Mewngofnodwch i'ch cyfrif Prifysgol Abertawe, tapiwch yr ap Mewnrwyd a dilyn y ddolen Dechrau Cofrestru.
MANYLION PERSONOL
Bydd y dudalen gofrestru a gwblhawyd gennych fel myfyriwr newydd yn llenwi'r rhan fwyaf o'r adrannau ymlaen llaw.
Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio pob adran rhag ofn bod eich manylion personol wedi newid ers i chi gofrestru am y tro cyntaf.
CYFEIRIAD YN YSTOD Y TYMOR
Os yw eich cyfeiriad yn ystod y tymor wedi newid ers y flwyddyn flaenorol, bydd angen i chi ddiweddaru hwn.
Angen dod o hyd i gôd post eich llety yn y brifysgol? Porwch godau post llety ar y campws.
MODIWLAU
Bydd angen llenwi'r tab dewis Modiwl. Gwiriwch a dewiswch ar-lein y modiwlau y byddwch chi'n eu hastudio (lle bo'n berthnasol).
Efallai y bydd gennych fodiwlau gorfodol yn ogystal â rhai dewisol. Sicrhewch eich bod chi wedi dewis digon o fodiwlau, fel arfer 120 o gredydau ar gyfer astudiaethau amser llawn a 60 o gredydau ar gyfer astudiaethau rhan-amser, a bod eich dewis o fodiwlau wedi eu rhannu'n hafal ym mhob semester.
FFЇOEDD DYSGU
Cam olaf cofrestru yw talu eich ffi neu sicrhau benthyciad cyllid myfyriwr, bwrsariaeth, ysgoloriaeth neu grant i'w thalu ar eich rhan.
Myfyrwyr a ariennir
Os oes gennych fenthyciad myfyriwr sy’n talu 100% o’ch ffïoedd, neu fwrsariaeth, ysgoloriaeth neu grant gan y brifysgol i dalu eich ffïoedd dysgu ar eich rhan, yna ni fydd angen i chi wneud taliad pan fyddwch chi'n cofrestru ar-lein.
Os oes gennych chi nawdd arall, er enghraifft os yw llysgenhadaeth neu gyflogwr neu ymddiriedolaeth yn talu tuag at eich ffïoedd, anfonwch ffurflen Cadarnhau Nawdd neu lythyr noddwr drwy e-bost i studentfinance@abertawe.ac.uk a bydd y Swyddfa Cofnodion Myfyrwyr yn anfon e-bost atoch pan fydd y manylion wedi'u cofnodi a gallwch chi gwblhau cofrestru ar-lein.
Myfyrwyr sy'n ariannu eu hunain
Yng ngham talu ffïoedd cofrestru ar-lein gallwch:
- Dalu 100% o ffi 'cartref' myfyrwyr y DU â cherdyn neu sefydlu debyd uniongyrchol i dalu'n ddiweddarach mewn tri rhandaliad. I fyfyrwyr sy’n dechrau ym mis Medi, mae'r taliad debyd uniongyrchol cyntaf yn ddyledus ar 1 Tachwedd.
- Talu 50% o ffi dramor ryngwladol â cherdyn neu ddefnyddio Convera i wneud taliad rhyngwladol. I fyfyrwyr sy’n dechrau ym mis Medi, mae taliad cyntaf y ffi ryngwladol yn ddyledus wrth gofrestru.
Tynnu cais yn ôl am beidio â thalu
Mae'n bwysig iawn sicrhau bod gennych ddigon o gyllid i dalu am eich astudiaethau ar amser i osgoi'r risg o gael eich tynnu'n ôl o'r brifysgol. Am fanylion ynghylch pryd i dalu, darllenwch amserlenni talu a therfynau amser.
Angen cyngor ar daliadau?
Edrychwch ar ein tudalennau gwe isod neu anfonwch e-bost neu sgwrsiwch yn fyw ag aelod o staff yn y Swyddfa Incwm Cyllid