Rydym ni'n monitro canllawiau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth y DU yn ofalus mewn perthynas ag ymlediad y coronafeirws ac efallai y byddwn yn addasu'r gweithdrefnau monitro cyfranogiad hyn yn ystod y flwyddyn academaidd wrth i amgylchiadau a pholisïau a gweithdrefnau'r Brifysgol newid. Argymhellwn i chi wirio'r tudalennau hyn yn rheolaidd i ddilyn y diweddaraf. Byddwn hefyd yn diweddaru myfyrwyr am newidiadau drwy-e-bost.
Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr a Addysgir
Monitro Presenoldeb Myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe
Dolenni Cyflym
- Adolygwch eich data ymgysylltu yn y system FyMhresenoldeb
- Os oes angen i chi gysylltu â rhywun am eich cyfranogiad, defnyddiwch Gysylltiadau'r Gyfadran
- Darllenwch y Polisi Monitro Ymgysylltu llawn ar gyfer Myfyrwyr a Addysgir
Canllaw Cyflym i Fonitro Cyfranogiad: Myfyrwyr a Addysgir
Arweiniad yw hwn i fonitro cyfranogiad ar gyfer myfyrwyr israddedig a myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir yn ystod rhan a addysgir eu rhaglenni.
Beth yw Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr?
Mae'r Brifysgol yn defnyddio amrywiaeth o ffynonellau data i gynrychioli cyfranogiad mewn astudiaethau i fonitro cyfranogiad myfyrwyr.
Pam mae'n angenrheidiol?
Mae cydberthynas rhwng ymrwymiad a pherfformiad. Po fwyaf byddwch yn ymrwymo, gorau y byddwch chi'n gwneud. Yn ogystal, mae'r cyrff sy'n ariannu ac yn noddi myfyrwyr yn mynnu bod y Brifysgol yn casglu data am gyfranogiad . Mae'r broses monitro cyfranogiad yn rhoi rhybudd i ni am fyfyrwyr y gallai fod angen help arnynt.
Sut caiff cyfranogiad ei fonitro?
Caiff cyfranogiad ei fonitro'n bennaf drwy ddata sweipio cerdyn o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb a chyrchu deunyddiau cwrs yn Canvas.
Bydd gan raglenni penodol yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd broses wahanol sy'n seiliedig ar ddangos presenoldeb drwy sweipio cerdyn yn wythnosol oherwydd natur broffesiynol y rhaglenni a bydd presenoldeb annigonol dros 3 wythnos yn golygu bod rhaid i chi fynd i gyfarfod wyneb yn wyneb neu rithwir gorfodol â'ch Cyfadran/Ysgol. Bydd y staff academaidd ar gyfer eich rhaglen yn rhoi gwybod i chi os bydd eich presenoldeb yn cael ei fonitro drwy'r broses hon.
Beth os nad ydw i wedi cyfranogi llawer yn fy astudiaethau neu o gwbl?
Os nad ydych yn cyrchu deunyddiau eich cwrs yn Canvas o gwbl ac os na chofrestrir unrhyw achosion o sweipio eich cerdyn mewn sesiynau dysgu wyneb yn wyneb am bythefnos, neu os ydych chi wedi cyfranogi ychydig iawn yn y meysydd hyn, bydd y broses monitro cyfranogiad ffurfiol yn dechrau. Yn yr achos hwn, byddwn yn cysylltu â chi gan gynnig cymorth i chi; ond, yn ogystal, cewch eich rhybuddio y gellir gofyn i chi dynnu'n ôl o'r Brifysgol os byddwch yn parhau i golli sesiynau dysgu.
Os nad ydych chi wedi cyrchu deunyddiau eich cwrs yn Canvas ac os na chofrestrir achosion o sweipio eich cerdyn mewn sesiynau dysgu wyneb yn wyneb am bythefnos arall (cyfanswm o 4 wythnos), neu os ydych chi'n parhau i gyfranogi ychydig iawn yn y meysydd hyn, gofynnir i chi ddod i gyfarfod gorfodol â’ch Cyfadran/Ysgol. Diben y cyfarfod hwn fydd trafod eich rhesymau dros beidio â chyfranogi a bydd y Gyfadran/Ysgol yn ystyried a fyddwch yn gallu parhau â'ch astudiaethau yn y Brifysgol.
Os oes gennych fisa Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt) a noddir gan Brifysgol Abertawe, mae'r broses yn wahanol o ganlyniad i reoliadau'r Swyddfa Gartref (UKVI). Yn yr achos hwn, bydd presenoldeb yn cael ei fonitro'n wythnosol trwy sweipiau cardiau mewn sesiynau dysgu wyneb yn wyneb yn unig.
Bydd myfyrwyr Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt) sydd â phresenoldeb wyneb yn wyneb isel am gyfanswm o 4 wythnos yn barhaus hefyd yn cael eu gwahodd i gyfarfod â'u Cyfadran/Ysgol i drafod hyn.
Bydd gan raglenni penodol yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd broses wahanol sy'n seiliedig ar ddangos presenoldeb drwy sweipio cerdyn yn wythnosol oherwydd natur broffesiynol y rhaglenni a bydd presenoldeb annigonol dros 3 wythnos yn golygu bod rhaid i chi fynd i gyfarfod wyneb yn wyneb neu rithwir gorfodol â'ch Cyfadran/Ysgol. Bydd y staff academaidd ar gyfer eich rhaglen yn rhoi gwybod i chi os bydd eich presenoldeb yn cael ei fonitro drwy'r broses hon.
Os na fyddwch yn mynd i'r cyfarfod hwn â'ch Cyfadran/Ysgol , efallai y bydd yn rhaid i chi dynnu'n ôl neu ohirio’ch astudiaethau ac, yn achos myfyrwyr a noddir ar y Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt),caiff eich fisa ei chwtogi.
Os na allwch gynnig rhesymau boddhaol dros eich diffyg cyfranogiad yn ystod y cyfarfod â'ch Cyfadran/Ysgol, efallai y bydd yn rhaid chi dynnu'n ôl neu ohirio’ch astudiaethau ac, yn achos myfyrwyr a noddir ar y Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt), caiff eich fisa ei chwtogi.
Os byddwch yn mynd i gyfarfod gyda'ch Cyfadran/Ysgol, disgwylir i chi ailgydio yn eich astudiaethau wyneb yn wyneb trwy fynychu sesiynau dysgu wyneb yn wyneb a sweipio eich cerdyn myfyriwr i gadarnhau eich presenoldeb ar unwaith. Gallai methu â gwneud hynny arwain at y gofyniad i dynnu'n ôl neu ohirio'ch astudiaethau ac, yn achos myfyrwyr a noddir ar y Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt), bydd eich fisa yn cael ei chwtogi.
Gwneir pob ymdrech i ddwyn i gyfrif yr holl amgylchiadau esgusodol wrth ystyried tynnu myfyriwr yn ôl o'r Brifysgol ac, yn achos myfyrwyr ar y Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 yn flaenorol), bydd y Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn ystyried a fydd yn addas parhau i noddi eich caniatâd i aros yn y DU.
Os caniateir i chi barhau, caiff eich cyfranogiad ei fonitro'n agos gan y Gyfadran/Ysgol neu 'r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr.
Beth os ydw i'n cyrraedd yn hwyr?
Os ydych yn cyrraedd mwy na 15 munud ar ôl dechrau sesiwn wyneb yn wyneb, cofnodir eich bod yn hwyr. Os ydych yn ceisio sganio ar ôl diwedd sesiwn, ni chaiff eich presenoldeb ei gofnodi ar gyfer y sesiwn honno.
Disgwylir i fyfyrwyr ymuno â sesiynau dysgu rhithwir yn brydlon ar gyfer yr amser dechrau er mwyn elwa cymaint â phosib o'r sesiwn.
Beth os byddaf yn cyrraedd yn gynnar?
Caiff sweipio cardiau o sesiynau wyneb yn wyneb ei baru â'ch sesiwn am 15 munud cyn yr amser dechrau. Os byddwch chi'n sweipio'n gynt na hyn, ni chaiff eich sweip ei baru â'r sesiwn.
Disgwylir i fyfyrwyr ymuno â sesiynau dysgu rhithwir byw yn brydlon ar gyfer yr amser dechrau i elwa cymaint â phosib o'r sesiwn.
Beth os na allaf fynychu sesiynau dysgu wyneb-yn-wyneb?
Disgwylir i fyfyrwyr fynd i bob sesiwn ddysgu wyneb yn wyneb yn unol â'u hamserlen, oni bai eu bod yn cael eu hatal rhag gwneud hynny gan amgylchiadau fel hunan-ynysu neu salwch. Gallai Cyfadran/Ysgol gysylltu â myfyrwyr sydd â phatrwm o ddiffyg presenoldeb mewn sesiynau wyneb-yn-wyneb i ganfod y rhesymau dros beidio â bod yn bresennol.
Beth os ydw i'n cael fy nhynnu'n ôl o'r Brifysgol oherwydd diffyg cyfranogiad?
Bydd eich Cyfadran/Ysgol neu'r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost os ydych yn cael eich tynnu'n ôl o'r Brifysgol oherwydd diffyg cyfranogiad. Bydd gennych hawl i ofyn i’r penderfyniad hwn cael ei adolygu, gweler y Polisi Monitro Cyfranogiad i gael mwy o wybodaeth.
Rwyf yn cael anawsterau. Ble gallaf gael mwy o gymorth?
Rydym yn deall y bydd myfyrwyr yn profi anawsterau sy'n effeithio ar eu cyfranogiad o bryd i’w gilydd. Os ydych yn cael anawsterau sy'n effeithio ar eich astudiaethau, cysylltwch â'ch Tiwtor Personol, a fydd yn gallu eich cefnogi neu'ch cynghori, neu eich cyfeirio at bobl a fydd yn gallu helpu. Efallai y byddwch am gael cyngor a chymorth gan eich Cyfadran/Ysgol, Hwb neu Ganolfan Gyngor Undeb y Myfyrwyr.
Beth os ydw i ar raglen broffesiynol?
Mae gofynion proffesiynol ynghlwm wrth rai rhaglenni Meddygaeth a'r Gwyddorau Dynol ac Iechyd, sy'n golygu bod rhaid i chi fynd i bob sesiwn ddysgu. Yn achos y rhaglenni hyn, gallai'r broses ffurfiol ddechrau os ydych yn colli unrhyw sesiwn heb reswm. Bydd eich Coleg yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ofynion.
Sut byddwch yn cysylltu â mi?
Bydd y Brifysgol yn cysylltu â chi ynglŷn â'ch presenoldeb drwy anfon e-bost i'ch cyfrif myfyriwr. Defnyddir e-bost bron bob amser i gyfathrebu â myfyrwyr, felly mae'n bwysig darllen eich e-bost bob dydd. Dylech feddwl am ddarllen eich cyfrif e-bost myfyriwr bob dydd fel ymrwymiad proffesiynol.
A yw hyn yn berthnasol i fyfyrwyr rhyngwladol?
Mae angen i fyfyrwyr sy'n ddeiliaid fisa Haen 4/Llwybr Myfyrwyr ddangos lefelau uchel a chyson o gyfranogiad er mwyn cynnal eu statws fisa.
Os yw presenoldeb wyneb yn wyneb myfyrwyr a noddir ar y Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt) yn isel am 4 wythnos yn barhaus, bydd eu Cyfadran/Ysgol yn cysylltu â nhw a bydd gofyn iddynt fynd i gyfarfod i drafod eu diffyg cyfranogiad.
Mae’n ofynnol i’r Brifysgol roi gwybod am gyfnodau sylweddol o ddiffyg cyfranogiad i UKVI, a fydd yn ei dro’n cwtogi’r caniatâd i aros.
Mae'n ofynnol i fyfyrwyr sydd â fisâu Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt) gofrestru unwaith yr wythnos drwy'r ap SafeZone ar ddechrau un o'u dosbarthiadau amserlenedig. Mae'r cofrestru'n hawdd iawn fel yr amlinellir yn ein canllaw defnyddiwr byr.
Rydym ni hefyd yn ymgymryd â Phwyntiau Gwirio Cyfranogiad Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt) i adolygu cyfranogiad cyffredinol dros Floc Addysgu. Gweler y i gael mwy o wybodaeth.
Beth os ydw i'n anghofio dod â'm cerdyn neu ei sganio?
Gwnewch yn siŵr eich bod yn dod ag ef ac yn ei sganio yn y dyfodol. Ni fydd modd cofnodi eich presenoldeb ar ôl y sesiwn.
A allaf ofyn i'm Cyfadran/Ysgol fewnbynnu fy mhresenoldeb â llaw os byddaf yn anghofio fy ngherdyn?
Nid yw'n bosib cofnodi eich presenoldeb yn dilyn y sesiwn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn sweipio eich cerdyn yn eich sesiwn ddysgu gynlluniedig nesaf.
Beth os ydw i'n colli fy ngherdyn?
Rhowch wybod i'r Llyfrgell a gofynnwch am un newydd cyn gynted â phosib.
Beth os nad yw’r darllenydd cardiau yn gweithio?
Os nad yw’r darllenydd cardiau yn dangos eich enw ac/neu’n bipian pan yr ydych yn sweipio eich cerdyn, mae’n debygol bod yna broblem gyda’r darllenydd. Parhewch i sweipio eich cerdyn a chysylltwch â Swyddfa eich Cyfadran/Ysgol er mwyn adrodd am y diffyg.
Beth os oes gennyf reswm da dros fod yn absennol?
Rydym yn deall y gall fod gan fyfyrwyr reswm da dros golli sesiynau o bryd i'w gilydd, ond os bydd hyn yn digwydd, bydd angen i fyfyrwyr wneud yn siŵr eu bod yn dal i wneud eu gwaith. Os oes angen i chi fod yn absennol am gyfnod estynedig – yn enwedig os bydd hyn yn dechrau'r broses uwchgyfeirio a ddisgrifir uchod – cysylltwch â'ch Cyfadran/Ysgol cyn gynted â phosib. Gallai absenoldeb am fwy na phythefnos arwain at ohirio eich astudiaethau; mae'n anodd dal i fyny ar ôl absenoldeb hir, am unrhyw reswm. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'ch Cyfadran/Ysgol.
Beth os ydw i'n defnyddio cerdyn rhywun arall?
Byddech chi (a deiliad y cerdyn) yn torri Polisi Monitro Cyfranogiad y Brifysgol a bydd eich Cyfadran/Ysgol neu'r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn cysylltu â chi i drafod y camau nesaf. Os ydych chi'n astudio rhaglen broffesiynol, gallech fod yn destun ymchwiliad Addasrwydd i Ymarfer.
Beth os nad yw fy nghwrs yn cynnwys sesiynau dysgu ffurfiol?
Os ydych yn fyfyriwr ymchwil, yn fyfyriwr ôl-raddedig a addysgir sy'n gweithio ar eich traethawd hir, neu'n astudio rywle arall (dramor neu mewn diwydiant), caiff eich ymrwymiad i'ch dysgu ei fonitro drwy ffyrdd eraill. Mae’r polisi monitro presenoldeb ar gyfer myfyrwyr ymchwil ar gael yma.