Mae'r Tîm Llety'n gwneud pob ymdrech i ddyrannu ystafell sy'n cyd-fynd â'r dewisiadau a nodwyd gennych.
Os hoffech gael eich rhoi ar y Rhestr Aros ar gyfer y llety o'ch dewis cyn i chi gyrraedd eich llety presennol, cyflwynwch gais Rhestr Aros Cyn Cyrraedd.
Os dewiswch chi beidio â derbyn eich cynnig ystafell presennol, gallwch gyflwyno cais i gael eich rhoi ar y Rhestr Aros am y llety a fyddai orau gennych. Fodd bynnag, ni allwn warantu y bydd ystafell sy'n cyd-fynd â’ch dewisiadau ar gael cyn i chi gyrraedd.
Os byddwch yn derbyn eich cynnig ystafell presennol, cedwir y llety hwn i chi a bydd ar gael i chi pan fyddwch yn cyrraedd. Os na fyddwn yn gallu dod o hyd i ystafell amgen sy'n bodloni eich dewisiadau cyn i chi gyrraedd, byddwch yn parhau’n atebol am yr ystafell wreiddiol a ddyrannwyd i chi.
- Bydd y cais yn weithredol tan ddyddiad dechrau eich contract presennol (pan fo hynny'n berthnasol).
- Bydd gennych 3 diwrnod i ymateb i'r cynnig ystafell newydd ac wedi'r cyfnod hwnnw, caiff y cynnig newydd ei ganslo.
- Nid yw llenwi'r ffurflen hon yn golygu y caiff eich cais ei gymeradwyo.
- Ar ôl i ni ddod o hyd i ystafell sy'n bodloni eich meini prawf, byddwn yn cynnig y llety hwnnw i chi. Er mwyn gwneud hyn, pan fyddwn yn cynnig y llety amgen i chi, byddwn yn canslo eich ystafell bresennol. Yna caiff yr ystafell hon ei chynnig i fyfyriwr arall ac efallai na fydd ar gael i chi os ydych chi'n penderfynu gwrthod y cynnig hwn.
- Nid oes tâl yn gysylltiedig â'r Rhestr Aros.
Cyfnewid Ystafelloedd
Rydym yn rheoli Grŵp Cyfnewid Ystafelloedd ar Facebook. Rhowch fanylion y llety yr hoffech ei gael ac efallai y bydd modd i chi gyfnewid ystafell â myfyriwr arall. Mae'n costio £5.00 yr un i gyfnewid ystafelloedd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi os yw'ch fflat yn: Ddi-alcohol, ar gyfer Un Rhyw, yn Dawel, yn ardal i fyfyrwyr Aeddfed neu'n ardal i Ôl-raddedigion.
Os dewch chi o hyd i rywun sydd am gyfnewid ystafell â chi, cyflwynwch Gais Cyfnewid Ystafelloedd. Rydym yn ceisio prosesu’r ceisiadau hyn cyn gynted â phosib pan gawn ni ein hysbysu gan y ddau fyfyriwr eu bod nhw am gyfnewid ystafelloedd â'i gilydd.