Rydym ni'n monitro canllawiau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth y DU yn ofalus mewn perthynas ag ymlediad y coronafeirws ac efallai y byddwn yn addasu'r gweithdrefnau monitro cyfranogiad hyn yn ystod y flwyddyn academaidd wrth i amgylchiadau a pholisïau a gweithdrefnau'r Brifysgol newid. Argymhellwn i chi wirio'r tudalennau hyn yn rheolaidd i ddilyn y diweddaraf. Byddwn hefyd yn diweddaru myfyrwyr am newidiadau drwy-e-bost.
Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr Ymchwil
Dolenni Cyflym
• Adolygwch eich data ymgysylltu yn y system RMS/eVision
• Darllenwch y Polisi Monitro Ymgysylltu llawn ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil
Canllaw Cyflym i Fonitro Cyfranogiad Myfyrwyr Ymchwil
Dyma ganllaw i fonitro cyfranogiad myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig a myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir yn ystod cyfnod ymchwil eu rhaglen.
Beth yw Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr?
Mae'r Brifysgol yn cofnodi data presenoldeb ar gyfer yr holl fyfyrwyr, ym mhob sesiwn ddysgu, gan gynnwys cyfarfodydd goruchwylio.
Pam mae angen gwneud hyn?
Mae cydberthynas rhwng cyfranogiad a pherfformiad. Po fwyaf y byddwch chi'n cymryd rhan, gwell y byddwch chi'n ei wneud. Yn ogystal, mae'r cyrff sy'n ariannu ac yn noddi myfyrwyr yn mynnu bod y Brifysgol yn casglu data presenoldeb.
Sut caiff cyfranogiad ei fonitro?
Caiff cyfranogiad ei fonitro drwy gyfarfodydd misol â'ch goruchwyliwr.
Beth os byddaf yn methu cyfarfod goruchwylio?
Os ydych yn methu mynd i'ch cyfarfod misol heb ganiatâd ymlaen llaw, bydd y broses monitro presenoldeb ffurfiol yn cychwyn.
Os ydych chi'n fyfyriwr nad ydych ar y Llwybr Myfyriwr (Haen 4 gynt), bydd eich Cyfadran/Ysgol yn cysylltu â chi i'ch cynghori chi am ganlyniadau diffyg presenoldeb a chyfranogiad a gofynnir i chi aildrefnu eich cyfarfod â'ch goruchwyliwr.
Os ydych chi'n fyfyriwr ar y Llwybr Myfyriwr (Haen 4 gynt) sydd wedi’i noddi gan y Brifysgol, bydd disgwyl i chi fynd i gyfarfod gyda’r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr. Os byddwch yn methu mynychu’r cyfarfodydd hyn, fel arfer bydd rhaid i chi dynnu allan o’r Brifysgol.
Beth os byddaf yn parhau i fethu cyfarfodydd goruchwylio?
Os ydych chi'n colli cyfarfodydd goruchwylio ac apwyntiadau ymchwil am gyfnod pellach o 4 wythnos, bydd yn rhaid i chi gwrdd â Chyfarwyddwr Ymchwil neu Ymchwil Ôl-raddedig eich Coleg/Ysgol.
Bydd yn rhaid i fyfyrwyr ar y Llwybr Haen 4 sydd wedi'u noddi gwrdd â'r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr i adolygu eu presenoldeb a chyfranogiad gwael.Os na fyddwch yn mynychu'r cyfarfod hwn ac nid yw eich cyfranogiad a'ch presenoldeb yn gwella, efallai y bydd yn rhaid i chi dynnu'n ôl.
Sut byddwch yn cysylltu â mi?
Bydd y Brifysgol yn cysylltu â chi am eich presenoldeb drwy e-bostio eich cyfeiriad myfyriwr. Defnyddir e-bost bron bob amser i gyfathrebu â myfyrwyr, felly mae'n bwysig darllen eich e-bost bob dydd. Dylech feddwl am ddarllen eich cyfrif e-bost myfyriwr bob dydd fel ymrwymiad proffesiynol.
Ydy hyn yn berthnasol i fyfyrwyr rhyngwladol hefyd?
Mae'n ofynnol i fyfyrwyr â fisâu Llwybr Myfyriwr (Haen 4 gynt) ddangos lefelau uchel o ymrwymiad er mwyn cynnal statws eu fisa.
Mae'n anochel y bydd proses gyflymach yn berthnasol i fyfyrwyr â fisa Llwybr Myfyriwr (Haen 4 gynt) sy'n methu sesiynau goruchwylio. Os bydd myfyrwyr Llwybr Myfyriwr (Haen 4 gynt) noddedig yn methu un cyfarfod misol gyda'u goruchwyliwr, bydd y Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn cysylltu â nhw ac yn eu gwahodd i gyfarfod i drafod eu diffyg presenoldeb.
I gynorthwyo'r Brifysgol i fodloni ei rhwymedigaethau fel noddwr Llwybr Myfyriwr (Haen 4 gynt), bydd y Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn gwirio presenoldeb ac ymrwymiad myfyriwr Haen 4 ar dair adeg yn ystod cyfnod treigl o 12 mis. Yn dilyn y gwiriadau hyn, gall myfyrwyr dderbyn e-bost am eu presenoldeb neu wahoddiad i gwrdd â'r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr.
Mae'n rhaid i'r Brifysgol hysbysu Teithebau a Mewnfudo'r DU (UKVI) am ddiffyg presenoldeb a byddant yn gweithredu i ddiddymu caniatâd i aros.
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Tier4Attendance@abertawe.ac.uk
Beth os oes gennyf reswm da dros fethu fy nghyfarfod goruchwylio?
Dylech roi gwybod i'ch Cyfadran/Ysgol am unrhyw resymau sy'n eich atal rhag cyfranogi/mynychu.
Os bydd angen i chi fod yn absennol am gyfnod hir - cysylltwch â'ch Cyfadran/Ysgol cyn gynted â phosib.
Fel rheol byddai absenoldeb dros 60 niwrnod yn golygu gohirio eich astudiaethau; mae'n anodd dal i fyny ar ôl absenoldeb hir, am unrhyw reswm.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Swyddfa'ch Cyfadran/Ysgol.
Beth os bydd fy mhresenoldeb/cyfranogiad yn gwella?
Os bydd eich presenoldeb/cyfranogiad yn gwella, byddwn yn cysylltu â chi ac yn eich annog i barhau i ymgymryd yn llawn â'ch astudiaethau. Byddwch chi'n cwympo i lawr 'camau' y system monitro presenoldeb/cyfranogiad y system yn raddol.
Beth os ydw i'n cael fy nhynnu'n ôl o'r Brifysgol oherwydd diffyg cyfranogiad?
Bydd eich Cyfadran/Ysgol neu'r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost os ydych yn cael eich tynnu'n ôl o'r Brifysgol oherwydd diffyg cyfranogiad. Bydd gennych hawl i ofyn i’r penderfyniad hwn cael ei adolygu, gweler y Polisi Monitro Cyfranogiad i gael mwy o wybodaeth.
Beth os byddaf yn ymgymryd ag ymchwil i ffwrdd o Abertawe?
Cysylltwch â'ch Cyfadran/Ysgol i drafod gwneud cais i astudio o bell. Bydd rhaid gwneud trefniadau gyda nhw i barhau â'ch sesiynau goruchwylio cyn gadael Abertawe. Dylid parhau i gynnal y sesiynau hyn gan ddefnyddio dulliau gwahanol (e.e. Zoom) pan na fydd yn bosib eu cynnal wyneb yn wyneb.
Rhaid i fyfyrwyr ar fisa Llwybr Myfyriwr (Haen 4 gynt) sy'n astudio ar sail dysgu o bell yn y DU gynnal o leiaf 50% o'u sesiynau goruchwylio yn bersonol neu drwy ddull addas arall (e.e. Zoom) bob semester academaidd, oni bai y caiff ei gytuno gyda'r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr.
Beth os bydd angen absenoldeb dros dro o'm hymchwil arnaf?
Bydd angen i chi hysbysu eich Cyfadran/Ysgol am absenoldeb dros dro a gynlluniwyd sy'n hwy na phum niwrnod gwaith. Caiff hyn ei ystyried yn "cais am absenoldeb dros dro o astudiaethau". Mae'r canlynol yn rhestr nad yw'n gynhwysfawr o'r amgylchiadau y byddai'n cael eu derbyn yn gyffredinol gan y Brifysgol:
• Amgylchiadau rhesymol a allai godi o ganlyniad i bandemig COVID-19.
• Marwolaeth neu salwch difrifol perthynas neu ffrind agos.
• Amgylchiadau personol neu deuluol anffafriol sylweddol - megis ysgariad, byrgleriaeth, tân, achos llys sylweddol, anawsterau ariannol y tu hwnt i reolaeth y myfyriwr ac sy'n gofyn bod y myfyriwr yn absennol o'r Brifysgol ar fyr rybudd.
• Dyletswydd rheithgor.
• Ymrwymiadau chwaraeon a/neu gelfyddydol, fel arfer pan fydd y myfyriwr yn cymryd rhan.
Ble gallaf weld fy nata cyfranogiad/presenoldeb?
Gallwch weld eich data cyfranogiad/presenoldeb drwy'r system RMS/eVision.
Beth os bydd angen rhagor o wybodaeth arnaf?
Os oes gennych gwestiynau, ewch i Swyddfa Wybodaeth eich Cyfadran/Ysgol neu MyUniHub.