Mae gennym raglen gyfoethog ac amrywiol ar gyfer ein myfyrwyr eleni. Cymerwch gipolwg ar y gweithgareddau cymdeithasol a'r digwyddiadau sydd ar y gweill gennym y tymor hwn.

O nosweithiau ‘pampro’ ac ioga gyda chŵn bach, i ddosbarthiadau ffitrwydd dyddiol a phartïon croeso difyr, gall preswylwyr ‘true’ hefyd elwa o galendr cynhwysfawr o ddigwyddiadau 'trueLife™'.

Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau Bywyd Preswyl yn gyfle i chi wneud y gorau o'ch amser yn llety’r Brifysgol

GWIRFODDOLI CADWRAETH

Dewch i ddysgu sgiliau newydd, gwneud ffrindiau newydd, cael rhywfaint o ymarfer corff yn yr awyr iach a chadw’r unig ardal gwyllt sydd ar ôl ym Mae Abertawe yn fan arbennig!

Dewch i gymryd rhan yn wythnosol mewn amrywiaeth o dasgau cadwraeth ymarferol, gan gynnwys cael gwared ar rywogaethau ymledol, prysgoedio coed a phrysgwydd brodorol a gwneud pentyrrau cynefinol yng ngwarchodfa natur y Brifysgol, SoDdGA Twyni Crymlyn

🎟 Darllenwch ragor a chadwch le ar-lein

Photograph of students at Crymlyn Burrows SSSI

Bod yn ACTIF

Ydych chi’n barod I fod yn ACTIF? 💪

Mae BOD YN ACTIF yn canolbwyntio ar weithgareddau hwyliog a chynhwysol sydd â’r nod o'ch helpu i wella eich iechyd corfforol, eich lles a'ch bywyd cymdeithasol.

CYMERWCH RAN  mewn sesiynau dros dro, sesiynau blasu a heriau, sesiynau hyfforddi a gweithgareddau awyr agored, ar y campws ac oddi ar y campws.

O £1.50 y sesiwn.

🔗 Darganfod Mwy

Promotional Poster