Mae llawer o bobl yn cael anawsterau canolbwyntio wrth weithio gartref. Gall nifer o bethau dynnu eich sylw, rhai nad ydych yn gorfod eu hwynebu wrth geisio canolbwyntio ar astudio fel arfer. Ar ôl penderfynu ar y dasg byddwch yn gweithio arni ac am faint o amser, mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod gallu canolbwyntio arni:
Osgoi’r cyfryngau cymdeithasol
I’r rhan fwyaf o fyfyrwyr, mae canolbwyntio’n golygu osgoi pethau sy’n tynnu eu sylw fel y cyfryngau cymdeithasol a hysbysiadau testun. Ar gyfer ei lyfr 15 Secrets Successful People Know about Time Management, siaradodd Kevin Kruse â grŵp o fyfyrwyr, a oedd bob amser yn ennill y marciau uchaf, am yr angen i gyfyngu ar eu defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol. Roedd llawer yn defnyddio apiau sy’n atal mynediad at y cyfryngau cymdeithasol am gyfnodau penodol ar eu gliniaduron neu eu ffonau. Rhowch gynnig ar chwilio ar-lein am “social media blocker” a darllenwch ychydig o adolygiadau i ddod o hyd i’r rhai gorau ar gyfer eich dyfeisiau chi.
Os nad ydych am ddefnyddio ap penodol, diffoddwch y nodwedd derbyn hysbysiadau (neu’r ffôn cyfan hyd yn oed!) wrth i chi weithio ar dasg – bydd hyn yn cyflymu’r gwaith a chewch fwynhau’r cyfryngau cymdeithasol heb deimlo’n euog nes ymlaen.
Amgylchedd
Ffordd arall o’ch helpu i ganolbwyntio yw dewis neu greu amgylchedd heb ymyriadau. Fel arfer, gallwch fwynhau gweithio ar y campws neu o siop goffi ond efallai na fydd hyn yn bosib. Yn lle hynny, rydym yn awgrymu eich bod yn ceisio ail-greu’r amgylchedd gorau. Gall eich cartref fod yn llawn pethau diddorol a allai dynnu eich sylw’n hawdd, felly meddyliwch am y lle yn eich cartref sy’n lleiaf tebygol o dynnu eich sylw. Efallai eich bod yn ddigon lwcus i allu defnyddio ystafell astudio neu efallai y gallwch greu gweithfan wrth eich bwrdd cinio.
Neu, os oes rhaid i chi ddefnyddio eich ystafell wely, meddyliwch sut gallwch ei rhannu’n ardal weithio ac ardal ymlacio. Os oes rhaid i chi ddefnyddio’r un cyfrifiadur drwy’r amser, oes rhywbeth y gallwch ei wneud i ddynodi amser gwaith ac amser hamdden. Clirio’r ddesg, rhoi rhywbeth gwahanol ar y ddesg, newid y golau neu’r gerddoriaeth – gall unrhyw beth sy’n wahanol ysgogi eich meddwl i ganolbwyntio.
Amser y Dydd
Mae pobl wahanol yn canolbwyntio’n well ar adegau gwahanol yn ystod y dydd. Mae rhai’n hoffi codi’n gynnar a dechrau gweithio ar unwaith cyn bod pobl eraill o gwmpas i dynnu eu sylw; mae eraill yn mwynhau gweithio gyda’r hwyr, mewn ystafell dywyll, â lamp desg yn goleuo eu gwaith ac yn cau popeth arall allan.
Mewn gwirionedd, mae’r rhan fwyaf o bobl ar eu gorau yn y bore – na mae’n wir! Oni bai eich bod yn deffro’n rheolaidd (ac yn naturiol) amser cinio, y tebygolrwydd yw nad ydych yn defnyddio’ch amser mwyaf cynhyrchiol yn effeithiol. I’r rhan fwyaf ohonoch chi, yr amser mwyaf cynhyrchiol yw’r ddwy awr gyntaf ar ôl i chi ddeffro’n llwyr (rydym yn sylweddoli bod rhai pobl yn cymryd mwy o amser nag eraill i ddeffro). Felly, os oes modd, defnyddiwch y ddwy awr hynny i gwblhau tasg bwysicaf y dydd – darllen papur anodd, ysgrifennu traethawd, adolygu pwnc pwysig etc. Defnyddiwch yr oriau nes ymlaen yn y dydd i gadw mewn cysylltiad yn y cyfryngau cymdeithasol, trefnu eich nodiadau, gwaith tŷ, golchi dillad etc. Peidiwch â gwastraffu’r amser pan fydd eich ymennydd ar ei fwyaf effeithlon ar dasgau nad ydynt yn gofyn i chi ganolbwyntio.