Beth ddylwn i ei wneud os oes gen i asesiad i'w wneud?
Bwriedir cynnal asesiadau ac arholiadau yn ôl y disgwyl, felly mae'n bwysig dy fod ti'n parhau i baratoi ar gyfer y rhain, gan fodloni'r terfynau amser gofynnol a mynd i'r arholiadau a'r arholiadau llafar a nodwyd
Beth sy'n digwydd os na fydd un o'm hasesiadau'n cael ei farcio?
Bydd rheoliadau ar waith i sicrhau lle bynnag y bo modd y gall myfyrwyr gwblhau eu rhaglen, symud ymlaen i gam nesaf eu rhaglen radd neu ddechrau astudiaethau pellach. Ar gyfer rhaglenni sy'n arwain at achredu proffesiynol, bydd y Brifysgol yn gweithio gyda'r cyrff priodol i gadarnhau gofynion ac addasiadau derbyniol.
Fydd fy asesiadau'n cael eu marcio? Fydda i'n derbyn adborth?
Caiff yr holl asesiadau eu marcio, ond gall fod oedi cyn marcio rhai ohonyn nhw o ganlyniad i'r boicot. Dylech chi ddisgwyl derbyn adborth pan fyddan nhw'n cael eu marcio.
Pryd fydd y marciau go iawn ar gael?
Pan ddaw'r boicot i ben, bydd modd i'r Brifysgol roi rhagor o newyddion ynghylch pryd i ddisgwyl eich marciau go iawn.
Rwy'n fyfyriwr ond nid wyf yn fy mlwyddyn olaf. Beth os bydd fy marc terfynol, pan fydd yn hysbys, yn fethiant? Fydda i'n dal i allu symud ymlaen?
Mae'r rheoliadau asesu'n caniatáu ar gyfer goddef methiannau mewn hyd at 40 o gredydau i lawr i 30% mewn modiwlau nad ydyn nhw'n rhai craidd (yn amodol ar ofynion PSRB). Os byddwch chi'n methu mwy na 40 o gredydau a/neu'n cael marc is na 30% ac rydych chi wedi cael symud ymlaen heb basio modiwlau, cewch chi gynnig arall i wneud iawn am fethu modiwl. Os ydych chi'n dilyn rhaglen broffesiynol sy'n destun gofynion PSRB, a wnewch chi gysylltu â'ch Cyfadran yn uniongyrchol.
Pryd bydda i'n cael gwybod a fydd gen i asesiadau yn ystod y cyfnod asesu atodol ym mis Awst?
Os bydd yn rhaid i fyfyrwyr ailsefyll asesiadau yn ystod y cyfnod ailsefyll ym mis Awst, rhoddir gwybod iddyn nhw am hynny ar ôl i'r byrddau dilyniant a dyfarniadau gwrdd ar ddiwedd mis Mehefin neu ddechrau mis Gorffennaf fel arfer.
Pan fydd canlyniadau'n cael eu rhyddhau, ble gallaf ddod o hyd i esboniad o'r penderfyniad ac a oes camau nesaf y bydd angen i mi fod yn ymwybodol ohonynt?
Bydd esboniadau o benderfyniadau ar gael ar dy ganlyniadau drwy dy broffil ar y fewnrwyd. Clicia ar Fanylion Cwrs ac yna Modiwlau 2022 er mwyn dod o hyd i dy Benderfyniad Lefel. Bydd dolen i glicio arni i ddod o hyd i ddogfen sy'n manylu ar yr hyn y mae dy ganlyniad yn ei olygu ac a oes camau pellach. Gwna'n siŵr dy fod yn darllen y ddogfen yn drylwyr. Os bydd gennyt ymholiadau o hyd, cysyllta â dy gyfadran am ragor o wybodaeth.
Pryd byddaf yn cael fy nhystysgrif gradd?
Bydd tystysgrifau gradd yn cael eu hanfon at yr holl fyfyrwyr, pan fyddant ar gael. Bydd argaeledd yn dibynnu ar dy ganlyniad. Sicrha fod dy gyfeiriad cartref ar dy broffil myfyriwr yn gywir. Ar gyfer y rhai nad yw'r boicot yn effeithio arnynt, bydd y rhain yn cael eu hanfon erbyn diwedd mis Awst. Yna byddwn ni'n anfon y gweddill ohonynt pan fydd yr holl farciau wedi'u rhyddhau a'r dosbarthiadau wedi'u cadarnhau. Byddi di hefyd yn gallu cyrchu fersiwn electronig o dy dystysgrif pan fydd yn barod drwy dy gyfrif GradIntel.
A fydd modd i mi gael prawf o'm dyfarniad cyn i'r dosbarthiad gael ei gyhoeddi?
Os yw'r boicot yn effeithio arnat ti, bydd modd i MyUniHub ddarparu datganiad dros dro yn cadarnhau dy ganlyniad. A wnei di gyflwyno cais drwy'r ffurflen hon.
Rwy'n barod i symud ymlaen i radd meistr/ymchwil – fydd modd i mi wneud hynny o hyd os nad yw dosbarthiad terfynol fy ngradd yn hysbys?
Mae Gweithredu Diwydiannol yn effeithio ar brifysgolion ledled y DU. Bydd y Brifysgol y gallet ti fod yn symud ymlaen iddi ar gyfer astudiaethau pellach fod wedi rhoi ei mesurau lliniaru ei hun ar waith i ymdrin ag ymgeiswyr y bu oedi wrth gyflwyno eu dyfarniadau o ganlyniad i'r boicot. Os oes oedi wrth gyflwyno dy ddyfarniad, gall Prifysgol Abertawe dy helpu wrth gyfathrebu â nhw. Bydd modd i MyUniHub ddarparu datganiad dros dro yn cadarnhau dy ganlyniad. A wnei di gyflwyno cais drwy'r ffurflen hon.
Rwy'n astudio am radd broffesiynol (e.e. meddygaeth, nyrsio, Cydymaith Meddygol); sut bydd y Boicot Marcio ac Asesu yn effeithio arnaf?
Ar gyfer rhaglenni sy'n arwain at achredu proffesiynol, bydd y Brifysgol yn gweithio gyda'r cyrff priodol i gadarnhau gofynion ac addasiadau derbyniol. Mae'r Rheoliadau Asesu Eithriadol ar gael yma.
A oes arnaf angen canlyniad/dosbarthiad fy ngradd er mwyn ymgeisio am swyddi/astudiaethau pellach?
Os oes arnat angen canlyniad dy radd er mwyn ymgeisio am astudiaethau pellach neu oherwydd bod gennyt ti gynnig swydd sy'n amodol ar gyflawni dosbarthiad penodol, bydd Prifysgol Abertawe yn dy gefnogi di wrth ymgysylltu a chyfathrebu â'r brifysgol neu'r cyflogwr er mwyn esbonio'r sefyllfa. A wnei di gyflwyno cais i MyUniHub drwy'r ffurflen hon.
Rwyf wedi cael fy mhenderfyniad, ond dydw i ddim yn siŵr a yw'n golygu fy mod yn gymwys i ymuno â seremoni raddio. Ble gallaf wirio hynny?
Bydd manylion am dy gymhwysedd i ymuno â seremoni raddio ar dy broffil ar y fewnrwyd. Clicia ar Fanylion Cwrs ac yna Modiwlau 2022 er mwyn dod o hyd i dy Benderfyniad Lefel. Bydd dolen i glicio arni i ddod o hyd i ddogfen sy'n manylu ar yr hyn y mae dy ganlyniad yn ei olygu, gan gynnwys dy gymhwysedd i raddio. Gwna'n siŵr dy fod yn darllen y ddogfen yn drwyadl. Os bydd gennyt ymholiadau o hyd, cysyllta â dy gyfadran am ragor o wybodaeth.
Oes modd i mi ohirio fy seremoni raddio tan i mi wybod fy nosbarthiad/marciau go iawn?
Oes, cei di ofyn i ohirio dy seremoni nes bod dy ddyfarniad yn cael ei gadarnhau, drwy e-bostio graddeferral@abertawe.ac.uk erbyn 10.00am ddydd Llun 10 Gorffennaf 2023. Cynhelir y seremonïau nesaf ym mis Rhagfyr 2023 ar Gampws y Bae.
Rwyf wedi cael penderfyniad dyfarniad bod gen i ddyfarniad wedi'i ragfynegi. Ydw i'n gymwys i ymgeisio am y Llwybr i Raddedigion?
Os wyt ti wedi cael penderfyniad o ddyfarniad wedi'i ragfynegi, bydd y Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn cysylltu â thi â rhagor o wybodaeth am dy gymhwysedd am y Llwybr i Raddedigion. Efallai na fydd modd i ni roi gwybod ar unwaith am dy gymhwysedd am y Llwybr i Raddedigion; fodd bynnag, rydym yn ymrwymedig i gefnogi myfyrwyr rhyngwladol y gallai'r Boicot Marcio ac Asesu effeithio arnynt. Byddwn yn ceisio cadarnhau dy ddyfarniad cyn i dy fisa bresennol ddod i ben.
Rwyf wedi cael penderfyniad dyfarniad dros dro. Ydw i'n gymwys i ymgeisio am y Llwybr i Raddedigion?
Os wyt ti wedi cael penderfyniad dyfarniad dros dro, yn y rhan fwyaf o achosion byddwn ni'n gallu cadarnhau i UKVI dy gymhwysedd am y Llwybr i Raddedigion, ar yr amod dy fod yn bodloni'r holl ofynion am y llwybr. Nid oes angen i ti ddweud wrthym dy fod wedi cael y penderfyniad hwn. Pan fyddwn ni wedi rhoi gwybod am dy gymhwysedd, bydd y Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn anfon cadarnhad drwy e-bost yn cynnwys yr wybodaeth y bydd ei hangen arnat i ymgeisio am y Llwybr i Raddedigion.
Mae fy mhenderfyniad dyfarniad wedi'i ohirio. Beth mae hynny'n ei olygu ar gyfer fy nghymhwysedd am y Llwybr i Raddedigion?
Bydd y Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn cysylltu â thi â rhagor o wybodaeth am dy gymhwysedd am y Llwybr i Raddedigion. Ni fydd modd i ni roi gwybod ar unwaith am dy gymhwysedd am y Llwybr i Raddedigion; fodd bynnag, rydym yn ymrwymedig i gefnogi myfyrwyr rhyngwladol y gallai'r Boicot Marcio ac Asesu effeithio arnynt sy'n dymuno ymgeisio am y Llwybr i Raddedigion.
Yn fy mhroffil, ceir 'PV' a/neu 'FV' ar bwys y marciau. Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer y dosbarthiad rwyf wedi'i gael?
Mae dy broffil o farciau wedi cael ei ystyried a lle mae modiwl wedi'i nodi â 'PV' a 'FV' mae Rheoliadau Eithriadol y Boicot Marcio ac Asesu wedi cael eu gweithredu a dyfarnwyd marc dros dro i ti. Pan fydd dy farc/iau go iawn ar gael ar gyfer y modiwlau hyn, bydd dy broffil yn cael ei ailystyried yn y Bwrdd Arholi priodol nesaf. Os dyfernir marc/iau go iawn is i ti, bydd yr Egwyddor Marc Gorau yn berthnasol ac ni fydd yn disodli'r marc a gadarnhawyd ym Mwrdd Dilyniant a Dyfarniadau Mehefin 2023 ac nid effeithir ar dy ddosbarthiad gradd.
Rwyf wedi cael penderfyniad o ddyfarniad wedi'i ragfynegi. Beth mae hyn yn ei olygu?
Mae dy broffil o farciau wedi cael ei ystyried; fodd bynnag, yn anffodus mae gennyt ormod o farciau ar goll ar hyn o bryd i'r byrddau dyfarnu allu rhoi dyfarniad i ti. Mae'r bwrdd yn rhagfynegi dy fod yn debygol o gael dyfarniad pan fydd y marciau ar gael. Bydd y dyfarniad hwn yn cael ei gadarnhau yn y bwrdd nesaf sydd ar gael. Gwahoddir i ti ymuno â seremoni raddio i ddathlu cwblhau dy raglen.
Rwyf wedi cael penderfyniad wedi'i ohirio ar gyfer fy ngradd, ond rwy'n gymwys i ymuno â seremoni raddio. Beth mae hyn yn ei olygu?
Mae dy broffil o farciau wedi cael ei ystyried. Fodd bynnag, yn anffodus oherwydd bod dy raglen wedi'i hachredu gan gorff proffesiynol ac ar hyn o bryd mae gennyt ormod o farciau ar goll, felly nid oes modd i'r bwrdd dyfarnu roi dosbarthiad neu ddyfarniad i ti ar hyn o bryd. Bydd dy ddyfarniad yn cael ei gadarnhau pan fydd y marciau ar gael, a bydd hyn yn cael ei gadarnhau yn y bwrdd nesaf sydd ar gael. Fodd bynnag, gwahoddir i ti ymuno â seremoni raddio i ddathlu cwblhau dy raglen.
Rwyf wedi cael penderfyniad wedi'i ohirio ar gyfer fy ngradd, ond dydw i ddim yn gymwys i ymuno â seremoni raddio. Beth mae hyn yn ei olygu?
Mae dy broffil o farciau wedi cael ei ystyried. Fodd bynnag, yn anffodus mae gennyt ti ormod o farciau ar goll a/neu mae dy broffil o farciau sydd ar gael yn golygu nad oes modd i'r bwrdd dyfarnu roi dosbarthiad neu ddyfarniad i ti ar hyn o bryd. Bydd canlyniad dy ddyfarniad yn cael ei gadarnhau pan fydd y marciau ar gael. Bydd hyn yn cael ei gadarnhau yn y bwrdd nesaf sydd ar gael. Oherwydd nifer y marciau sydd ar goll a dy broffil presennol o farciau sydd ar gael, nid wyt ti'n gymwys i ymuno â seremoni raddio ar hyn o bryd.
Rwy'n fyfyriwr Ôl-raddedig a Addysgir ac rwyf wedi cael penderfyniad i barhau gan symud ymlaen â modiwlau nad yw eu credydau wedi’u cadarnhau.
Er nad yw rhai o dy farciau ar gael ar hyn o bryd oherwydd y Boicot, mae'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau wedi penderfynu y cei di barhau â dy astudiaethau fel y bwriadwyd. Pan fydd dy farc/iau eraill ar gael, bydd dy broffil academaidd yn cael ei ailystyried yn y Bwrdd Arholiadau priodol nesaf yn unol â Rheoliadau Asesu'r Brifysgol. Os bydd angen gwneud yn iawn am fethiannau, caiff yr asesiadau hyn eu hamserlennu cyn gynted ag y bo cyfle i asesu.
Rwy'n fyfyriwr Ôl-raddedig a Addysgir ac rwyf wedi cael penderfyniad i symud ymlaen i ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd (prosiect), gan symud ymlaen wrth aros am benderfyniad ar gyfer modiwlau nad yw eu credydau wedi’u cadarnhau.
Er nad yw rhai o dy farciau ar gael ar hyn o bryd oherwydd y Boicot, mae'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau wedi penderfynu y cei di barhau â dy astudiaethau fel y bwriadwyd a dechrau ar dy ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd (prosiect). Pan fydd dy farc/iau eraill ar gael, bydd dy broffil academaidd yn cael ei ailystyried yn y Bwrdd Arholiadau priodol nesaf yn unol â Rheoliadau Asesu'r Brifysgol. Os bydd angen gwneud yn iawn am fethiannau, caiff yr asesiadau hyn eu hamserlennu cyn gynted ag y bo cyfle i asesu.