael ei gyfleu i chi o leiaf 4 wythnos cyn dyddiad yr asesiad.