Rhoi gwybod am ddiffyg
Gallwch chi roi gwybod am broblem neu atgyweiriad Cynnal a Chadw yn eich llety drwy'r dulliau canlynol:
Report a Maintenance problem or repair in your accommodation via the relevant method:
- Dylai preswylwyr Campws y Bae ddefnyddio Home@Halls i gofnodi ceisiadau cynnal a chadw.
- Rwy'n byw yn Nhŷ Beck
- Dylai preswylwyr Seren e-bostio seren@crm-students.com neu siarad â'r dderbynfa i gyflwyno cais cynnal a chadw.
- Rwy'n byw ar Gampws Parc Singleton
- Dylai preswylwyr true ddefnyddio'r ap true student+ app neu ddefnyddio'r rhyngwyneb teledu i gyflwyno cais cynnal a chadw.
Caiff ceisiadau cynnal a chadw eu blaenoriaethu mewn trefn, sef fel cais argyfwng, brys neu gyffredinol. Caiff gwaith trwsio cyffredinol ei gwblhau o fewn 20 diwrnod gwaith. Mewn sefyllfaoedd brys, caiff gwaith dros dro ei wneud fel arfer o fewn 10 awr a bydd datrysiad parhaol o fewn 5 diwrnod gwaith.
Os oes gennych cais brys, galwch: +44 (0) 1792 295101 neu ewch i'ch Derbynfa Safle yn ystod oriau gwaith.
Ni ddylech gyflwyno cais am waith cynnal a chadw ar ran rhywun arall.
Ar ôl cyflwyno cais:
- Rydych chi’n caniatáu mynediad i staff i ddelio â'r broblem.
- Ni fydd yn rhaid i chi fod yn bresennol i staff gael mynediad i'r ardal dan sylw.
- Os nad ydych chi am i staff gael mynediad yn eich absenoldeb, bydd rhaid i chi nodi hyn ar adeg cyflwyno'r cais.